Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
 I* SALE. STOCK Y ■UimLILL — ? w ?? !N B B?NtWHtBt m a) ?MBB)BiFBSrB aEL i r'  NMHB t tBB? w NWYDDAU AM LA I NA HANER EU PRIS. VCHVDIC ETO HEB EU CURIO. | Cwnewch ymdrech i alw DYDD SADWRN, BARGEINION MAWR. w. S. WILLIAMS (LLANRWST), LIMITED.
es y Ddaeargryn yn Valparh…
es y Ddaeargryn yn Valpar- h aiso. ?'—?ae'n sicr genyf y bydd yn ^yddo ° i° ddarllenwyr y RHEDEGYDD g? d hanes y Ddaeargryn ofnadwy 4chad an ymro ieuangc oedd yn llygad- dYSd., ?? Gymro ieuangc oedd yn Hygad- d?st ?' ? ?ychineb alaethus. Llythyr ydyw ?iwrt' ?' David Williams, gynt o Bryo Tirion ?°?yddelen. at ei Rieni. Ac y maent ^wytha U ?n garedig wedi caniatau ei gyhoeddi. ?e'n ??S?a y darllenwyr am y cyfeiriad a ??? y?'S fisoedd yn ol at ymadawiad y §Wr ien uchod i'r He pellenig hwn i wasan- ?ha ? n.? y ffirm adnabyddus o Lynlleifiad, ?an?r?. Fox, & Co. VALPARAISO, Y T Dydd Llun, Awst 20, 1906.  ? Allan i Office Duncan, Fox & Co.) Auty I ^ieni.—'Dwn i ddim pa le i ddechreu ,kllwyl Pleni.Dwn i ddim pa Ie i ddechreu Ysgrife, U y tro yma. Yr wythnos ddiweddaf yr o?j ??y. mwriad i ysgrifenu tipyn o ddes- M6a.d a r ddinas a'i neillduolion, gan fy mod ?di ? .chwech neu saith wythnos o amser i Cdryc?   sylwi tipyn ar yHea'rboM. Ond er Yli e dy yr wyf wedi gorfod newid fy nhestyn ?tae'n DUr debyg eich bod wedi gweled Ws r fanwl yn y papurau yna am y P^aeargr0 °??wy gymerodd Ie yma nos ? diw?"d) af. Ac er mor dueddol yw y P?pUta {y?a ° ddweyd tipyn gormod ynghylch Petba aUlna 0 ddweyd tipyn gormod ynghylch au felyn, anhawdd genyf gredu iddynt 'vyddo I t er gormodiaeth y tro hwn. Boreu tqa,N ,vrtla dlweddaf oddeutu 7.40, teimlais y n Oedgyntaf er pan gyrhaeddais Chili. Ond yr o'dd Yr YsgYdwad mor fychan fel nad oedd ??<!d?v,. ??ydwad mor fychan fe! nad oedd Or,dY'hYdig wedi sylwi i ddim gymeryd lie, k aet'l '?° peth cyffredin. Nos lau yr ?dwa''?"stedd wrth y bwrdd, ar orphen fy !?io BYddai yn well i mi egluro yn y fan  f od y ty yn sefyll ar fryn uwch y dre, a fod etwi. r ?6 ?rlle English Hill," neu "Cerra Rema victorja e,  Spanish. Mae y rhan fwyaf o'r tM,, ed, eu "?°eIIadu o Zinc. Yr oedd wyth o K °Q0tn Yn 1S*eC^ wrth y bwrdd ar y pryd, set %vr 9. gw raig y ty, en dau fab, a mam y wraig ? (? ??ns) 't mch ieuangc o Sweden sydd yn ?\ y° y ty. Ysgotyn, a minau. P^eth ?gotyn. a minau. b1.\dd Y?ydwad cyntaf yn hollol dal f ? ?n? ''sydyn fel nas gallem sylweddoli y ?eQt T? oedd wedi cymeryd He; ond b? ?Em ? ?"y° dechreu chwalu ar y ?'?s?n..?°? ?' ? y c?s. A chan fod „^dd 6/ am y drws. A chan fod bU'n rh :r .?? i 80 oed), yn bur fethiant K ay. 11 rh?'' Scotchman a minau ei llusgo ? tua'r  41144 r drvs goreu gallem. tra yr oedd y Plaster addiar ? 5Uriau yn disgyn yn dalpia'u Oed V.1 Penau Pan gyrhaeddasom y drws yr Oedd Yn nt, gan dywylled a'r fagddu. ? yn a r fagddu. tneilt YRgw-ibio yn Byr awyr. a'rl bobl yn gvJ^ ddi- ac v i.edeg o bob cyfeiriad, a'r ty RYyn nty8gwYd eI gogor. Parhaodd y shock Vn ysgwvfl e el g°g°r. Parhaodd y shock "'dy' n'P°rt am 11 munud. ond i mi yr Oed yn *1= WerteWcach i ddiwrnod a haner Cl j?§ iddi" f,? n heibio, aethom ar draws y sSf?1 le diofe* A*' pe buasa'r ty yn dod i lawr. (jj d ? i ogel, ? ?asa'r ty yn dod i lawr. fill(, cyn i rij bron gyrhaedd ail ddechreuodd y dd argryrl. Y tro hwn yn waeth na'r shock gynt Ac ni.s galw bvth anghofio yr ychydig IlefJ y Parhaodd 'merched yn gwaeddi ac yn Ir y Paril aodd--rn?rched yn gwaeddi ac yn tlef ain arn drugaredd. y cwn yn udo ac yn CWarth- a I r tneUt yn gwibio-y cyfan yn iirha nol S, ?sgn6adwy y ddaeargryn.  8hanoiv nis gallwn beidio meddwl am ^estyn D ? 11"18 gallwn beidio meddwl PRI destyl Pregeth S. T. Jones, Rhyl, Dydd ? Parir h, H3 Ph-cY a ddichon sefyH." fctyedi dai c'^io desgrifio yr ychydig eiliadau V P,,rWaad d.()nd niil oedd y peth yr aethom ni d rwyddo y II.-ddim 0-igydmaru a'r hyn oedd ya cymer3,d Ile ,r y ?? islaw. Ar Ol ta,elu Y me^ed 0 gwmpas aethom drS ?'Pyn i ni Y ddmas. ac erbyn hyn yr d y ?n WI C?Iwg ? ™as' ac erbyn hyn yr Oedd tan wedi dechreu cymeryd gafael yn y OMefV ?ydd?hw? S wyth a naw. Cawsom ? ??ockfech? ?hyn.digon i wneyd i s?.o?h?onloio?v???? ?i allan oedd y lle saffa V eulio en erfynu mal allan oedd y lIe fiYd yn sef? noswaith, eJ:' fod y tai cyfagos i gYd Yn sefyl 1* Yr °eddwO ? bron wedi dod S?? ?? y?ddim d? ? mhen er ei bod yn gwia ^Vl° yn bur drwn ar y pryd. Ond llwydd- ;tis Igalel cap a fy nghot uchaf. Erbyn tua arier nos Yr  wedi stopio §wlawi°. a'r auVr Wedi cHrio l^ i ? yr oeddym yn gallu yS n. ??"?- ?Y?Da? ????? i gadw ein hunain Yn Y dref oedd y bryn yn °? gan y tan yn v6f' a gallem ??° y gwres rai canoedd a lat? er?i o ffordd ^Pjar}laodd y shocks drwy'r n0s ni chafw, taf' Jlla ??i chc?h? ,?"" tebyg i'r ?y gyn- :a??J?fael ??'"??h y boreu llwyddasom a S\i i ty, a thipyn o lestri, r  ?b???? 0 ? ? g?ol yr heol Yr ed:i y hvn yn dechreu dyddio, ac aeth- om i lawr i'r dref, ac yr oedd yr olygfa yn ddi- rifol ar bob Haw, pawb wedi ffoi o'u tai, ac yn cerdded yrystrydoedd, ami i dy yn garnedd, eraill a'u muriau wedi hollti ac ar syrthio,— dim un yn ddianaf. Yr oedd talcen y ty lie y cysgwn i wedi agor ac yn edrych yn ddrwg iawn, ond nid oedd neb wedi cael ei anafu. Yr oeddym yn pasio ystabl ar y ffordd, ac yr oedd mur uchel wedi disgyn arno, ac wedi lladd 42 10 geffylau. Erbyn cyrhaedd yr Office, yr oedd y ddau fur front a back i lawr yn fflat, ond yr oedd y to yn sefyll yn cael ei gynnal gan y talcen a'r building nesaf. Yr wyf yn disgwyl y gallaf I gaelphoto i'w anfon i chwi ymhellach ymlaen. Yr wyf yn meddwl fod Office Duncan, Fox & Co., wedi ei chael yn Hawn gwaeth na'r un yn yr ystryd, Ond yn y rhan arall o'r dref mae'r olygfa fwyaf difrifol o unman heolydd cyfan i lawr yn garnedd rhai eraill wedi ei llosgi yn llwyr o'r naill ben i'r llall. Y brif heol, Grand Avenia (Grand Avenue) adeiladwyd yn ystod y pum mlynedd diweddaf, gydag adeiladau hardd iawn ynddi, yn awr heb yr un bron yn sefyll. Hyderaf nad ydych wedi bod yn pryd- eru yn fy nghylch. Yr wyf" wedi cael pobpeth o fy room yn safe. Nid ydym wedi penderfynu beth i'w wneyd eto. Yr wyf wedi bod yu cysgu mewn Hong yr harbour hyd yma, ac yn reit hapus, er nad yw wedi tawelu eto. Yr ydym yn cael ami i shock bob dydd, ond erbyn hyn yn cynnefino a hwy. Does dim perygl am brinder bwyd. Mae'r ddinas o dan ofal y milwyr. Cofion serchog atoch all. Oddiwrth, DAFYDD.
I - NODION 0 DOLWYDDELEN.
NODION 0 DOLWYDDELEN. [GAN DRAENOG] 1. LLYS YR ETHOLRESTR.-Cyfeiriais at hwn yma yr wythnos ddiweddaf a'r gwaith wnaed ganddo. Dylaswn ddweyd gair ymhellach am dano, sef pwy oedd y gwyr yn ychwanegol at y Prif Swyddog, oedd yn cymeryd rhan amlwg ynddo. Gwelwyd y Bonwr R. E. Thomas o Drefriw yno. Gwr anmhosibl ei hebgor gyda hyn o orchwyl, gan mai ef yw pen publican yr Undeb. Gwr rhadlon a siriol bob amser, a chlywais i ddim fod neb wedi ei fygwth na rhoi notice iddo to quit the premises, Yr oedd yntau yma yn mhomp ei swydd. Gwelwyd Mr. Twigge Ellis, Cyfreithiwr o Fangor yn am- ddiffyn teulu Balfour, o dan gyfarwyddyd y Bonwr W. Owey, Tanyclogwyn, a Mr. Pentir Williams, eto o Fangor yn amddiffyn teulu Campbell-Bannerman, gyda chynorthwy juri Elis o'r Nant a John Parry. Ond er i'r dydd fyned ymaith yn weddol dangnefyddus, eto y mae sibrydion gwarthus ac annheilwng hollol yn y gwynt. A'i tybed eu bod yn ffeithiau ? Dywedir fod Rhyddfrydwyr o'r ardal wedi bod wrth y gorchwyl iselwael o geisio torri pleidlais un o Ryddfrydwyr yr ardal a buont yn Ilwyddianus mewn rhan, oblegid y mae y Rhyddfrydwr hwnw wedi colli ei hawl i bleidleisio mewn Etholiad Seneddol. Anhawdd cael gafael ar eiriau digon miniog a brathog i ffrewyllu y tylwyth yma, tra I y cofir fod yr oil o'u gwrthwynebiad yn tarddu oddiar fympwyon. Nid cwestiwn o ihawl nac egwyddor ydoedd. Dyma dy wedi ymranu yn ei erbyn ei hun. Beth yw y can- lyniad? Esgor ar deimladau digofus a gelynol. A rhydd waith pleserus i ddosbarth mwyaf sychedig yr ardal i wawdio egwyddorion Rhyddfrydwyr y Plwyf. Gwarchod pawb rhag y fath dylwyth anghenfilaidd! Beth sydd i lywodraethu ein bro,—Ai egwyddorion, gwar, rhesymol, a sefydlog, a'i ynte opiniynau, gwallgof, gwyllt, a mympwyol ? Pwy etyb ? GAIR 0 DROS Y DON.—Byddwn yn hoffi clywed gair o hanes ein ffrindiau sydd yn tabernaclu dros donau y Werydd oni fyddwn ? Y mae gen i swm helaeth ohonynt yr wythnos hon, os gallaf eu trefnn rywfodd. Dyma'r newydd cysurlawn fod Miss Kate Owen, a'i chwaer, a Gwladys ei nith bach wedi cyraedd hafan Efrog Newydd yn ddiogel 'rol taith gysurils. Daeth newyddion o dir Utica oddi- wrth Deiniol Glan LIedr, yn cyflwyno el gofion ef a'r teulu at bawb o'u cydnabod. Clywaf lais clochaidd y brodyr John O. a Hugh O. yn hysbysu iddynt gyraedd y lan brydferth draw yn Denver, Colorado, wedi mordaith drwy foroedd cynddeiriog ac aflywodraethus. Yr oedd holl elfenau natur, yr adeg yr oedd y ddau yn croesi y Werydd, megis wedi dianc o'u ffauau ac fel wedi ymdyngbedu y mynent hwy yn ys- If glyfaeth, a rhyfedd ydoedd gweled y Pendragon Bryncyn, yn un sypyn bychan, wedi ei wasgu i'w gilydd fel concertina, yn nghadwynau Dafydd Jones. Mor wahanol ydoedd i'r Pen- dragon ar lanfa Llynlleifiad cyn cychwyn, a phan yn ffarwelio, a chyfiwyno allweddau ei ofalaeth drosodd i Gwilym ap Gwilym a Gwil- ym ap Dewi. Yr oedd megis rhyw gawr Her- ciwlaidd yn taflu ymaith gyda dirmyg y syniad iddo fyned yn garcharor gan Farchog y Werydd. Ond fel arall y bu, collodd ein Pen- dragon y frwydr a gorfu amo gyflwyno y belt a'i anrhydedd drosodd i'w gryfach. Ond da genym iddynt gyraedd yn ddiogel, a'u bod wedi cael treulia ffair Llan ar heolydd Denver. Colorado. Clywais ychydig o sibrydion oddiwrth lais yr hen gyfaill Cymro Gwyllt a'i briod o Ben Tir y Gwyddel, yn hysbysu ei fod mor esmwyth a phe yn sefyll ar ganol dol y Pentref. Ai tybed fod ei brofiad yr un heddyw ? Hawdd- amor i chwi anwyl ffryndiau. Daw llais o bellafoedd Montana oddiwrth yr hen gymrawd Owen Hughes ('r hen Saer) fod popeth yn alright, a gobeithia fedru anfon Xmas box i'w gyfeillion, Ilawer gwell na'r un a gafodd ef pan yma. A chyn bo hir hydera y bydd yn gallurhoddicheap trip i'w hen chums yn chwarel y Diphwys i Montana paradwys y byd. Y mae'n hyfrydwch genyf gyflwyno drwy gyfrwng y RHEDEGYDD ein cofion cynhesaf a'n dymuniadau goreu at yr oil, Y CYNHAUAF.—Yr ydym wedi cael tywydd anarferol o hyfryd at gasglu gweddill ymborth dyn ac anifael i ddiddosrwydd. Yr ydym yn nghanol prysurdeb cynhauaf y Cnau a'r Mwyar Duon heddyw. Y mae y "Black Berries Brigade" o Flaenau Ffestiniog yn lluosog iawn eleni. Ond ymddengys fod rhai ohonynt ymhell o fod yn ddynol a boneddigaidd eu hymddygiadau. Ogerwydd cwyna rhai o'r amaethwyr eu bod yn cuwalu eu cloddiau &c., Ni raid dweyd beth fydd canlyniad hyn Mewn tymhorau dyfodol, a gaf fi apelio atoch chwi sydd yn euog, ar i chwi ymdrechu ymddwyn yn deilwng o wareiddiad yr ugeiufed ganrif, pan ar ymdaith oddicartref, ac nid fel canibaliaid Ynysoedd Mor y De. CYMANFA.—Ymddengys y bydd nifer dda o bobl ieuaingc yr ardal yma, yn bwriadu myned i'r Gymanfa i Llanrwst ddydd Iau nesaf, pryd y disgwylir y Parchn. W. Jones, Conwy, John Owen, M.A., Bowydd, a J. H. Roberts, Ysw., A.S., i'w hannerch. SEIAT FISOL Y PLWYF.—Cynhaliwyd hon nos Wener diweddaf. Yr oedd amryw o'r Cynghorwyr yn bresenol.. Gwnaed ychydig o waith, a hyny mewn ysbryd gweddol dangnef- yddus. Busness y Torri Beddau a symud y Lampau, &c. Yr oil i'w cyflwyno i sylw y gwahanol Bwyllgorau. DRUAN O'R "DKAENOG."—Ymddengys fod duw anffawd," wedi arfaethu yn ei Gyngor hwyrol y mynai gloffi y Draenog," a'r wyth- nos ddiweddaf cyflawnwyd y bwriadau yn Hythrenol, fel y gorfodwyd ei roddi mewn gefynau o Blaster Paris" a mawndir Bwlchygroes." Eidduna pobl dda Dolwyddel- en ynghyd a phobl well Cwmglasgwm adferiad buan iddo.
--HARLECH.-1
HARLECH. -1 Beth ydyw y rheswm nad oes dim yn cael ei ysgrifenu oddiyma i'r RHEDEGYDD yn ddiwedd- ar. Yr ydym yn cael sylw ami yn y wasg Saesneg, a gresyn na fuasai yma rhywun yn teimlo digon o ddyddordeb i ysgrifenu tipyn o'n hanes i'r RHEDEGYDD weithiau. Mae yn chwith i ni ar ol Mr. Griffith Thomas, byddai ef yn gofalu am grynhodeb o'r digwyddiadau i'r RHEDEGYDD bob wythnos, Gyda bIas yr ydym yn darllen ei farddoniaeth fydd yn ym- ddangos ar adegau. Mae'r hen dref yn myned ar gynydd yn gyflym, swn adeiladu sydd yma o bob cyfeir- iad. Colwg dipyn yn ddigalon oedd yma ddydd Sadwrn diweddaf gweled gweithwyr chwarel Llanfair yn dyfod adref a'u harfau ar eu hysgwyddau. Y chwarelgwedi stopio o ddiffyg lie i roi y rwbel.Sond disgwylir yr ail gychwyn- ir cyn hir. Gresyn na fuasai y Goron yn manteisio ar yr amgylchiad yma i gychvjyn y ffordd newydd fwriadedig o Tantwthill at Brynbwa'rgelyn. Mae eto lawer o ddieithriatd yn aros yma a golwg am i'r tymor barhau am beth amser yn mhellach. Gor-Iawn ydyw y lie wedi bod am wythnosau, a dyna oedd tystiolaeth pawb yma na fu yma erioed gymaint o bobl." Ac er cymaint fu yma eleni ni welwyd neb yn chwareu Golf ar y Sul. Mae:hyn yn Ilawenydd mawr i ni fod y dieithriaid yn parchu y Sabbath yn y cyfeiriad yma beth bynag. Gan ein bod yn son am y Sabath nis gallwn lai na cbrybwyll am y dychryn gawsom tua haner dydd y Sabbath o'r blaen wrth glywed gwraig yn ei thy yn tyngu a rhegi mor ddych- rynllyd fel y credwn y buasai ei hiaith yn codi cywilydd ar y diafol ei hun pe buasai yno yn bresenol yn ei chlywed. Ni chredwn o gwbl y gallai yr un ddynes ddefnyddio iaith mor waradwyddus isel oni bai i mi ei chlywed. Cywilydd o beth ydyw hyn yn enwedig ar ddydd yr Arglwydd. Yr oedd yr iaith a ddef- nyddiai yn warth i'w rhywogaeth heb son am grefydd a christionogaeth. Nid wyf yn credu fod gan Belzebub yn Gehena yr un ellyll allasai arfer iaith mor ddychrynllyd a'r ddynes yma y Sabbath diweddaf. Teimlais lawer gwaith ar ol hyny y buasai yn dda genyf fod yn rhywle arall ar y pryd yn lie ei chlywed. Dylai y gyfraith gydio mewn peth fel hyn a chosbi hyd yr eithaf. Aeth Ysgolion Sul yr Anibynwyr a'r Wesley- aid i Criccieth ddydd Llun am bleserdaith. Cawd diwrnod hyfryd a mwynhaodd pawb eu hunain yn gwmpas. Dywedir fod golwg lewyrchus ar Gymdeithas Ymdrech Gristionogol M.C., wedi ail gychwyn ar ol y diwygiad. Cynhelir y cyfarfodydd nos Sul ar ol Seiat fel cynt. Y swyddogion am y chwarter ydynt, Llywydd Mr. R. Davies, Lasynys; a Mr. Ivor Jones, yn Ysgrifenydd.
I - - - RHOS A'R - CYLCH.-…
I RHOS A'R CYLCH. I PRINDER DWR.-Oherwydd y tywydd sych ydym wedi gael er's rai wythnosau bellach y mae yma lawer o gwyno o achos prinder dwr. Mae llawer o'r gweithfeydd yn gorfod sefyll o'rachos. GIofa Hafod-y-bwch, ac amryw o'r gweithfeydd Bricks. Ond mae gobaith am waith, maent yn brysur gosod Pwmp, i dynu dwr o Byllau'r Brandir. Dywedir fod y Ddyfrdwy yn sychu i fyny, gellir cerdded trwyddi yn droedsych mewn lleoedd sydd arfer bod ddyfnaf wrth Bangor-is-y-coed. CANV ASIO.-Da genym ddeall fod y Parchn. R. Roberts ac E. Williams wedi dechreu ar y gwaith o alw gyda masnachwyr i'w hargymell i gau eu masnachdai ar y dydd penodedig i gynal cyrddau Diolchgarwch am y Cynhauaf. PRIODAS.-Dydd Mercher diweddaf yn Swyddfa'r Cofrestrydd, Gwrecsam, unwyd mewn glan briodas Mr. Joseph Jones, (Jun.) Chapel Street, Ponciau, gyda Miss M. A. Roberts, Delph Lane, Ponciau. GOSOD MEINI COFFA.-Dydd Mercher di- weddaf aed trwy y seremoni uchod wrth Gapel Newydd Saesneg (B), Cefn Mawr. Gosodwyd y meini gan y rhai canlynoI :-Mr. a Mrs. Hemmerde, A.S., Mr. a Mrs. Geo. Richards, Vron View, Acerfair, Mr. a Mrs. B. Williams, Penybont, Mr. a Mrs. Richards, Rhos, Mr. a Mrs. Edw. Jones, Acerfair, Mr. a Mrs. J. T. Ch. Jones, Plasnewydd, Ruabon. Siaradwyd gan y Parchn. R. G. Roberts, Cefn, a W. B. Jones, Penycae. DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.—Cyn- haliwyd cyfarfod Diolchgarwch am y Cynhau- af yn yr Eglwys Sefydledig. Gwasanaethwyd nos Fercher gan y Parch. T. Redfern, Croes- oswallt, a nos Iau gan y Parch. Mr. Probert, Gwrecsam. CYNGHERDD.—Nos Fercher, cynhaliodd Cor Plant Jerusalem, eu cyngherdd. Canodd y Cor amryw ddarnau yn swynol a meistrolgar o dan arweiniad Mr. Joseph Dodd. Cynorthwy- wyd gan Misses Hannah Davies, L. Dodd, M. J. Jones, S. A. Parry, A. Jones, a Mri. Powell Edwards, Hartley Davies. Y llywydd ydoedd J. Tysilio Jones, Ysw. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Nos Iau, cyfarfyddodd pwyllgor cymdeithas ddiwylliad- ol eglwysi annibynol Bethlehem a Salem, a phenderfydwyd cael cyfarfodydd yn ystod y gauaf. Dewiswyd y swyddogion canlynol:- Llywydd: Parch. R. Roberts; is-lywyddion, Mri. Wm. Edwards, Samuel Roberts; ysgri- fenyddion, Mri. W. E. Jones a Fred Ellis. YSGOL NEWYDD.—Dydd Llun diweddaf, agorwyd ysgol newydd uwchraddol y Rhos yn wirioneddol, er fod y seremoni agoriadol wedi ei chynal rai wythnosau yn ol. Prifathraw yr ysgol yw Mr. Powell, gwr sydd wedi treulio rhan fawr o'i oes yn y gwaith o addysgu plant yr ardal, ac un o fedr mawr a pharch uchel. Cynorthwyir ef gan Staff gref o athrawon trwyddedig. Mae yr ysgol hon wedi ei had eil-,I adu ar y Central Hall System, a dywedir nad oes ond un adeilad yn rhagori arno trwy yr j holl wlad. ¡ CVFARFOD BLYNVDDOL.-SnI d, Linn diw- I eddaf cynhaliwyd cyfarfod pregechu yn nghap- el M.C. Acerfair. Gwasanaethwyd gan y. Parchn. R. Wynne Davies, Dr. Cynddylar Jones. Yr oedd yr addoldy yn orlawn, a phawb yn wresog yn gwasanaethu'r Arglwydd.. LLONGYFARCHIAD.Llongyfarchwn Gor Plant Bethlehem ar eu buddugoliaeth ardder- chog yn New Brighton dydd Sadwrn. Daeth pump o gorau ynghyd i gystadlu ar y darnau "Dychweliad y Gog," (J. O. Jones), "Can y Blodau," (Parry, Llanrwst), ond y cor uchod a drechodd. Maent yn haeddu canmoliaeth am enill enw mor anrhydeddus i'n hardal. Mae yob un o'r plant yn cael Bathodyn, ynghyda'r arweinydd llwyddianus, Mr. Jacob Edwards. Hefyd, Ilongyfarchwn o galon Mr. Powell Edwards, Market Street, ar ei fuddugoliaeth yntau yn enill yr unawd Baritone. Dyma'r drydedd waith yn olynol iddo enill yn y gys- tadleuaeth anrhydeddus hon. SEWERAGE.—Ymddiriedwyd y gwaith o os- od carthffosydd yn Stanley Road, Ponciau, i Mri. S. a J. Davies, Contractors. Yr oedd amryw yn ymgeisio am y gwaith, ond dyma'r cynygiad mwyaf ffafriol gan y Cyngor. MARWOLAETH.—Drwg genym gofnodi am farwolaeth Mrs. Tom Phillips, Duke Street, yr hyn a gymerodd le ddydd Gwener diweddaf. Nid oes ond bythefnos er pan briodwyd y rhai hyn. Yr oedd yn gymeriad ag yr oedd pawb yn synied yn uchel am dani. Peth hynod iawn yn yr amgylchiad ydoedd, iddi gael ei chladdu ar ddydd ei phen blwydd, yn 33 oed. Cladd- wyd hi dydd Llun, a daeth tyrfa fawr ynghyd i ddangos eu cydymdeimlad a theulu'r ymadaw- edig, a'i phriod serchog. Gwasanaethwyd gan y Parchn. R. Jones ac R. Roberts. PRIODAS.-Dydd Sadwrn diweddaf, yn Swyddfa'r Cofrestrydd, unwyd mewn glan briodas. Mr. R. J. Sharpe, Bank Street, 'gyda Miss Harriet Jones, Fennant Road, Ponciau. Y gwas priodas ydoedd Mr. Levi Hannaby, a'r forwyn Miss E. A. Charles, gyda Miss E. A. Hughes, Ruth Hannaby, Mri. Llew Jones, a J. W. Hannaby. Wedi y Seremoni aethant oddi yma am New Brighton.
- - - - - - - - - -.- - -…
FOOTBALL. On Saturday last Festiniog journeyed to Col- wyn Bay to fulfil their second League match. A very interesting game ended in a win for the homesters by one goal to nil. Saturday nezt, on the Recreation Ground, Festiniog Town will try conclusions with the Bangor Celts. Kick-off 3-45 p.m. Admission 4d. Team-Goal, Hughes; backs, Meirion Jones, H. J. Rowlands; halves, J. Rowlands. Dick Roberts, J. Lloyd; forwards, Robert Roberts, W. Williams, Johnny Jones, John P. Jones, W. R. Owen.
LLANFROTHEN.
LLANFROTHEN. Da genyf gael cyfleusdra i longyfarch y cyfaiil ieuangc M. J. Williams, y Wern, ar ei waith yn dod allan yn fuddugwr yn Arddangos- fa Meirion o lu o brif gyffylwyr y Sir. Hefyd Miss L. A. Jones, Tanlan, ddaeth ag amryw o brif wohrwyon gartref. Dymunwn i'r ddau Iwyddiant etc.—Cyfaiil.
FFESTINIOG.,
FFESTINIOG. DIOLCH AM Y DIWYGIAD.—Cynhelir rhifres o gyfarfodydd Gweddi yr wythnos hon dan nawdd Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion i ddiolch am y Diwygiad yr hwn a gynyrchodd fywyd newydd yn ein heglwysi. CYMRU SOBR.—Gwasanaethwyd y Gym- deithas Nos Wener gan Mr. John Evans a chafwyd cyfarfod neillduol o dda. DARPARU AR GYFER Y GAUAF.—Da genym ddeall fod Eglwysi Bethel (A.), a Shiloh (W.), wedi penderfynu cael Cymdeithasau ar gyfer eu pobl ieuaingc am y tymor nesaf, Gobeithio y gwneir defnydd o'r darpariadau hyn i fod yn lies ac adeiladaeth i'r oes sydd yn codi. YMWELIAD YR AMBULANCE.—Dydd Sadwrn talodd y Gymdeithas hon ymweliad a'r ardal, ac yr oeddym yn llawenhau gweld nifer o fechgyn ieuangc yn rhoddi eu hamser i ddysgu peth mor fuddiol. Drwg genym fod amryw o foneddigion y lie oddicartref fel na chawsant roi croesaw iddynt. Y MYNEGBYST.—Mae amryw yn dwndro yn nghylch y pethau difywyd hyn: y dylai y Cynghor wneyd hyn i fynu heb oedi ei fod yn golled anrheithol i'r llwyddiant hwy. Ond tybed mai y trethdalwyr sydd i wneyd colled rhyw nifer fechan o Westai a Lluestai i fyny ? pa golled i'r gweithiwr ydyw pe bai holl Fodur- wyr y wlad yma yn myn'd ar goll wrth Tal-y- bont? Gwnant eu colled i fynu eu hunain, os ydynt yn dewis. Mae lawer o bethau Cyffred- inol eu heusiau er cysur'ac iechyd y Trethdal- wyr o flaen rhyw ddrychiolaethan fel hyn. Hefyd."ouasai yn,%v, ell:gan lawer o'r Trethdalwyr y byd sydd ohoni yn awr gael maddeu rhyw ychydig o'u Trethi a'u tynu i lawr, na'u codi i wneyd gwelliantau i Anturiaathwyr personol.