Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG. I Dydd Iau (heddyw) o flaen Dr. R. Roberts, Robert Roberts, W. Owen, J. Lloyd Jones, E. M. Owen, D. Tegid Jones, J. Vaughan Williams, W. P. Evans. CYNAL EI RIENI.-Mr. William Thomas, Swyddog Elusenol Dosbarth Ffestiniog, a ofynodd am ddedfryd yn achos Hugh Evans, 43, Wood Street, Cilfynydd, yr hwn oedd yn gwrthod talu yr acheb a wnaeth y Llys yn ei erbyn i gynal ei rieni,—Yr oedd 33/- yn ddyledus arno. MEDDW AC AFREOLUS.—Yr Heddgeidwad J. Morris Jones a gyhuddodd John Morgan Roberts, Haulfryn Terrace, Tanygrisiau, o fod yn feddw ac afreolus ar y brif-ffordd Medi 22. -Ni ymddangosodd. Rhoddwyd gwarant i'w ddal. GWRTHOD MYNED ALLAN.—Yr Heddgeid- wad Owen Jones a gyhuddodd Richard Lloyd, Brynbowydd Terrace, o wrthod myned allan o'r Queen's Hotel pan geisiwyd ganddo, Medi 22.-Dirwy o swllt ac 8/6 o gostau. MEDDW MEWN TY TRWYDDEDIG.—Yr Arolygydd Roberts a gyhuddodd Hugh Morris Hughes, 28, Back Park Square, o fod yn feddw yn y Railway Inn, Medi 29.-Dirwy o 10s. a'r COstau. ACHOS Y RAILWAY INN. I CYHUDDO GWESTWR.—Yr Arolygydd Rob- erts a gyhuddodd George Penny, Railway Inn, o ddau drosedd o dan y Deddfau Trwyddedol. (1) Gwerthu diod i berson meddw; (2) Goddef meddwdod yn ei Dy Trwyddedig.-Erlynid ar ran yr Heddlu gan Mr. Guthrie Jones, ac amddiffynid gan Mr R. O. Davies. Wrth agor yr achos dadleuai Mr. Guthrie Jones fod Hugh Morris Hughes yn yfed yn y Railway Inn yn y prydnawn, ond gwrthwynebodd Mr. Davies i hyny gael ei ddwyn i'r achos gan fodycyhudd- iad yn nodi amser penodol ar y dydd, sef rhwngc saith ac wyth o'r gloch. Rheolodd y Faingc yn ffafr y gwrthwynebiad. Yr Arolygydd Roberts a ddywedodd iddo ef a'r Heddgeidwad Owen Jones fyned i'r Rail- way Inn hanner awr wedi saith. Yr oedd yn feddw, a chyhuddodd ef, a dywedodd H. Morris Hugher y fi yn feddw, mi af at Dr. Carey Evans i wybod." Galwodd sylw Mrs. Penny at fod y dyn yn feddw a chwrw ganddo. Dywedodd Mrs Penny nad oedd wedi cael dim ganddi hi, a bod yr eneth (y Barmaid) wedi cael gorchymyn i beidio gwerthu dim iddo. Yr oedd amryw yn y Bar ar y pryd. Mewn attebiad i Mr. R. O. Davies, dywedodd fod y Barmaid a Lemuel Jones yno hefyd yn lie wis ei grys yr oedd Jones yn gweithio yno ar y dydd.—Pwyswyd ar yr Arolygydd a oedd yn gwybod fod nifer o ddynion allan o waith ac yn myned i dai, ac yn cael diod. Yr oedd yn methu deall sut yr oeddynt yn cael diod, ond yr oeddynt yn cael peth. Yr Heddgeidwad Owen Jones a ddywedodd ei fod gyda'r Arolygydd Roberts yn Bar y Railway Inn a gwelodd Hugh Morris Hughes yn yfed diod o'r glass oedd o'i flaen. Dywed- odd Mrs. Penny na ehafodd ei serfio yno, ac yr oedd y Barmaid wedi ei gwahardd i'w serfio. Yr oedd nifer yn y Bar ar y pryd. Gan Mr. Davies, y glass a, gymerodd Hugh Morris Hughes oedd yr unig un oedd yn y xhan hono o'r Bar. Hugh Edwin Roberts, Fron Views Tua haner awr wedi saith aeth i'r Railway Inn, ac archodd lasiaid o gwrw. Aeth allan cyn yfed y cwrw, a phan ddaeth yn ei ol yr oedd ei lasiaid yno. Yr oedd Hugh M. Hughes yno mewn diod. Clywodd :Hughes yn gofyn am lasiad o gwrw ac yr elai adref ar ol hyny. Nid oedd yn foddlon i'w roddi, ond o'r diwedd fe roddodd un iddo, a thalodd yntau ddwygeiniog am dano. Ni welodd John Owen Jones yn y Bar. Cadeirydd. Beth ddaeth o'r ddwy geiniog ? "Glasiad o gwrw." "Lle'r aeth y pres ? Cymeiodd Mrs Penny hwynt. Gan Mr. Davies, Yr oedd yn sicr fod rhai eraill yno heblaw Die Morris pan gafodd Hugh Morris Hughes y cwrw. Yr oedd ef i mewn pan ddaeth Hughesi mewn yno. Nijchlywodd y Barmaid yn dywedyd na chaffai Hughes ddiod yno. Clywodd Mrs Penny yn ei wrthod. Ni fu ef i mewn ond rhyw ddau funud rhwng y cwbl, Aeth i'r cefn, ac yr oedd yr Arolygydd yno pan ddaeth i:mewn yn ol. Ni fu Hughes nag ef yno ond am ryw ddau funud trwy'r cwbl. Corporal Henry Robert Vagg, a ddywedodd iddo fyned i'r Railway Inn y noson dan sylw. Aeth i'r Bar am lasiad. Gwelodd H. Morris Hughes yno yn feddw. Gwelodd Hughes yn yfed diod oedd o'i flaen. Dywedodd Mrs. Penny fod Hughes yn wastad mewn helynt. Yr oedd yr Heddgeidwaid wedi bod yno ar y pryd.. Gan Mr. R. O. Davies. Yr oedd IHughes yho o'i flaen. Tua pum' munyd y bu ef i mewn. Gallasai fod rhywun wedi galw am lasiad heb iddo ef weled hyny. Hugh Morris Hughes a dystiodd ei fod yn cofio bod yn feddw, ac yn Bar y Railway lun. Mrs. Penny roddodd y glasiad iddo ar ol iddo grefu am dano ac addaw myned adref ar ol ei gael. Yr oedd wedi ei wrthod cynt. Gan Mr. Davies. Yr oedd yn cofio bod yn feddw. Yr oedd yn sicr nad oedd Miss Tyler wedi ei wrthod. Yr oedd wedi cael ei wrthod lawer gwaith yn y Railway Inn. Talodd Thomas Ellis Hughes am ddau beint iddo yn y prydnawn, ac ni ddywedodd Miss Tyler air yn erbyn ei roddi iddo. Cafodd beint hefyd gan Hugh Edwin Roberts yn y prydnawn, a chaf- odd lasiad o gwrw gan ddyn o Penmachno. Miss Tyler oedd yn serno ar hyd y prydnawn. Aeth ef ei hun at yr Arolygydd i siarad ar y peth ar ol clywed y siarad am dano. Mewn amddiffyniad tystiodd Mrs. Penny. iddi weled Hugh Morris Hughes i mewn yn y Bar, a dywedodd wrtho na chaffai ddim diod yno. Yr oedd yn hollol sicr na chafodd Hugh Morris Hughes ddiod ganddi. Dywedodd hi wrth yr Arolygydd nad oedd wedi serfio Hughes o gwbl. Gan Mr. Guthrie Jones. Nid oedd ganddo gof o gwbl i Hughes fod i mewn yn y pryd- nawn. Yr oedd yn gweled fod Hughes wedi cael digon o ddiod fel nad oedd am ei serfio. Ni bu iddi alw y Swyddog i droi Hughes allan. Dywedodd wrtho am fyned allan a chyn iddi gael amser i alw y Swydd- og, daeth y Swyddog i mewn. Yr oedd yr hyn ddywedwyd am serfio Hughes yn anwiredd hollol. Ni chafodd ddim ganddi hi, Gwelodd Hughes yn yfed y glasiad pan ddaeth yr Heddgeidwaid i mewn, ond nid ei ddiod oedd yr hwn a yfodd. John O. Jones, Fairview, a dystiolaethodd ei fod yn y Bar cyn i Hugh Morris Hughes ddod i mewn. Dywedodd Mrs Penny am i Hughes fyned allan. Gyda i Hughes ddod i mewn aeth ei dad i un o'rystafelloedd eraill, ac aeth yntau arei ol i edrych lie yr oedd wedi myned, a gadawodd ei lasiad yn y bar, ac ar ol iddo ddod yn ol yr oedd ei lasiad wedi cael ei yfed gan rywun. Ni chawsant lasiad arall yn y gegin fel yr oedd yn cael ei awgrymu. Owen Jones, 43 Manod Road a gofiai fod yn y Railway Inn gyda'i fab i'r Bar. Wedi galw am ddau lasiad o gwrw, un bob un. Daeth Hugh Morris Hughes, a dywedodd Miss Tyler wrtho na chaffai ddim diod. Ar hyny daeth Mrs Penny i mewn, ac aeth yntau gyda'i lasiad i'r gegin. Rhyw funud neu ddau <y bu yn y Bar, Mr. R. O. Davies mewn amddiffyniad a aeth dros y tystiolaethau, a galwodd sylw at bwys- igrwydd yr achos, ac nad oedd y tystiolaethau yn cyfiawnhau y Faingc i ddirwyc. Nid oedd pwys o gwbl i'w r6ddi ar dystiolaeth Hugh Morris Hughes, yr hwn oedd yn addef ei fod yn feddw ar y pryd. Ymneillduodd y Faingc a thaflwyd yr achos allan. [Gorfu i ni dalfyru ha,nes y Llys oherwydd diffyg Ile.-GOL.)

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.…