Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Cynghor Dinesig Ffestiniog.

IBwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst.

HARLECH. -^^-I

LLANFROTHEN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANFROTHEN. MARWOLAETH MR. MORRIS ROBERTS, Y GARREG.—Mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth yr hen gyfaill diddan Morris Roberts, yr hyn a gymerodd le pryd- nawn dydd Llun, wedi cystudd byr ond blin. Fel y gwyr llawer, bu yn beryglus wael tua thair blynedd yn ol, ond cafodd ei arbed o safn angeu megis. Fodd bynag, bu i'r cystudd hwnw adael ei ol yn arhosol arno, ac ni bu byth yr un un ar ol hyny. Yn ymarferol, yr odd wedi ei gaethiwo i'r gongl, a chydag an- hawsder mawr y gallai fyned dim o gwmpas. Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf pur a gonest, a chredaf nad oes neb a'i hadwaenai na ddywed ei fod yn ddyn duwiol mewn gwir- ionedd. Bu yn llenivi y swydd o flaenor yn eglwys Siloam am dros ugain mlynedd, a men- traf ddwe'yd, na lanwyd y swydd gan neb erioed gyda mwy o ffyddlondeb. Dilynai gyf- arfodydd crefyddol yn ddifwlch, ac ni adawai i ddim ond rhwystrau anorfod i'w luddias iddynt. Credaf iddo (yn y blynyddoedd diweddat;, wneud cam a'i iechyd, a byrhau ei ainioes trwy ei ymdrechion i gael y Moddion Crefyddol ar y Sabbathau. Chwith iawn fydd gweled ei le yn y Set Fawr yn wag. Dydd Iau nesaf. rboddir ei weddillion i orphwys yn hen fynwent y Llan. Cafodd ei ran yn helaeth o brofedlg- aethau bywyd ond bellach caiff orphwys yn dawel o "gyrhaedd pob poen a thrallod." Mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'i weddw hiraethus yn ei galar dwys ar ei ol. Wedi bod yn cyd- fyw am yn agos i haner can' mlynedd, c iawn iddi fydd gweled yr hen gongl ar yr eI- wyd yn wag. Nawdd y Nef fyddo r CYFAILL.

Bethesda ac Ymweliad y Brenin.-

-PENMACHNO. _..E

BETTWSYCOED. -4

.-yyYYPORTHMADOG- yj )

TREFN OEDFAON Y SIUL,