Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD Y GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD Y GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd yr uchod yn y Tylotty, ddydd Mawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. W. Jones, yr Is-gadeirydd, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri. W. Williams, Richard Wil- liams, D. Tegid Jones, John Roberts (Tal- sarnau), David Pugh, Robert Evans, John Pierce, Owen Evans, Robert Richards, John Roberts (Trawsfynydd), Cadben Morgan Jones, Edward Llewelyn, R. O. Williams, W. W. Morris, John Williams, John Pritchard, E. Fowden Jones, Mri, J. B. Jones a Richard Parry (Swyddogion Elusen- ol) D. J. Jones (Meistr y Ty) Thomas Roberts (Clerc) a D. Jones (Clerc Cynorth- wyol) Y Ty. Mehefin 14, aeth Evan Evans, 77 oed, o Porthmadog, allan o'r Ty i fyned adref. Mehefin 14, daeth Bernard Mathew, Crwyd- ryn, i'r Ty, trwyarcheb y Meddyg J. R. Jones, ac aeth allan Mehefin 17. Mehefin lOfed, ymwelodd Mrs. Morris, Tab- ernacl, Ffestiniog, a'r Ty. Mehefin 17, rhoddodd Mary Jane Hughes, Abermaw, enedigaeth i blentyn. Nid oedd ond un enedigaetb wedi cymeryd lie yn y Ty er's llawer o flynyddoedd. Yr oedd hyn yn dangos fod y byd yn gwella. Yn y Ty 76, ar gyfer 71 yr adeg cyferbyniol y llynedd, a galwodd 34 o grwydriaid yn ystod y bythefnos, ar gyfer 46 yr un amser y llynedd. Y Crwydriaid. I Mr. R. Richards a alwodd sylw y Bwrdd at fod nifer y tlodion yn myned yn llai. Gofyn- odd hefyd a oedd y Proffessional Tramps yn lleihau oherwydd fod y grating ynglyn a malu y cerrig wedi ei roddi yno. Hysbysodd y Cadeirydd: fod y Tramps yn cwyno fod y tyllau yn fychain iawn, ac yn waeth nag unrhyw le y maent wedi bod ynddo. Y Clerc: Y mae braidd yn fuan eto i ni glywed. Nid ydynt wedi cael amser iddyweyd wrth eu cyfeillion eto (chwerthin). Y Swyddog yn Wael. I Anfonodd Mr. W. Thomas i ddweyd ei fod yn analluog i fod yn bresenol oherwydd gwael- edd, ac yr oedd yn awgrymu enw Mr. J. E. Hughes (Cynorthwy-ydd gyda Barlwydon) i gymeryd ei le, os y byddai y Gwarcheidwaid yn foddlon arno.—Ar gynygiad Mr. Richard Williams, a chefnogiad Mr. W. W. Morris pasiwyd i'w dderbyn. Eisieu ei Wraig. Ymddangosodd James Jones, trwsiwr um- brellas, o flaen y Bwrdd i ofya am i'w wraig gael myned allan o'r Ty. Yr oedd wedi tori ei braich ac wedi dod i'r Ty i wella, ac yn awr yr oedd James yn gofyn am iddi gael myned allan i fyw ato. Yr oedd yn methu bwyta na dim byd heb ei wraig. Y Cadeirydd A ellwch ei chadw, os y caiff fyned allan ? James Jones: Gallaf Syr, yr wyf wedi ei chadw erioed, ac yn awr yn 64 oed, ac y mae pobl yn dotio fy mod i mor sionc. Fe gedwais i fy ngwraig pan dorodd ei braich o'r blaen, ac os y byddwn yn methu byw, fe ddown ni yma ein dau gyda'n gilydd, ac y mae genyf dair o gathod, fe ddown a'r rhai hyny hefyd, fe fydd- ant yn handy iawn i chwi yma (chwerthin). Mr. John Roberts (Trawsfynydd) Sut y mae yn tori ei braich o hyd ? James Jones Nis gallaf ateb y cwestiwn yna. Nis gwn sut y mae hyny yn digwydd. Ar gynygiad Mr. Owen Evans a chefnogiad Mr. Richard Williams pasiwyd i r wraig gael myned allan. Mvned i Rhvi. Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr. R. Jones, Ffestiniog, yn awgrymu i anfon dyn o Tany- grisiau i'r Cartref Adferiadol, Rhyl. Yr oedd yn wael iawn, a buasai ei symud yno am ychydig yn sicr o fod yn welliant mawr i'w iechyd.—Ar gynygiad Mr. W. W. Morris, pasiwyd i gynorthwyo y dyn i fyned i'r Rhyl, ac hefyd y teulu sydd ganddo nes y daw yn 'ol. Arianol. I Talwyd allan yn ystod y Dytnelnos aiwedaat fel y canlyn :—Dosbarth Tremadoc /73 14s 3c; Ffestiniog £ 116 19s 3c Deudraeth £67 9s 3c sef cyfanswm o £ 25% 2s 9c, ac yr oedd eisiauy symiau canlynol at y ddwy wythnos nesaf :— Tremadoc £ 73 Ffestiniog £ 115 Deudraeth £ 6S. Yn y Bank Mehefin 17, £ 989 3s Ie, Amrywiol. Ar gynygiad Mr. Richard Williams, pasiwyd i roddi esgidiau i Mary Hughes, 66 oed, o Lord Street, Blaenau Ffestiniog, Gadawyd achos Laura Morris, Parry's Terrace, Blaenau Ffestiniog, yn llaw y Swydd- og. Yr oedd ganddi fab abli'w cbadw, end yr oedd yn awr gyda y Militia. Hefyd gadawyd achos William Owen, Back Geufron, yn ngofal y Swyddog. Pleidiau Mr. William Williams dros roddi 3s yr wythnos i Ann Williams, Ynys Terrace.— Cynygiai Mr. Richard Williams roddi 5s: ond caed mwyafrif dros 3s yr wythnos. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. J. O. Wil- liams yn dangos cyflog George Davies, yn erbyn yr hwn yr oedd archeb am Is yr wythnos at gadw ei fam. Darllenwyd llythyr oddiwrth Awdurdod Addysg Tremadog yn cwyno fod plant y tlodion yn colli llawer o'r ysgol.—Y Swyddog a ddy- wedodd ei fod yn credu fod gormod yn cael ei wneyd o byn, nad oedd y plant mor ddrwg ag y ceisid dangos allan.—Pwyswyd ar y Swyddog ofalu fod y plant yn mynychu yr ysgol yn gyson.

I Cyngor Dosbarth Geirionydd.…

CYNGOR GWLEDIG LLANRWST. I

Llys Dirgelaidd yn BlaenauI…

YNYS, TALSARNAU.

Irvvvvvvvvvvvvvvvvvv.rei'"I…

I - - - - - -- ' ' "'*''*…

Advertising

 Gobden, Capet O urig.

---BETTWSYCOED.

Gorsafau Gweinidogion y Wesleyaid.

O'R CWELLYN I'R LASLYN.

rv HARLECH.

I FFESTINIOG. < ??-t.aitwv"

I PENRHYNDEUDRAETH. ,.n1I…