Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

-NODIADAU WYTHNOSOL.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL. I Agoriad y Senedd. Adgyferfydd y Senedd ddydd Mercher, nesaf, a mawr y dyfalu sydd yn nghylch yr hyn a wna Ty'r Arglwyddi i Fesur Addysg. Mae'n hysbys erbyn hyn fod y Llywodraeth wedi penderfynu apelio at (yr adran gyfreith- iol 0) Dy'r Arglwyddi yn erbyn dedfryd LIys Apel yn achos Pwyllgor Addysg Gorllewin Caerefrog, a thybia rhai y bydd i'r Arglwyddi wneyd esgus o hyny dros oedi myn'd yn mlaen gyda Mesur Addysg hyd oni bydd dyfarniad y Llys Uchaf wedi ei roddi yn yr achos hwnw. Gallant wneyd I esgus õ hyny ond nid yw yn rheswm o gwbl dros iddynt wneyd y fath beth. Mae ded- fryd LIys Apel wrth fodd y Llywodraeth ac wrth fodd Anghydffurfwyr cyn belled, ag y mae yn myn'd, ond ymddeng-' ys i ni fod llawer yn tybio ei bod gryn lawer yn amgenach nag ydyw yn cyrhaedd yn mhellach nag y gwna. Yr hyn a ddywedodd Llys Apel ydyw na raid i un- rhyw Bwyllgor Addysg dalu Cyflog i athraw- on Ysgolion Eglwysig am yr amser a dreul- iant i gyfranu addysg grefyddol enwadol i'r dan eu gofal. Dyna'r cwbl ac nid yw yn llawer. Ni ddywedodd ei fod yn anghyf- reithlon iddynt dalu am wneyd y gwaith hwnw. 0 ran dim sydd yn nyfarniad Llys Apel gall y Pwyllgorau Addysg dalu neu beidio fel y mynont. Gallwn yn gyfreithlon wneyd llawer o bethau nad yw y gyfraith wladol yn ein gorfodi i'w gwneyd. Felly-nid ydym yn gweled fod gan achos Pwyllgor Addysg Gorllewin Caerefrog ddim i'w wneyd a phenderfynu'r cwestiwn a ddylid myn'd ymlaen heb oedi dim gyda'r mesur sydd wedi ei gymeradwyo gan Dy'r Cyffredin ac wedi ei anfon ganddo i Dy'r Arglwyddi. Os oes, yna y mae yn galw arnynt i symud ymlaen yn ddiatreg er mwyn cael sicrwydd hollol ynghylch yr hyn a ddylent ei wneyd. Mae'n ddiameu genym fod y Prifweinidog yn gwybod pa fwriad sydd gan Arglwydd Lansdowne a'i gyfeillion. Rhaid cofio fod trafodaeth yn cymeryd lie mewn amgylchiad- au fel hyn rhwng y Llywodraeth ac arwein- wyr yr Wrthblaid nas gwyry cyhoedd ddim am dani. Gwneir hyn yn amlwg iawn yn mywyd Gladstone gan Mr. John Morley. Byddwn oil yn gwybod erbyn diwedd yr wythnos nesaf faint o ddrwg a feiddia'r ¡ Arglwyddi ei wneyd ynglyn a'r mesur hwn.

"44 mlwydd oed." I

Edliw a danod.

Y gair diweddaf am Mr.I Chamberlain.-,-

Llys Methdaliadol Blaenau!…

I GELLILYDAN. ^

Iø. w itfed

[No title]

Advertising

Mr. Asquith a phleidlais i…

Mr. D. Lloyd-George a'i gyhuddwyr.

[Tua Rhufain. I.[

Teymged o barch i'r Duma.…