Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Y DELYNEG.*
Y DELYNEG.* Nis gwn am un darnodiad boddhaol o Del- yneg, ac nid wyf am fentro dyfeisio un. Gellid tybio bod perthynas agos rhwng y delyneg a'r delyn, ac mae'r brofedigaeth i dybio felly yn fwy ar gyfrif yr arfer Gymreig boblogaidd o ganu gyda'r delyn. Ond rhaid cofio fod Barddon- iaeth Delynegol yn cynwys llawer mwy na phenillion telyn, ac nad yw y gair Cymraeg yn awgrymu nes perthynas a'r delyn, nag yw y gair Saesneg Lyric a'r lyre, Feallai nad yw "Telyneg" ond cais at Gymreigio "Lyric," Ile mae y cyfieithydd o ddiffyg gair arall am lyre wedi ei alw yn delyn am mai dyna ein hofteryn cenedlaethol. Ond mae y ddau air, fodd bynag, yn briodol iawn i awgrymu y rniwsig seinber hwnw sydd yn anadl einioes i r dosbarth yma o farddoniaeth. Yn ei Golden Treasury, y prif gasgliad o Delynegion Seisneg, cyfynga y golygydd Palgrave (un o'r awdurdodau uchaf ar y pwnc) ei ddetholiad i ddarnau yn troi ar un syniad, teimlad neu safle. "Lyrical has been here held essentially to imply that each poem shall turn on one single thought, feeling or situa- tion.' Gellir, er hyny, gynwys yn y dosbarth hwn amrywiaeth diderfyn o destynau. Gall y testynau fod mor amrywiol a Natur ei hun, oblegid barddoniaeth natur mewn modd ar- benig ydyw. Natur yw bywyd y delyneg. Car anadlu yn yr awyr agored, ac fel ehedydd, car ganu yn nglas y nefoedd. Ond tra yn cynwys amrywiaeth diderfyn o destynau, ar bob testyn dylai un yspryd a theimlad lywodraeth. Y gangen bwysicaf o lawer yn y dosbarth hwn vdyw y Caneuon. "Y gan, yn ddiau," meddai Elfed yn ei draethawd ar Ceiriog, "yw cyntaf-anedig yr awen. Un o'r efelychiadau symlaf o beroriaeth natur yw—heb falchder ymadrodd, heb uchelgais gelfvddydol, heb blethiad dyrus meddylddrychau. Y mae yn ysgafndroed a dihoced, fel murmur y gornant ar foreu o wanwyn-fel awel yr haf rhwng dail y dderwen-fel y wenol yn cadw ei gwisg yn ian a chryno er mor wisgi ac esgeulus fyddo'i ehediad." Hyd yn gydmarol ddiweddar es- geuluswyd y gan yn ddirfawr yn ein gwlad. Tad ein telynegwyr yw Huw Morus, Ponty- meibion; eu brawd hynaf yw Ceiriog a chryd y gan Gymreig yr Dyffryn Ceiriog. Nid oes genym engraifft o gan dda cyn amser Huw Morus, ac y mae hyny yn fwlch gofidus mewn cangen bwysig o'n llenyddiaeth. Erbyn hyn fodd bynag, mae petbau wedi gwella llawer. Mae bellach niferi o adar cerddgar yn canu ar y gangen hon, ac yn eu plith ambell i eos ber- eiddlais. Mae genym doraeth o ganeuon chwaethus a phur,-Ilawer ohonynt yn weddol a rhai yn wilrioneddol dda. A heddyw, wrth ddarllen Telynegion Maes a Mor (y gyfrol sydd newydd ei throi allan mor ddestlus a da o Swyddfa'r Cymru,) teimlem fod y tant uch- af hyd eto o'r gan Gymreig wedi ei daro yn nghaneuon perffeithgwbl Eifion Wyn. Yn ei ragymadrodd (byr a gwreiddiol fel arfer) dywed yr awdwr, os rhoed cynneddf ar- benig iddo mai y gyneddf i ganu yw hono ac nis gall neb ddarlleno ei lyfr lai na chytuno a'r awdwr am dano eihun. Mae'- -dda-,vn i ganu Wedi ei thywallt arno-heb fesur. Dywedir mai cyneddf benodol y gan yw ei bod yn fyw gan yni cerddorol. "The true test of song," meddai Kingsley, "is, that it goes without music," ac os bu caneuon erioed yn ateb y test yma, mae rhai Eifion Wyn yn gwneyd hyny. Mae sain ei benillion yn troi'n ganu, fel mae aderyn Elfed wrth redeg yn gyflym yn troi ddiarwybod i hedeg." Mae geiriau Carlyle mor wir am ganeuon Eifion Wyn ag am rai Burns, "The story, the feeling, is not detailed, but suggested not said, or spouted in rhetorical completeness or coherence; but sung, in fitful gushes, in glowing hints, in fantastic breaks, in warblings, not of the voice only, but of the whole mind," a gallwn chwanegu gyda'r gwel- edydd hwnw, We consider this the essence of song," a chymwyso y gair at y caneuon hyn. Un nodweid brydferth yn y caneuon hyn yw eu cydymdeimlad dwfn a byw a phob ang- henog a diamddiffyn. Nid yw yr awdwr yn colli un cyfle i ddadleu dadl y tlawd a'rgwan. Y penill olaf o'r gan gyntaf i'r Misoedd yw hwn :— Wyt Ionawr yn oer, A'th farug yn wyn, Ac ni fedd pawb aelwyd A'r hin fel hyn; Mae rhywrai heb dy A rhywrai heb dan, A rhywrai heb fara Na chwsg na chan." Ceir yr un teimlad drachefn a thrachefn yn y canenon, Ond nid o wendid y cyfyd y tyn- erwch hwn. Mae gan y bardd yspryd cawr- aidd fel y prawf ei gan ar Tachwedd dyweder. Ond yn nhanol ei afiaeth penaf nid yw yn anghofio tynerwch. Gweler y cyfuniad o'r gwrol a'r tyner yn y penillion hyn:- Yn dy rwysg ac yn dy ryddid Tros y Cnicht a'r Moelwyn chwyth Cadw'r moethus yn ei gaban, Cadw'r neidr ar ei nyth Car y wenol awel feddal, Car y gloyn dyner si,— Caraf finau'th ruad dithau- Edn y ddrycin ydwyf fi. "Chwyth, auafwynt, fel y mynot Cladd y mynydd dan y lluwcb, I Cladd y mor o dan yr ewyn, Cwwyth, aeafwynt, eto'n uwch Ond os clywi ar ryw dalar Oenig cynar yn rhoi bref Tro oddiwrth y dalar honno, Paid a chwythu arno ef." o ran eu tone foesol y maent yn bur fel y goleuni. Mae chwaeth y bardd yn gywir ac yn gyson at yr uchel a'r glan. Mae ffrwd gref o deimlad crefyddol ynddynt hefyd, yn enwed- ig yn Nhelynegion Cymru. Yn y gan "Y Forth Prydferth," dywed Gwell yw Dysg na goiud lawsr, GweH na r ddau yw sanctaidd fees Glv-n, fy ngwlad, fel disgybl y i, Ganrif arall wrth y OrGes." Mae Men, er mwyn yr hon mae y llyfr wedi ei gyiiwyno i'r genedl, yn rhagor- ol. 0 ran angerddoldeb teimlad, bywiog- rwydd eu ffansi, gwreiddioldeb meddwl a'r cyflead ohono, purdeb eu serch, cystal a dim gyhoeddwyd erioed. Mae cariad y bardd at y mor, a'i bortreadau ohono, yn beth ambeuthyu mewn telyneg, ac mor adfywiol ag ydyw awel y mor i bobl y bryniau. Difynu pobpeth da sydd ynddi fuasai ail gyhoeddi'r gyfrol. Ond rhoddwn un gan yn gyfan, lie y gall y darllenydd weled yr hen Gymraeg yn ei sidanau :— "Wynned oedd maenol Mai, Gyda'i chynhaeaf blodau; Gwynnach yw ydfaes Awst, Gyda'i fil-mil tywysenau. Chwilied y llaw fu'n hau Bellach am fen a chryman— Esmwyth yw tonau'r twf Cyn llifo i fewn i'r ydlan. Onid ysgrepan fach Gadwai y grawn yn Chwefror ? Casgler corsenau Awst, Ac onid rhy fach yr ysgubor ? Ceinciau o dan eu ffrwyth, Frwythau o dan y braenar- Pwy a ddyfalai fod Bechadur ar wyneb daear ? Erchwch i wvr a phI ant Eistedd ar lawr y lasfro Bu Duw yn cyflawni y wyrth O borthi y miloedd eto." Carem chwanegu llawer, ond rhaid ymatal. Mae y bardd trwy y telynegion hyn wedi nythu yn ddiogel yn nghalon ei genedl. Telynegion Maes a Mor," (Eifion Wyn), Swyddfa Cymru, Caernarvon. Llian, 1/
CYNGOR DINESIG BETTWSYCOED.I
CYNGOR DINESIG BETTWSYCOED. Cynba'i vyd y cyfarfod rheolaidd y Cyngor, nos Wene yn yr Heddlys, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Robert Parry (Cadeirydd), T. Griffiths (Is-gadeirydd), John Hughes, Henry Roberts, W. Corns, R. Rowlinspn, David Jo' o William Williams, R. R. Owen (Clerc), a "N J. Edwards (Arolygydd). bARN Y BETTWS.-YN Nghyngor Dosbarth Llanrwst, pasiwyd i Ddirprwyaeth o dri gyfar- fod Cyngor y Bettws er mwyn dod i ddealltwr- iaeth yn nghylch adgyweirio y Sarn ger Glan- rhyd. Daeth y Parch H. Rawson Williams a Mr Edward Edwards, i'r Cyngor i osod y mater ger bron. Y Parch H. Rawson Williams, a adroddodd beth oeddid wedi ei wneyd yn y Cyngor a gyn- rychiolai ef a Mr E. Edwards, gyda golwg ar y Sarn. Eu hamcan yn dod i'r Cyngor yn awr ydoedd, ceisio dod i gyd-ddealltwriaeth yn y mater. Nid oedd Ie i ddadl yn nghylch yr angenrbeidrwydd am wneyd y gwaith, ond sut i'w wneyd oedd y pwngc.—Pa un ai Sarn ai Pont a neid yn y lie ? Yr oedd Mr E. Ed- wards yn selog dros gael Pont, gan y gellid gwneyd defnydd o hono bob amser. Cofiai ef i gasgliad gael ei wneyd flynyddoedd yn ol, a phasiwyd i'r diweddar Cethin Jones ei chodi, ond gan na wnai ef ymrwymo y byddai y bont yno bob amser, ni chodwyd yr un, a syrtbiodd y mater trwodd. Mr. Thomas Griffith, Y mae y casgliad yna yn beth newydd i ni. Ni chlywais air o son am dano o'r blaen. A gafwyd arian? Parch H. Rawson Williams, "Nid wyf yn sicr a gafwyd arian, ond yr oedd swm da wedi eu haddaw." Mr Edward Edwards, Do, fe gafwyd dros £ 50. Mr John Hughes, Fe wnaeth rhywrai ddefnydd o honynt, rwy'n coelio." Mr E. Edwards, "Do. Ein barn ni yw pe byddai i chwi yn y Bettws roddi £ 15 a ninau yn Nghyngor Dosbarth Llanrwst £ 15, y gallem wneyd rhywbeth effeithiol. Y drwg gyda'r Sarn ydoedd, nad ellid gwneyd nemawr ddef- nydd o honi ond am dri neu bedwar mis o'r flwyddyn. Temtio rhai i fyned arni i gyfarfod a damwain yr oedd y sarn, a byddem yn gyfrif- ol os digwyddai rhywbeth felly arni. Hwyrach y dadleuid fod y Sarn yn hen, ac yr oedd hyny yn wir, ond yr oedd yn rhaid i'r hen roddi lie i'r rfewydd. Gwell ydoedd cael pont yn y lie: troed-bont o haiarn fel ag y gellid ei chroesi bob amser." Cadeirydd, Nid oes genym hanes am ddamwain wedi digwydd ar y Sam." Mr John Hughes, Nag oes, ond am un tua 80 mlynedd yn ol, ac yr oedd hwnw wedi meddwi." Mr Thomas Griffith a alwodd sylw nad oedd y ddau Ddirprwydd yn cydweled yn nghylch beth fyddai oreu ei gael. Parch Rawson Williams a ddywedodd mai Sam oedd y Cyngor Dosbarth yn olygu gael, ac nad oedd neb yno yn dadleu dros Bont ond Mr E. Edwards. Cadeirydd a ddywedodd nad oedd dim dad- nad Pont fyddai oreu, ond os gwneid y Rheili ffordd Gul, yr oedd addewid wedi ei rhoddl y byddai iddynt wneyd troed-bont yn ochr eu pont hwy dros y lie. Mr Edward Edwards, Wel, os yw felly, gwneyd y Sarn fyddai oreu i ni yn awr." Mr John Hughes a alwodd sylw fod llawer iawn o deithio dros y Sarn, a defnyddid hi gan y gweithwyr wrth fyn'd a dod i'w gwaith. Mr Henry Roberts, Y mae y Sarn yn waeth yn awr nag y bu er's llawer iawn o flyn- yddoedd. Pe gwneid hi yn ddiogel byddai o ddefnydd mawr." Parch Rawson Williams, "A ellir cymeryd yn ganiataol mai Sarn a wneir ? Cadeirydd. Gellir. Mae teimlad y ddau Gyngor yn gfir ar hyny." Parch Rawson Williams, Mae yn bwysig iawn i ni symud gyda'rpeth yn ddiymdroi, neu gosodir cost arnom." Ar gynygiad Mr T. Griffith a chefnogiad Mr David Jones, pasiwyd i Bwyllgor y Ffyrdd ddeiio a'r mater gyda gallu llawn i weithredu gyda'r Ddirprwyaeth, a'u bod i gyfarfod nos Wener nesaf i basio y peth yn derfynol.—Ym- neillduodd y Ddiprwyaeth, ac awd yn mlaen gyda gwaith y Cyngor. CASGLU.—Hysbyswyd i'r Casglwr Trethi gasglu £ 35 10s 7c yn ystod y mis Gorphenaf. PWRCASU LLYFR.—Mr Thomas Griffith a gynygiodd fod Lumley's Public Health yn cael ei bwrcasu at wasanaeth y Cyngor, a'i fod i'w gadw yn nhy y Cadeirydd er mantais i gael ymgyngori ag ef mewn achos o angen am hyny. Arbediad arian mawr i'r trethdalwyr fyddai ei gael, yn hytrach na thalu i gyfreith- wyr ar bob cwestiwn.—Y Clerc a ddywedodd fod y Llyfr yn ddwy gyfrol ac yn cynwys y Deddfau lechydol o 1875 i 1900.-Mr Corns a gefnogodd y cynygiad i'w brynu, a phasiwyd hyny. ARIANOL.—Mr W. Corns a gyflwynodd ad- roddiad y Pwyllgor Arianol, yn cynwys £ 13 lis 5c mewn biliau i'w talu, a chymeradwywyd i hyny gael ei wneyd. IECHYDOL.- Y Cadeirydd a roddodd ad- roddiad o waith y Pwyllgor Iechydol. Argym- ellid clirio Ffos Cethin Terrace, a bod Rheolau y Llaethdai yn cael eu mhabwysiadu gan y Cyngor. Yr oedd yn cynyg fod gwaith y Pwyllgor yn cael ei gymeradwyo, a chefnogodd Mr W. Corns, a phasiwyd hyny. Mr John Hughes a roddodd rybudd o gynyg- iad i fabwysiadu Rheolau y Llaethdai yn y dosbarth. Y BWRDD LLEOL A'R CYNGOR.—Ysgrifen- odd y Bwrdd Lleol i ofyn beth oedd yn cael ei wneyd gyda golwg ar y Cyflenwad Dwfr oedd- id yn feddwl am gael ei le newydd. Hefyd eu bod yn gwrthod rhoddi caniatad i fenthyca mil o bunau at Garthffosu Pentredu yn ol yr hyn a ddywedasant ar Chwefror 8.—Mr T. Griffith a gynygiodd i'r llythyrau fyned i'r Pwyllgor Iechodol, a phasiwyd hyny. Yn ol adroddiad Dr Frazer fe anwyd dau yn mis Gorphenaf, a bu farw dau. PONT RHIWDDOLION .-Galwyd sylw at gyflwr anfoddhaol y Bont hon, ac awgrymwyd y deuai y mater o dan sylw y cyfarfod nesaf o'r Cyngor Sirol. Gadawyd i'r Clerc drefnu yn unol a hyny gyda Mr Mclntyre, y cynrychiol- ydd lleol. GOLEuo.-Ar gynygiad Mr T. Griffith a chefnogiad Mr David Jones, pasiwyd i dderbyn cynygy Cwmni Nwy am oleuo dros dymor y gauaf-19s y lamp am y goleuni, a 7s y lamp am oleuo a diffodd. TRWYDDED CERBYD A GYRWR.—Yr oedd y Pwyllgor wedi eistedd i ystyried cais Mr T. H. Hughes, Post Office, Capel Curig, am drwydded cerbyd, a'r gyrwr wedi anfon cais am drwydded iddo ef ei hun. Bu yr achos o flaen yr ynadon y Llys diweddaf, a chafodd y gyrwr ei ddirwyo am droseddu Rheolau y Cyngor gan nad oedd ganddo Drwydded yn y Dosbarth. Methai y pwyllgor a newid eu pen- derfyniad blaenorol. Yr oedd Mr R. O. Davies, cyfreithiwr, Bl. Ffestiniog wedi anfon gair ar ran cael trwydd- ed i Mr T. H. Hughes, ac yn erfyn ar y Cyngor osgoi yr angenrheidrwydd am fyned i gyfraith ar y mater. Y Cadeirydd a gynygiodd eu bod yn pasio adroddiad y Pwyllgor, a chefnogodd Mr T. Griffith. Cyn ei roddi i fyny galwodd Mr Griffith sylw at y ffaith eu bod hwy fel Cyngor yn cael eu rheoli gan y Gyfrtith, ac yr oeddynt yn ceisio ei gweinyddu hyd eithaf eu gallu.—Y Clerc, Nid yn unig y mae genych allu i wrth- od rhai oddiallan i gael trwydded, ond gellwch gyfyngu fel y mynoch o fewn y dosbartb ei hun." Mr T. Griffith, "Nid yw yn iawn i'r ynadon daflu dirmyg arnom fel Cyngor wrth geisio gwneyd ein dyledswydd. Yr ydym mor deg a chydwybodol a hwythau, ac yn sicr o fod yn'llai diragfarn nag ydynt hwy." Cadeirydd, "Eithaf iawn. Ni ddylasent basio sylwadau o'r fath wrth gyflawni eu dyledswyddau eu hunain." Pasiwyd y cynygiad. AIL BENODI. -Ail benodwyd Mr W. J. Ed- wards (Arolydd Iechydol), a Dr Frazer (Swyddog Meddygol), am flwyddyn arall.
0 Lanau'r Fachno.-
0 Lanau'r Fachno. (GAN YR HEN DDYRNWR). Wele Medi gyda ni eto a'i gnydau toreithog yn coroni llafur yr hauwr ag ydlanau llawnion. Daw llinellau Eifion Wyn yn fyw i fy meddwl Ceinciau o don eu ffrwyth Ffrwythau o dan y braenar Pwy a ddyfalai fod Bechadur ar wyneb daear. Erchwch i wyr a phlant Eistedd ar lawr y lasfro, Mae Duw yn cyflawni'r wyrth 0 borthi'r miloedd eto. YMADAEL AR FINION MEDI.-Gadawodd y Gog ni mewn heddweh a bellach mae lluaws eraill" o gorau'r dail am ein gadael i swyno rhywun a'u hodlau melus tan loewach ffurf- afen, a rhaid i ninau wynebu miniogrwydd Hydref gyda'u telynorion cynefin. Felly am y brawd Mr. Ben. Jones, Canycwm, mae wedi ein gadael am y tragwyddol haf- Lie mae'r awel fyth yn dyner Lie mae'r wybren fyth yn glir." Disgwyliwn weled yr adar gyda ni eto yn nheml y gwanwyn ond efe nis gwelwn. Coll- asom ei gan yn y glyn, a chyweiriodd ei delyn ar gyfer Gwanwyn anfarwoldeb. Un o duedd- iadau neillduedig ydoedd ac yn unigrwydd y Cwm cymunai 'lawer ar Anweledig, a than ffrwythau aeddfed, fel tywysenau melynion Awst, aeth i Fedi byd arall. Yr oedd yn fedd- ianol ar ysbrydiaeth yr Awen, er nad oedd yn hysbys iawn yn ein hardal, ond fel y nant sydd yn murmur heibio ei fwthyn, cysegrodd ei gerddi i'w Greawdwr, a chanai i'r agosaf ato. Daeth i'w ran yntau fel lluaws o feib llafur i yfed llawer cwpan chwerw, ond cadwoddlygad ei ffydd ar y Llaw oedd yn ei hestyn iddo. Cafodd angladd parchus. Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan y Parch. Ben Jones, y Rheith- or. Bydded i'w deulu bach aros yn nghysgod yr Hollalluog nes chwal cymylau'r dymhestl LLWYDDIANT. Da genyra weled enw y gwron Mr. T. R. Jones, Moss Hill, yn mhlith buddugwyr talgryf Arddangosfa Arddwrol Dyffryn Conwy. Cipiodd un o'r gwobrwyon cyntaf yno. Mae yn rhagori bellach mewn amryw gyfeiriadau a'i glod yn dispedain trwy glogwyni ysgythrog Eryri. Mae haner owns o ddyrchafiad yn ormod i ambell un ddal, ond gall Mr. Jones ddal cymeradwyaeth gwlad, heb ymchwyddo a gorfod cael siwt newydd. ETO.—Yr un wythnos, enillodd Mr. Robert Thomas, Brynhyfryd, Dystysgrif Gerddorol, dan yr Arholydd Mr. W. H. Jones, Gwern Howell, Ysbytty Ifan. Dyma y chweched Dystysgrif iddo enill. Wedi'r record fel hyn ni warafuna neb i ni ei longyfarch hyd y penelin. Brysied y dydd y gwelir ei restru gyda phrif gerddorion Cymru. Hir oes iddo ddringo'n uwch hyd Iwybrau anrhydedd, ac i gyfoethogi cerddoriaeth ein gwlad. LLWYN HUDOL.—Mae palasdy prydferth y Radical pybyr, y Parch. T. J. James (M.C.), bron ar ei gwblhau. Mae sel a gwasanaeth y cyfaill ffraethbert Mr. Hugh Hughes, Llys' Caradog, yn enyn ein hedmygedd a'n parch dyfnaf, mae wedi bod yn hynod lafurus gyda'r adeilad, a than ei gyfarwyddyd medrus ef y cariwyd yr holl waith yn mlaen.
Damwain Angeuol wrth hel Onau-
Damwain Angeuol wrth hel Onau- Nos Fercher, cyfarfu Mr Hugh Roberts, Saermaen, Groesffordd, Llanddoged, a'i ddi wedd mewn ffordd hynod a thra difrifol. Ym- ddengys iddo fyned allan yn gynar gyda'r nos i hel cnau at ymyl y Rheithordy. Gan nad oedd yn dychwelyd, awd i chwilio am dano, ac er eu braw cafwyd ef yn hongian yn hollol farw wrth un goes a'i ben i lawr o goeden gollen uchel. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi dringo y pren, a llithro gyda'i droed yn glwm rhwng un o'r cangheni. Yr oedd yn ddyn corpharoI I trwm, yn 57 mlwydd oed, a rhaid ei fod wedi dioddef arteithiau enbyd cyn tynu ei anadl olaf gan y modd yr hongiau.—Dychwelwyd rheith- farn o "Farwolaeth Ddamweiniol" gan y Rheithwyr ar ei drengholiad ddydd Gwener.
Cyngaws am Gwn.
Cyngaws am Gwn. Yn Llys Manddyledion Porthmadog ddydd Llun, Mr R. O. Williams, U.H., Garn, a hawliodd C20 o iawn gan Griffith Jones, ceid- wad helwriaeth Mr R. M. Greaves, Wern, fel tal am ddau gi gwerthfawr honid oeddynt wedi eu lladd ganddo. Mr J. Jones Morris, ar ran yr hawlydd, a ddywedodd ei fod yn dal tir dros yr hwn yr oedd gan Mr Greaves hawl i saethu. Yr oedd gan y Diffynydd ddrwg deimlad at yr Hawlydd, a gwelwyd ef yn y gymynogaeth gan dri o bersonau y boreu y lladdwyd y cwn.— Mewn amddiffyniad dadleuid nad oedd y Di- ffynydd yn agos i'r lie y boreu mewn dadl, a galwodd Mr W. George ar Mr Greaves, yr hwn a ddywedodd nad oedd ef wedi cael cwynion fod y Diffynydd yn gwenwyno cwn.—Y Barnwr a ddywedodd fod yr achos yn llawn drwg-dyb- iaeth, ond rhoddai y fantais o'r amheuaeth i'r Diffynydd, i'r hwn yr oedd yn rhoddi ei dded- fryd, ond heb gostau.
Un Fil a'r Bymtheg am FrechdanI
Un Fil a'r Bymtheg am Frechdan Cyhoedda "Echo" Deheudir Cymru hanesyn rhamantus. Tua deunaw mlynedd yn ol yr oedd nifer o fechgyn a genethod yn chwareu wrth hen ladd-dy yn Crockherbtown, Caer- dydd. Un dydd daeth tramorwr carpiog, Iluddiedig, a newynog i'r lie. Yn mhlith y plant a sylwasant ar y dyn yr oedd geneth fach yn bwyta brechdan, a gwelai drem newynllyd yn ei lygaid. Pan ofynodd iddi am ddarn o'r frechdan fe roddodd hi yr oil iddo, ac aeth adref i ymofyn chwaneg i'r dyn dyeitbr. Bwy- taodd ef yn awchus gan ei fod heb ymborth er's tridiau. Cafodd ei borthi felly gan yr en- eth am tua wythnos. Yn awr, y mae Ilythyr wedi dod oddiwrth y dyn yn gofyn am gynorth- wy i gael hyd i'r eneth, ac arwydda y Ilythyr gyda Harold Swadolf." Dywed y byddai llygaid yr eneth yn Ilenwi a dagrau pan ddy- wedai wrthi mor newynog yr oedd, ac na wnai byth anghofio Nellie Hawkins. Yr oedd yn ddyn cyfoethog yn awr, a phan ddeuai adref i Loegr yn y gwanwyn byddai iddo ei anrhegu a [16,000 os yw yn fyw. Y mae Miss Hawkins, yn byw yn awr yn Caerdydd, ac yn briod er's talm. Y mae yn cofio Harold Swadolf yn dda. Yr oedd, meddai hi, yn ben pobydd yn y dref ddeunaw mlynedd yn ol, ac yn dod o deulu Allmaenaidd cyfoethog. "Yr oedd yn ddyn ieuangc hardd. Yr oedd mewn cariad a mi, ond nid wyf yn cofio rhoddi brechdan iddo," meddai.
Undeb y -Bedyddwyr Cymreig.I
Undeb y Bedyddwyr Cymreig. I Nos Lun, agorwyd gweithrediadau Undeb y Bedyddwyr yn Caerdydd, pan yr oedd dros saith cant o gynrychiolwyr yn presenol. Rhoddwyd derbyniad croesawgar i'r Undeb gan y Parchn. Prif-athraw Edwards, Caerdydd (Cadeirydd yr Undeb), Charles Davies, ac eraill. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod o dan lywyddiaeth Mr. J. P. Gibbon, ar y pwngc o "Addysg." Dadleuai y Parch. Dr. Powell dros beidio dwyn addysg grefyddol i'r ysgolion elfenol. Siaradodd y Parch. D. C. Jones, Maesteg ar Ddiwygio yr ysgol Sul, a chondem- niodd y rhieni Ymneillduol ydynt yn anfon eu plant i ysgolion yr Eglwys Wladol.
I Tanygrlsaau.
I Tanygrlsaau. YSGOL TIBERIAS (A.), CWMORTHIN,—Dydd Sadwrn, cynhaliwyd Cyfarfod blynyddol y ganghen-ysgol pertnynol i'r Anibynnwyr yn Cwmorthin. Yr oedd yr hin yn dra dymunol, a daeth nifer dda o blant yn nghyd yn y pryd- nawn i fwynhau y wledd a ddarparwyd ar eu cyfer gan y cyfeillion yno. Gwasanaethwyd wrth y byrddau7gan y boneddigesau canlynol, Mrs J. Roberts, Mrs L. Lewis, Mrs R. Jones, Mrs E. Roberts, Mrs Williams, Mrs W. Lewis, Mrs E. Davies, a Miss Griffiths, a gwnaethant eu rhan i foddlonrwydd. Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyfarfod Cystadleuol rhagorol. Y Llywydd ydoedd y Parch John Hughes, a gwnaeth ei ran yn rhagorol iawn. Wedi canu ton gyffredinol awd trwy y rhaglen ganlynol. Cystadleuaeth adrodd yr Emyn 224 o'r Canied- ydd Cynulleidfaol, 1, Mary Lewis, 2, Lizzie Roberts. Cystadleuaeth adrodd y Psalm laf, 1, Catherine Lewis. Cystadleuaeth adrodd yr Emyn 815 o'r Caniedydd, 1, Gwladys Lewis. Cystadleuaeth canu « Dyma gariad fel y mor- oedd," 1, Margarat A. Lewis ;:2, Annie Roberts; 3, Maggie Lewis. Wedi hyny caed anerchiad- au Barddonol pur ddoniol gan Mri W. R. Williams (Glyn) a John H. Evans. Traeth- awd ar Hanes Noah, 1, Owen Lewis. Cystadleuaeth adrodd Dim ond cysgod," 1, Maggie Lewis cyfartal 2il, Margaret A. Lewis a Gwladys Lewis. Cystadleuaeth adrodd Psalm 15, 1, Ivor Roberts. Beirniadaeth ar Ebysgriffiaeth Cymreig, 1, Robert Ll, Roberts; 2, John Jones 3, Emlyn Ruberts. Traeth- awd ar Hanes Abraham, 1, Robert W. Jones, Cystadleuaeth canu Drwg Pechod," 1, Myfanwy Roberts; 2, Mary W. Jones; 3, Robert Ll. Roberts. Cystadleuaeth sillebu geiriau sathredig, 1, John Jones. Traethawd ar Hanes Moses, 1, Emlyn Roberts cyfartal ail Myfanwy Roberts a John Jones. Cystad- leuaeth adrodd "y Meddwyn." 1, Robert Ll. Roberts; 2il John Jones. Traethawd ar Hanes Dafydd a Saul, cyfartal laf, Robert LI. Roberts a Sarah J. Lewis. Crynhodeb o waith Safon VII am y chwarter cyntaf o'r flwyddyn, 1, Richard Lewis. Beirniadwyd y canu gan Mr. John Davies, (loan Alaw) a'r adroddiad- au gan Mri R. W. Lewis a J. 0, Williams; a'r traethodau gan Mri R. Williams, W. R. Williams, R. Jones, Robert R. Williams, H. P. Hughes, a Evan J. Williams- a gwnaethant eu rhan yn hollol didramgwydd. Cyfeiliwyd gan Mr. John Owen Jones.
ICystadleuaeth y Seindyrf…
I Cystadleuaeth y Seindyrf yn Maenceinion. Dydd Llun, bu y gystadleuaeth fawr yn Belle Vue, Manceinion, rhwng ugain o Sein- dyrf, ac yr oedd yr oil o'r pum' cant chwareu- wyr yn weithwyr. Nid oedd ond dau Seindorf o Gymru yn y nifer. sef Seindorf Freiniol Oak- eley o'r Gogledd, ac Aberaman o'r De. Dech- euodd Seindorf gyntaf chwareu am haner awr wedi un, a pharhawyd i chwareu hyd yn agos i 7 o'r gloch. Seindorf Oakeley oedd y gyntaf, a daroganai y dorf fod y rhif 1, yn un anffawdus. Sut bynag, chwareuasant yn gampus, fel na raid iddynt gywilyddio o gwbl oblegid methu enill y gamp uchel osodasant fel nod i'w gyraedd. Nid oedd Black Dyke na'r Besses o'th-Barn yno. Dyfarnwyd y prif wobrau fel y canlyn: 1, Wingates ( £ 50 a Her Gwpan gwerth haner can' gini) 2, Goodshaw; 3. Rochdale Public: 4, Linthwaite 5, Irwell Springs; 6, Pemberton. Cafodd pob un o'r Seindyrf eniJIodd wobrwyon dlysau aur helyd. Irwell a enillodd y llynedd. Yr oedd pump o'r saith seindyrf goreu o dan arweiniad Mr. W. Rimmer.
Newid ei Enwad.
Newid ei Enwad. Y mae Mr George Samuel Griffith, Llangoll- en, nai i'r diweddar Ohebydd," a'r diweddar Riaid Conwy a Llanbrynmair, yr hwn oedd yn bregetbwr ieuanc gyda'r Anibynwyr, wedi tori ei gysylltiad a Chymundeb Dinbych a Fflint trwy ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd. Cydnabyddwyd ef yn bregethwr gyda'r Corph yn Nghymdeithasfa Porthmadoc.
- - - - - - - -'-.-..-. -…
Tafarnau Eglwysig. Yn ystod trafodaeth fu mewn un o gyfarfod- ydd Aelodau Dirwestol y Senedd, galwyd sylw difrifol at y ffaith nad oes lai na 336 o dafarnau trwyddedig ar etifeddiaethau delir gan y Dir- prwywyr Eglwysig. Dywedwyd fod prydles- oedd wddi dod i mewn yn ystod y pymtheg mlynedd diweddaf fel ag i alluogi y Dirprwy- wyr i leihau dros driugain o drwyddedau, yn cynwys rhenti o tua un-mil-ar-ddeg o bunau. Yn lie cymeryd mantais ar y cyfleusderau hyn i wneyd i ffwrdd a'r tai, fe ganiatawyd prydles- oedd newyddion gyda therfynau eangach i'r adeiladau, ac felly ychwanegu cyfleusderau i yfed. Penderfynwyd i Ddirprwyaeth weled Esgob Llundain ar y mater, a bydd i gwestiyn- au gael eu gofyn yn y Senedd gyda'r amcan o rwyddhau y ffordd i leihau nifer y cyfryw etifeddiaethau.
Llangollen.
Llangollen. YR ARDDANGOSFA.—Gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol fod yr arddangosfa hon i'w chynal dydd lau, y 13eg o'r mis hwn. Deallwn fod y rhagolygon yn addawol. Mae yr ymgeiswyr yn yr holl adranau yn lluosog, a'r trefniadau yn bobpeth ellir eu gwneyd tuag at sicrhau Arddangosfa Iwyddianus. Ac os ceir tywydd braf mae disgwyliad mawr y bydd lluoedd yn tyru yno o bob cwr.
Bettwsycoed.
Bettwsycoed. Deallwn fod Dr. Pollock yn awr ar ymwel- iad a ni. Erys gyda Mr. John Hughes, yn y Fronheulog. Mae y boneddwr anrhydeddus yn dod i'r Bettws yn ddifwlch er's haner can' mlynedd, ac y mae ei serch at y lie yn fawr iawn. Er yn ei 87 mhvydd o'i oedran, y mae yn heinyf a bywiog.
Gwres Angerddol. I
Gwres Angerddol. I Yr oedd dydd Sadwrn y diwrnod poethaf ar gofnodion y deyrnas hon. Collodd canoedd eu bywydau trwy y gwres, a tharawwyd canoedd lawer gan ergyd yr haul. Cymerodd nifer lluosog o leoedd dan trwy angerddolrwydd y gwres. Mewn masnachdy yn Llundain goleu- odd fflamegau (matches) yn y ffenestr, a llos- gwyd rhan o'r adeilad. Bu i wyrir ffenestri amryw fasnachdai dynu y fath wres i mewn nes I gosod y nwy ddau ar dan. -Cofir yn bir am wres yr wythnos basiodd.