Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
TANYGRISIAU.I
TANYGRISIAU. I PREG^TH.—Nos lau diweddaf yn Nghapel prphwysfa (W.) bu y Parch Isfryn Hughes traddodi pregeth i gynulleidfa dda. I EDI ENILL.-Y mae yn bleser genym 'OuWar(?h Cor Plant Bethel yn hyda'u arwemydd Mr. W. M. Willirms (ieuj, ar eu SWaith yn enill y wobr yn Eisteddfod Traws- !Iaydd y Sadwrn diweddaf. Hefyd a'r lwydd-  John Hughes a'i gyfaill yn cipio y *Obr am ddeuawd. Dymunwn hefyd longyf- ?? em cymydog Mr. Cadwaladr Roberts yn jOjSgb oyaa Chor Meibion y Moelwyn areu llwydd- 1 yn Newtown yn enill yr ail wobr. Ac yn ab glywsom, buont o fewn ychydig i gipio y wobr gyntaf. w 0 R AMERICA.—Diwedd yr wythnos ddi- adeddaf daeth Mr. Richard Jones, Fron Haul Yn ref 0 wlad y Gorllewin. Cyfarfu a damwain w .beth amser yn °1' a da genym ddeall ei fod ?Qt dod yn llawer gwell na'r ofnau • a hyder ft 31 caig adferiadllwyr eto i alio dilyn goruch- w7liO,l bywyd. Y mae yn edrych yn bur dda r11 ^YMUD'—Deallwn fod Mr. William yr eilliwr adnabyddus yn yr ardal hot, a'i deulu yn bwriadu symud i wneyd trefn ar ?yoebau y Deheuwyr yr wythnos hon; ond ? raid digaloni er hyny, y mae yma un arall !a'? -a ?ySym yn aros eto yn Penybont, ac 7 e ei arfau miniog ef wedi profi yn drech laa .I I farfau yr ardal hyd yn hyn. Awn ato i ?OG.—"Amser y Gog ganu, yw Ebrill a ??' a rhan o Fehenn," ond eleni y mae i'w chlywed yn pyngcio canu yr wythnos hon, yr y?Bos gyntaf o Orphenaf. ?'FARFoD GWEDDI.—Yn unol ar hyn a baa ^yd yn y cyfarfod Dosbarth, cynhaliwyd cyf gweddi arbenig i ddiolch ac i ymost- *Dg ger bron yr uchel Dduw, yn wyneb cyf- Yllgdr" masnach, a'r tymor gwlyb presenol. cj *yd cynulHad da, a gweddiau taer. A da g weled nad yw cyfarfod o'r natur yma yn rhy hen ffasiwn; ond ein bod  ? gredu yn llywodraeth fanwl Duw ar y 1)7d a I boll amgylchiadau. Disgwyliwn wrtho, g fwrw eich holl ofal arno ef, canys y mae e Yn gofalu trosoch chwi. v»YMDEIMLAD. -Gyda syndod a thristwch ? ?yaiasom y newydd am farwolaeth Mr. c?" Owen, Trethgasglydd. Gwr hynaws a eh4edig i bawb oedd Mr. Owen, ac yn ad- ?yodus felly yn mhob ty yn yr ardal. Y mae ?. ?ydymdeimlad fel rhanbarth a'r teulu odus
.-HARLECH.-I
HARLECH. I p'?haliwyd Cyngor Plwyf Llandanwg Nos ?her, Mehefin 26. Yr oedd yn bresenol ??' John Morris, Is-gadeirydd, Morris Jones, ??awr, Gth. Jones Williams, Morris Jones, Ta,ltwthill. Owen Morris a Robert Owen, y r?- Darllemvyd a chadarnhawyd cofnodion 0^jTnghor diweddaf. Gohebiaethau—Llythyr oddllvrth Mr. Breese ynghylch cynymdra cpyf??io! y gall Motor Cars' fynd trwy'r p?' Llythyr oddiwrth Mr. Thomas Rob- ^ts "0rtmad°g, yn dweud ei bod yn hollo?deg i'r P ?gor i dalu extra i'r Assistant Overseer d??sglu arrears y dreth y flwyddyn oedd yn 'Iddil Mawrth diweddaf. Llythyr oddlwrth g Or Plwyf Talsarnau yn dwyn i'n sylw ??e'? ?cusdra teithio ar linell y Cambrian, ac pY4?gofyn i ni enwi dau i wneyd i fyny ddir- Yaeth i gyfarfod Mr. Gough ynghylch y tnat er. Pasiwyd ein bod yn cydymffurfio a'r cais ??c p ?'yd Mr. Griffith, Post Office, a Mr. John ?4, ??' Gwyddfor, i'w cynrychioli ar y ddir- p;?, ?aeth. Pasiwyd i arifon at Mr. Ansell, i rif Y'l iddo dacluso ardd y dref. Mae hi yn !?.'N"ilYdd 1-1 gweled fel ac y mae ac yn warth Penygraig.-Gan fod teimlad Jn r.l. n°l "?? ydyw llwybr newydd Penygraig ? hnn? °°t? oddhaol ac fod yn bosibl ei wella, P?s- ?" ?od yr aelodau canlynol i gyfarfod Mr. Mor6-ar y Ilwybr brydnawn ddydd Sadwrn am kw'?ch, sef Wm. Edward Griffith, John Morris, ,or *ones. ntmawr, Gth. Jones Williams, 0? A 0rris' David Pugh, Morris Jones, Tan- t??.?orrls, David Pugb, Morris Jones, Tan- ?vd ? ??c, i wei'd beth fyddai yn oreu  ? ychwanegol. Fod sylw arffeir- ? Pr ''?ch, ac hefyd y lampau i fod yn y CysQor nesaf. Pasiwyd i dalu dau o nliau.
Vh PENMACHNO.----I
Vh PENMACHNO. I  ?*L Nos.-Da genym hysbysu holl *?rb ?? ? RHEDEGYDD fod yr Ysgol Nos ? sefvii y? uchaf drwy y Sir; ac y mae hyn Vn mawr i'r ysgolheigion a Mr. D. 11.   ??? mawr i'r ysgolheigion a Mr. D. ?' ?Hn a Miss M. Lloyd Jones, Athrawon. ?y??jj??ME' lRCH AC EBENESER, (M.C.)- ) d SuI pregethai Mr. W. John Roberts yn y ddau addoldy uchod. Doeth iawn oedd ?aith y Yddogion yn rhoi Sabbath iddo. Yn),, ??am y Weinidogaeth gyda'r Wes- 'ey?ydyw y brawd, ond gwelir fod cariad bt?j V? teyrnasu yma. Tp??OLiAD.—prydnawn lau, yn Swyddfa Ch?ar "???chno, gerbron Mr. J. Pentir ?Iiam ?' Trengholydd Arfon, a Rheithwyr, ''trba-??? y Parch. Owen Jones, Wigan, fla cynhaliwyd trengholiad ar gorph ?'ard*??Shes, Rhosgoch, Cwm, yr hwn a fu l?d Warlig es, Rbosgocb Cwm, yr hwn a fu r3, ria,?vn dydd Mawrth. Y Tyst cyntaf ? ?\w? 06^ William Griffiths, Brawd-yn- ?ghy? ?" ? ymadawedig, yr hwn wrth i'r ?ren? i rel,, 0 ? holi a ro^dodd y dystiolaeth ?tyn? n! ?'? ?? corph Edward Hughes y bu Yr hwyr y??olwg. Yr oedd yn 46 mlwydd l,.1 byw yn Cwm, Penmachno, ac yn 9 elt10 M hwarelwr yn Chwarel Rhw- '?Qo T? y??? yn arfer ymwneyd a'r ddiod ?\VQl °?? nid oedd o arferion ofer. Ni ?dai ? "??? yn sobr nos Wener. Cafodd ei ?' tu- ?'o'r gloch, a gwelodd y trancedig ? 1? ? ? droed y grisiau yn anymwybodol. Py?eda' brad y trancedig wrtho (y tyst) ei '??e? ??'° 0 ben grisiau y Hoft; yr oedd ? hoH? ddiymadferth, a methai y tyst a'i 8odi y? °? arogl diod arno. Daeth ato ei ?Q vmah oddeutu haner awr, a chwynai gan ^en. 'a ° yr oedd yn ymddangos mewn poen dirf r Aeth Y tyst oddiyno ar ol ei gael i'w wely gan ei fod eisiau llonydd i gysgu. Gwel- odd ef wedi hyny prydnawn Sadwrn. Edrych- ai yn well, ond yr oedd yn amlwg ei fod yn teimlo oddiwrth y boen. Gofynodd iddo a gawsai fyned i nol y Doctor, a dywedodd y trancedig, Na chei, cer i lawr am dipyn i mi gael Ilonydd." Bu gydag ef am awr. Rhyw- beth yn debyg oedd ef tua 9-10 nos Sadwrn, yn dweyd fawr ond eisiau llonydd. Dydd Sul, gwelodd ef wedi codi i'r llawr. Gofynodd iddo sut yr oedd, ac nid atebodd ef. Gofyn- odd wedi hyny a oedd yn well, ac atebodd fod ei ben yn brifo. Aeth yn ol i'w wely. Dal yn ddigon syml yr oedd y prydnawn, ac yncwyno. Galwodd y tyst ar y meddyg, er fod y trancedig yn erbyn gwneyd. Nos Sul, siaradai yn iawn a chymerodd ffisyg tua 10-30, yr oedd arno eisiau cysgu. Gwelodd ef wedi hyny tua 5 nos Lun yn y llawr, ar ei liniau ar y bwrdd, mewn poen mawr. Bu yno ar blyciau tan tua haner nos. Gwelodd ef wedyn prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd ynddrwg iawn, ac yn marw yn brysur."—Elizabeth Lewis, Peniarth, a dystiai ei bod yn Rhosgoch, prydnawn dydd Mawrth. Just ddod yno am rhyw ddwy awr. Yr oedd Edward Hughes wedi myned i'w wely, a chododd yn reit sydyn rhwng un a dau o'r gloch, rhoddodd hithau ef i eistedd ar gadair, ac fe estynodd ei esgidiau iddo; rhoddodd un am ei draed, ac fe aeth i grynu i gyd, ac mi lithrodd i lawr oddiar y gadair. Dr. Williams, Penmachno, a dystiai iddo gael ei alw yno y Sul yr oedd y trancedig yn ei wely, a golwg synllyd arno. Cwynai gan boen yn ei ben a'i dalcen. Gwnaeth archwiliad manwl arno, ac yr oedd W. Griffith y tyst blaenorol yn bresenol. Nid oedd yn gallu canfod unrhyw asgwrn wedi ei dori, ond yr oedd yn awyddus iawn am iddo arcs yn ei wely. Cafodd gwrs o godwm; ni chanfydd- odd yr un briw. Archwiliodd y oorph hefyd cyn y Trengholiad, ac nid oedd un briw arno. Clywodd fod gwaed wedi dod o'i enau, ac un o arwyddion toriad asgwrn base y scull oedd gwaed o'r genau, ffroenau, a'r clustiau; ond yr oedd wedi brathu ei dafod, a hyny oedd yn cyfrif am y gwaed. Galwyd ef wedi hyny dydd Mawrth, ac yr oedd mewn ystum an- ymunol ar gadair. Cyfarwyddodd hwy i wneyd gwely iddo yn y llawr, a helpodd hwy i'w symud iddo. Fel achos y farwolaeth gallai ei fod wedi cael stroke ar ben y grisiau. Fel y mae yn wybyddus, yr oedd yn arferol ac ym- wneyd a'r ddiod feddwol, ac y mae gwaed lestri y rhai sydd yn ymwneyd a'r ddiod yn freuach, ac felly yn fwy tueddol i stroke.—Y Trengholydd wrth symio i fyny a ddywedodd ei fod yn achos pur ddyrus, ac mai y cwestiwn oedd gan y rheithwyr i'w benderfynu oedd yn ol y tystiolaethau a gafwyd ydoedd Pa un a oedd y trancedig wedi cael stroke ar y grisiau, ac i hyny achosi codwm a'i ynte cael codwm ac i hyny achosi stroke." Neu mewn geiriau eraill, "Pa un a'i marwolaeth ddamweiniol a'i naturiol oedd." Ymneillduodd y rheithwyr am ychydig. Ar eu hymddangosiad hysbysodd y blaenor iddynt basio i Edward Hughes farw o" farwolaeth naturiol."—Pasiwyd penderfyn- iad o gydymdeimlad a'r teulu ar gynygiad blaenor y rheithwyr.
MAENTWROG. - I
MAENTWROG. I FFARWELIO A'R HEN GAPEL.-Fel y cry- bwyllwyd yr wythnos ddiweddaf, yr oedd y Sabboth diweddaf yn ddydd yr edrychid yn mlaen ato gan An,nibynwyr Gilgal, gyda theim- ladau cymysglyd, am mai dyma y Sabboth olaf iddynt i gydaddoli yn yr hen deml. Dyma hefyd y Sul olaf i'r Parch W. Williams wasan- aethu fel Gweinidog yr Eglwysi yn Gilgal ac Utica, ar ol bod yn eu bugeilio am y cyfnod maith o dros ddeng mlynedd a'rhugain. Yn y boreu, pregethodd Mr. Williams oddiar y geiriau yn Genesis, xxvii, 17. "Ac efe a ofnodd ac a ddywedodd, mor ofnadwy yw y lie hwn, nid oes yma ond ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Sylwai Mr. Williams, "Mor ofn- adwy yw y lie hwn," ac eto i gyd yr oedd yn fan dinod, yn fan anial, yn fan heb ddim yn ei amgylchoedd nac yn ei amgylchiadau ag oedd yn gosod y. pwysigrwydd na'r gwerth lIeiaf arno ac eto i gyd y mae yn cael ei godi i'r gwerth a'r pwysigrwydd uwchaf. Y mae yn dod yn fan anwyl a bythgofiadwy i Jacob. Y mae yn dod yn dy i Dduw, ac yn borth y nefoedd." Y mae wedi dod yn fan anwylaf i Dduw. Y mae ganddo Ei greadigaeth-Ei fydoedd, ond ty i Dduw, dyma y lie anwylaf ganddo. Y mae hwn hefyd yn lie anwylaf gan bob dyn gwir dduwiol. Gall fod ganddo etifeddiaethau, ond man ei ddyddordeb arbenig ydyw y ty—yn y ty y mae yn fwyaf cartrefol. Er y dichon iddo fod yn fan dinod-yn fan dibwys, er hyny, y mae yn cael ei godi i fod y llanerch mwyaf anwyl a chysegredig gan ei galon. Y mae yn dod yn borth y nefoedd iddo-yn dod y man anwylaf gan bob un sydd yn ymgynull iddo. Nid oes yr un man yn borth y nefoedd" i ni ond yn y ty. Y mae yn dod a'r nefoedd a'r ddaear i'r agosrwydd mwyaf i'w gilydd. Beth sydd yn ei wneyd felly, yn gosod y pwysicrwydd a'r arbenigrwydd hwn arno. Dyna ydyw, Duw a dyn wedi dod i'r agosrwydd mwyaf a'u gilydd,"—ysbrydoedd yn ymwneyd a Duw. Gwrthrych addoliad. Dyna sydd yn ei godi ac yn ei anfarwoli. Dichon ei fod wedi ei adeil- adu ar le diwerth, eto y mae yn fan i'n cym- hwyso i'r gymdeithas dragwyddol. Nid y lie, ac nid amgylchoedd y lie sydd yn ei godi, ac yn ei wneyd fel hyn, ond meddyliau ysbrydol- gweddiau angherddol yn cael eu hanfon at Dduw.—Teimladau yn cael eu cynyrchu na cheir mo honynt yn un man arall. A'r lie y mae y rhai hyn, y mae y lie hwnw yn "dy i Dduw, ac yn borth y nefoedd. Nid y lie a chysylltiadau y lie, sydd yn bwysig, ond y gwaith a wneir ynddo, a'r gwasanaeth dros Iesu Grist sydd yn cael ei gario yn mlaen ynddo. Beth bynag fydd ei ddiffygion, y mae hyn yn ei wneyd yn Dy i Dduw." Fu Jacob erioed yn y llecyn hwn o'r blaen. Ar ei daith yr oedd yn awr. Y mae yn debyg ei fod wedi myned ymaith dranoeth. Yr oedd mewn brys, ac er mor gysegredig ydcedd iddo, eto yr oedd yn myned i fan ei fwriad. Yr ydym ninau yn gadael y Gilgal hwn. Y mae wedi darfod felly a ni. Fe aeth Jacob o Bethel, i fyn'd i Swrdd ond aeth Bethel gydag ef, i aros gyd'ag ef mwy. Bethel sibrydir yn ei feddwl o hyd. Y mae yr Arglwydd yn dweyd wrtho" Dos i Bethel." Nid oedd Bethel wedi ei adael, er ei fod ef wedi gadael Bethel. Y mae yna filoedd wedi bod yn y Gilgal hwn, ond y maent erbyn hyn wedi myn'd. Y maent wedi ymwahanu, ond erys Gilgal gyda hwy byth. Nid yw Gilgal wedi myn'd ohonynt. Yma, cwrdd ac ymadael wnawn," yn yr ystyr isaf, ond yn yr ystyr uwchaf, ni thynir Gilgal byth o'n cymeriad." A dymay cwestiwn, nid beth ydym ni wedi fod i'r lie yma, ond beth y mae y fan yma wedi fod i ni., Y mae y fan yma i ni mewn rhyw ystyr, y beth'ydym ni wedi fod i'r lie. Ond nid yn hollol. Y mae Duw yn well i ni nac yr ydym ni iddo ef. Y peth sy'n ofnadwy o bwysig i ni ydyw, beth ydyw y lie wedi fod i ni. Waeth heb le i addoli heb addolwyr. Yr ydym am i chwi sylwi yn olaf, fod y lie yma i Jacob, fel teithiwr. Nid ydoedd i aros ynddo. Felly am y Gilgal hwn. Fedrai hwn roi i ni ond bendithion teithiwr. Yr oedd Jacob yn fwy cymhwys i fyn'd yn mlaen wedi bod yn Bethel. Yr oedd Bethel yn myn'd gydag ef bellach o ran ei ddylanwad o hyd. A dyma sydd yn bwysig ydyw, i ni fod yn anwyl o'r lie fel teithwyr. Nid ydyw ein gafael ynddo ond gafael teithiwr. Teithwyr ydym yma, ac nid ydym i aros am byth yn y Gilgal hwn, er mor anwyl a chysegredig ydyw y He i ni. Tabern- acl symudol ydoedd gan y Genedl gynt yn yr Anialwch. Yr oedd y Genedl yn ei symud yn ol eu cyfleusdra. Ond wedi iddynt ddod i Ganaan, cawsant deml, nid adeilad symudol. Tabernaclau'r Anialwch ydyw Addoldai ar y goreu, ond y mae yma deml yn yr ochor draw. Nid yw y t, hwn i gael ei dynu i lawr, ty nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd." Sylwodd Mr. Williams wrth derfynu, fod y fan yma yn lie ac yr oedd y nefoedd a'r ddaear yn dod yn agos iawn i'w gilydd, mor agos i'w gilydd, dim ond Ysgol rhyngddynt. Qwnaeth Mr. Williams gyfeiriadau ar y Cyfnod Maith y bu yn gwasanaethu yn Gilgal, ac yr oedd yn amlwg ei fod dan deimladau, ac felly yr oedd y Gynulleidfa hefyd. Yn yr hwyr drachefn pregethodd Mr. Wil- liams. Aethpwyd drwy y rhanau dechreuol gan Mr. J. R. Jones (Gerallt). Am fod y gynulleidfa yn gymysg, llawer a gyfeillion dyeithr wedi rhoddi eu presenoldeb yn oedfa ddiweddaf yn yr hen gapel, a'r oedfa olaf i Mr. Williams, ei fod wedi bwriadu traethu cenadwri arbenig i'r Eglwys yn Gilgal, ond am y gwelai luaws o frodyr a chwiorydd crefyddol enwadau eraill, tetmlai yn ddyledswydd arno i bregethu rhywbeth mwy cyffredinol, ac felly cvmerodd ei destyn yn Galatiaid v. 6. Yn ystod ei bregeth, cyfeiriodd at yr oedfa fel yr olaf yn yr hen gapel, a'r bregeth fel yr un olaf o'i eiddo iddynt fel gweinidog. Yr oedd yr Eglwys wedi trefnu i gael Cymundeb y noson olaf a'r Sabbath diweddaf yn yr hen gapel. Yn y gyfeillach a'r ol siaradwyd gan y Mri Richard Williams, Ty'nybryn; Edward Jones (M.C.), Llys Twrog Ellis Williams, Ty'nybryn, a J. R. Jones (Gerallt), y rhai a wnaethant gyfeir- iadau tyner at y Sabboth fel y diweddaf yn Gilgal, ac at y Sul hwnw fel yr olaf i Mr. Williams wasanaethu fel gweinidog y ddwy Eglwys. Dymunwyd pob llwyddiant a ded- wyddwch iddo ef a'r teulu. Yr oedd Mr. Joseph Lewis, Ty Nant, diacon hynaf yr Eglwys, yn absenol, oherwydd ei fod yn cyn- rychioli yr ysgol yn Gilgal yn y Cyfarfod Ysgol yr hwn a gynhelid yn Bethel, Festiniog, ac yr oedd y cyfeillion yno wedi trefnu iddo gymeryd rhan yn nghyfarfod yr hwyr, ac er iddo wneyd pob ymdrech i ymryddhau, methodd a llwyddo am y buasai hyny yn peri dyryswch yn y trefn- iadau. Wedi canu yr Emyn Os rhaid gwahanu'n awr am dro, I Mae'n felus iawn cael dwyn i go Gyfarfod pur y nef." Terfynwyd drwy weddi ddwys gan Mr Wil- liams. 0 LANBEDROG I FAENTWROG.—I'r lie di- weddaf yr oedd yr Annibynwyr LIanbedrog wedi penderfynu dod ac aelodau yr Ysaol Sul ac eraill, am eu trip blynyadol, a dydd Llun diwednaf, cawsant ddiwrnod hyfryd dros ben i ddod mewn dwy Charabanks ardderchog perth- ynol i Mr W. Eifl Jones, Pwllheli. Wedi cyr- haedd y Maen, yr oedd Misses Owens, Twrog House wedi darparu bwydydd blasus ar eu cyfer. Wedi eu diwallu arweiniwyd hwy i fyny i gopa Penyfoel a Ileoedd eraill, o ba rai yr oeddynt yn cael rhyw "bird eye o'n dyfl- ryn dihafal. Yr oedd y golygfeydd yn ein dotio. Ar 01 cael te eilwaith, yr hwn a fwyn- hawyd yn fawr ar ol y dringo, y mae yr adeg i hwylio am y cerbydau pa rai oeddynt yn cych- myn oddiwrth yr Oakeley Arms. Yr oeddynt wedi cael diwrnod nodedig o braf, ac yr oedd- ynt wedi mwynhau eu hunain yn gampus. LLWYDDIANT EIN POBL IEUAINC. Llongyfarchwn yn y modd mwyaf gwresog, Miss Lizzie Jones, Coedyglyn, Maentwrog Uchaf, a Mr. Gorwest V. Humphreys, Glan- dwr Cottages, ar eu gwaith yn llwyddo i basio yr ail ran o Arholiad Ysgoloriaeth y Brenin. Y mae y naill yn Athrawes, yn Ysgol y Cynghor, Gellilydan, a'r llall yn Athraw yn Ysgol Genedlaethol, Maentwrog. Eiddunwn i'rddau bob llwyddiant pellach yn y dyfodol.
I TALSARNAU. I
I TALSARNAU. I LLWYDDIANT.—Da oedd genym glywed am lwyddiant Mr. William O. Jones, ail fab Mr. W. Jones, U.H., yn mynedyn llwyddianus drwy ei Arholiad yn Lerpwl dydd Sadwrn diweddaf fel Second Engineer. Dymunwn iddo lawer o lwyddiant eto.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. WILLIAMS.—Mai 28ain, priod Mr. A. Lloyd Williams, (Baker), Brittania Terrace, 15.9, High Street, ar ferch. JONES.—Mai 21ain, priod Mr. Robert Jones, Uwchlawrffynon, Bethania, ar fab. ROBERTS. -M eliefin 23ain, priod Mr. Owen I Roberts, 4, Dorvil Street, ar fab.
I IECHYD FFESTINIOG.
I IECHYD FFESTINIOG. Syr,—Dymunaf ar i'r cyhoedd sylwi ychydig ar Iechyd a threfniadau y lie. Yr ydym yn ddibetrus yn gwybod fod ein Cyngor Dinesig yn gwneyd eu goreu er Glanweithdra, Carth- ffosiaeth, a chael y (Bacteria Beds) a phobpeth mwyaf cyfleus a dymunol ac sydd yn bosibl er mwyn Iechyd y lie. Ond etto i gyd pwy werth ydyw cael yr holl bethau hyn a gwario yr holl arian er mwyn cael y pethsn hyn mewn trefn briodol. Pan y mae mwy na hanner y Water Closets, &c., y cylch a rhan fwyaf o'r rhai hyny o fewn ychydig latheni i ddrysau ein tai yn berffaith allan o drefn ac aflan a hyny am y rheswm nad ydynt wedi cael ei gosod yn briodol ar y cychwyn. yr ydym yn credu ei bod yn hen bryd ar ein Cyngor edrych i mewn i hyn a ydyw y Closets, &c., yn cael eu gosod i fyny gan grefftwyr profiadal (practical men) ac nid ei gosod rhywffordd gan Labrwrs, Seiri Coed a Maen, &c. Yr wyf yn meddio dyweyd pe buasai hyn yn cael ei wneyd y byddai Iechyd y lie yn llawer gwell, llai o'r hanner o'r dwfr yn cael ei wasdio, ac ni fuasai y cyhoedd yn gorfod talu am wella eu pibellau a'i closets mor ami ac y maent. Yr wyf yn credu y dylai ein Cynghor edrych i mewn i hyn, fel y mae Cynghorau eraill sydd ai dosbarthiadau yn Ilawer llai o boblogaeth na Ffestiniog yn gwneyd na chaiff yr un Closet na Drain ei chymeryd i fyny heb ei bod wedi ei gwneyd gan ddyn profiadol. Gan ddisgwyl y bydd hyn yn ychydig o hyrwyddiant i'r cyhoedd.— Ydwyf, CARWR IECHYD. I
YMWELIAD Y BRENIN. I
YMWELIAD Y BRENIN. I Syr,—Gan nad ydym yn canfod fod dim swyddogol wedi ei drefnu yma gogyfer a'r uchod, a gawn ni ofyn hyn, sef fod i rai o'n Hustusiaid neu o'n Cynghor Dinesig alw cyfar- fod o'r wlad a'r werin er gwybod beth a allwn wneyd. Mae dau beth mewn angen genym, er cael ar ddeall a oes cyfleusdra i'w roddi i'r sawl a'hoffent fyned i Bangor. Credwn fod anhwyl- usdod yn bodolimewn proffeswriaeth, masnach, a gwaith i rai ei adael ar achosion fel hyn, ac anheg yw rhwystro neb dinesydd gael croesawu ei frenin. Cofus i ni gael ein gwrthod ar adeg gyffelyb gan un oedd ac awdurdod arnom, ond caniataodd un uwch ni wedi trafferth chwilio am dano. Sut y cawn ni ddeall sut y mae pethau i fod. Hefyd, onid doeth fydd i'r wlad a'r werin sydd o honom felly, gael rhyw gyfar- fod a'n gilydd i gael anfon ein dymuniadau croesawgar iddo, os na allwn fforddio taith yno. Mae llu o'n dinasyddion yma wedi cyraedd eu gyrfa trwy y coleg a llu o honom wedi cyfranu ato. Teg yw rhoddi pob hwylusdod i orphen y gwaith. IORWERTH.
ICYNGOR PLWYF LLANFROTHEN…
CYNGOR PLWYF LLANFROTHEN A RHANU Y DOSBARTH ADDYSG. Syr.—Yn ngoleu llythyr Mr. Robert Jones yn y "RHEDEGYDD" diweddaf gwelaf i mi wneyd gamhysbysiad yn nglyn a'r mater uchod yn nghyfarfod diweddaf Pwyllgor y Rheolwyr, Ond camgymeriad hollol onest ydoedd, heb y bwriad lleiaf i dwyllo na chamarwain neb. Hysbyswyd fi gan un oeddwn yn credu oeddyn gwybod yr amgylchiadau, fod y mater wedi bod o flaen y Cynghor a'u bod wedi mabwys- iadu yr un penderfyniad ac a basiwyd yn y Penrhyn a Thalsarnau. Hysbysais innau hyny yn y Pwyllgor Addysg heb betruso am foment nad oedd yn hollol gywir.—Yr Eiddoch, I Penrhyndeudraeth. R. T. JONES,
AT DRETHDALWYR PENMACHNO.…
AT DRETHDALWYR PENMACHNO. I Syr,—-Byddaf yn ddiolcbgar iawn i chwi os caniatewch ychydig le yn eich papur i alw sylw trethdalwyr Penmachno at gyflwr gwely yr afon a'r ffordd, y ddwy ochr i gapel Rhyd-y- meirch. Fel y gwyddom pan fydd gwlaw ych- ydig yn anghyffredin, bydd y flordd y ddwy ochr i'r bont o dan ddwfr, a hyny oherwydd anwybodaeth neu ddiofalwch y Cynghorau sydd a wnelont a'r lie. A ydyw ardal dawel i ddioddef peth fel hyn ? Nid peth anghyffredin ydyw gweled degau os nad ugeiniau o ddynion yn y gwahanol chwarelau yn dechreu ar eu di- wrnod gwaith a'u traed yn wlybion. A rhaid gwneyd hyn ar adeg gwasgedig fel y presenol oddieithr i'r diffyg yma gael ei wneyd i fyny. Bythefnos yn ol gwelais ddynion yn cerdded ar ben gwal beryglus er ceisio myned drwodd yn yn droedsych, a hyny yn aflwyddianus. Ac wele gapel y Methodistiaid, Rhydymeirch,- adeilad drudfawr ag sydd yn addurn i'n broydd -yn cael ei gau i fyny, a'r addolwyr yn cael eu hamddifadu o wasanaeth y Cysegr, A pha, sawl gwaith y mae ei haelodau wedi teimlo an- nghysur yn Nhy yr Arglwydd oherwydd gwlyb- aniaeth wedi ei achosi trwy yr esgeulusdra tru- enus hwn. Carem ofyn i'w swyddogion, pe buasai y Capel yn Westty a ydyw yn debygol y buasai hyn yn cael ei oddef ? Mentraf ddweyd yn ddibetrus na fuasai. A ydyw pro- ffeswyr crefydd i fod yn fwy gwasaidd na phobi y byd? Onid yw yn rhan mor bwysig o'u I gwaith i edrych am gysuron yr eglwys y tu allan a'r tu fewn i'r muriau ? Yn sicr ddigon, gall tafarnwr yn mhob man gael pob rhwydd- ineb i gyfleusderau ei fasnach, er mai masnach ag sydd y arwain dynion i ddinystr a cholled- igaeth ydyw. Pa faint rhwyddach y dvlai addoldai gael cyfleusderau gofynol-y lleoedd hyny sydd yn parotoi dynion ar gyfer y bywyd uchaf. Hyderaf y cymerir y mater hwn i fyny ar fyrder. a phriodol iawn, a llawn bryd hefyd, yw i bawb godi i fyny gyda'r swyddogion i iynu cael yr hyn sydd resymol er gwneyd y lie hwn yn debyg i'r hyn y dylai fod. MINYMYNYDD.
[No title]
Yn heddlys Ruabon, dirwywyd John Tumah, 16. Pentredwr i ddeunaw swllt ar costau am I fod yn yr Eagle's Inn Acrefair, Rhagfyr 6 (nos Sul), ac yntau heb fod yn deithiwr gwirionedd- I ol. Addefodd y trosedd.
[ Cyngor Dosbarth Geirionydd.
[ Cyngor Dosbarth Geirionydd. Cyfarfu y Cyngor ddydd Mercher, pryd yr oedd yn bresenol y Parch. John Gower (Cadeirydd); J. Lloyd Morris (Is-gadeir- ydd); D. G. Jones, Parch. J. Ll. Richards, T. T. Roberts; E. W. Roberts, Edward Roberts, Evan Williams, R. R. Owen (Clesc), a R. Henry Williams (Arolygydd). Niweidio Ffordd. Y Clerc a hysbysodd iddo anfon at Mr. Green, Masnachydd coed, yn ol cyfarwyddyd y Cyngor, am £ 15 at adgyweirio ffordd y Dylasau, yr hon a niweidiwyd gan y gwageni coed o'i eiddo. Yn ol fel y golygai y Cyngor, yr oedd cario llwythi trymion o goed fel y gwnaetb Mr. Green, yn trafnidiaeth eithriad- ol" ar y ffordd hon.-Pasiwyd i gymeryd y mater i Lys y Manddyledion i'w benderfynu.. Ffordd y Cwm. Yr oedd cais wedi dod i'r Cyngor am iddynt adgyweirio y ffordd o'r Cwm i fyny i Rhiw- bach, &c. Gan i'r mater fod o dan ystyriaeth y Cyngor Sirol ychydig flynyddoedd yn ol, pasiwyd i anfon am benderfyniad y Cyngor hwnw ar y lie. Nid oedd atebiad wedi dod i lythyr y Clerc ar y mater ac felly bu raid ei ohirio yn mhellach. Ysgol Penmachno. Daeth llythyr o'r Bwrdd Addysg yn hysbysa eu bod wedi anfon llythyr y Cyngor i Awdur- dodau Addysg y Sir. Cwynid nad oedd yr Ysgol hon mewn cyfiwr iechydol priodol, a chan fod y Pwyllgor Sirol yn esgeuluso gweith- redu yn y mater bu i'r Cyngor anfon gair yn uniongyrchol i'r Bwrdd Addysg i alw sylw at y lie. Cyflog. Anfonodd Mr. Robert Evans, Penmachno, ei fil am 24 niwrnod o wasanaetn gyda'r Gwaith Dwfr yn y Cwm. Yr oedd Mr. Mc'Intyre wedi arwyddo i dalu wyth niwrnod.-Pasiwyd i gael rhagor o fanylion yn nglyn a gwasanaeth Mr. Evans, cyn talu y bil hwn. Yswirio. Y Clerc a hysbysodd iddo dderbyn telerau 15 o Gwmniau Yswirio, a'u bod yn amrywio o £ S 14s Oc i £ 2 5s Oc. Yr oedd cyfrifoldeb y Cyng- or yn nglyn a'r swyddogion a'r gweithwyr yn £ 900.—Pasiwyd i'r Clerc gymeryd yr isaf, os byddai y Policy yn foddhaol. Reilffordd Trefriw. Anfonodd y Cyngor gais am i'r Cwmni ddod a'u rheilffordd yn mlaen o Dolgarog i Lanrwst, ac atebodd Cyfreithwyr y Cwmni yr ystyrient y mater ar ol cael gwybod pa swm oedd y Cyngor yn barod i'w gyfranu at y gwaith.—Mr. D. Gi Jones a sylwodd mai cydsynio yr oeddynt hwy a chais Llanrwst yn y mater hwn.—Pasiwyd i oedi ystyriaeth pellach o'r peth hyd nes y ceid gwybod beth oedd Llanrwst am wneyd. Ysbytty Frechwen. Daeth gair o'r cyd-bwyllgor Iechydol yn gofyn am gydweithrediad y Cyngor gyda chael Ysbytty at wasanaeth y Sir Gaernarfon mewn achosion o Frechwen, pe digwyddai dori allan. —Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod ef yn bendant yn erbyn y fath Jeoedd. Pa reswm oedd cario dyn yr holl ffordd i Gae,-narfon ?- Pasiwyd i adael y mater am nad oeddid yn ei ystyried yn ymarterel. Meddygol. Adroddai Dr. Erazer i 16 o enedigaethau I gael eu cofrestru yn mis Mai, a 13 o farwolaeth- au, ar gyfer 11 o enedigaethau yn Mai y flwyddyn ddiweddaf, a 7 o farwolaethau. I Gwaith Dwfr Trefriw. Pasiwyd i dalu C200 i Mr. Hughes a Rowlands yn nglyn a'r gwaith hwn. Canmolid yr hyn a wnaed ganddynt i fyny hyd yn awr, a deallwyd y byddai yr oil wedi ei orphen gan- ddynt at ddydd Sadwrn. Yr oedd y Cyngor wedi talu £ 500 yn awr allan o'r f 750 cytunedig arno yn nglyn ar gwaith uchod. Llwybrau Llanrhochwyn. Daeth llythyr o Gyngor Plwyfol Llanrhoch- wyn yn gofyn am i Lidiart gael ei osod ar lwybr yr Eglwys yn lie camdda, ac yn dywed- yd fod yn mwriad Mr. Isaac Williams ddodi y wal ar draws Llwybr Penrallt.—Pasiwyd mai mater i'r plwyf ei hun oedd gofalu am y llwy- brau, ac na ddylid ymyraeth a Mr. Isaac Williams hyd nes y bydd y wal wedi ei gwneyd. Awgrymwyd na fuasai Mr. Williams yn codi y wal oni buasai yn hollol glir ei feddwl fod yr hyn a wnai yn gyfreithlon a phriodol. Gallu Dinesig. Daeth cais o Trefriw am gyd-weithrediad y Cyngor i godi Urinals yn y pentref.—Y Clerc a ddywedodd fod hyny yn golygu fod gan y Cyngor Awdurdod Ddinesig. Yr oedd yn rhaid apelio at Fwrdd Llywodraeth Leol am yr Awdurdod hwnw.—Oedwyd hyd y cyfarfod nesaf heb anfon y cais am y cyfryw gan nad oeddid yn gwybod yn sicr beth oedd yn ofynol ei gael rhwng y gwahanol blwyfi, a bod yn rhaid nodi y bethau y gofynid am danynt yn y cais. Golchi Defaid. Pasiwyd i ohirio ystyriaeth o gwyn yr Arol- ygydd yn nglyn a gwaith tenantiaid y ddau Bertheos yn golchi defaid yn afon Hafongwen- llian, a llygru y dwfr trwy hyny. Golyga y Cyngor gymeryd cwrs cyfreithiol yn y mater. Cyflenwad Dwfr Dolwyddelen. Derbyniwyd, telerau Mr. Robert Williatns, Bryntirion am gael gwneyd cronfa ddwfr ar ei dir at gyflenwi pentref DoIV.,yd(lelen.-P- asiwyd i anfon llythyr Mr. Williams i'r. Cyngor Plwyf er cael eu penderfyniad arno. Hen Ffordd Ysbytty. Anfonodd y Cyngor gais at y Cyngor Sirol am i'r ffordd, a adwaenir fel ffordd Pantglas" gael ei hadgvweirio gan y Sir. Daeth llythyr oddiwrth Mr. William Evans, Ysgrifenydd y Cyngor Plwyf, yn gofyn am i ffordd newydd yn Ysbytty gael ei chymeryd o dan ofal y Cyngor Pm-had yn tudalen 8.