Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
ICyfarfod Ysgol .(M.C.) DosbarthI…
Cyfarfod Ysgol (M.C.) Dosbarth I Machno. Cynhaliwyd cyfarfod diweddaf yr ucdod yn Nolwyddelen. Oherwydd i'r hin droi mor hynod o ffafriol, cawsom gynnrychiolaeth weddol gyflawn. Yr oedd yr holl gynnrych- iolwyr yn bresenol ac eithrio rhai .ysgolion Capel Currig a changen-ysgol y Garnedd. Y Llywydd ydoedd Mr. David Hughes, o Ryd-y- meirch, a'r Arholwr, y Parch. T. O. Jones, Ysbytty. Yr oedd cyfarfod y boreu fel arfer yn gyfarfod arbenig y plant. Yr oedd y canu o dan arweiniad Mr. G. Hughes,^Brondderw, a Mr. David Jones, Rathbone ?Terrace, yn cyfeilio. Canodd y plant amryw ddarnau yn swynol dros ben. Holwyd hwy gan y Parch. T. O. Jones. yny 5 benod o'r Rhodd Mam. Holi ac ateb bywiog a da. Dywedwyd ychydig o eiriau i galonogi y dosbarth gan Mr. Job Parry. Cynghorai hwy, beth bynag a wnant, am roddi y goreu i Iesu Grist. Agorwyd y mater apwyntiedig,—"Ymddyg- iad gweddus yn nhy Dduw," gan Mr. Morris Davies, Ysbytty. Ategwyd ei sylwadau gan Mri. Robert Roberts, Penmachno, Henry Roberts, Bettwsycoed, a'r Parch. T. O. Jones. Edrychai yr oil ar y mater fel un hynod amserol, ac eto gresynid fod angen galw sylw ato ar adeg fel y bresennol yn hanes crefydd Cymru. Hyderir y bydd Eglwysi y Dosbarth ac yn arbenig eiddo Dolwyddelen ar eu man- j tais o'r sylwadau. Terfynwyd y cyfarfod hwn* drwy weddi, Mr. R. T. Jones, Bettwsycoed yn arwain. Yn y Cyfarfod o'r Cynrychiolwyr a'r Athraw- on, gynhaliwyd yn ddilynol, hysbyswyd mai tro Rhydymeich sydd i groesawu y Cyfarfod Ysgol yn nesaf. Cynhelid ef y Sabbath cyntaf o Dachwedd, pryd yr holir y gwahanol ddos- barthiadau fel y canlyn :-Dosbarth hynaf, I Pedr, pennod I; Dosbarth canol, Hyffordd- wr pennod vi; Rhodd Mam," pennod, Ill. Y mater y disgwylir sylwadau arno fydd "lawn ymddygiad wrth fyn'd a dod i Dy Dduw.— Nodwyd ar Mr. R. T. Jones o Bettwsycoed i'w agor. Yn ddilynol, darllenwyd cofnodion y Cyfarfod Ysgol diweddaf gan yr Ysgrifenydd, a chadarnhawyd. Mewn perthynas i benderfyniad ynglyn a Rheolau yr Ysgol Sabothol hysbysai yr Ysgrif- enydd iddo ohebu a'r Parch D. O'Brian Owen ond fod pob copi o'r Blwyddiadur wedi ei werthu. Yn ddilynol cynygiai Mr. John Richards, a chefnogwyd gan Mr. Richard R. Jones. Fod cais yn cael ei wneyd at Bwyllgor Undeb yr Ysgolion Sabbothol, ar iddynt ar graffu nifer o'r Rheolau uchod, y rhai pwysicaf o honynt, a'r gardiau Llafur, er eu dwyn i sylw y gwahanol ysgolion. Danghoswyd unfrydedd gyda hyn: Hysbyswyd fodysgol Ysbyttyyn, anfon cenadwri at yr ysgolion mewn aralleirlad o adnod o Lyfr y Datguddiad. Pa, beth y mae'r ysbryd yn ei ddweyd wrth yr Ysgol Sabbothol," gdrwy gyfarfodydd y Gobeithlu, cyrddau darlleu, a'r gwahanol gyfarfodydd- eraill ar gyfer yr ieuengctyd a'r plant. Rhoddwyd anogaeth ar fod y cynrychiolwyr yn gahv sylw yr f-sgolion at yr adeg bresenol, ei bod yn eg cychwyn cyfarfodydd y gauaf, a gofalu fod yr holl ysgolion yn trefnu ar gyfer hyn yn ddiymdroi. Derbyniwyd llais yr Ysgolion ar gwestiwn Cymanfa y Plant. Yr oedd mwyafrif yr Ys- golion yn ffafriol i'r mudiad, ac i gynhal un er rhoddi prawf pa fodd y trydd allan. Ac ar ol cryn drafodaeth penderfynwyd ymddiried y gwaith o drefnu ar ei chyfer i bwyllgor gweith- iol y Cyfarfod Ysgol. Yr oedd yr ysgolion bron yn unfrydol dros adael yr Arholiad Ysgriienedig megis ag y mae ar hyn o bryd. Oherwydd byrdra yr amser oedwyd derbyn llais yr ysgolion ar gwestiwn y Gynhadledd, hyd y cyfarfod nesaf yn Rhydymeirch. Dewis- iwyd y Brawd John Richards, gydag unfrydedd i arwain gyda'r holi hanes yr Ysgolion yn y cyfarfod nesaf. Yn nghyfarfod y prydnawn, holwyd y Dosbarth canol yn y bennod 1 o Lyfr yr Actau. Holwyd Wanes yr ysgolion a'r canghenau o dan arweiniad Mr. John E. Roberts, Rhydymeirch. Pasiwyd anfon ein cofion at y brodyr yn Nghapel Curig a'r Garn- edd y rheswm dros hyn ydoedd na chawsom gwmpeini eu cynrychiolwyr er's llawer o Gyfarfodydd. Yn yr hwyr holwyd y dosbarth hynaf yn Epistol I, Pedr, ar bennod 1, holi ac ateb brwdfrydig.
Advertising
IWJALE. "W STOCK Y GRANVILLE. NWYDDAU AM LAI NA HANER EU PRlS. YCHYDIG ETC HEB Eli CURIO. Gwnewch ymdrech i alw DYDD SADWRN. 6 BARGEINION MAWR. "'f 'i W. S. WILLIAMS (LL ANRWST), LIMITED.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. Dydd Mawrth yn y Tlodty, o dan lywyddiaeth Mr. Owen Jones (Cadeirydd), ac yr oedd helyd yn bresenol E. M. Owen, Rd. Williams, Richard Roberts, D. Tegid Jones, John Roberts (Trawsfynydd), G, Parry Jones, Robert Richards, L. Foster Edwards, Owen Evans, Morgan Roberts, John Roberts (Talsarnau), J. R. Jones (Gerallt), Rt. Pugh, Mrs Lucy Casson, Capt. Morgan Jones, John Williams, E. Llewelyn, R. O. Williams, Swyddogion Elusenol, Mri William Thomas, Richard Parry, a J. B. Jones; Mr. D. J. Jones, (Meistr y Ty), Thos Roberts, (Clerc), a David Jones (Clerc cynorthwyol). ADRODDIAD Y MEISTR. Medi 24, aeth Mary C. Owen a'i dau blentyn allan i fyned i wasanaeth i Harlech. Medi 26, aeth Elizabeth Lloyd, 3 J oed, i ofal. Mr. a Mrs. Owen Roberts, Berlin House,^Peri- rhyndeudraeth, Yr oedd y Meistr yn dymuno galw sylw y Bwrdd at ymddygiad Mrs. Hughes, gwraig Thomas Hughes Crydd, Ffestiniog. Yr oedd yn hollol aflywodraethus, yr oedd yn curo hen bobl oedd yn y Ty, ac yn dianc trwy y ffenestri, ac yn ymosod ar y Swyddogion ac eraill, ac yr oedd y Meddyg yn awgrymu iddi gael ei symud i'r Gwallgofdy. Y Cadeirydd a sylwodd mai mater i'r Meddyg oedd hwn, ac os oedd ef yn gweled mai ei symud i'r Gwallgofdy oedd yn angenrheidiol, yr oedd ganddo audurdod yn ei law at hyny. ARXANOL. I n ystoa y aawy wythnos ddnveddaf talwyd y symiau canlynol :-Tremadoc, /73 9s; Ffes- tiniog, £ 107 17s 10c; Deudraeth, CO6 5s. Cyfanswm £ 247 lis 10c, ac, yf oedd eisieu £ 237 ar gyfer y ddwy wythnos nesaf. ACHOS BACHGEN AMDDIFAD, Galwodd y Swydog Elusenol sylw at achos bachgen bychan amddifad o Ffestiniog. Yr oedd ei olwg a'i glyw yn ddrwg iawn. Y Cadeirydd a ddywedoad mai gwell oedd anfon y bachgen i'r Eye & Ear Hospital, er edrych a eliid gwneyd rhywbeth dros y bychan. Ar gynygiad Mr. R. Williams, a chefnogiad Mr. G. Parry Jones, pasiwyd awgrymiad y Cadeirydd. YN DYWEYD YR "UN GAIR." Mewn achos o elusen si ddyn gwael yn Ffestiniog, yr hwn oedd yn derbyn cynorthwy dywedwyd ei fod wedi cael J2 o drysorfa y gwaith, ac yr oedd Mr. D. Tegid Jones yn cynyg iddo fyw ar y £2 ar hyn o bryd. Mr. Richard Will:ams a ddywedodd fod yr achos yn un difrifol. Yr oedd y dyn yn wael ac yr oedd yn cynyg ei adael at ddoethineb y Swyddog. Y Cadeirydd a ddywedodd nad oedd neb yn si gefnogi, felly yr oedd cynygiad Mr. Tegid Jones yn cario. Mr. Richard Williams, Arhoswch funud, Jr. Cadeirydd, yr wyf yn hawlio cael gwran- awiad ar adeg fel hyn. Y mae yma ddau Varcheidwaid o'r Blaenau heblaw y fi, ac y lae un o honynt,yn gwybod vr hanes ac yn jywedyd yr un gair. Y Cadeirydd, Mater iddynt hwy yw hyny. Pasiwyd i beidio rhoddi cynorthwy. GOFYN AM Y DODREFN. I if oeaa nen wraig oeaa yn derbyn cynorth- vy 0 Traw?.vnydd wedi marw, ac yr oedd Rd. vans wedi gofalu am ei chladdu, ac yr oedd n gofyn am y dodrefn. Mr. D. Tegid Jones: Yr oedd wedi bod yn iarad gyda gwaig gyfrifol yn y lie, ac yr oedd r hen wraig wedi dweyd wrth hono cyn marw jd Richard Evans wedi addaw ei chladdu yn larchus, ac nid oedd yn credu fod Richard Dvans yn myned i wneyd peth fel hyn heb ,ael ei dalu, ac yr oedd yn cynyg nad oedd i ael y dodrefn os nad elai yn gyfrifol am holl idyledicn yr hen wraig. Pasiwyd i'r Clerc wneyd ymholiad i'r achos yn penderfynu dim. CYDYMDEIMLAD. Mr. Richard Roberts a gynygiodd, a chefn- odd Mr. E. M. Owen, bleidlais o gydym- mlad a Mr. William Williams, Caegwyn 'res, yn ngwyneb ei afiechyd peryglus, a .ganodd y Cadeirydd lawenydd y Bwrdd h ddeall ei fod yn gwella wedi bod o dan thred Iaw-feddygol. ACHOS WILLIAM ROBERTS. r eda William Roberts (William Wialen 1 Vv ya gwneyd cais am gynorthwyoherwydd leifOd yn wael, Yr oedd y Bwrdd yn teimlo mai gwell oedd iddo ddod i'r Ty, a phasiwyd hyny. I ACHOS THOMAS CARROL. I JVirs. Casson a alwodd sylw at achos y bach- gen ieuainc uchod, yr hwn oedd wedi rhoddi poen mawr i'r Gwarcheidwaid o dro i dro. Yr oedd yn credu mai mantais i'r bachgen fyddai iddo gael ei anfon i'r Clio rhag blaen. Gadawyd ar y Clerc i wneyd ymholiad ynglyn a'r telerau am ei gadw yno, gan yr ystyrid hwn fel achos ar ei ben ei hun. I YSTORM AM DDIM. Dywedodd Mr. E. Llewelyn nad oedd wedi cael ei hysbysu am y dyddiad yr oeddynt yn arolygu rhestr y tlodion fel pwyllgorau yn y gwahanol ranau o'r Undeb, a gofynodd beth oedd y rheswn dros hyny. Dywedodd Mr. Morgan Robets ei fod yn- ta$hefyd heb gael ei hysbysu. Dywedodd Mr. D. Jones (y Clerc Cynorth- wyol) ei fod wedi ysgrifenu Post Card i bob dtelod o'r Bwrdd, ac ei fod wedi eu rhoddi i'r bachgen i fyned a hwy i'r Llythyrdy, ac y mae yn debyg mai oddiyno (y Swyddog) i'r Llythyr- dy yr oedd y Post Cards wedi myned ar goll. Y Cadeirydd (yn chwareus) Welwch chwi, y mae Mr. Morgan Roberts, heb gael ei hys- bysu, ac ni fydd ef bron byth yma. Mr. Morgan Roberts (yn gynhyrfus), a ddy- wedodd ei fod yn sarhad i glywed hynyna o'r Gadair, ac yr oedd am i'r Cadeirydd ei dynu yn ol. Yr oedd yn cael gormod o awdurdod yn y Gadair i wneyd fel yr oedd yn dewis. Yr wyf yn gofyn i chwi ei dynu yn ol yn awr. Y Cadeirydd Nid oes genyf ddim i'w dynu yn ol. Dywedais na fyddech bron byth yma, ac yr wyf yn dal at hyny eto. Efallai y buas- ech chwi yn hoffi bod yn Gadeirydd Mr. Mor- gan Roberts ? Mr. M. Roberts (yn gynhyrfus iawn): Beth bynag am fy ngallu i fod yn Gadeirydd, fe fuaswn yn decach o lawer na chwi. Yr ydych fel teyrn yma, ac yn sarhau pawb, ac yr wyf yn disgwyl y gwnaiff y Gohebwyr sylw o honoch. Y Cadeirydd (gan agor llyfr y Cofnodion) Yn hytrach na thynu fy ngeiriau yn ol, fe ddarllenaf i chwi grynhodeb o'r nifer o weith- iau y buoch yn bresenol. Yr ydych wedi bod yn bresenol 23 o weithiau mewn tair blynedd, ac y mae hyny yn ddigon o eglurhad ar bron byth. I CAIS TEILWNG. Gwnaeth gwraig weddw o Blaenau Ffestin- iog gais am elusen. Dywedai y Swyddog fod y wraig hon wedi gwneyd ei goreu i beidio gofyn am gynorthwy, ond yr oedd ei hamgylch- iadau yn awr yn bur gyfyng. Mr. E. M. Owen a gynygiodd roddi 5/- yr wythnos iddi. Yr oedds hon wedi gweithio yn galed iawn, ac wedi bod mewn amgylchiadau cysurus, ond yn awr wedi myned yn dlawd. Hysbysodd y Swyddog ei bod yn cael 1/6 yr wythnos am waith oedd yn ei wneyd. Y Cadeirydd a ddywedodd fod yn rhaid gwneyd yn deg a hi fel pob un arall, a phas- iwyd rnoddi 3/6 yr wythnos iddi.
-'-,,-.FFESTINIOG.--.....I
FFESTINIOG. PRIODAS FFASIWNOL.—Hydref 3, yn Nhapel Seisnig y Wesleyaid, Caergybi, unwyd mewn glan briodas" Mr. P. L. Jones, mab ieuengaf Mr. Peter Luke Jones, Victoria Hotel, Llanbedr a'r Abbey A-ims, Ffestiniog, a Miss Lizzie Roberts, merch hynaf Mr. John Rob- erts, The Pines, Caergybi (Henadur Sirol a chyn-Gadeirydd y Cyngor Dinesig). Gwein- yddwyd gan y Parch. J. Knight Calvert, yn ngwydd torf fawr o ewyllyswyr da. Gwasan- aethwyd fel Morwyn gan Miss Maggie Roberts (chwaer y briodas-ferch), a chan Mr. Williams, Mona House, Criccieth, fel Gwas. Rhoddwyd Miss Roberts ymaith gan ei hewythr, Mr. Robert Roberts, Newry Street, Prif Beirianydd yr "Hibernia." Dangoswyd arwyddion o lawenydd ac ewyllys da gan yr holl dref, ac yr oedd yr anrhegion yn Iluosog a gwerthfawr. DAMWAIM.—Drwg iawn genym dros ein cyfaill Mr. Lewis Lewis, Belle Vue, iddo cyf- arfod a damwain dost i'w law boreu Sadwrn diweddafwrth ddilyn ei alwedigaeth yn Chwarel Maenofferen. Disgwylia y Meddyg Dr. G. J. Roberts y gall ei feddyginiaethu heb dori ei fawd ymaith.. MEDDYG NEWYDD.—Sibrydir fod Mr. Hugh Hughes mab Mrs Hughes, Melborne House, bachgen wedi ei fagu yn yr ardal, yn dod yma i gynorthwyo Dr. Roberts. Bydd hyn yn gaffaeliad mawr i'r ardal a'r cylch sydd o dan eu gofal, gan ei fod yn lied wasgarog. Y LLYFRGELL.—Llawen genym weled nifer mor dda o fechgyn ieuangc yn dechren myn- ychu ein Darllenfa. Gwnewch yn fawr o'ch manteision, y mae ynddi ddigon o Amrywiaeth ar eich cyfer ac fe rydd y Llyfrgellydd, Mr. Pierce Jones, pob cyfarwyddiadau i chwi, YR YSGOL Nos.Mae yfi anliawdd gwybod a fwriedir cynal un yma, yn sicr mae digon o'i hangen ond cael awydd yn ein pobl ieuangc i ymuno ydyw'r gamp. Buasai yn fantais ang- hyffredin i lawer o honom yn hytrach na gwag rodianau a sefyllian ar hyd yr heolydd a'r nosweithiau gwlyb ac oer ygauaf yma. Y GWEINIDOG NEWYDD.—Bu y Parch J. E. Hughes, B.A,, B.D., yn pregethu yn Engedi ei Eglwys erbyn hyn, y Sabboth diweddaf. Dysgwyliwn lawer oddiwrtlSo. CYNGHOR YR EGLWYSI RHYDDION.— Deallwn eu bod wedi trefnu rhifres o gyfarfod- ydd ar gyfer yr wythnos nesaf eto. Y maent yn ymddangos yn lied fyw y dyddiau hyn, ac ymdrechu darparu ar gyfer pob dosbarth: y Plant sydd i gael eu hanerch Nos Fawrth. Cyfeillach Undebol nos Fercher; pryd yr anerchir gan weinidogion y lie. Nos Wener o dan nawdd y Cymru Sobr y bydd un o Wein- idogion y Bedyddwyr yn traddodi anerchiad Dirwestol a disgwylir y ceir wythnos hynod o dda. ^AA^AAVvWv^^AA^A^AVvvvvw
I RHOS A'R CYLCH. I
I RHOS A'R CYLCH. CYFARFOD DIOLCHGARWCH.-Nos Lun di weddaf cynhaliwyd Cyfarfod Diolchgarwch am y Cynhauaf yn nghapel yr Annibynwyr Seis- nig yn Johnstown. Gwasanaethwyd gan y Parch J. T. Miles,"M.A., Wrexham. Yr oedd yr adeilad wedi ei addurno a phob math o flodau a ffrwythau. GWLEDD YSGOL SUL.-Dydd Llun, Hyd- ref 8, cynhaliwyd gwledd yn nghapel Taber- nacl, Pontfadoc, daeth tyrfa o blant a phobl yn nghyd i gyfranogi o'r danteithion. Yn yr hwyr traddodwyd pregeth diolchgarwch am y cyn- hauaf gan Mr W. S. Jones, Ponciau. DIGONEDD o DDWFR.—Yn ein llith ddi- weddaf yr oeddym yn cwyno oherwydd prinder dwfr. Mae'n dda genym allu dweyd erbyn hyn fod Arglwydd Dduw Rhagluniaeth wedi gofalu am ddigonedd o hono. Cawsom gawod- ydd trymion o wlaw bob dydd yr wythnos ddi- weddaf, ac nid ydym yn cofio rhai cyffelyb er's llawer blwyddyn, ac erbyn hyn mae y gweith- feydd i gyd yn eu Hawn hwyl. DAMWEINIAU.-Dydd Sadwrn diweddaf, Hydref 5ed, tra yr oedd dyn ieuanc o'r enw Chas. Mathews, 20 oed, wrth ei orchwyl yn ceisio cael clai, yn Pwll Clai, Delph, cyfar- fyddodd a damwain. Dywedir fod carreg fawr wedi disgyn arno nes ei wasgu i farwol- aeth. Dangosir cydymdeimlad mawr a'r teulu profedigaethus.—Hefyd, yn ngwaith Bricks Hafod, yr un dydd, cyfarfyddodd dyn ieuanc, Harry Lloyd (21), Rhiwabon, a damwain. Tra yn dilyn ei alwedigaeth wrth y Peiriant, yn gwneyd tiles, daeth y Peiriant i lawr ar ei law, a'r canlyniad ydoedd iddo gael tori dau o'i fysedd i ffwrdd. Cludwyd ef i Ysbytty Rhiw- abon lie y mae o dan ofal Dr. Lawton Rob- erts. DARLITHIAU .-Nos Fercher diweddaf yn Bethlehem (A.) Rhos, traddodwyd darlithiau ar "China," gan y Parch Hopkin Rees, a Mada- gascar," gan y Parch Mr Green. Amcan y rhai hyn yn fwyaf neillduol y tro hwn ydoedd, galw sylw y bobl arddanghosfa genhadol sydd i'w chynal yn mis Rhagfyr yn Ngwrecsam, i'r dyben o enyn mwy o gydymdeimlad at ein cen hadwyr, Llywyddwyd gan y Parch. R. Ro- berts. DARLITH-Nos Iau diweddaf yn nghapel Salem (B.) Penycae, traddodwyd darlith ar Lysieuaeth," gan Proff. W. Hopkins Jones, Bangor. Yr oedd yn ddarlith ddyddorol ac addysgiadol iawn, a dyna oedd ymgom y dyn- ion ieuanc wrth ddod allan, ydoedd eu bod am astudio llysieuaeth o ddifrif. MARWOLAETHAU.—Dydd Sul diweddaf gyda gofid y cofnodwn farwolaeth Mrs M. Edwards, Baptist Street. Gadawa briod serchog a merch anwyl saith oed i alaru ar ei hol. Claddwyd hi dydd Mercher diweddaf, gwasanaethwyd yn yr angladd8gan Parchn E. Isfryn Williams, ac R. Roberts.—Hefyd yr un dydd bu farw Mr. Thos Hopwood (Habwt) 21 oed, Chapel Street Dyn ieuaingc serchog a charedig ydoedd, ac er ei fod yn amddifad, dyna ydoedd ei brofiad ei fod wedi adnabod Tad yr Amddifad. Cladd- wyd ef ddydd Mawrth, daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, gwasanaethwyd gan y Parch Charles Jones (W.) GWLEDD.-Cytarfyddodd gw,r ieuanc M. C., Groes i gyfranogi o'r wledd pdarparwyd ar eu cyfer gan Mr. a Mrs R. P. Jones, amcan y cyfarfyddiad ydoedd cael trefnu cyfarfodydd diwylliadol, yn ystodd y gauaf. CYFFROAD MAWR.—Nos Fawrth diweddaf, canfyddwyd geneth ieuanc 15 oed, o'r enw S. Lloyd, yn Bank Street, wedi cwympo i'r Ilawr fel marw, ond wedi dod i dy yn ymyl, canfydd- wyd fod bywyd ynddi, a thrwy gymorth Dr. Jones llwyddwyd i'w chael gartref. Parha i wella'n raddol dan law Dr. Jones. DARLITH.-Nos Fercher yn Nghapel Salem Bedyddwyr, Penycae, traddodwyd darlith ar hanes India, gan Miss Jones, y Genhades. Yr oedd y Cor Plant wedi eu gwisgo yn null yr Indiaid, yn canu ac adrodd amryw o'r darnau. Treuliwyd awr a haner ddyddorol iawn yn hanes y wlad. CROESAWIAD, Nos Fercher diweddaf, gwnd gorymdaith fawreddog (torch-light) yn Cefn i groesawu ein Haelod Seneddol newydd, Mr. E. G. Hemmerde. Daeth yma rai mil- oedd ynghyd, a phob un o honynt yn edrych gydag ysbryd brwdfrydig, yn edmygu ein haelod, ac yn barod i'w gynorthwyo i ymladd dros iawnderau Cymru. Wedi yr orymdaith aed i ysgol y Bwrdd lIe y rhoddodd Mr. a Mrs. Hemmerde anerchiad gampus i'r gynulleidfa enfawr. Llywyddwyd gan y Cynghorydd Christmas Jones. Nos Wener diweddaf yn Ysgoldy Bethlehem (A.)' Rhos cynhaliwyd cyfarfod diwylliadol cyntaf y tymor. Aed trwy y rhaglen ganlynol, Unawdau gan Mri W.M. Edwards, A. E. Jones, J. B. Obrey, (Berdoneg) Misses A. Rogers, Hilda Davies. Llywydd ydoedd v Parch R. Roberts. CYMANFA GOFFAWDWRIAETHOL. Nos Wener diweddaf yn Salem Penycae, cynhaliwyd Pwyllgor, i drefnu ar gyfer Cymanfa Undebol, er coffawdwriaeth am y diweddar gerddor galluog Eleazer- Roberts, Lerpwl. dyrchafwr Cerddoriaeth Cymru.
BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. A glywsoch chwi fod Haner Pwn o'r Blawd Goreu i'w gael am 13s, a 10 pwys am Is. yn Shop J. T. OWEN, REGENT Housft. Hefyd rhoddir gwerth 6c. o Nwyddau gyda phob Pwys o De 2s. GOBEITHLU SEION.—Nos Wenercynhaliwyd cyfarfod Agoriadol y Gobeithlu uchod. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Richard Williams, Bowydd Road Yna awd trwy y rhaglen ganlynol Anerchiad gan y Llywydd John Trefor Lewis. Adroddiadau gan Mary Jones, Lizzie Lewis. Catherine M. Owen, Deborah Lewis, Gracy Evans, Kate Pierce, Grace E, Roberts. Hefyd canwyd yn ystod y cyfarfod gan Humphrey Williams, Henry Thomas, May Pierce, John Pierce, Miriam Jones, Jennie Davies, ac R. Pierce, yn ystod y cyfarfod cafwyd hefyd ddwy gystadleuaeth: dyddorol iawn;oedd cystadleuaeth y canu, a rhanwyd y wobr cydrhwng Miriam Jones a Dilys Arthur. Cafwyd anerchiadau pwrpasol gan y Parch Moses Roberts a Mr. John Hughes. Mae rhagolygon am gyfarfodydd da yn ystod y tymhor.-YSG. CAPEL GWYLFA.—Yn ngwyneb cynydd y boblogaeth yn ardal Conglywal, fe deimlodd y cyfeillion Methodistaidd fod angen am gael adeilad eangach nag oedd ganddynt yn y He at gynal eu Hysgol Sul yno. Wedi ystyriaeth ddwys, a gosod y mater o flaen y Cyfarfod Misol, daethpwyd i'r penderfyniad mai codi Capel teilwng yn y lie a fyddai ddoethaf, Tynwyd cynllun allan gan Mr. Rowland Lloyd Jones, Caernarfon, a gosodwyd y gwaith adeiladu i Mr. Evan Jones, Groeslon. Edrych- ai yn Adeilad hardd, ond hynod o gostus i ateb i'w faint gan fod ynddo gynifer o gonglau &c., nad ydynt yn ychwanegu dim at ei hardd- wch na'i ddefnyddioldeb. Fodd bynag, cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan y rhai ydynt yn barod i ddwyn rhan o'r baich, fel nad oes achos i neb arall anfoddloni dim ar ffurf yr adeilad. Bydd yr holl draul gydag ef yn rhedeg yn agos i bum' mil o bunau. Nos Iau, bu Cenadon drOs y Cyfarfod Misol ynddo yn "sefydlu eglwys" yn ffurfiol, Y Cenhadon oeddynt, y Parch. R. R. Morris a Mr. William Evans, Maenofferen. Daeth tua chant i ymrestru fel aelodau, ac y mae pob sail i gredu yr ychwanegir at y nifer yn ystod yr wythnos hon a'r nesaf. Mae yr Hybarch Robert Jones, Caedu wedi uno a'r Eglwys hon. Yr wythnos hon pregethir bob nos, pryd y gwasanaethir gan y Parchn. D. Hoskins, M.A. Francis Jones, Abergele: T. J. Wheldon, B.A., Bangor; ac R. R. Morris. Bydd cwmwl l gogoniant ac amddiffyn yr Arghvydd ar yr achos yn y lie i fod yn fendith i'r rhan hon o'r ardal.