Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODI AD AU WYTHNQS01. ! NODIADAU…

Advertising

I r:;::l:-=___I I - Adnabyddus.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I r:l:-=_I I Adnabyddus. i [ I Rhaid fod Syr James Kitson yn cyfrif fod cael ei symud o Dy'r Arglwyddi yn ddyrch- afiad, onide ni fuasai yn cydsynio i gael ei drosglwyddo felly. Mae er's llawer o flyn- yddoedd yn cynrychioli rhanbarth Colne o swydd Gaerefrog, yn Nhy'r Cyffredin, a ofnwn ei fod yn fwy na phosibl y bydd i'r sedd yn awr syrthio i ddwylaw y Toriaid. Nid oedd mwyafrif Syr James y tro diweddaf y gwrthwynebwyd ef ond ychydig ganoedd, a'r pryd hyny ni ddaeth ymgeisydd Llafur i'r maes. Yn awr mae Mr. Victor Grayson wedi ei ddwyn allan gan Blaid Llafur a'r perygl ydyw y cyll yr ymgeisydd Rhydd- frydol ddigon o bleidleisiau i oIIwng y Ceid- wadwri i fewn. Mr. Phylip Bright (perth- ynas i'r diweddar John Bright) sydd yn ymladd brwydr Rhyddfrydiaeth, ac yr ydym yn deall ei fod yn Rhyddfrydwr o'r iawn ryw. Mr. Wheeler ydyw dewis-ddyn y Toriaid, ac y mae yn ddiffyndolkvr rhonc. Mae'r ffaith fod Mr. Victor Grayson y Sos- ialydd yn gwneyd ei ragolygon yn dywyllach nag y buasent amgen. Rhaid i ni gredu ei bod yn gwneyd ei ddychweliad yn anhebygol i'r eithaf, ac mai y Toriaid a fanteisiant ar ei ymgeisiaeth. Gwyr eraill sydd wedi cae! eu hanrhydeddu ydyw Mr. Frank Edwards, A.s. (cynrychiolydd Maesyfed, a'r Milwriad Ifor Herbert, A.S. (Deheubarth Mynwy) y rhai ydynt wedi eu gwneyd yn farwnigiaid, a'r Dr. John Rhys yr hwn sydd wedi ei wneyd yn farchog. Cyn belled ag y mae y teitlau hyn yn cael eu rhoddi fel cydnabydd- iaeth o wasanaeth eithriadol y maent yn werthfawr ond tra y cydnebydd pawb was- anaeth gwerthfawr Dr. Rhys i lenyddiaeth Geltaidd, anhawdd fyddai i neb ddywedyd pa peth a wnaed gan Mr. Frank Edwards a'r Milwriad Herbert i beri iddynt gael eu hanrhydeddu fel hyn. Mae'n ddigon gwir fod Mr. Edwards yn Rhyddfrydw r cyson a chryf, a bod y Milwriad Herbert (er yn Babydd) wedi profi ei hun felly trwy roddi cefnogaeth aiddgur i'r Mesur Addysg flwy- ddyn yn ol, ond nid ydym yn tybied y buasai yn anhawdd cael eraill i'r rhai y mae Cymru a'r deyrnas yn fwy dyledus nag ydyw iddynt hwy. Da fyddai genym weled y Brenin yn anrhydeddu gwyr ag y mynai y wlad eu hanrhydeddu. Yn achos Dr. John Rhys yn unig o'r Cymry y mae wedi gwneyd hyny. Wedi dywedyd hyn yr ydym yn dymuno nid iddo ef yn unig ond i'r Ileill hefyd bob daioni a hir oes i fwynhau yr an- rhydedd sydd wedi ei rhoddi arnynt.

Mesur y Tenantiaid Gwyddelig.…

Geiriau heb Ystyr..I

Y Gymtaf o Orphereafi.I

Beiddgarwch Mr. John Redmond.

Seisnig a Phrydeinig. - -…

Y Cwestiwn Pwysicaf. ;.af

Y Barnwr Moss a'r Gy"ir°e„…

Sugno y Gwerwyn. Iwf