Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

I ^•©ddf lawn i Wasan-I'('--.aethyddion.I

- -- -- - - -- -_ Cyngor Dinesig…

TREMADOC.yy-..I

.yvyyyvvYBORTHYGEST.yYYTTT-'I

I Gwleidyddiaeth a Thenantiaeth.

Arian trwy Freuddwyd.I

-Ffair Criccieth.I

Ei Ladd gan Fellten. I

Diangfa Gyfyng .i Blentyn.…

Twyll Ariandy.I

f Dim am Ymneillduo.

Anobaith Benthycwyr. I

-Ofn -Ysbrydion Drwg.

Bwyta Cig Own a Cheffylau.…

Advertising

;O'R PEDWAR OWR.

Heddlys Porthmadog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Heddlys Porthmadog. Dydd Gwener, o flaen Dr. Griffith ac Ynadon eraill. MEDDW.—Cyhuddwyd Owen Jones, Llan- frothen, o fod yn feddw tra yn gofalu am geffyl a cherbyd yn Nhremadog. Profwyd yr achos gan yr Heddwas 16 (Jones).—Dirwywyd y diffynydd i 2/6 a'r costau. CREULONDEB AT GEFFYL. Gwysiwyd Richard Thomas, Chapel Street, y dref hon, gan yr Arolygydd Rowland Jones (o'r Gym- deithas er Atal Creulondeb at Anifeiliad), o ymddwyn yn greulon at geffyl.—Tystiodd yr Heddwas Jones (19), iddo weled y diffynydd gyda cheffyl a cherbyd. Dilynodd ef i iard la, ac yno archwiliodd y ceffyl, a gwelodd friwiau ar ei gefn, y rhai a edrychent yn boenus. Gorchymynodd i'r diffynydd i beidio ei weithio. —Rhoed tystiolaeth pellach gan yr Arolygydd Rowland Jones.—Nid oedd gan y diffynydd ddim i'w ddweyd.—Dirwywyd ef i 1/- a'r costau. GADAEL EI WRAIG.—Gofynodd Margaret Jones, 40, Chapel Street, Porthmadog, am archeb gynhaliaeth yn erbyn ei gwr, O. Jones, yr hwn a weithiai fel glowr yn Ne Cymru.- Ymddangosai Mr. T. Garth Jones dros y wraig. —Gwnaed archeb i'r diffynydd dalu 10/- yr wythnos a'r costau. ACHOSION ADDYSG 0 NANTMOR.—Cyhudd- wyd David W. Parry, Hafod y Llyn Isaf, Nant- mor, gan J. W. Jones, Swyddog Presenoldeb yr Ysgolion, o esgeuluso anfon ei fachgen i'r ysgol. Dywedai y diffynydd ei fed o dan yr argraph fod caniatad i esgusodi plant o'r ysgol ar ol cyrhaedd safon neillduol, ac os oedd y bachgen bron yn 14eg. Credai fod ei fachgen i fyny a'r gofynion.-Tafiwyd yr achos allan.— Cyhuddwyd John Williams, Garth Llygad y Dydd, Nantmor, o'r un trosedd. Dywedodd y Swyddog Presenoldeb i'r diffynydd ddyweyd wrtho i'r bachgen gael ei orchymyn gan yr Ysgolfeistr i aros gartref. Yr oedd yr Ysgol- feistr wedi addef wrtho ef (y tyst) iddo ddyweyd wrth y bachgen mai gwel1 fyddai iddo aros gar- tref os na fedrai ymddwyn yn briodol yn yr ysgol. Taflwyd yr achos allan.—Yr oedd cy- huddiad cyffelyb yn erbyn Richard Griffith, Bronmeiricn, Nantmor. Mr. T. Garth Jones oedd dros y diffynydd, a dadleuai fod gan y bachgen hawl yn ol ei oedran a'r safon oedd ynddi yn yr ysgol i gael ei esguscdi.- Taflwyd yr achos yma hefyd allan.