Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

WWWWWWVNAWvWAiVWVW MAENTWROG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WWWWWWVNAWvWAiVWVW MAENTWROG. I TEULU MEWN PROFEDIGAETH.—Cyfeirio yr ydym at Mr John Owens, yr Efail, Tan-y- bwlch a'i deulu, yn eu profedigaeth chwerw o golli eu bachSen bychan pert, a hyny mor sydyn ac anisgwyliadwy. Bu farw yn yr oed- ran anwyl o bedwar blwydd a haner. Cydym- deimlir yn fawr a hwy fel teulu. DECHREU AR EU CAPEL NEWYDD.—-Dyna hanes Annibynwyr y Maen. Mr. William Owen, Fourcrosses, Chwilog ydyw yr ymgym- erwr, a Mr D. O. M. Roberts, Porthmadoc ydyw y Cynllunydd. Sul ncsaf nesaf fydd y Sabbath olaf i'r frawdoliaeth fod yn yr hen deml yn Gilgal. Hefyd, y Sul nesaf y bydd y Parch. W. Williams yn terfynu ei weinidog- aeth yn Gilgal ac Utica, ar ol bod yma dros 30 mlynedd yn gwasanaethu. YN YMADAEL.—Oherwydd y dirwasgiad yn y fasnach lecbi, ac ar yr Etifeddiaeth yma, y mae amryw o'r Maentwrogiaid wedi gorfod ymadael i'r Deheudir a manau eraill. ARFBAIS NEWYDD I'R PLWYF A BEDDROD YR ARCHDDEACON EDMUND PRYS, PERGAN- IEDYDD CYMRU.—Y mae y masnachwr antur- iaethus Mr Thomas Roberts, Shop Isaf, wedi myned i'r gost o ddwyn allan y rhai uchod. pa rai sydd wedi eu gosod ar wahanol fatkau o Miniature Swan China, y rhai a gynwysent ddarluniau o'r Maen, oddiwrth pa un y cymer y pentref enw Tomen y Mur, Arfbais Edmund Prys, ac Eglwys y Plwyf, ynghyda'r man y claddwyd ef. Ceir hefyd ar-ysgrif o enwau rhai o brif enwogion y plwyf o amser Twrog Sant y 6ed ganrif, hyd yr hynod William Ellis, Bronturnor. Dyna rywbeth gwerth i ymwel- wyr eu pwrcasu.

I'VVVVVLLANRWST. I

- - - -NODION --O'R -CYLCH.…

IY LLYWODRAETH A DADGYSYLLTIAD.

-DIWEDDARAF.

a""rdd Addysg Dosbarth Geir-I…

I P -TANYGRISIAU.

?  i ?. BETTWSYCOED.I

 Cy? ?*R* DOLBENMAEN. -…

- O'r -Pedwar -Cwr.-'"'".,

Undeb yr Anibynwyr. I

Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy.I