Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. Cynhaliwyd cyfarfod Rheolaidd y Cyngor nos Wener pryd yr oedd yn bresenol, Mri. E. M. Owen (Cadeirydd), David Williams (Is- gadeirydd), John Hughes, Owen Jones, J. Lloyd Jones (hynaf), Hugh Jones, W. D. Jones, William Jones, Evan Jones, Lewis Richards, Cadwaladr Roberts, E. Lloyd Powell, Dr. R. D. Evans. John Hughes, H H. Roberts, R, G. Da vie; (Clerc), W. E. AUtwen Williams (Peirianydd ac Arolygydd), Evan Roberts (Clerc Cynorthwyol). a George H-ivico (Arolygydd Iechydol). V.MOSOD AR Y PEIRIANYDD.—Wedicadarn- ha~ cofnodion y cyfarfod rheolaidd diweddaf yn yr lrsn yr oeddid wedi pasio i adgyweirio a phaintio ty ceidwad y Neu add, gofynodd Mr. E. Lloyd Powell, a oedd y gwaith wedi ei wneyd, ac ateb y Peirianydd fod yn anmhosibl cael y Paentwyr i orphen y lie gan eu bod mor brysur.—Mr. E. LI. PoweII, "Nid oes dim wedi ei wneyd yno, ac felly y bydd am byth 33 gadawn ef i'r surveyor Yr wyf yn cynyg fod Mr. Davies y clerc yn cael ei osod i gael dynion i wneyd y gwaith."—Y Peirianydd, "Nid wyf am oddef sarhad a. dirmyg parhaus y dyn hwn 1 Mae'r cwbl yn codi o deimladau a chynfigenllyd. Mae'r gwaith mewn Haw, a rhaid cael amser i wneyd pobpeth."— Mr. Powell, Wneir byth mo hono os gadewir ef i Mr. Williams."—Y Peirianydd, "Mae y siarad am beth na wyr ddim ynei gylch. Mae y range wedi ei hordro, a bydd yn ei lie mor fuan ag y bydd modd cael dynion at y gwaith." —Y Cadeirydd, Beth sydd genych eisiau eto, Mr. Powell?" (chwerthin mawr),-Mr. Powell "e Eisiau eto? Does dim wedi ei wneyd."—Y Cadeirydd Mae y Surveyor yn dywedyd y gwneir y gwaith."—Mr. Powell. Dydi hyny dda i ddim !"—Y Peirianydd, "Dyna eich barn chwi, ac nid yw neb yn gosod dim pwys arni -Y Cadeirydd. "Mae'n rhaid i mi ddywedyd wrthych eich bod allan o drefn. Nid yw yn iawn i chwi ddod a theimladau personol i le fel hyn. Gadewch i ni fyned yn mlaen gyda gwaith y cyfarfod." CYFLENWAD DWFR I PENYMOUNT. &C.— Bu yr Is-bwyllgor benodwyd i ystyried y cyflenwad dwfr i Brondwyryd a Phenymount, yn ngolwg y lie. Cawsant ymddiddan a Mr. G. H. Ellis, ac Ysgrifenydd Cymdeithas Adeiladu Dinbych sydd ag arian ar ddau o dai Brondwyryd. Argymellent fel cynyg at gyfarfod eu gilydd, fod y gwaith i gael talu am dano gan yjperchenogicn, a'r Cyngor i gyflenwi y pibeiii.—Cymeradwyodd y Cyngor yr argym- eliiad hwn. Y CYNLLUN CARTHFFOSAWL.-Cynhaliwyd a.mryw Bwyllgorau gwaith yn ystod y mis. Gorphenaf 30, yr oedd y Peirianydd yn adrodd fod £ 2530 wedi eu gwario o'r £ 3150 gafwyd yn fenthyg fel nad oedd ond J920 o weddill at fyned yn mlaen. aIr rhai hyny drachefn yr Oedd J,481 Os Oc wedi eu penodi at brynu nwyddau &c., angenrheidiol at y gwaith, fel na byddai ond £ 138 10s Oc mewn llaw i fyned yn mlaen. Byddai £ 595 yn ofynol at orphen yr adianau sydd mewn Haw yn bresenol. Gweithiai 60 o ddynion ar Adran 3, a 40 ar y gwaith cyffredinol. Yn ngwyneb yr adroddiad uchod teimlai y pwyllgor nad ellid cadw yr holl ddynion sydd yn awr yn ngwasanaeth y Cyngor, a phasiwyd i wneyd i ffwrdd o 40 o'r rhai gymerwyd i mewn, ac i 10 o weithwyr parhaus y Cyngor gael eu symud at Adran 3 os byddai yn angenrheidiol fod gwneyd i ffwrdd a'r 40 uchod i'w ymddiried i'r Swyddogion, ac nad oedd dim gwaith i'w wneyd gan y Peirian- ydd ond ar y cynllun penodol oedd mewn ilaw Mewn Cyngor Arbenig cynhaliwyd yn nglyn ag atal y dynion, ar Awst 10, rhoddodd y Clerc adroddiad manwl o'r drafodaeth fu rhyngddo a Bwrdd y Llywodraeth Leol ar ran y Cyngor. Yr oedd y Bwrdd yn anfoddhaol gyda rhoddi benthyg arian at wneyd y Gwelyau Bacteraidd os. gwnlfid hwy a llech ond ar sail yr awgrym a gafodd, yr oedd ef (y Clerc) yn cyngori i'r dynion gael eu gosod i barotoi y lie i'r Gwely- au pa un bynag a'i o Lechi neu Golosg y gwneid hwynt, gan y byddai yn rhaid cael y lie yn barod at y naill neu y llall. Credai ef y byddai y gost o wneyd y gwaith yn cael ei gyfarfod yn y benthyciad nesaf. Ar sail cyfar- wyddyd y Clerc, cynygiodd Dr Evans a chefn- ogodd Mr W. Jones, nad oeddid i atal neb o'r gweithwyr, a bod y penderfyniad i wneyd „ hyny yn cael ei ddirymu. Hefyd pasiwyd i ddodi dynion ar y gwaith o barotoi He i'r Gwelyau, a bod Mr Owen Owens i roddi ei holl amser a'i sylw i Adran 3. Mr E. Jones a ofynodd a oedd dynion wedi eu hanfon i'r lie a nodwyd, a beth am arian i dalu iddynt ? Y Peirianydd, "Y mae dynion yno yn awr, a'r gwaith yn myned yn mlaen yn foddhaol." Clerc, Bydd £346 yn weddill yn y Cyfrif Benthygol, ar ol talu cyflogau y mis hwn." Adroddodd y Peirianydd ar Awst 9 i'r Pwyll- gor, fod y Garthffos ar y dde i'r Reilffyrdd wedi eu gwneyd, yn nghyd a'r cysylltiadau. Yr oeddid yn awr yn tori twnel o dan y Reil- ffyrdd o'r Square i Bowydd Street. Yr oedd y garthffos a orsaf y Great Western am Dolgar- egddu, &c., mewn Haw, yn ogystal a'r un yn Dolgaregddu. Yr oeddid ar orphen yr un yn Piasisa i Tanyclogwyn, ar un modd gydag un Hafodruffydd. Cafwyd cryn anhawsder yn yr oil o'r lleoedd hyn i wneyd y gwaith. Yr oedd Mr. J. S. Hughes ar ran cyfarwydd- wvr y Reilffordd Gul yn barod i newid yr Adran Gyllafareddol o'r cytundeb i gael myned gyda'r Garthros trwy eu tir ar daliad o £5 y fiwyddyn fel Ardreth. Cynygient roddi yr hawl gyda'r adran uchod i mewn yn y cytundeb am £= y fiwyddyn. Pasiwyd i adael yr Adran i mewn. CONGT, MYNWENT EGI.WVS ST DEWI.— Cvfhvynwyd adroddiad yr Is-bwyllgor fu'n adystyried y cynllun i -.veila y He hwn.-Pas- iwyd i ofyn am gynygion am wneyd y gwaith. cyn myned yn mhellach yn y m. ater. DYFR-FFOS LLWYNYGELL.—Argymellai yr is-bwyllgor i'r ffos hon gael ei Jiedu ond gahvodd Mr. Hugh Jones sylw at y ffaith ei bod yn ddigon fel y mae, ac iddi brofi felly yn ystod y llifogydd diweddaf. Cynygiai nad oeddid yn gwneyd y gwaith, a chefnogodd Mr, John Hughes.—Mr. David Williamso ddywed- odd i'r pwyllgor ar Cyngor basio lawer gwaith o'r blaen i wneyd y lie hwn yn lletach. a chynygiai i'r mater fyned iBwyllgor y Ffyrdd, cefnogodd Mr, Evan Jones. a phasiwyd hyny. NIWEIDIAU YN CWMBOWYDD.-Cyfarfu y pwyllgor benodwyd i ystyried y cais dder- byniwyd oddiwrth Mrs Thomos, Cwmbowydd am dal am y niweidiau aclioswyd i'w thir gyda'r Carthffosydd a wnaed trwy y lie. Heb rag- farnu (Prejudicing) yr achos, argymellent y Cyngor i dalu £25 i wastadhau yr hoi fater.- Cymeradwyodd y Cyngor y gwaith.—Y Clerc, "Bum yn ymddiddan a Mrs Thomas ar ol i'r Pwyllgor gyfarfod, ac y mae wedi ysgrifenu yn datgan ei pharodrwydd i dderbyn y swm gynygir, yn hytrach nag achesi dim drwg deimlad trwy ddadleu y mater yn mhellach, ond y mae yn rhaid i'r lie gael ei glirio a'i wneyd i fyny fel yr oedd o'r blaen.—Datganodd y Cyngor eu boddhad o glywed fod Mrs Thomas yn eu cyfarfod mor ystyriol a didramgwydd. GOLEUO.—Pasiwyd i brynu clwstwr o dair lamp Incandescent gan Mr. Yale am 32/6 y clwstwr er eu dodi i fyny yn lie yr Arc Lamps. —Fod yr holl ddosbarth i'w oleuo ar Awst 20. —Daeth cwyn o'r Llan, a dadleuai yr Aelodau LIeol dros y rhanbarth hwnw, eisiau goleuo yn gynt, ac atebwyd nad oedd modd gwneyd hyd lies y ceid y lampau uchod, ac i'r holl ddos- barth gael eu oleuo yr un adeg, Pwngc cyf- eillion y Llan ydoedd, fod yr Ymwelwyr a'r lie yn cael anfantais oherwydd nad oedd dim goleu yno yn y nos. Hysbysodd y Clerc mai y Cyngor fyddai yn gofalu am y goleuo o hyn allan, gan fod y cytundeb a Mr. Yale wedi terfynu. YSTAFELL PURO DWFR.-Gan fod Mr. H. S. Williams, wedi gwrthod arwyddo cytundeb i wneyd y gwaith wrth Lyn y Morwynion yn foddhaol, yr oeddid wedi gofyn am gynygion newyddion, a daeth rhai oddiwrth bedair firm. Pasiwyd i dderbyn eiddoMri. E. Humphreys a Robert Davies, am y swm o £ 196 15s 6c. ARGRAFFU MAN-DDEDDFAU Y CYNGOR.— Yr oedd tair firm wedi cynyg am y gwaith o argraffu y Man-ddeddfau, sef Mri. Tnomas Williams & Co, Swyddfa'r 'Glorian,' £ 26 am 500, a £ 35 am 1000; Mri. Davies & Co, Swyddfa'r 'Rhedegydd,' £ 12 10s am 500. a £15 15s am 1000; a'r Cambrian News,' £35 lis 6c am 500, a £54 am 1000.-Ar gynygiad Mr. Evan Jones a chefnogiad Mr. W. D. Jones pasiwyd i dderbyn cynyg Mri. Dayies & Co.—Ar gynygiad Mr. Owen Jones, a chefnog- iad Mr. E. Lloyd Powell, pasiwyd i argraffu mil o gopiau. ADDYSG GELFYDDYDOL.-Cyflwynwyd Ad- roddiad y Pwyllgor i ystyriaeth y Cyngor. Yr oedd 12 Ysgoloriaeth wedi cael eu pasio i'w rhoddi, ond yroedd Mr Dodd, yr arholwr, wedi cyplysu dau yn gyfartal am y ddeuddegfed, a phasiodd y pwyllgor i ddim ond 11 gael eu caniatau. Safai y ffigyrau enillwyd fel y canlyn (safonrif 400) Idwal Williams, 335; Owen Owens a John D. Edwards, 310; R. G. Lewis, 302; Ll. Glyn Williams, 286; W. J. Ellis, 279; John Hughes, 276; Morris V. Roberts, 275; H. B. Williams, 274: Gwladys M. Arthur, 272 a Lizzie Jones, 239.-Mr. C. Roberts, a ddadleuai dros roddi dwy Ysgolor- iaeth arall er mwyn y rhai oeddynt yn gydradd am y ddeuddegfed.—Mr Owen Jones a gynyg- iodd fod y mater yn cael ei droi yn ol i'r Pwyllgor, a bod Cyngor Arbenig yn cael ei alw, os byddai yn anghenrheidiol er cadarnhau eu gwaith. Ysgoloriaeth i blant tlodion oedd y rhai hyn, a golygid nad oedd plant neb oedd yn derbyn can' punt yn y flwyddyn gael yr un o honynt.—Pasiwyd ar gefnogiad Mr William Jones. Gan nad oedd y Pwyllgor Sirol yn gallu estyn cynorthwy arianol i gynal y Rhestrau hyn, pasiodd y Cyngor i'w cario yn mlaen eu hunain. Penodwyd yn Athrawon fel y canlyn; —Pynciau Celf, Mr D. R. Jones; Gwaith Coed Mr J. Hughes; Seisnig, Mr R. O. Davies; Mesuroniaeth, Mr R. C. Jones Peirianaeth a Fferylliaeth Mri, J. Ll. Roberts ac E. T. Ed- wards; Cogicio a Golchi, Miss Thomas; lechyd, Dr R. Jones; Gwniadwaith, Mrs E. Roberts.-Pasiwyd i wahodd cynygion am ddysgu pyngciau Masnachol.—Caniatawyd i'r Dan Gatrawd gael mynychu y Rhestrau, a chael gwasanaeth Ysgoldy y Garregddu yn rhad.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Gyngrair yr Eglwysi Rhyddion yn hysbysu y gwnant eu goreu i gadw dwy noson yn yr wythnos yn rhydd er mwyn y rhai ddymunent fynychu y Rhestrau. IECHYDOL A'R FFYRDD.—Yn y Pwyllgor hwn ystyriwyd adroddiadau y Swyddog Medd- ygol, y Peirianydd, a'r Arolygydd Iechydol. Dr Jones a adroddodd am fis Gorphenaf. Ganwyd 25, a bu farw 15. Ystyriai sefyllfa iechydol y lie yn foddhacl. Yr Arolygydd Iechydol a hysbysodd i 6 achos o Glefydau Heintus gael eu nhodi yn ystod y pedair wythnos ddiweddaf, sef 4 Gwddf- glwy, a 2 Daniddwf. Nodwyd 3 gan Dr Jones, 1 gan Dr Evans, a 2 gan Dr V. Roberts.— Cafodd Evan Lewis, Llechcwn, ei ddirwyo £2 a'r costau am werthu llefrith diffygiol o hufen. -Yr oedd amryw leoedd yn ddiffygiol mewn trefniadau iechydol, a phasiwyd i wasanaethu rhybuddion yn yr achosion a nodid gan y Swyddog ond yn achos Bryngwyn, Brongader a Capel Gwyn, Llan, am y rhai yr oedd cwyn neillduol ynglyn T.'u cyflwr nodedig o ddiffyg- iol, penodwyd pwyllgor i gymeryd y mater o dan ystyriaeth. Y Peirianydd a adroddodd am y niwed a wnaed gan y llifogydd mawrion fu ddechreu y mis.—Yr oedd manau peryglus ar y prif-ffyrdd, at y rhai y galwodd sylw amryw weithiau yn flaenorol, ond hyd yma nid oedd dim wedi ei wneyd. Pasiwyd i anfon at y Cyngor Sirol yn nghylch y naill a'r llall.—Yr oeddid bron wedi cwblhau y garthffos a'r trefniadau eraill angen- rheidiol yn Tanygrisiau Isaf, Tai Isaf, Tanlan, a Penybryn i Holland ac eraill ar gost yPerch- enogion. Adroddwyd i'r Pwyllgor fod Mr David Jones yn adeiladu tai yn Jones street heb roddi eu Planiau i mewn I'w hystyried gan y Cyngor a phasiwyd i anfon ato i atal y gwaith ar unwaith. —Erbyn y Cyngor yr oedd Mr Jones wedi an- fon iddo dderbyn llythyr ar y pen, ac y byddai yn ddoeth i'r Cyngor ystyried beth y maent yn ei wneyd cyn anfon llythyrau o'r fath. Yr oedd y Planiau wedi eu pasio gan y Cyngor.— Y Peirianydd a ddywedodd i Blaniau gael eu pasio, ond yr oedd o dan amheuaeth a oedd y tai presenol yn gynwysedig yn y cyfryw.—Mr Owen Jones, Mae yr holl BIaniau a basiodd y Cyngor yma, a dylesid edrych a oedd y tai godir yn bresenol yn y cyfryw. Yr wyf yn cynyg ein bod yn penodi pwyllgor i fyned i olwg y tai a chymeryd y planiau i'w canlyn." -Pasiwyd i hyny gael ei wneyd. Yr oedd Mr William Owen yn gwrthdystio yn erbyn yr adroddiad fod cerig o domen chwarel y Llechwedd yn dod i'r ffordd, a phas- iodd y Pwyllgor i'r llythyr ddod i'r Cyngor am ystyriaeth bellach ond ni soniwyd dim am dano yn y Cyngor. Penodwyd pedwar o Aelodau at Aelodau Tanygrisiau i ystyried beth a wneid gyda Llwybrau a Phontydd Tanygrisiau. Gan fod Mr. J. Picton yn anfon i ddywedyd nad oedd yn taflu dim i Afon Bowydd, pasiwyd i erlyn ar sail y tystiolaethau oedd mewn Haw. Pasiwyd :i'r Clerc alw sylw at yr atalfeydd oedd ar yr heolydd, ac i'r Arolygydd Roberts gymeryd cwrs yn erbyn y troseddwyr. Mr. William Jones a alwodd sylw at yr adroddiad oedd ar led fod y Cerig a fenthycodd y Cyngor at wasanaeth y Gymanfa (M.C.), heb eu dychwelyd.—Y Peirianydd a ddywed- odd mai anwiredd oedd y chwedl, a bod pob- peth wedi eu dychwelyd, AMRYWIOL.-Dywedodd y Clerc fod;6555 16s 7c wedi eu casglu yn ystod y mis, a bod £ 2,220 allan eisiau eu casglu o'r Trethi. Yr oedd £ 742 8s 8c yn yr Ariandy, a byddai £862 yn ffafr y Cyngor ar ol talu y gofynion heddyw. Cefnogwyd deiseb o blaid i Eisteddfod 1908 gael ei chynalsyn Llangollen. Y Clerc a ddywedodd nad oedd yn gweled beth oedd gan y Cyngor i'w wneyd i ymyraeth ag achos y Duma mewn atebiad i gais ddaeth am eu cefnogi. Pasiwyd i'r Clerc anfon cais at Mr. Edward Roberts, Clogwyn Brith, am ei ganiatad i osod y Meinciau ar ochr y Llwybr at y Rhaiadr. Y Clerc a ddywedodd iddo anfon dair gwaith at Glerc Cyngor Plwyf Maentwrog yn nghylch cyflwr y Bont Ddu, ond ni chafodd air o ateb- iad.-Pasiwyd i anfon oni wneid y gwaith y cymerid mesurau at orfodi i hyny gael ei wneyd. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Cyn- gorydd Hugh Lloyd yn ei waeledd; ac a Mr. O. J. Owen, Granville, yn ei brofedigaeth o golli ei briod. Mr. Cadwaladr Roberts a alwodd sylw at waith rhywun yn taflu dodrefn dyn tlawd i ganol y ffordd, a'u gadael yno i atal y drafnid- iaeth.-Pasiwyd i'r Clerc anfon at y troseddwr, gan fod y trosedd yn un cosbadwy.

IPWNC Y COLEGAU.

0 Lanau'r Fachno.

Adolygiad.

Daeargryn Fawr.