Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

I Cynghor Dinesig Ffestiniog…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Cynghor Dinesig Ffestiniog I Cynhaliwyd yr uchod nos Wener diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. E. M. Owen, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri. David Williams, J. Lloyd Jones, Owen Jones, W. Owen, Cadwaladr Roberts, J. Lloyd Jones (ien.). E. Lloyd Powell, Lewis Richards, W. J. Row- lands, W. Jones, W. D. Jones, Hngh Jones, J. Cadwaladr, W. Evans, Rich- ard 8 Roberts, John Hughes, Dr. R. Jones (Swyddog Meddygol), W. E. A. Williams (Peirianydd), George Davies (Arol- ygydd Iechydol), R. O. Davies (Clerc), ac E. Roberts (Clerc Cynorthwyol). CYDYMDEIMLAD.—Ar gynygiad Mr. Wm. Jones a chefnogiad Mr. C. Roberts pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr. Hugh Lloyd yn ei waeledd, ac yn dymuno iddo adferiad buan. ADDYSG.—Dewiswyd y Cadeirydd, yr Is- gadeirydd a Mr. J. Lloyd Jones i gynrycbioli y Cynghor ynglyn a'r cyfarfodydd gynhelir o berthynas i Goleg Bangor yma Hydref 23, ac eu bod i roddi croesaw y dref iddynt. Yr oedd y Mri. Owen Jones, W. Owen, a'r Clerc yn cynrychioli Byrddau eraill yno.—Mr. Owen Jones a bwysai ar i holl aelodau y Cynghor wneyd pob ymgais i fod yn bresenol yn y cyfarfod, y byddai yn un o'r cyfarfodydd goreu a gynhaliwyd yn Ffestiniog erioed. PWYLLGOR GWAITH.—Cyfarfu y Pwyllgor Medi 14, a phasiwyd i gael rhestr o'r holl weithwyr oeddynt yn ngwasanaeth y Cyngor, a swm eu cyflog dyddiol er mwyn eu hystyried mewn cyfarfod dilynol.—Fod y pwyllgor i ail gyfarfod ar Medi 20, ar safle y Gwelyau Bac- teraidd am bedwar o'r gloch, ac yna yn Swyddfa y Cyngor i ystyried y mater uchod.— Cymeradwywyd yr adroddiad. Cyfarfu y pwyllgor drachefn Medi 20, a phasiwyd i godi cyflogau chwech o'r dynion, fod cyflog W. Powell i fod yn 4s 6c y dydd, a bod gwasanaeth Morris Jones yn darfod wedi iddo dori y cerig oedd ganddo yn bresenol.— Pasiwyd yr Adroddiad. Cyfarfu y Pwyllgor drachefn Medi 27, a dywedodd y Peirianydd ei fod yn barnu y gellid gwneyd i ffwrdd a deg o'r dynion weith- ient o dan y Cyngor.—Wedi hyny pasiwyd i'r Peirianydd gymeryd y Rhestr o'r hollol weith- wyr yn ol, a nodi a pha nifer yn llai y gellid cario yn mlaen gydag Adran 3, y Gwaith Dwfr, a'r Ffyrdd. Cyfarfu y Pwyllgor drachefn Hydref 1.— Dywedodd y Peirianydd, wedi myned trwy y Rhestr, y gellid gwneyd ar llai o bym- theg o ddynion ar y Gwelyau Bacteraidd o'r Adran 3.-Pasiwyd i wneyd i ffwrdd a 15 yn ol yr hyn ddywedai y Peirianydd.— Pasiwyd yn mhellach mai wrth benderfynu pwy oedd i fyned o wasanaeth y Cyngor nad oedd dim ond medrusrwydd i'w gymeryd i ys- tyriaeth ar wahan i bob cwestiwn o angen y dynion, eu teuluoedd a'u hamgylchiadau per- sonol. Yna nodwyd' y 15 oeddynt i fyned ymaith.—Nododd y Peirianydd y gellid gorph- en gyda gwasanaeth 10 oeddynt wedi eu cymeryd i mewn yn ychwanegol at dori cerrig. -Pasiwyd i wneyd i ffwrdd a deg yr ystyriodd y Pwyllgor eu hachos.-Ar gynygiad Mr. C. Roberts a chefnogiad Mr. William Owen ar- gymellwyd i'r Cyngor roddi i'r Pwyllgor i ystyried cyflogiad staff cyson y gweithwyr gyda gallu i wneyd i ffwrdd a rhai o honynt os bernid yn briodol.—E. Lloyd Powell a ofynodd beth oedd y rheswm fod y Pwyllgor yn gofyn am fwy o hawl gyda'r gweithwyr?—Mr. W. Owen.-Yr oedd teimlad nad oedd y gweithwyr yn cael ymddwyn yn deg tuag atynt ar hyn o bryd.—Mr. E. Lloyd Powell a ystyriai felly fod y pwyllgor hwn eisiau cael yr holl hawl i'w law yn lie ei adael yn llaw y Swyddogion a'r Cyngor.—Mr. Wil- liam Owen a ddywedodd i dri neu bedwar o bwyllgorau gael eu cynal ar bwngc y gweithwyr, ac fe orfu i Owen Owens siarad yn blaen ond yr oedd yn ddrwg ganddo nad oedd rhai o'r swyddogion wedi bod felly. Yr oedd y pwyllgor wedi atal y dynion salaf, yn ol eu barn hwy. Fe fu i rywun ddywedyd wrth y bobl yma fod Owen Owens wedi siarad yn anffafriol am rai o honynt, ac yr oedd gwneyd hyny yn beth gwael iawn, pwy bynag a wnaeth, a gallai droi yn anffafriol i Owens at wneyd ei ddyledswydd yn y dyfodol. Gwrthdystiai yn bendant yn erbyn pwy bynag a fu yn euog o ddywedyd hyny am Owens.—Mr. Lewis Richards a ddywedodd nad oedd yn hoffi y geiriau ddefnyddiodd Mr. William Owen am y dynion ataliwyd, trwy eu galw "y dynion: salaf" oedd ganddynt, a gallasai droi yn eu herbyn i gael gwaith yn rhywle arall. Gwyddai am y dynion o'r Llan, ac yr oedd y rhai hyny llawn cystal os nad°gwell na dim oedd ganddynt yn y Blaenau.—Mr. William Owen a ddywedodd ei fod yn hollol foddlawn i dynu y geiriau dynion salaf yn ol. Yr hyn olygai oedd, cadw y dynion goreu a mwyaf medrus mewn gwaith.—Y Peirianydd, Fe ddyweded y report mai y fi recomendiodd i wneyd i flwrdd a'r dynion hyn. Ni ddarfu i mi recomendio felly o gwbl. Dywedyd a wnaethum y byddai yn rhaid gwneyd i ffwrdd a thua ugain o weithwyr."—Y Clerc a ddywed- odd mai ef ei hun oedd yn cymeryd y cefnodion y noson hono, ac fe gafwyd yr enwau gan Mr. Wiliams.—Pasiwyd i adael y mater fel yr oedd. Y GOLEUNI.-Galwodd y Pwyllgor sylw at fod dwy lamp o nerth 16 canwyll yn parhau i fyny. tra yr oedd y Cyngor wedi pasio i newid yr oil gyda un 25 nerth canwyll.—Pasiwyd i'r Peirianydd fyned o gwmpas yr holl ddosbarth er gweled fod argymelliad y Cynghor yn cael ei gario allan.-Pasiwyd fod y lamp nwy i'w goleuo yn Isfryn os na bvdd y lamp drydanol yn oleu fod Mr. Yale i ddodi post y lamp sydd yn nhir y Reilffordd Gul yn rhywle oddiallan i'r tir hwnw, gan fod v Cwmni yn erbyn iddo fod ar eu lie hwy fod lamp i'w dodi rhwng Bwlcbygwynta Lhvynygell a bod Ditas T-Zoad i'w goleuo a thrydan. ADDYSG Gr-LFYDDYDCL.-Argym ell ii ,y pwyllgor, ar awgrym y Clerc eu bod yn gwaodd Mr Raymond Blaithwaite i drnddodi ei ddar- lith ar Y Bobl a gyfarfyddais" yn nghyfi-rfod agoriadol yr Ysgolion Ncs. Hefyd fod Mr. Osmond Williams, A.S., aCadben Drage yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod.—Pasiwyd i dalu Ysgoloriaethau W. Morris, 154, Manod Road, a J. W. Davies yn ol punt y mis.—Hysbyswyd j £ 31 7s Oc o grants gael eu derbyn.-Y Clerc a hysbysodd i 160 ymuuo a'r Ysgolion Nos, ac yr oedd 42 wedi anfon eu henwau i mewn trwy lytftyrau. Yr oedd y Pwyllgor wedi ei awdur- dodi el a Mr. Dodd i roddi Athraw nen Ath- rawes ychwanegol os byddent yn gweled angen am hyny. Daeth cais o'r Llan am gael cyfar- fod yno, ac os ceid digon am uno, eu bod yn dechren Rhestr yno ar unwaith.—Mr. Owen Jones a ddywedodd fod yn bleser ganddo gael cefnogi adroddiad y Clerc. Yr oedd yn dda ganddo glywed i gynifer ymuno, ac yn sicr yr oedd hyny yn foddhaol iddynt oil. Nid oedd o bwys a oeddynt oil yn aelodau o'r pwyllgor a'i peidio, dylent wneyd eu goreu i bwyso ar eu pobl ieuaingc i barhau yn ffyddlawn i'r Rhest- rau hyd ddiwedd y tymor. Ac os bydd ysgrif- enu yn boddloni rhywun, boed iddynt wneyd hyny eto ac os bydd rhoddi ambell gelpan i rai o'r pwyllgor yn gwneyd lies, boed iddynt wneyd hyny eto (chwerthin).—Mr. W. Owen a gefnogodd, a chymeradwywyd yr Adroddiad. IECHYD A'R FFYRDD.—Cyfarfu y Pwyllgor hwn, ac ystyriasant adroddiadau y Peirianydd, y Swyddog Meddygol, a'r Swyddog Iechydol. Mr. George Davies a adroddodd iddo dder- byn Nodiadau am 9 achos o glefydon yn ystod y mis: 4 Gwddglwyf, 2 Dwymyn Coch, 2 Rwng-glwy, a 1 Taniddwf. Nodwyd 7 gan Dr. Jones, a 2 gan Dr. Evans. 3 oedd y mis cynt, a 9 yr un tymor y llynedd.—Nid oedd y trefniant gyda dwfr yn foddhaol yn 12 a 13 Tanrallt, ac yr oedd nifer lluosog o bethau yn ofynol yn nhai y Barracks, Penybryn, &c., Llan.-Pasiwyd i wasanaethu rhybuddion arnynt oil. Yr oedd yr Arolygydd Iechydol wedi cymer- yd Llefrith i'w ddadansoddi gan Lewis Edwards, Bowydd Street, yr hwn gafwyd yn bur a dilwgr ond yr oedd 25 gronyn o boric acid yn mhob galwyn o'r peth gafwyd gan David Lewis, Dorfil Street, yn ol tystysgrif y Dadansoddydd Sirol.—Y Clerc a gyfeiriodd at y siarad a fu yn y Cyngor diweddaf yn nglyn a'r drafodaeth i erlyn am lygru Llefrith, ac yr oedd yn ddrwg ganddo na bu i rai Aelodau o'r Cyngor gymeryd yr awgrym a roddodd y pryd hwnw. Fe ddangosodd yn awr ar ba dir yr oedd wedi cyfarwyddo y Cyngor i erlyn oher- wydd y manylion oeddynt yn ddiffygiol yn yr achos.—Mr, Hugh Jones a ddywedodd ei fod yn hollol gyd-weled a'r hyn a ddywedodd y Clerc, a bod yn ofidus ganddo am y sylwadau a wnaeth yn y Cyngor diweddaf gan ei fod ar y pryd heb fod mewn meddiant o'r ffeithiau ddodid yn awr o'u blaen gan y Clerc, yn nghyfarwyddyd yr hwn yr oedd ganddo yr ymddiriedaeth Iwyraf.—Pasiwyd fod yr holl fater o Lygru Llefrith yn cael ei ymddiried i'r Clerc a'r Swyddog Meddygol. Pasiwyd i'r Peirianydd dynu allan yr amcan- gyfrif o'r gost i awyru y Neuadd Gynull, ac hefyd i wneyd yr adgyweiriadau gofynol ar y Bontddu.—Pasiwyd i bwyso ar berchenogion tai Capelgwyn i wneyd Carthffos a Chronbwll yn y lie at wasanaeth eu tai. Pasiwyd i adgyweirio Ilwybr ffordd y Swch, Rhydysarn.—Cwynai Mr. W. Ll. Humphreys fod y llwybr o Benar View i Orsaf y L. & N. Western wedi ei gau ond adroddodd y Peir- ianydd a'r Clerc nad oedd hyny yn ffaith y tir oedd wedi ei gau i mewn.-Caniatawyd i Mrs. E. Williams, 18, New Square, gael dodi reiliau o flaen ei thy.—Gan fod y dwfr wedi lleihau yn ddirwfawr yn ffrwd Llwynygell, a'r Peirianydd yn adrodd fod y ffos yn ddigon ar gyfer y dwfr, pasiwyd i'w gadael heb ei lledu fel y meddylid dro yn ol am wneyd. LLWYBRAU TANYGRISIAU.—Argymeilai yr Is-bwyllgor i'r rhan o'r Llwybr o'r Dduallt i'r ochr yma o'r twnel gael ei adael fel y mae, ond argymellent i'r rhan o'r Twnel i Tanygrisiau gael ei adgyweirio.—Mr. E. Lloyd Powell, a alwodd sylw fod aelodau Tanygrisiau flynyddoedd yn ol yn pwyso ar i'r perchenogion wneyd y llwybr; ond yn awr, pan y mae y perchenogion wedi newid, y mae eisiau i ni wneyd y gwaith ar gost y trethdalwyr. Mr. John Hughes a ofynodd a oedd yn deg i ddyn ag interest yn y lie eistedd ar y pwyll- gor ? A phabam dim ond at geg y twnel ? Onid oedd eisiau gwella yno hefyd. Daliai ef na ddylid gwneyd gwabaniaetb fel hyn er budd rhai ar draul gadael eraill.—Ar gynygiad Mr. J. Lloyd Jones pasiwyd i wneyd y gwaith, a'r gost i beidio myned dros ddeg punt. Pasiwyd i'r ceryg sydd ar hyd y mynwent- ydd yn rhyddion i gael eu symud.—Mr. Wm. Owen a alwodd sylw at y mater. Pasiwyd i'r Peirianydd gael seibiant o dair wythnos. Y LLYFRGELL.—Yn ol adroddiad y Llyfr- gellydd (Mr. J. Lloyd Jones), yr oedd 1193 o lyfrau wedi eu rhoddi allan yn fenthyg yn ystod y mis, ar gyfer 863 yr un tymor y llynedd cynydd o 330, a derbyniwyd £1 Is 3c mewn fees &c. Yn ol yr adroddiad am y flwyddyn, yr oedd 13,867 o lyfrau wedi eu rhoddi allan, ar gyfer 10,231 y flwyddyn cynt cynydd o 3636.-Argymellai y Pwyllgor i'r Truth a'r Punch gael eu pwrcasu yn wythnosol i'r Ddar- lIenfa; fod sylw y Cyngor yn cael ei alw at sefyllfa y Llyfrgell fel ag i erfyn am gefnogaeth y cyhoedd. fod rhestr o'r llyfrau newyddion roddid i'r Llyfrgell yn cael ei dodi i fyny yn y Ddarllenfa,—Yr oedd y cynydd yn y llyfrau roddwyd allan yn y gangen Ddarllenfa o 42 yn ystod y flwyddyn.—Mr. Owen Jones a alwodd sylw at y ffaith fod y Wasg Gymreig yn cyhoeddi llyfrau rhagorol a ddalient gydmar- iaeth dda ag eiddo y Wasg Seisneg.

--"..-.-..-.........,..,..…

Cyngor Dinesig Llanrwst.j

IBwrdd Addysg Dosbarth Ffestin-I…