Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

ADSAIN HIRAETH I

c OSEDD LLANGOLLEN, MEHEFIN…

Y DADGYSYLLTIAD.-''.I

AM - - - ER COF ~.I

CYFLWYNEDIGI I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFLWYNEDIG I I Mr. John J. Hughes, Glynllifon a Miss Mary Kerfoot, Penygelli ar eu huniad mewn priodas, Mehefin 14eg., 1907. Mor felus ydyw cerdded At allor hymen hen, Ac awel deg Mehefin Yn arllwys swynol wen; Mae serch yn siwr a'i siwrnai 0 hyd i ben ei thaith. Ac nid oes dim a'i rhwystrai I lwyr gyflawni'i gwaith. Fe wyddwn i, fy nghyfaill, Dy fod ar lwybr serch, Yn nghanol per-gyfrinion Paradwys mab a merch Fe wyddwn nas gallaset Yn hir fod wrth' dy hun, Am fod dy galon wedi'i dwyn Yn llwyr gan Mary gun. Fe ddwedaist wrthyf ganwaith Na byddai iti fynd, Ond pan y ceisiet wadu Dy galon gurai'n gynt Mae gwadu'n air cyffredin Yn hen eiriadur serch, Ond, pan yn gwadu-daw y gwrid I rudd y mab a'r ferch. Gan iti gael dy swyno A doniau Mary lan, Dymunaf iti fywyd Yn llawn o hedd a chan; Na ddeued ar eich aelwyd Am flwyddau hirion, maith- Un nodyn lleddf-i beri poen Na gwneyd eich gruddiau'n llaitb. Boed i chwi oes ddigymysg Yn llawn o wenau cun, A chydwelediad gadwo'r serch Fel beddyw-o'r ddi-hun; Boed i rosynau llwyddiant Bersawu- ar eich rhawd, Dan riniau serch boed i chwi fod, Heb un mynudyn tlawd. l PERORFRYN.

GALARGAN I

Y GWEITHIWR GORTHRYMEDIG.

FANDY TUDUR.

Advertising