Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

WWWWWWVNAWvWAiVWVW MAENTWROG.I

I'VVVVVLLANRWST. I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I'VVVVV LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL Yr Eglwys Sefydledig. St Mary.-lO, Parch. C. W. Davies. 6, Parch. J. Morgan. St. Crwst-10, Parch. J. Morgan. 6, Parch. C. W. Davies. Y Methodistiaid. Seion.—Parch. John Williams, Corwen. Scotland Street-Parch. O. Gaianydd Wil- liams, Roe Wen (Cyfarfod Ysgol). Yr Annibynwyr. Tabernacl-lo, Parch. Thomas Jones. 6, Cyfarfod Gweddi. Ebenezer-Parch. Z. Mather, Abermaw. Y Wesleyaid. Horeb-Mr. Griffith Jones, Capel Garmon. St. James' (English IChapel).-Mr. T. Scho- field, Colwyn Bay. Y Bedyddwyr. I Penuel.—Parch. T. Shankland, Bangor. 0 LANRWST I LANGERNIEW.—Bu nifer o fodurau yn ymryson gyru dydd Llun i fyny y bryn rhwng Llanrwst a Llangerniew. Y cyntaf oedd Mrs Parry yr ail, E. Noel Thornewill; y trydydd, A. C. Davies y pedwerydd, Mrs. Mason. Y FARCHNAD.-Yroedd y.Farehnad ddydd Mawrth yn bur boblogaidd, ond cwynid mai ychydig o fusnes a wneid yn ystod y dydd. Gwerthai y Wyau 13 a 14 am swllt. Ymenyn o ddeg ceiniog i swllt y pwys. Dofednod o 4/- i 5/6 y ewpl. Hwyaid o 6/- i 6/6 y cwpl. Tatws 6/- y cant, a'r tatws newydd 4c y pwys. HEDDLYS.—Dydd Llun o flaen y Milwriad Johnstone, O. Isgoed Jones, Dr. T. E. Jones. a William Hughes, Ysweiniaid, cyhuddwyd John Williams, Maenau, o fod yn feddw mewn ty trwyddedig ar Mai 11. Profodd yr hedd- geidwad Davies fod y cyhuddedig yn yr Hand, Eglwysbach ar y dyddiad uchod, a'i fod yn feddw.—Dirwy 5/- a'r costau. ARWERTHIANT TALYCAFN.—Cafodd Mri. Robert & Rogers Jones Arwerthiant llwydd- ianus iawn ar anifeiliaid yn eu Harwerthfa ddydd Llun. Gwerthai y Gwartheg Tewion i fyny i £ 17 15 0; Buchod Cyflo i £ 15 5 0; Buchod a Lloi i £ 17 10 0; Gwartheg cadw £ 9: Wyn (crossbred) o 35/- i 38/6 Myllt 47/ Mamogiaid Cymreig 29/6: Cyplau o 33/- i 37/ a'r Lloi i £ 4. CYFARFOD SALEM.—Neithiwr a thrwy y dydd heddyw (dydd Iau), cynhelir Cyfarfod Blynyddol Salem (M.C.). Gwasanaethwyd gan y Parchn. Ben Davies (A), Maesteg, a T. R. Jones, Towyn. GWERTHU LLYFRAU.—Yn yrHen Lythyrdy, gwerthodd Mri. Blackwall Hayes, & Co., Ystorfa fawr o lyfrau perthynol i'r diweddar Gwilym Cowlyd, a Scorpion. Cafwyd prisiau lied dda am rai o honynt, ond araf ar y cyfan oedd y cynygion ar lawer o honynt: PRIODAS. Dydd Mercher, yn Nghapel Horeb gan y Parch. Phillip Price, unwydmewn glan briodas Mr. John Hughes, 10, George Street, a Miss Maggie Jones, Bryntawel. Gwasanaethai Mr. Thomas Hughes (brawd y priodfab) fel gwas, a Miss Annie Jones (chwaer y briodasferch) fel morwyn. Cafodd y par ieuaingc wledd briodasol o'r radd oreu gan Mr. a Mrs. J. E. Humphreys gyda'r rhai yr oedd y briodasferch yn gwasanaethu. Eisteddodd nifer fawr wrth y bwrdd. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a drudfawr. CYSTADLEUAETH, MODUR IAU.—Dydd Llun, o dan nawdd CIwb Modurwyr Gogledd Cymru, daeth ugain o Gerbydau Modur i'r prawf osodid arnynt i ddringo yr allt o dref Llanrwst i Lan- gerniew. Pwyswyd y ceir yn yr orsaf, o dan arolygiaeth Mr. H. J. W. Watling. Wedi eistedd wrth fwrdd y wledd yn y Victoria Hotel, awd am le'r gystadleuaeth. Dech- reuid ychydig tu draw i'r careg filltir agosaf i'r dref, lie y mae y ffordd yn 264 troedfedd uwchlaw arwynebedd y m6r. Ychydig o dan ddwy filltir oedd y pellder i'w rhedeg. Mae y darn hwn yn un galltog iawn, gan godi i 600 troedfedd ar ei ganol, ac yn Penyraloesfa y mae yn 816. Y mae y ffordd yn un dda i'w theithio, ac ystyrid y darn hwn o honi yn un campus at y pwrpas o brofi y Moduriau. Gofalwyd am y gwahanol drefniadau gan Major J, A. Turner, Major Fanning Evans, Lieutenant Rowley, Colonel O. L. J. Evans, Colonel Thomas Gee, Mri. J. R. Davies, J. Blackwall, W. H. Darbi- shire, C. To Allard, A. Lloyd Griffith, J. P. Maitland, C. F. Davey, R. O. Davies, H. E. Blackwall, W. G. Owen, J. W. Order (Ysgrif- enydd y Royal Automobile Club), ac ysgrif- enydd y cyfarfod ydoedd Mr. H. R. Davies, Porthaethwy. Yr oedd Medal Aur, Arian, a dwy Bronze yn cael eu cynyg. 1, Mrs. Lloyd Parry; 2, Mr. E. Noel Thornevill; 3, Mr. A. C. Davies; 4, Mrs. Mason.

- - - -NODION --O'R -CYLCH.…

IY LLYWODRAETH A DADGYSYLLTIAD.

-DIWEDDARAF.

a""rdd Addysg Dosbarth Geir-I…

I P -TANYGRISIAU.

?  i ?. BETTWSYCOED.I

 Cy? ?*R* DOLBENMAEN. -…

- O'r -Pedwar -Cwr.-'"'".,

Undeb yr Anibynwyr. I

Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy.I