Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

DADGYSYLLTIAD I'R PENRHYN.…

PWYLLGOR ADDYSG FFESTINIOG…

VWYVWWVWWWVVVVVWVVVW BLAENAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

VWYVWWVWWWVVVVVWVVVW BLAENAU FFESTINIOG. Mae E. B. JONES & CO., Canton House. yn dymuno hysbysu eu bod yn parbau i Werthu y Bara Anferth (yn pwyso chwe, phwys yr un) am Chwe'cheiniog. LLWYDDIANT MR. J. VERNON LEWIS. —Mae yn yr ardal hon lu o rai sydd yn cymer- yd dyddordeb dwfn yn ngyrfa addysgol Mr. J. Vernon Lewis B.A., B.D., gweinidog bwriad- edig Eglwys Jerusalem, a bydd yn dda gan y cyfryw rai ddeall ei fod newydd enill y Proctor Travelling Scholarship, gwerth [50, yn ngholeg Mansfield. Llongyfarchwn ef ar ei lwyddiant. Bwriada Mr. Lewis gychwyn yr ail wythnos o Orphenaf i dreulio oddeutu mis yn yr Almaen. Gwelir ei fod wedi ei gyhoeddi i bregethu yn Jerusalem y Sabboth nesaf. EISTEDDFODOL.-Gwelwn hanes Bryfdir yn llwyddo yn Eisteddfod Towyn ddydd Gwener diweddaf. Cafodd wobr yno am y Farwnad oreu i'r diweddar Barch. T. Tywynog Davies. Cammolai y Parch H. Elfed Lewis y gystad- leuaeth yn fawr. Tywydd gwlyb-ond newydd da, sef fod Bara gwyn diguro anferth am chwe'cheiniog yr un ar werth gan E. B. Jones & Co. Nis gell- wch wneyd yn well na rhoddi prawf arnynt. Yn sicr, bydd yn dda gan luaws cyfeillion Mrs. Thomas, Viewfield House, ddeall ei bod yn gwella yn rhagorol. Gobeithiwn adferiad buan iddi i'w chynhefin iechyd. CYFARFOD YSGOL.—Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol arbenig prydnawn Sadwrn diweddaf, am 5 o'r gloch, yn nghapel y Garregddu. Llyw- yddwyd gan Mr. H. Ariander Hughes. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol:-(l), "Awgrym- wyd mai priodol fyddai i weithrediadau y Pwyllgor Cerddorol fyned trwy y Pwyllgor Cyfarfod Ysgol, cyn dyfod i'r Cyfarfod Ysgolion." (2), Mai priodol fyddai i Bwyllgor y Cyfarfod Ysgol fod vn aelodau o holl bwyllgorau perthynol i'r Cyfarfod Ysgolion." (3), "Fod y manylion arferol i fod yn Llyfr y Gymanfa," (4), Maiy Parch. D. Jones, Garregddu, oedd i ysgrifenu yr Anerchiad." Prif waith y cyfarfod hwn oedd derbyn argymellion y Pwyllgor Cerddorol gogyfer a dewis gwaith at y ddwy Gymanfa nesaf, ynghyd ac arweinyddion, &c., yr hwn sydd fel y canlyn: Yn nghwyneb y cwynion parthed fod Llyfr Cymanfa y Plant mor hwyr yn dyfod i law bob blwyddyn, pasiwvd yn y Cyfarfod Ysgol diweddaf, i awgrymu i'r Pwyll,; gor Cerddorol, un o ranau Llyfr Hymnau r, Thonau yr Ysgol Sabbothol, eiddo y Cyfundeb," a bu i'r Pwyllgor hwnw ddewis y Rhan 3ydd. Pasiwyd yn unfrydol; hefyd fod i'r gwahanol ysgolion ofalu am danynt eu hunain. Gogyfer a rhaglen y Gymanfa Gerddorol awgrymwyd y tonau canlynol :-St. Saviour, Rhad Ras, Inocence, St. Ann, Eli, Bryneynlais. Win- chester, Vesper Hymn, Gwilym, Yr hen 50fed, Trefdraeth, Cysur, Dolwyddelen, Carmel, Jab- ey. Pasiwyd hwy oil. Yr oeddynt wedi enwi y Salm-don Trwy Ddirgel Ffyrdd,"a'r Cyfan- waith, Salm Gobaith," (Dan Protberoe), ond gan fod ei.phris yn uchel (er ef bod wedi ei gostwng o 8c i 4c,) cynygiwyd Hear my Prayer yn ei lie, yr hon oedd erbyn hyn a Geir- iau Cymraeg iddi, a'i phris yn lc. Wedi peth siarad, anfonwyd y cynygiad hwn yn ol i'r Pwyllgor Cerddorol i'w ystyried yn mhellach. Dewiswyd Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., Aber- ystwyth, yn Arweinydd y Gymanfa Gerddorol; a Mr. John Lloyd Edwards, A.c., Gelli Isaf, yn Is-arweinydd. Arweinydd Cymanfa y Plant, Mr, Morgan E. Phillips, B.SC., G.T.S.C., Higher Grade School. Arholwyr Cerddorol, Mr. John T. Williams, A.C., a Mr. W. Morris Williams, A.c,, Tanygrisiau. Cyfeilwyr :-Y Gymanfa Gerddorol, Mr. John H. Evans, Bethesda. Cymanfa'r Plant, Miss Jennie Owen, Garregddu.—Darllenodd y trysorydd, Mr. G. G. Davies, Rhiw, lythyr oedd wedi ei dderbyn oddiwrth Is-arweinydd y Gymanfa Gerddorol ddiweddaf, sef Mr. Evan R. Morris, Garregddu, yn cyflwyno y Cheque oedd wedi ei dderbyn am Zi Is Oc yn ol, fel arweinydd y Rehearsals, gan deimlo ei fod wedi cael digon o dal yn y gwaith. Pasiwyd diolchgarwch mwyaf gwresog iddo.—Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. John Owen, M.A., Bowydd. YMWELIAD A'r TY MAWR, GWIBERNANT. —Y Sadwrn diweddaf ydoedd y diwrnod apwyntiedig gan Ddosbarthiadau'r Gauaf Brynbowydd i ymweled a'r fangre gysegredig —sef cartref y marwol anfarwol Wm. Morgan, D.D., cyiieithydd y Beibl i hen iaith ein tadau. Cychwynwyd am orsaf y L. & N. W. Ry., am y tren haner awr wedi deuddeg i Dolwyddelen, er gwaethaf yr hin yr oedd pawb o'r cyfeillion mewn yspryd rhagorol. Wedi cyrhaedd Dol- wyddelen yr oedd y cyfaill Humphrey Roberts yn cymeryd ei safle fel arweinydd, gyda llaw ef ydyw Moses y Dosbarthiadau hyn, gwnaeth ei waith yn ddidramgwydd a chyrhaeddwyd pen Nebo yn brydlon a'r cwestiwn cyntaf gafwyd gan y merched oedd-faint sydd tan amser te, ac yn ddiymdroi awd at y gwaith a chafwyd gwledd ragorol, caniatewch i mi yn y fan hon ddiolch i rai o'r brodyr am y dan- teithion arbenig-sef y tongue a'r tomatos, ac hefyd i'r brawd ieuangc hwnw am ofalu am y siwgwr, nid rhyfedd fod y merched yn canmol melusder y cyfryw, pan gofiwn pwy ydoedd y prynwr. Wedi hyn aethDwvd at v rhan bwvs- icaf y gwaith, sef cael math o gyfarfod amryw- iaethol, cymerwyd y llywyddiaeth gan ein parchus Weinidog y Parch. Goerg Davies, B.A. Yr oedd yntau yn edrych mor hoyw a bachgen deuddeg oed (er ei fod yn hen langc). I ddechreu cafwyd cAn gan Mr. Gwilym Morris. Anerchiadgan Mr. Humph- rey Roberts. Can gan Maggie A. Williams. Anerchiadau Barddonol gan Mri. J. R. Jones a John Roberts. Gair gan Mr. Griffith Jones. Anerchiad gan y llywydd. Wedi canu emyn awd i weddi gan yr hen batriarch Griffith Jones a byny ar garreg yr hen aelwyd. Yn sicr cofir am y daith hon yn hir gan fod pawb o honom wedi derbyn bendithion i gorph, meddwl, ac yspryd. Clywais fod tri o'r dys- gyblion wedi myned i bysgota, a'u bod yn ffodus iawn i allu bwrw y rhwyd y tu dehau i'r llong.—DYSGYBL. A glywsoch chwi am y Bargeinion diguro sydd yn Shop E. B. Jones & Co. Pine Apple (Chunks), yn pwyso 2* bwys am 5c yr un, a Pears mewn Tins am 5jc; Aprecot mawr am 6jc. YMFUDO.—Parhau i adael yr ardal y mae llawer o ddynion ieuaingc a phenau teuluoedd. Aeth nifer fawr i ffwrdd Llun am y Deheudir, a sonia llawer am groesi Mor y Werydd. Gwelsom y cyfaill ieuainc David Owen Jones, 10, Oxford Street, mab Mr John Jones, Bwlch Slaters, ac hysbysodd ni ei fod am ddychwelyd i America lie y bu yn flaenorol. Dymunwn lwydd yr oil yn eu lleoedd newyddion. CYMDEITHAS CHWAREL MAENOFFEREN.— Y mae Mantolen y Gymdeithas hon wedi ei chyhopddi, a bydd y cyfarfod blynyddol o'r aelodau yn cael ei gynal Gorphenaf 3ydd. Y swyddogion ydyntLlywydd, Robert Jones; Trysorydd, Edward Lloyd; ysgrifenydd, David E. Jones. Y mae yr ysgrifenydd selog a gweithgar yn deilwng o glod am y modd bodd- haol y gwna ei waith. Bu chwech o'r aelodau yn y Cartref yn Rhyl; a bu farw dau o'r ael- odau. Rhanwyd 202p. 16s. 9c. mewn claf- daliadau, ac er y tynu trwm fu o'i thrysorfa y mae 17p. 8s. 6c. yn aros wrth gefn. Mae digonedd o Fenyn Fresh am 11c y pwys. Lard Gwyn goreu am 6c y pwys; Siwgr Gwyn bras am 2c y pwys gan E. B. Jones & Co., Canton House. GWERTHU DODREFN.—Gwelir fod Mr. John Davies yn gwerthu dodrefn rhagorol yn Bryn- tegai ddydd Sadwrn nesaf. Bydd yno gyfle rhagorol am fargeinion. ISALLT. Hyfryd genym ddeall am yr hybarch Dr. Roberts (Isallt), wedi bod yn abl i dalu ymwelwad a'i frawd Dr. John Roberts, Caer ac y mae yn teimlo lawer yn well ar ol bod yno. CYSTADLEUON NEWTOWNJ Da genym weled fod y Cor Meibion a'r Seindorf mor galonog at y gystadleuaeth uchod ddydd Sad- wrn. Dymunwn alw sylw at amser y tren i gychwyn :—7-45, ac nid 7-47, yw yr amser i gychwyn o OrsRf y Diphwys. Dyma gyfle rhagorol igael gwibdaith i le dymunol dros ben, a hyny am y pris isel o 4/- MR. LLEWELYN ROBF-RTS.-Deallwn nad oes dim newyddion diweddarach wedi dod i law yn nghvlch Llewelyn Roberts, Aelybryn n t/r hyn ymddangosodd yn ein Newyddiadur diweddaraf yr wythnos o'r blaen, ond y mae'r teulu yn liawn pryder yn dysgwyl gair. Mis i dydd Sadwrn diweddaf yr oedd Llewelyn yn galw heibio gyda'i chwaer Miss Roberts yn New York ar ei ffordd o Georgia un o'r Taleith" iau deheuol i Bangor, Pensylvania, ond yn mhen llai na bythefnos wedi cyrhaedd Bangor, cafodd ei daro yn wael, a Miss Roberts ei chwaer erbyn hyny yn croesi drosodd i'r wlad hon, heb glywed dim am ei waeledd hyd ar ol glanio yma.—Y mae Miss Roberts ar hyn o bryd ar ei theithiau drwy rai o wledydd y Cyfandir, ond bwriada ymweled a chartref cyn myned yn ol. LLWYDDIANT MORWROL.-I)a genym gael ar ddeall fod Mr. Owen Roberts, Bryn Llys, wedi myned yn llwyddianus trwy Arholiad Bwrdd Masnach, mewn Morwriaeth, ac wedi enill yr anrhydedd i fod yn Gadben. Yr oedd yn gweithio fel creigiwr yn Chwarel y Llech- wedd ychydig flynyddoedd yn ol. 0 galon yr ydym yn dymuno pob hapusrwydd a llwydd- iant iddo yn y dyfodol. Y mae Captain Roberts yn fab i Mr. John M. Roberts, un o oruchwylwyr Chwarel y Llechwedd. DIRWESTOL.-Cynhelir Cyfarfod Dirwestol yn yr awyr agored gerllaw gorsaf y Duffws nos Sadwrn nesaf arp 6-30. Pryd yr anerchir y cyfarfod gan y Parchn. D. D. Jones, Rhiw a Lloyd Owen, Bontddu.

IBoddiad tri yn Blackpool.

I- 11 - 11 - I I DyfodoP Coleg…

-CHWARKLI A CHWAREL WYRI FFESTINIOG.

Y Darllawdy a'r Seti.VYYVI

AT EIN GOHEBWYR.I

I Llwyddiant dau o Fechgyni…

Mr D. Lloyd George a'r Arglwyddi.

Deuddeg Gwesty ar Dan.I

Family Notices

Advertising