Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

DADGYSYLLTIAD I'R PENRHYN.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DADGYSYLLTIAD I'R PENRHYN. I Anwyl Syr,—Yn eich papur bythefnos yn ol ymddangosodd llythyr gan "R.T." o dan y penawd uchod yn gwrthwynebu y cais teg a wneir o'r ardal hon am gael rhanu y dosbarth addysg, fel ag i symud yr anfantais mae Rheol- wyr yr ochr yma yn gorfod Ilafurio tano ar hyd y blynyddoedd. A gwelaf oddiwrth eich ad- roddiad o weithrediadau cyfarfod y Rheolwyr fod y Cadeirydd, y Parch. J. Rhydwen Parry, wedi gwneyd handle o'r llythyr hwnw, yn gys- tal ag o ymddiddan dau o wyr blaenllaw y Penrhyn i guro ein cynrychiolwyr ac i wrth- wynebu ein cais. Methwn a deall i bwy y mae yr adarduon hyn yn perthyn. Os ydynt gyda ni nid ydynt ohonom ni. Pa reswm sydd mewn gwrthwynebu cais mor deg ? Gwelir ar unwaith y byddai yn llawer mwy hwylus i'r Rheolwyr pe rhenid y dosbarth. Nid yw sylw y Cadeirydd am anghofio hwylusdod person- ol a bod yn barod i aberthu" ond gwynt a gwagedd. Rhwydd y gall ef siarad felly tra y bydd y cyfarfodydd wrth ddrws ei dy. Ond nis gallwn ni weled paham y dylem oddef i'n cynrychiolwyr gael eu cospi fel hyn a chost- au diangenrhaid, na pha fodd y mae gwario ofer yn aberth dros addysg, na phaham y dylai yr aelod ffyddlonaf fod fwyaf ar ei golled. Paham na ellir rheoli yr ysgolion mor effeithiol o'r Penrhyn ag o Ffestiniog ? Nid oes neb wedi dangos nyny ac nid wyf yn gwybod fod llai o adnoddau hunanlywodraethiad yma nag, yno neu yn unlle arall. Fe ddangoswyd gan Mr R. T. Jones y byddai y "dosbarth yma yn fwy wedi y rhaniad nag ydyw rhai y Bala a Chorwen. A pha fodd y mae y rheiny yn cael' llywodraethu eu ty eu hun a ninau yn gorfod byw ar aelwyd pobl eraill. Beth bynag ddyw- ed R.T." 3.'r "ddau wr blaenllaw," mae rhai ohonom yn credu ein bod wedi aros yn rhy hir o dan gysgod Ffestiniog, ac nas gallwn byth ddisgwyl perflaith chwareu teg tra mae aelodau y pen yna mewn mwyafrif gorlethol ar y bwrdd. Mae y ffaith fod cyngorau plwyfi y Penrhyn, Talsarnau a Llanfrothen wedi pasio penderfyn- iad o blaid cael ffurfio dosbarth ar wahan, yn ddigon o wrthbrawf i'r hyn adroddai Cadeir- ydd y Rheolwyr ar ol y "ddau wr blaenllaw nad oes teimiad yma o blaid rhanu ond yn hvtrach fel arall.—Yr eiddoch, J HOME RULER. I

PWYLLGOR ADDYSG FFESTINIOG…

VWYVWWVWWWVVVVVWVVVW BLAENAU…

IBoddiad tri yn Blackpool.

I- 11 - 11 - I I DyfodoP Coleg…

-CHWARKLI A CHWAREL WYRI FFESTINIOG.

Y Darllawdy a'r Seti.VYYVI

AT EIN GOHEBWYR.I

I Llwyddiant dau o Fechgyni…

Mr D. Lloyd George a'r Arglwyddi.

Deuddeg Gwesty ar Dan.I

Family Notices

Advertising