Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

ADSAIN HIRAETH I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADSAIN HIRAETH I .I\ GAYNOR REES, anwyl blentyn Mr. a Mrs. van a C. A. Rees, Ty'n-yr-Onen, Aber- fan, South Wales, yr hon a hunodd yn yr Iesu, Ebrill 28ain, 1907. Pan gusanai haul y gwanwyn Bur wefusau blodau'r ddol, Pan y cluda'r awel rywiog Nwyf a bywyd yn ei chôl Pan y clywid ar y twyni Felus gerdd adeiniog lu,— Bywyd newydd yn ymdoni Ac yn dawnsio ar bob tu. Gwelais Lili dyner arall Fu mor fyw a theg ei gwedd, Er yn nghanol mor o fywyd Yn edwino tua'r bedd Awel dyner dwyfol gariad Fu'n addurno'i gruddiau cu, Nes i'w thegwch prid o'r diwedd Ddenu'r nefoedd atti hi. Canodd bedd yn gynar Ar obeithion Rhiaint iach, A chymylwyd eu ffurfafen Pan gollasant Gaynor fach Ond mae gobaith gwell yn gwenu Hwnt i'r beddrod tywyll du,— Gobaith etto ail gyfarfod Draw ar fryniau'r Ganaan gu. Croesi'r afon wnaeth yn gynar, Ni chadd rodio'i glan yn hir Clywodd adlais mwyn yr Iesu Yn ei gwa'dd i'r Ganaan dir Pel aderyn bach ehedodd I hinsoddau cynes cain, Yno cana nes b'o engyl Nef yn synu at y sain. Nwyfus ydoedd fel yr awell Bywiog fel y ffrydlif fach Fel yr oen ar fron y gwanwyn Y chwareuai'n blentyn iach Gwen ei lygaid—swyn ei geiriau Lwyr enillai'n serch o hyd, Ond enillodd gariad dwyfol Iesu atti tra'n y byd. Y mae plant y nefoedd beddyw Yn ei holi am ei rhawd, Rhai am hynt Rhieni duwiol, Rhai am yrfa chwaer a brawd Hithau bellach fydd yn disgwyl Am y teulu'n gyfan fry, gael uno yn y cydgord,— ■h Dwyfol gan y Cymod cu. "tyndeudraeth. D. LLOYD EVANS. I

c OSEDD LLANGOLLEN, MEHEFIN…

Y DADGYSYLLTIAD.-''.I

AM - - - ER COF ~.I

CYFLWYNEDIGI I

GALARGAN I

Y GWEITHIWR GORTHRYMEDIG.

FANDY TUDUR.

Advertising