Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

LLYS MANDDYLEDION LLANRWST.…

Sefydlu Lleiendy yn Caergybi.

Glowyr Gogledti Cymru.

Dyrnod Marwol.

- - - _- - - - - -- - Corph…

CAPEL OURIG.I

Advertising

IEsgob Dewr.

Hunan-Baddiad Torcalonus yn…

Arholiad Cymdeithas Ddirwestol…

Diboblogi Dosbarthiadau Gwledig.

Siarter Llewelyn.

------ - - - - Pwyllgor Heddlu…

vvvvvvvwWWV RHOS A'R CYLCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

vvvvvvvwWWV RHOS A'R CYLCH. Crewyd cyttro mawr yn y cylch hwn trwy y digwyddiad alaethus i'r llythyrgludydd Samuel Lloyd, Llangollen, yr hwn a fu farw mewn canlyniad i gael ei daraw gan Isaac Harrison Jones, Gwrecsam, dydd Sadwrn diweddaf. Yn y trengholiad gynhaliwyd yn Llangollen dydd Mawrth, y rheithfarn oedd "Marwolaeth trwy amryfusedd—Jones yn ofni am niweidiau corphorol," Ar waethaf y 'tywydd anffafriol aeth llu o gantorion y cylch i Gymanfa flynyddol y Methodistiaid yn Llangollen dydd Llun. Cyn- wysa y dosbarth bedair-ar bymtheg o ysgolion yn rhifo tua 2,500 o ysgolheigion. Yr arwein- ydd oedd Mr. Jenkins, Aberystwyth. Llywydd cyfarfod y brydnawn oedd Mr. J. T. Thomas, Tainant, a'r hwyr y Parch W. Foulkes. Rhanwyd tystysgrifau i amryw o'r plant. Cafwyd canu o radd uchel ar hyd y gymanfa. Dydd LIun nesaf yw dydd Eisteddfod Gad- eiriol y Rhos. Mae disgwyliadau mawr am dani, a pharotoadau neillduol ar ei chyfer, Mae y gadair yn cael ei dangos yn siop Mr. W. Griffith, Meirion House. Mae llawer 0 gerdd- ed i'w gwel'd ac o ddyfalu eiddo pwy fydd hi. Dywedir fod dros 250 o ymgeiswyr ar y gwa- hanol destynau. Dydd Llun, cynhaliwyd Sale of Work yn Ysgol y Wern, elai yr elws at dalu y ddyled sydd ar yr Ysgol.