Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

LLYS MANDDYLEDION LLANRWST.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYS MANDDYLEDION LLANRWST. I Dydd Gwener, ib flaen ei Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss. Yr oedd naw o achosion wedi eu gohirio y Llys blaenorol, a settlwyd tri o honynt yn y cyfamser. At y chwech hyn oedd yn aros ychwanegwyd chwech o achosion pwysig ac eisteddodd ei Anrhydedd o haner awr wedi deg hyd ugain mynud i saith heb gymeryd dim ond rhyw haner awr o seibiant, ac er hyny gadawyd antryw heb allu eu gwrandaw. Ychydig ydoead nifer y gwysiau carcharol, gan fod ei Anrhydedd yn cyfarwyddo i'r cyfryw ddod ar Llysoedd neillduol fydd yn cael eu nhodi gan- ddo ar y Restr. Y Wedd a'r Wagen Goed. I Hysbysodd y Barnwr y daw achos Blackwalll yn erbyn Roberts yn mlaen yn gyntaf yn y 1 ys nesaf, Gorphenaf 18. Arian Benthyg. Robert Williams a ofynai Mrs Jones o'r swm ° ?6 arian benthyg.-Ymddangosodd Mr. R. 0 Davies dros Williams, a Mr. E. Davies- Jones dros Mrs. Jones.-Hysbysodd Mr. Davies  bod am ohirio yr achos, trwy gydsyniad, yd y Llys nesaf, am fod un o'r pleidiau yn %vael.Caniatawyd gohiriad. Achos yn nghylch Ewyllys. I achos Ann Jones yn erbyn John Owen Vn nglyn a phrofi ewyllys y diweddar William ? ?en, Ty Celyn, Maenan, dywedodd y Barn-  ?' ?od yn dyfarnu fod y costau i ddod o'r ?.eddiaeth, a'u bod i fod ar Raddfa B.-Mr. av^es Jones ar ran yr Hawlyddes a ddy- 'H fod Achosion wedi eu penderfynu yn r ^el-lys yn erbyn y fath ddyfaniad, a chan n- a wnai y Barnwr ei newid, dywedodd Mr. ?es fod ganddo ei feddyginiaeth. Noson Cynhebrwng yn Eglwysbach. j. ^avid Owen, Amaethwr o Eglwysbach, a bAkIllic)dd iawn o ?6 gan Edgar Mellor, mas- 11?Obydd mewn Dofednod, o Colwyn Bay, am ?"17,eidiau dderbyniodd i'w law a'i fraich trwy  ell or redeg ei olwynfarch ar ei draws ? uaawr l4.—Ymddaagosodd Mr. T. Latimer T. ES dros yr Hawlydd, a Mr. R. 0. Davies dros yDinynydd. g?? Owen a dystiodd ei fod yn dychwelyd adr °? Llan noson Ionawr 14, ac wrth fyned at d 'r ???geidwad daeth Mellor o'r tu ol idd ar ?? olwynfarch, ac aeth ar ei draws, gan ei ll"* eiIdio I fel y bu am dair wythnos yn anall- liag weitbio. Gosodai 30/- i lawr fel cyflog y?unosoi.  Mr. Davies,-Dod o Eglwysbach yr u0s • Daeth o'r Bee Hotel ddeg o'r gloch y ? ?? yr oedd tua chwarter wedi deg pan ?et" Mellor ar ei draws ar y ffordd. Bu yn y 13ee  tua awr yn y prydnawn, a bu yno 'am k ddeng mynud cyn cychwyn am gartref. ??i L', ? yn Bodnant Arms yn.y prydnawn, ac ni ^°dwyd ef o gwrw yno. Yr oedd ar ei lw yn ?Ywedyd na chlywodd gloch yr olwynfarch yrl canu. Bu yn y Bee yn ystod tair wythnos  yn methu gweithio, ond ni bu yn prynu ni Och Yn ystod yr wythnosau hyny. Yr oedd Uj0 Ck yn ystod yr wythnosau hyny. Yr oedd ?j? ? mewn cadach yr adeg hono.—Mr. R. 0. byJcÏs, "Wyrach, ond nid gyda'ch Uaw y b- Yddw?h yn prynu moch ejf??11 Roberts, Dafarn Newydd, a ddywedodd  ? Amaethwr, ac iddo weled yr Hawlydd ?On ? ?, yn Eglwysbach. Diwrnod cynheb- ei gefnder Robert Williams ydoedd, ac yr "f* yr Hawlydd yn y cynhebrwng. Gwel- ?dd ?* olaf y noson hono wrth y Bee haner  edi nåw ydoedd, ac yr oedd Owens yn ? ?sdi naw ydoedd, ac yr oedd Owens yn Gn Y pryd hwnw. n an Mr. avies,-Nid aeth i'r Bee yr adeg borlo Bu yn y ddwy dafarn yn ystod y pryd- ? Dod allan o'r Bee yr oedd pan welodd Bé OWen. Bu yn y Bodnant cyn myned i'r ?6e ? ni wyddai sawl glasiad a gafodd yn Bod ??' Gwelodd David Owen yn gegin y ?od?a.iit yn y prydnawn. Vn i Y Barnwr, Yr oedd eraill o'r cynhebrwng Y11Yfed -yn Bodnant,-Y Barnwr, Mae Slodd ?y?hebrwng oedd yno ?" d?Hu? ? Jones, Brynhyfryd, Eglwysbach, a 44Y""edodd ei fod yn llythyr-gludydd. Gwel- Odd 1) a,,i-d Owen wrth ddrws yard y Bodnant i ddeg y noson dan sylw. Nid oedd Yri fedd"?. Yr oedd yn well y noson hono nag -Y, el ef ?awer gwaith. Yr oedd ef ei hun Yn ?11. y-ymwrthodwr. Joh ? ?o?erts, Llan Terrace, a ddywedodd ?t??g o Syfarfod David Owen tua chwarter wedi de 9 0'r ?ocb. Nid oedd yn feddw, er ei fod xv edi cael diod. Addefodd iddo ddywedyd I* rth '?"o'' nad oedd yn feddw.—Barnwr, Ei fad j???/??.mae'ndebyg?" Peter Jones, Gof, Graig, a ddywedodd ei fod JefQ V drws nesaf i David Owen, a gwelodd lef yrl()sO'l dan sylw. Dangosodd ei law iddo. fedo 'Idd wedi cael cwrw, ond nid oedd yn *e^clty Barnwr, Y cwestiwn yw, a oedd ^asobr ? got0d? ? Barnwr am David Owen yn ei ol,  '°°°? iddo a fu i ryw bregethwr ofyn "?o P?ydnawn dan sylw am iddo fyned adref C atebodd yntau na bu dim o'r fath ?dr?f ? atebodd yntau na bu dim o'r fath Gdaeth f lawr yr allt yr oedd yn myned pan aeth ?y??rch Mellor ar ei draws. C,,()fy 'lodd iMr. R. 0. Davies i'r Barnwr a °?d ac bOs wedi ei wneyd allan fel ag i alw ?o ? ? ??-"Y Barnwr, "Oes. Nid oes ?ychh??? 1 fyned ar draws hyd yn nod ddyn ?e??d. ?yff?dd." Ivie^^ddiffyniad tystiodd Mellor iddo ^dod j 8'wysbach ar fusnes y diwrnod dan ??'. a.h ? ?? Bodnant Arms am awr neu awr ? haner ? y prydnawn, ac yr oedd yno amser CaL,l ddeg 0'r Sloch. Ni yfodd ddim cryfach tbe yn Bodnant. Gwelodd ddyn yn ?V?d n'??? a-en ar y ffordd, ac yr oedd yn bur '?dw ?oedd ei lamp yn oleu, a chanodd R OC Yr 6!wYnfarcb. Troes D. Owen ar dr fford yn y fath fodd fel nad allai ei ?goi /rthtodd oddiar ei olwynfarch, ac 0d<3 e: a gododd David Owen. Yna cod- ? ei '?! ?yRfarch a goleuodd ei lamp. Pan ried(i y,Z) ,;Pasic) David Owen yn mhellach yn ?en li(,dd Owen ei daraw a ffon. Cyn cyraedd gorsaf yr heddgeidwad y bu'r ddam- wain, ac i fyny'r allt yr oeddynt yn myned. Richard Evans, Bodnant Arms, a ddywed- odd i David Owen fod yno cyn wyth o'r gloch, a gwrthodwyd diod iddo am ei fod wedi cael digon. Am wisci y gofynodd, a'i chwaer a'i gwrthododd. Bydd yn ami yn Bodnant. Y Barnwr a ddywedodd fod yn angenrheidiol profi esgeulusdod gwirfoddol yn yr achos hwn, ond ni wnaed hyny. Yr oedd yn anhawdd credu tystiolaeth yr".Hawlydd. Gwadodd na bu yn Bodnant Arms, ond yr oedd profion clir iddo fod yno. Os nad oedd yn feddw, yr oedd yn mhell ar y ffordd i fod yn feddw. Gan na phrofwyd esgeulusdod yr oedd yn rhoddi dyf- arniad o blaid y Diffynydd gyda'r costau. Pwy sydd i dalu am y Dillad ? I Mri. W. S. Williams (cyfyngedig), London House, Llanrwst a ofynasant David Williams, 10, Watling Street o f 2 10s Oc gweddill dyled- us am ddillad.-Ymddangosodd Mr. A. Lloyd Griffith dros y Cwmni, a Mr Latimer Jones dros y Diffynydd.—William John iwilliams a ddywedodd mai Accountant ydoedd yn awr yn y Rhyl, a bu yn Ysgrifenydd yn ngwasanaeth y Cwmni yr adeg y prynai y Diffynydd yn y shop. Prynai yno o dro i dro, ond ni wyddai ei fod yn gwerthu ar commission. Oddiwrth y llyfrau gwelai fod y cyfrif wedi ei droi dros- odd i John Thomas, 1. River View, Glanconwy yr hwn oedd wedi talu 2/6 ar Ionawr 24. 1904, a 2/- ar Mawrth 17. Talodd y swm diweddaf trwy Gymdeithas o Lerpwl a gasglai ddyledion i'r Cwmni. Ni wyddai y tyst mai dillad i John Thomas oeddy rhai a werthwyd.—Mewn ateb- iad i Mr Latimer Jones dywedodd y tyst fod un Mr Thomas yn bartner yn y Cwmni ar yr adeg, ac efe oedd wedi delio a'r Diffynydd. Ni wyddai mai Agent yn casglu archebion ar Com- mission ydoedd, gan nad allai ddywedyd dim yn mhellach na'r hyn oedd ar y llyfrau, a dodid pethau i lawr fel y deuai cyfarwyddyd. Mewn amddiffyniad tystiodd Williams ei fod yn Llythyrgludydd, ac yn casglu archebion i'r Cwmni yn ol 2/6 y bunt. Gyda Mr. Thomas y gwnaed y cytundeb hwnw. Dangosodd bat- rymau i John Thomas, yr hwn a archodd siwt gwerth £ 2 12s 6c, ac aeth y dillad iddo. An- fonwyd y bil i ddechreu iddo ef (y tyst), ac aeth yntau gydag un o'r Cwmni i weled John Thomas. Yr oedd wedi cael amryw filiau yn ystod yr amser y bu yn casglu archebion i'r Cwmni, a thalodd i mewn bob arian a dderbyn- iodd. Mr. Thomas oedd yn gwneyd yr holl drefniadau gydag ef.—Mr. Lloyd Griffith a ofynodd am gael gohirio yr achos er mwyn cael Mr. Thomas yn bresenol.—Y Barnwr, Dylasai fod yma heddyw. Yr wyf yn gohirio yr achos hyd y llys nesaf, yr Hawlyddion iidalu y costau am heddyw." Yr un Cwmni a hawliasant £ 3 15s 10c gan Thomas Sharpley, Lion Hotel, Bala am ddillad brynwyd ganddo ef a'i wraig. Ym- ddangosodd Mr. Lloyd Griffith dros y Cwmni. —Addefodd y Diffynydd iddo gael suit gwerth £ l 7s 6c, ond ni wyddai ddim am y pethau eraill gan mai ei wraig a'u prynodd.—Y Barn- wr, Yr ydych yn gyfrifol am ddyled y wraig os bydd y pethau at wasanaeth y ty."—Diff- ynydd, Pethau iddi hi ei hun oedd y rhai hyn, ac nid i mi."—Y Barnwr, Yn sicr y mae dillad y gwely yn gymaint i chwi ag ydynt i'r wraig. Mae yma hilyng gwely yn mhlith y pethau a gawsoch. Dedfryd am y swm a'r costau i'w talu yn ol 5/- yn y mis." Cyngaws am Ardreth: y Clerigwr a'r I Shopwr. Y Parch. J. Titley Williams, Penloyn, Llanrwst, a hawliodd £$gan J. W. Jones, Comet Stores, fel ardreth am Shed a ddaeth i feddiant yr Hawlydd ac a ddelid ar y pryd gan y Diffyriydd.—Ymddangosodd Mr. J. D. Jones dros yr Hawlydd, a Mr. W. P. Roberts dros y Diffynydd.-Yr Hawlydd a dystiodd iddo brynu y Shed mewn dadl, yr hon oedd yn nghefn Watling Street, gan Mrs. Williams, Bodeifion. Jones oedd yn ei dal ar y pryd. ac aetn a rhybudd iddo ymadael ar Mehefin 6, 1906 yn mhen chwe' mis, a rhoddodd rybudd arall iddo yn ystod Ebrill i gadw y lie mewn cyflwr priod- ol. Aeth a bil am y rhent i Jones, ac ateb a gafodd oedd na wnai dalu hyd nes y byddai y rhybudd i fyny, sef Ionawr 6. Gwrthododd dalu ar Ionawr 6, pan alwodd ef yno. Efe ei hun roddodd y rhybudd i Jones, am ei fod yn bendant yn ei erbyn fel tenant. Nid oedd wedi cynyg y shed yn ddirgelaidd i rai eraill, gan nad oedd yn delio mewn pethau cuddiedig ac anonest, ac ni bu gair erioed o anghydwelediad rhyngddo a'i denantiaid. Mewn amddiffyniad dywedodd y Diffynydd iddo gael rhybudd i gadw y shed mewn trefn yn mis Ebrill, ond ni chafodd rybudd i ym- adael. Rhoddodd o £6 i £7 o gost ar y lIe pan gymerodd ef gan Mrs. Williams, ac yr oedd yn foddlawn i gymeryd £ Z am yr hyn a wnaeth yno. Gadawodd y lie bythefnos cyn Mehefin 6ed, a rhentodd le arall. Gadawodd Watling Street Mai 23, ac aeth i fyw i Station Road. Pan oedd yn Watling Street y cafodd y rhybudd i gadw y lie mewn trefn. Robert Roberts, I cigydd, Station Road a ddywedodd iddo fod yn siarad gyda'r Hawlydd ddiwedd Ebrill neu ddechreu Mai pan oedd wedi prynu dodrefn David Jones (David y Bwlch). Cynygiodd yr Hawlydd y Shed iddo ef fellle cyfleus at gadw ei gerbydau a'i wair. Dywedodd Williams wrtho mai efe oedd bia dodrefn David Jones, a bod Jones yn ddyn drwg. Y Barnwr a ddywedodd fod y tystiolaethau yn yr achos hwn yn llawn o anghysondeb. Nid allai angrbedu yr Hawlydd, heb gredu ei fod yn tyngu anudon eglur a gwirfoddol. Yr oedd yn afresymol meddwl fod dyn o'i safle yn gwneyd y fath beth. Yr oedd yn cael fod rhybudd wedi ei wasanaethu ar y Diffynydd i roddi y Shed i fyny. Dedfryd am y swm gyda'r costau. Gangenau Impio. Thomas Fletcher, Planigfa Penybryn, a hawliodd £ 7 Is Oc gan Mri. Bees, Wapping Buildings, Cornhill, Lerpwl, a Neston, Caer, tal am Gangeni Impio anfonwyd iddynt tua chwe' mis yn ol.—Ymddangosai Mr. A. Lloyd Griffith dros yr Hawlydd, yr hwn a dystiodd iddo anfon Cangeni afalau, gerllyg, ac eirin at Impio i'r Diffynyddion yn ol 7/6 y cant. Trowyd yr eiddo yn ol am nad oedd yn fodd- haol.—Mewn amddiffyniad dadleuid nad oedd y coed o un pwrpas at Impio gan eu bod yn hen. Dylasent fod yn dwf blwyddyn.-Tyst- iodd Mr. Maygay, Prif Reolwr y Cwmni, a Mr. Oliver Horton, Foreman y Cwmni, nad oedd y coed a archwyd y peth a ddylasent fod. Yr oeddynt yn hen, ac heb lygaid arnynt.—Anfon- wyd hwy yn ol dranoeth.—Awgrymodd y Barnwr y byddai yn well cael barn dyn cyfar- wydd ar y mater, ond boddlonodd yr Hawlydd i'w Anrhydedd setlo y mater. Rhoddwyd dyfarniad am haner y swm gyda'r costau. Cyngaws yn nghylch Anifeiliaid. I Evan Bleddyn Lloyd, Gorddinen, Dolwydd- elen, a hawliodd £9 15s Oc gan William Roberts, Penrhos, Llanrhochwyn, tal am an- ifeiliaid werthwyd iddo. Yr oedd Roberts yn gwrth-hawlio £ 15 6s Ocgan Lloyd.—Ymddang- osodd Mr. R. O. Davies dros Lloyd, a Mr. E. Davies Jones dros Roberts.—Mr. Davies Jones a ofynodd am ohiriad. Yr oedd yn foddlawn i dalu costau y dydd. Mr. Davies a wrth- wynebodd. Yr oedd ef a'i dystion yno yn barod i fyned yn mlaen gyda'r achos. Bodd- lonai i ohiriad os telid yr arian i'r Llys.-Y Barnwr, Y mae y wys yn galw am i chwi o bobtu fod yn barod heddyw. Os gohirir, rhaid i'r achos fyned i waelod y rhestr at y Llys nesaf, ac os na chyrhaeddir ef, ni ddaw yn mlaen hyd fis Medi. Rhaid talu yr arian i'r Llys cyn i'r Llys godi heddyw, neu ni ohirir."—Caniatawyd ychydig amser i'r Cyf- reithwyr ddod i delerau. Ar ganol y Llys dywedodd ei Anrhydedd ei fod yn gohirio hyd y Llys nesaf ar daliad costau y dydd gan y Diffyaydd, a bod yr arian £ 9 15s Oc i'w talu i'r Llys o hyn i foreu y Llys nesaf. Yr Hen Denant a'r Newydd. I Evan Evans, Cwmcelyn, Dolwyddelen a hawliodd £ 20 gan Owen Davies, Pantymanus, Llanddewi, gweddill dyledus am eiddo brynwyd ar y fferm pan aeth yno yn denant.—Ymddang- osodd Mr R. O. Davies dros yr Hawlydd, a Mr A. Lloyd Griffith dros y Diffynydd. Gwrth- hawliai Davies £39 18s 4c gan Evans. Yr Diffynydd a dystiodd iddo gytuno i gym- eryd Pantymanus gan E. Evans yn Medi, gan fod Evans yn gadael y lie yn Mai dilynol, ac yntau i adael Penrallt, Trefriw ar Tachwedd 30. Cytunodd i gymeryd y lie a'r oil o'r Stock na byddai ar Evans eu hangen. Yr oedd i gael meddiant amser y prisiad, a chael y tir ar Rhagfyr 1. Ni chafodd feddiant hyd Tach- wedd 30, ac yr oedd y prisio wedi bod ar Hydref 4. Codai £5 8s 4c am y mis y codwyd ef o'r lie, £ 20 am y niwed wnaed i'r yd gan wlybyddiaeth, £3 am gamddesgriflad o fuwch brynodd yno, a'r gweddill o'r £36 18s 4c am bethau eraill. Pe cawsai feddiant ar adeg y prisiad buasai wedi dyrnu yr yd, ac arbed colled arno. ^320 oedd y prisiad ar yr eiddo, ac yr oedd wedi talu y cyfryw ond £ 20 gan fod arno eisiau cydnabiaeth at y colledion a gafodd. Cafodd lythyr oddiwrth E. Evans, Ebrill 5, ac un arall Mai 14 yn gofyn am yr £ 20. Prynodd 16 o wartheg ac un ceffyl. Yr oedd yno 22 o wartheg trwy rai E. Evans,. Y Barnwr Yr holl ddadl yn yr achos yw, pa bryd yr oedd i gael meddiant o'r lie." Stephan Davies, Pontcysyllte, a ddywedodd ei fod yn cofio dyrnu yd Pantymanus i Owen Davies, Rhagfyr 26. Sylwodd fod y ceirch wedi gwlychu, a bod ei werth o'r achos wedi gostwng lawn £ 20. Wedi ei gamwneyd a'i gamdoi yr oedd yr yd. William Williams, Coedllydan, Llangerniew, a ddywedodd iddo fod yn prisio yr eiddo yn Pantymanus, ac yr oedd yn is o rhwng £ 40 a £ 50 na'i gyd-brisiwr, a daeth Evan Evans i'w bris ef yn y diwedd, gan gytufio arno gydag Owen Davies. Yr oedd vn tneddwl mai Hvdref y 4ydd ydoedd pan fu'n prisio, ond nis gallai fod yn sicr. Evan Evans, yr Hawlydd, a ddywedodd iddo roddi rhybudd i ymadael o Pantymanus yn Mai. Yr oedd y Diffynydd yn awyddus am le gan fod yn rhaid iddo adael Pen'rallt Tach- wedd 30, ac heb un man i fyned. Bu iddo ef a Davies gytuno ar y pris, a'u bod i ymadael o'r naill le a'r llall Tachwedd 30. Yr oedd ganddo ef fferm arall ar ei law yn ystod y ddwy flynedd y bu yn Pantymanus, sef Cwm- celyn. Yr oedd yn ddrwg rhwng O. Davies ali feistr tir ac a'r tenant newydd fel yr oedd yn anfoddlawn gadael Penrallt hyd nes y byddai wedi codi y tatws a chlirio pobpeth oddiyno. Cynygiodd iddo gael dod i un o'r ddau dy yn Pantymanus er mwyn gofalu am yr anifeiliaid hyd nes y deuai Tachwedd 30. Ni ofynodd Owen Davies ef o ddimeu hyd nes y cafodd ei lythyr ef dyddiedig Mai 14. Yr oedd yn sicr mai ar Hydref 24 y bu y prisio ar y Stock. Rhoddwyd y peth i lawr gan y plant y diwrnod hwnw. Pe buasai wedi gosod y lie i'w adael cyn Tachwedd 30, buasai wedi myned i Cwm- celyn a gadael Pantymanus ond gan nad oedd yno neb yn gofalu am anifeiliaid Owen Davies, arhosodd hyd nes y daeth Davies yno i fyw. Miss Grace Ellin Evans, Garth House, Min- ffordd, a ddywedodd ei bod yn ferch i Evan Evans. Clywodd y cytundeb yn nghylch Tachwedd 30, a daeth Davies a'r teulu. yno y diwrnod hwnw. Hydref 24 y bu y prisiad. Dododd y peth i lawr ar y pryd,—Mr. Owen Evans, brawd Miss Evans, a gadarnhaodd ei thystiolaeth. Mrs. Evans a Thomas Davies, Bodlondeb, i Dolwyddelen, a dystiasant eu bod yn bresenol pan oedd Owen Davies ac Evan Evans yn cytuno gyda'u gilydd yn nglyn a'r prisio a'r adeg i gael meddiant; a chlywsant Davies yn dywedyd ei fod yn rhy brysur i ddod cyn Tachwedd 30, ac yn gofyn i Evans dori gwair o'r das i'w roddi i'r anifeiliaid yn ei le. Y Barnwr, Y mae y ddwy ochr yn cytuno fod £ 20 yn ddyledus fel gweddill tal am yr eiddo; nid oes dadl i fod ar y swm hwnw. Am y gwrth-hawl, y mae y tystiolaethau yn or- lethol ar ddiwrnod y prisio mai Hydref 24 ydoedd, ac mai ar Tachwedd 30 yr oedd medd- iant i'w gael. Dyfarniad i'r Hawlydd am yr hawliad ac ar y gwrth-hawliad; y costau i ddilyn yn y ddau achos."

Sefydlu Lleiendy yn Caergybi.

Glowyr Gogledti Cymru.

Dyrnod Marwol.

- - - _- - - - - -- - Corph…

CAPEL OURIG.I

Advertising

IEsgob Dewr.

Hunan-Baddiad Torcalonus yn…

Arholiad Cymdeithas Ddirwestol…

Diboblogi Dosbarthiadau Gwledig.

Siarter Llewelyn.

------ - - - - Pwyllgor Heddlu…

vvvvvvvwWWV RHOS A'R CYLCH.