Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
YN NGHWMNI NATUR. I
YN NGHWMNI NATUR. I [Hawlysgrif.] (Gan CAERWYSON). Mae'r diwrnod yn un dymunol, ag ystyried y gwlybaniaeth a'r oerni gafwyd yn Ngwanwyn dechreu Haf y flwyddyn hon. Diweddarach o lawn dair wythnos fu'r adar ymfudol yn dod atom eleni nag oeddynt y llynedd, ac oherwydd hyny y mae y Gog i'w chlywed yr wythnos hon (yr wythnos gyntaf yn Ngorphenaf), fel pe buasai yr wythnos gyntaf yn Mehefin. Cefais ddiwrnod hapus ar ei hyd, a mwynheais fy hun ganmil mwy nag y bydd merched ifaingc yn wneyd wrth edrych ar hetiau flasiwnau newydd- ion yn ffenestri'r masnachdai, gan mai hardd- wch efelychiadau a welaut hwy, tra'r oeddwn i yn gweled y blodeu, y dail, a'r gwellt fel y daethant o law y Crewr mawr ei hun. Y fath brydferthwch herfeiddiol sydd o'm hamgylch, a'r fath amrywiaeth Nid oedd ryfedd i ddos- barth o ysgrifenwyr tua haner can' mlynedd yn 01 gynyrchu cymaint o'u hysgrifell ar Grefydd Naturiol." Wrth gwrs, nid oes dim annaturiol mewn crefydd neu byddai yn groes i natur a rheswm ond eu mheddwl hwy wrth arfer y gair oedd, y grefydd ddysgir gan natur. Mae dosbarth o feddylwyr yn dal allan mai hon yw yr unig grefydd gymwys i ddyn i'w ddedwydd- oIL Yr oeddwn inau y diwrnod hwnw bron yn barod i synio yr un fath, oni bai fod euogrwydd yn fy nghydwybod, a'm calon eisiau glanhau oddiwrth ystaeniau ac aflendid pechod. Y mae natur yn ogoneddus o lawn, ond ni welais ac ni ddaethym ar draws neb arall a welodd falm i wella clwyf enaid er fod cyflawder at glwyfau'r corph, ac aneffeithiol yw"dwfr eira," "neitr a sebon i olchi ymaith anwiredd. Ond crwydro yr wyf oddiwrth yr hyn oeddwn yn feddwl am ysgrifenu ychydig yn ei gylch son am helaeth- rwydd ddarpariaethau riatur am harweiniodd i hyny. Dyma aderyn bach yn disgyn oddiar wifrau y pellebyr ar ganol y ffordd, ac yn cerdded yn brysur at bwll bychan o ddwfr. Yf yn helaeth o hono, ac wedi hyny el i'r un fan yn ei ol i ganu ei folawd melusber am ddiod o ddwfr. Diragrith a digraith dy fron wyt ti aderyn bychan hoff, a'th gan heb goll na diffyg arni, ac yr wyt yn ei chanu fel y'th ddysgwyd gan yr Hwn a'th wnaetb Aethym yn mlaen ar hyd llwybr trwsiadus a helaeth at gwr coed dyfant yn un o'r ceu- nentydd cethinaf i'w cerdded yn Ngogledd Cymru, a chyda fy mod yn hwn, clywn amryw- iaeth cerdd yr adar, a gwelwn amrywiaeth hardd y coed o'm deutu. Pob perth sydd brydferth ei brig A gwiwder bendigedig; Adar yn nwyfus hedeg, A chwarau trwy'i changau'n chweg Y Bronfraith ddringa brenfrig, A phob ednan gan mewn gwisg Yr Ehedydd ry ar aden, Felodedd yn euraidd nen I Y Fran, y Gigfran, a'r Gwalch, Ar eu hedfa'n gariad falch Y Fyniar gylch nofia'r neu, A chwiogla'r Gorn chwiglen, Nes gwau gwyndodau dedwydd, 0 lendid haf lon'd y dydd." Rhaid aros yma enyd i wrandaw a sylwi gan y gallai fod yn agos ataf rywbeth i mi ddysgu mwy o gyfrinion natur nag a wyddwn yn flaenorol. Ar hyny, dyma swn dyeithriol yn dod o gwr cyferbyniol y coed, gwrandewais yn ddistaw rhag i'r aderyn, beth bynag ydoedd, fy ngweled ond yr oedd ef wedi fy ngweled er's meityn, a dylaswn feddwl hyny gan mai galwad perygl" oedd ganddo, ac mai Cudyll ydoedd (Sparrow Hawk), llygaid yr hwn sydd dreiddlym a chraff nodedig Yn y man, deallais fod ganddo nyth heb fod yn mhell iawn, aethum dros y ceunant at y lie yr ehedai y Cudyll o bren i bren, ac ni bu'm yn hir heb ganfod tri o hen nythod brain. Yn un o'r nythod hyn yr oedd cydmary Cudyll yn eistedd ar chwech o wyau crynion o liw gwyn gydag ysmotiau rhuddgoch bron yn eu cwbl orchuddio. Eithriadol yw i'r aderyn hwn wneyd nyth ei hun, a bydd yn boddloni ar ail- drefnu hen nyth Bran neu Bioden, ac yn hwnw fagu ei cywion. Yn y ceunant hwn fe dyf amrywiaeth mawr o Redyn o'r lleiaf o honynt, -y Rhedyn Teneuwe (Filmy Fern) hyd i'r fwyaf,—y Gyfyrddwy (Rosmunda), heb son am y llu mawr o fathau eraill sydd rhyngddynt yn britho y lie ramantus hwn. Pan yn cychwyn oddicartref, yr oeddwn am bryd ar fyned i gwr uchaf y ceunant, ac yno yr af. Ni wiw ymdroi lawer, gan fod ffordd lied faith i fyned, a llawer o bethau oddiyma hyd yno yn meddu dyddordeb mawr i mi. Ardal y lleolir un o'n Mabinogion prydferthaf ydyw, a dychmygwm glywed ysbrydion y cyn-oesoedd yn sisial yn fy nghlust gyfrinion y dyddiau a fu, blynyddoedd yr hen amser." Dyddiau chwareuon Tylwythion Teg, &c. Wrth ddal i feadwl i'r cyfeiriad hwnw, yr oedd arnaf rhwng ofn ac awydd cael clywed neu weled un o'r cymeriadau yn y Mabinogi mewn ffurf o Aderyn neu rhywbeth arall. Tra yn myfyrio felly "beth welwn o'm blaen ar ochr y ffordd ond neidr, a phan yn myned i afael ynddi i'w dodi yn fy llogell er mwyn ei chael i un o ath- rawon yr ysgolion yn y Blaenau, gwelwn wa- haniaeth mawr yn ei dull i bob un arall a welais Pan welodd fi yn nesu ati, dechreuodd ymwingo a chwyddai ei llygaid yn ei phen ac yn y man ymliwient fel pe yn cael eu cymysgu a gwaed. Yn ffodus, ni afaelais ynddi neu buasai yn angeu sicr i mi: gwiber ydoedd. Y wiber yw yr unig neidr a frath yn angeuol o lioil nadrodd y Deyrnas Gyfunol. Y mae llun V ar ben y wiber, a hono yn oleuach na'r gweddill o liw y pen. Gan nad oedd genyf ddim pwrpasol yn ymyl at ei tharaw, ac na feddyliais am daraw fy sawdl arni, diangodd i dwll a chollais hi. Yn nes yn mlaen ar y daith, daethym at hen Fynachlog, oedd "lVIevvn iaith "Taw," ac ctaw cosdd Yn siarad hen amseroedd." Yn y ddeuddegfed ganrif yr oedd y fan hon yn Ile pwysig yn hanes yr Urdd Fynachaidd, ond yn mhen ychydig ar cl hyry bu Haw y gormes- ¡ ydd yn drwm arnynt, a darfu am danynt. Dyma fi o'r diwedd wedi cyraedd y lie yr oeddwn yn cychwyn am dano: Ceunant y Ceunentydd yw hwn, ac un cyfoethog iawn er yr olwg lorn sydd arno. Cefais wledd o'r fath a garwn yn y fan hon. Yma y nytha y Cudyll Mawr (Buzzard), a'r Fwyalchen-wengylch (Ring Ouzel), ac yma y tyf Gwyrdd-wallt- y-forwyn, gydag amrywiaeth mawr o Redyn eraill. Ceir yma rywogaeth eithriadol brin o Ysgall, heb son am lysiau eraill. Caiff y Mwn- gloddiwr le cyfoethog yma, gan faint y Mwnau sydd yn ngheseiliau y llechweddi o amgylch'. Cefais prydnawn difyrus yn y lie, a'r Cudyll yn rhoddi ambell ysgrech aflafar beibio i mi, a'r Fwyalchen-Wengylch yn chwibanu fel y gwna bugail ar ei gi defaid nes adseinio drwy yr holl le. Dyma Lys tawel yr awel rydd,— Lie i enaid gael llonydd." (I'w barhau.)
CYSTADLEUAETHAU NEWTOWN.
CYSTADLEUAETHAU NEWTOWN. Beirnladaeth y Corau Meibion. Cafwyd cystadleuaethau nodedig yn Dref- newydd eleni eto, a pharhau i gynyddu y mae o'r naill flwyddyn i'r llall. Codasant o gyfar- fod i lawenhau gan ei weithwyr ef ei hun ar wneuthuriad Syr Pryce Pryce Jones yn Farch- og, nes dod yn un o'r cyfarfodydd cystadleuol pwysicaf yn yr holl wlad. Y mae gan y Gylch- wyl un o'r Ysgrifenyddion rhagoraf yn bosibl, ac nid oes dim yn ormod gan Mr. Maurice Jones ei wneyd er cysur a hwylusdod y c/stad- leuwyr yn ogystal a llwyddiant yr Wyl. Eleni bu i Blaenan Ffestiniog wneyd eu rhan yn lew at y cystadleuaethau trwy anfon y Cor Meibion a'r Seindorf yno i gystadlu. I CYSTADLEUAETH Y SEINDYRF. Yr oeddy Seindyrfi ddechreu yn brydlon 1 o'r gloch, ond dylifai y gwlaw mor drwm fel ag i wneyd hyny yn anmhosibl; ond chwarter wedi un archwyd iddynt ddechreu, neu difreinid hwy, a thra yr oedd y ddwy Seindorf gyntaf yn chwareu deuai y gwlaw i lawr fel o grwc," a pharhaodd am y tri mynud cyntaf i'r trydydd Seindorf, ac o hyny ynmlaen cafwyd y tywydd mwyaf dymunol. Dechreuai y chwareuon am ddau o'r gloch, a chafwyd tywydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Gwelir i Pemberton Old a'r Royal Oakeley gael pob anfantais i chwareu gan y tywydd anffafriol a gawsant. Yr oedd bechgyn y Blaenau yn wlyb at eu crwyn gan eu bod yn chwareu yn yr awyr agored heb unrhyw gysgod o fath yn y byd. Nid ydym yn anturio dywedyd lie y buasent yn sefyll yn y gystadleuaeth pe heb yr anffawd gyda'r tywydd ond o dan yr amgylchiadau yr oedd yn nesaf peth i anmhosiblrwydd iddynt allu dod allan yn fuddugoliaethus. Na fydded iddynt ar un cyfrif ddigaloni gan nad allai neb wrth yr hyn a ddigwyddodd i'w rhan y tro hwn. Chwareuodd y Seindyrf yn y drefn a ganlyn 1- 1. Pemberton Old. 2. Royal Oakeley. 3. Goodshaw. 4. Pendleton Public. 5. Aberdare. 6. Ferndale. 7. Merthyr Vale. 8. Shaw. 9. Cwmparc. 10. Crossfields. 11. Linthwaite. 12. Mountain Ash. 13. Irwell Springs. 14. Cory Workmen. 15. Lindley. Mr. Angus Holden, y Beirniad, a sicrhaodd y dorf bryderus iddo glywed mwy o gerddoriaeth y diwrnod hwn nag a glywodd erioed mewn un diwrnod. Fodd bynag yr oedd wedi mwynhau yn fawr chwareuad y rhan fwyaf o'r Seindyrf. Nid oedd yn ystyried y darn, er ei fod yn hir yn ddigon o brawf ar y Seindyrf a glywsant y diwrnod hwnw. Pe buasai y darn yn galetach buasai ei dasg ef yn ysgafnach. Yn yr Ym- deithgan (March) yr oedd yn rhoddi y wobr gyntaf o ddwy gini i Lindley, a'r ail wobr o gini i Linthwaite. Yn y prawf-ddarn yr oedd dwy seindorf yn rhedeg yn bur agos i'w gilydd ond ar ol ystyriaeth ddyladwy nid oedd ganddo unrhyw betrusder mewn rhoddi y wobr gyntaf i Goodshaw, yr ail i Irwell Springs, y trydydd i Crossfields, y bedwerydd a'r pumed i'w rhanu rhwng Lindley a Linthwaite. Yr oedd chwareu eithriadol o dda gan o leiaf ddeg Seindorf. Dim ond un pwynt oedd rhwng y cyntaf a'r ail, a deuai Crossfield yn hynod agos safai y tair Seindorf cyntaf wrthynt eu hunain. CYSTADLEUAETH Y CORAU MEIBION. Yr oedd una rddeg o Gorau wedi anfon eu henwau i mewn, ond ni wnaeth Cilfynydd, Casnewydd, na Towyn eu hymddangosiad. Difreiniwyd Warrington Apollo, am naddaeth- ant i'w hamser, Yr oedd 32 o honynt wedi cyraedd, a disgwylient y deuddeg eraill gyda'r tren y prydnawn ond fel y digwyddodd, yr oedd y Cor i ganu yn gyntaf. Canodd y cprau eraill yn y drefn eu dodir yn y feirniadaeth isod. Sylwodd Dr. W. G. Mc'Naught, y Beirniad, na bu y pwyllgor yn ffodus yn newisiad eu dernyn, Dinystriad^Gaza (De Rille), cerddor- iaeth Ffrengig ysgafn yr hwn nad oedd yn cynyrchu yr arswyd ddysgwylid oddiwrth ei deitl. Nid oedd meddwl y darn yn un digon da i'r Corau, ac yr oedd lawn haner dwsin o gyfansoddwyr yn Nghymru allent wneyd gwell dernyn. Dylasai y berdoneg gael ei hoelio wrth y llawr, oherwydd yr oedd pob arweinydd yn ei defnyddio yn wahanol. A ganlyn yw syhvadau y Beirniad yn Hawn A be or,'y, This choir was wanting in mood and rather heavy. The rhythm, except the end movement, was very spirited and elastic. It was a good all round performance, but there was no electricity in it to move one very much. 66 marks. Oceanic (Cwmparc).—This choir was very compact, but there was not much breadta. Later, in the slow movement, it was very strained the tenors were wheezy and thin the rhythm lacked grace and refinement, and the quick movement was taken at an impos- sibly fast pace. The choir gave a creditable execution, but did not show any judgment in choice of tempo. 63 marks. Birmingham Victoria.-This was a small choir as compared with some of the other choirs. There was a fair balance and very good discipline the tones were very smooth, sweet and tuneful; there was a very good pace for the first allegro, but the last movement was never very good. It got unsteady in one place there was nearly a disaster from which the choir recovered, but it was nearly demor- alizing. But for the fact that some members got out of time this choir would have gained more than 65 marks. Machynlleth.-This choir had a very good tone, and was well drilled, but the second tenor was so weak that some of the chords got very thin. They needed half-a-dozen more tenors. The tone of the choir was thrown rather back in the throat instead of forward. The slow movement was opened too slowly. The second tenor were almost missing in the movement. In the quick movement there was a very good attack, and some very nice con- trasts were shown. But the last movement was much too fast. There was a clean finish, and fair climaxes. 67 marks. Moelwyn.-This choir had a very musical tone, clean, fairly sweet, with a good balance, good emphasis and impressive, and the music was delivered in chunks, not in little bits. That is what we want. All music consists of phrases, not of notes. On the whole the pianoforte was giving them too many tips that they did not want. There was some real mood in this choir the piece was very well inter- preted good movement, and very good pace. The tenors were very light and pretty, alto- like in tone. The allegro was very good, and both climates were effective without being striking. A first-rate performance. 70 marks Warrington-The pianoforte was so slightly and delicately touched that it might have been non-existent. It was quite unnecessary for this choir to have a single tip from the piano. There was some real culture in the style, and a smooth musical tone. There was real unity; the choir was welded together. There was a mood in the opening some breath, some ring- ing, and clean finish. The slow movement was not over-subdued. The choir had a beautiful blend, was tuneful, sweet, expressive, and they seemed all desirous of getting at the heart of the piece. The allegro was very good, not too fast; the last movement was very good indeed. The attack was spirited and very exact. 72 marks. Mountain Ash-This was a large choir, well organized. The opening had great dignity the enunciation was very good. The tenors had a ringing tone, and the movement was very good. The pianoforte was too much in evidence, still, the tone was very musical, but stiff in rythm. It might have been a little more graceful. The allegro was excellent in attack and rhythm. The last movement was too fast: the slurs became smudges. 69 marks. Dyfarnwyd fel hyn y wobr gyntaf i Warring- ton ( £ 30, a thlws tair gini i'r arweinydd); a'r ail i Moelwyn ( £ 10). Mae genym fel ardal achos i lawenhau yn llwyddiant y Cor Meibion y tro hwn eto, er na ddaethant allan yn gyntaf yn y gystadleuaeth galed a fu rhwng y corau godidog oedd yno, eto yr oedd eu canu yn tynu sylw a chymerad- wyaeth pawb oedd yn bresenol. Llongyfarch- wn hwy a'u harweinydd yn galonog.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Mawrth diweddaf yn y Tylotty o dan lywyddiaeth Mr, Wm. Jones, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri Rd. William, Richard Roberts, E. M. Owen, W. W. Morris, E. Llewellyn, Robert Pugh, John Pritchard, John Pierce, Owen Evans, John Roberts (Trawsfynydd), Cadben Morgan Jones, R. O. Williams, O. V. Lewis, E. Fowden Jones, Richard Parry a J. B. Jones (Swyddogion Elusenol), Thomas Roberts (Clerc), David Jones (Clerc Cynorthwyol), a D. J. Jones (Meistr y Ty). Y Ty. I Mehefin 20, rhoddodd Mary Hughes, Llan- danwg, enedigaeth i blentyn. Mehefin 21, aeth Ema Jones, gwraig James Jones, trwsiwr gwlawleni, allan o'r Ty i fyned ato adref Mehefin 22, aeth Richard Pugh, allan o'r Ty i fyned at Mr. Lewis G. Roberts, Llwyn Farm, Maentwrog, trwy archeb Dr. J. R. Jones. Mehefin 22, symudwyd William Hughes, 20 oed, a John Thomas i Wallgofdy Dinbych. Mehefin 29, daeth Henry Lloyd, Crwydryn, i'r Ty yn ngofal yr heddgeidwad Llayd o Criccieth, yr hwn a'i cafodd ar y ffordd yn ymyl Ystumllyn yn analluog i gerdded. Yn y Ty 76. ar gyfer 74 yr un adeg y llynedd, I a galwodd 47 o grwydriaid yn y Ty yn ystod y ddwy wythnos ddiweddaf. Arianol. I Talwyd allan yn ystod y ddwy wythnos di- weddaf fel y canlyn :—Dosbarth Tremadog, £ 73 10s 6c; Ffestiniog, 4_113 2s 10c; Deu- draeth, f 68 8s yn gwneyd cyfanswm o f 255 Is 4c; ac yr oedd eisieu y symiau canlynol at y ddwy wythnos nesaf :-Tremadoc, £ 13 Ffes- tiniog, f 112; Deudraeth, C69 yn gwneyd cyfanswm o C254, sef lleihad o £1 Is 4c y ddwy wythnos ddiweddaf. Gwraig yn cnoi Baeo. Gwnai dynes o Capel Fawnog, Talsarnau, gais am esgidiau i'r plant. Y Cadeirydd Fuasai fiitiach i hon roi yr arian y mae yn dalu am baco i gael esgidiau i'r plant. Y mae yncnoi baco fel dyn (chwerthin). Pasiwyd i roddi esgidiau i'r plant. Mr. E. Fowden Jones A wnaiff y Swyddog ofalu na cheiff baco yn lie yr esgidiau (chwerthin). Y Swyddog Yr wyf yn sicr na chaiff baco gan y Crydd y rhoddaf fi archeb am esgidiau iddi (chwerthin). Wedi Symud. I Yr oedd Margaret Williams, School Street. Penrhyn, yr hon oedd yn derbyn cynorthwy o 3/- yr wythnos, wedi myned i'r Bont, Tanygrisiau, i edrych am ei chwaer, ac wedi myned yn wael yno, ac yn gofyn am ychwaneg- iad yn ei chardod.—Ar gynygiad Richard Williams, a chefnogiad O. Evans, pasiwyd 6/ Gwella y Canser. I Yr oedd dyn o Porthmadoc yn dyoddef o dan y Canser, ac yr oedd wedi bod yn Lerpwl un- waith neu ddwy, ond heb ei wella, ond yn awr yr oedd Cadben llong wedi talu ymweliad a'r lie, ac yn hysbysu fod dyn yn Aberteifi yn gallu gwella y Canser, ac yr oedd wedi rhoddi arian iddo, ac hefyd wedi casglu ar ei gyfer, ac yn awr yr oedd yn gofyn am gynorthwy y Gwar- cheidwaid. Pasiwyd i roddi 5s yr wythnos am fis. Y Tlodion yn cael Cam. I Oherwydd fod Mr. W. Thomas, y Swyddog Elusenol yn wael, yr oedd wedi nodi Mr. J. E. Hughes (o Swyddfa Barlwydon), i gymeryd ei le, ond gan nad oedd yr un o honynt yn y Bwrdd, darllenodd Mr. David Jones (y Clerc Cynorthwyol), yr adroddiad am y rhai oedd yn gofyn am gynorthwy a sylw y Bwrdd. Mr. Richard Williams a sylwai fod y tlodion yn cael cam oherwydd peth fel hyn. Yr oedd y gwr ieuainc yma wedi ei nodi gan Mr. W. Thomas, a dylai fod i lawr yma heddyw yn rhoddi cyfarwyddyd i ni, yn lie ein bod o dan ein dwylaw. Y mae Ffestiniog yn wasgarog iawn, ac y mae yn anmhosibl i'r Gwarcheid- waid wybod am danynt heb gael adroddiad y Swyddog arnynt. Y Clerc Efallai nas gallai Mr. Evans ddod heddyw. Y mae yn adeg brysur arnynt gyda y trethi yn awr. Mr. Richard Williams Fe aeth y bachgen i lawr i'r Llan heddyw, ac yr oedd yn barod i ddod i lawr yma, ond fe'i rhwystrwyd gan Mr. William Thomas. Amlygwyd teimlad cryf ymysg y Gwarcheid- waid y dylid cael mwy o eglurhad ar adhosion Ffestiniog nag oeddid wedi gael heddyw a bymthegnos yn ol. Achos Robert Lloyd. I Yr oedd Robert Lloyd, gwerthwr hosanau, o'r Pant, Penrhyn, yn wael ac yn orweddog, ac yr oedd y Swyddog wedi rhoddi nwyddau iddo am nad oedd ganddynt ddim bwyd yn y ty, a gofynai am elusen iddo. Y Cadeirydd a sylwai fod ei wraig yn ddynes ieuainc ac yn abl i weithio, ac fod ganddo eneth fawr adref, a dylai hono fyned i weithio. Mr. Richard Roberts a gynygiodd roddi yr achos yn ngofal y Swyddog, a chefnogodd Richard Williams ond cynygiwyd gwelliant, sef i roddi 5/- yr wythnos iddo a phasiwyd hyny. Ymddangos o flaen y Bwrdd. I Daeth brawd Margaret Thomas, Bodychain, o flaen y Bwrdd. Yr oedd yn weddw, yn 37 mlwydd oed, a chanddi ddau o blant. Yr oedd ef (ei brawd) wedi gwneyd ei oreu iddi, ond yr oedd yn awr yn gweithio pedwar diwrnod, ac nid oedd ei gyflog ond 15/- yr wythnos fel nas gallai roddi dim cynorthwy iddi. Mr Richard Williams a ddywedai fod yn ad- nabod y dyn hwn fel un o fechgyn mwyaf respectable Ffestiniog. ac yr oedd wedi gwneyd ei oreu i'w chwaer er pan yr oedd wedi claddu ei gwr er's llawer o flynyddoedd yn ol. Yr oedd yn cynyg iddi gael 8/- yr wythnos. Mr E. M. Owen wrth gefnogi a "ddywedodd ei fod yn gwybod am yr achos hwn yn dda, ac yr oedd yn achos a deilynga gynorthwy, a hyd- erai y byddai iddynt gefnogi y cynygiad. Pasiwyd 8/- yr wythnos yn unfrydol. Pwyllgor Trethiadol. Pasiwyd £ 30 fel cyflog i'r Clerc am wasan- aethu ar y Pwyllgor uchod.—Hefyd pasiwyd i roddi £ 30 ychwanegol iddo am wneyd rhestr o'r eiddo yn y plwyf, ar gynygiad Owen Evans a chefnogiad Richard Williams. Cwestiwn. I Mr. E. Llewelyn a ofynai faint o gyfarfod- ydd oedd yn angenrheidiol i aelod golli i ddi- aelodi ei hun. Y Clerc Bod yn absenol am chwe' miE. Mr. E. Llewelyn: Cyfeirio yr oeddym at Mr. J. Vaughan Williams, Ffestiniog, yr hwn a ddewiswyd yn Warcheidwad Cydweithiol, ond hyd yn hyn nid oedd wedi bod yn yr un o'r cyfarfodydd. Amrywiol. I Pasiwyd i Mr. J. Bennett Jones gael wythnos o Wyliau. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Owen Jones (y Cadeirydd) yn hysbysu ei fod yn hwylio i ffwrdd heddyw (dydd Mawrth) gyda y Carmania, ac yn hyderu y buasent yn cael cyfarfodydd da a thawel yn ystod ei absenoldeb. Hefyd, llythyr oddiwrth Mr. R. W. Vaughan yn hysbysu ei anallu i fod yn bresenol am iddo gyfarfod a damwain y Sadwrn diweddaf.
PENRHYNDEUDRAETH. -I
PENRHYNDEUDRAETH. I HEDDLYS.—O flaen Dr. J. R. Jones, Dr. R. T. Jones, a Mr. W. Jones, cyhuddodd yr hedd- geidwad Morgan ddau grwydryn o'r enw W. Davies a John Conway, o wneyd tan ar ochr y ffordd fawr. Pythefnos o. garchar gafodd Davies, a Conway wythnos. Gofynodd Mr, Thomas Roberts, Porth- madoc, Clerc Cyngor Dosbarth Deudraeth, am i'r Llys benodi dau ustus i fyned i weled y ffordd newydd wnaed yn Harlech, er mwyn cau y llwybr presenol. Penodwyd Mri. William Jones, a R. Jones Morris i fyned yno. Y mae cerbydau llawnion o bleserdeithwvr am Beddgelert a manau eraill yn pasio heibio yma bob dydd, a mawr ganmolir y trefniadau I a wneir ar eu cyfer gan Mr W. O. Williams, Home from Home, Penrhyn.
BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. GWEITHWYR Y CHWARELI. DYMUNU. arnom gywiro y ffigyrau a gyhoeddasom yt wythnos ddiweddaf am nifer y gweithwyr yn fi gwahanol Chwareli. Cawsom hwy o ffynonell dybiem oedd yn swyddogol, ond RKYW digwyddodd camgymeriad gyda'r rhif yn Foty a Bowydd. Y mae yno 380 yn gweithic, aC nid 300. Da genym weled nad yw pethau mot dywyll ag y meddyliem, a bod golwg am fywyd newydd heb fod yn hir yn ein hardal. Mae digonedd o Fenyn Fresh am lIe y pwys. Lard Gwyn goreu am 6c y pwys Siwgr Gwytl bras am 2c y pwys gan E. B. Jones « Co.. Canton House.. BEIRNIADU AR EI DAITH.-Pan ar ei daith am Ddeheudir Cymru, bu Mr. W. O. Jones y Beirniadu a Chanu mewn cyfarfod cystaa yn Rhosllanerchrugog. Eiddunwn In cyfal talentog bob llwydd yn y Deheudir. Deallw ei fod wedi derbyn penodiadau cera l pwysig yno. Diau y caiffein darllenwyr aif yn awr a phryd arall oddiwrtho o wlad Y rnwg a'r glo. R, o YN DARLITHIO. Yr oedd Mr. ?' R; Hughes (Treborfab), am dair noson yrwyt?no diweddaf yn darlithio yn Nehau Sir Abiertei •^ Yr oedd rhai yn cerdded 5 a 10 milldir I glY y darlithau. SYMUD.—Drwg genym ddeall fod Mr. W. W. Morris, Penlan (Rhosydd gynt), yN  iadu ein gadael am Penmorfa. Etholwy? yn Warcheidwad dros Tanygrisiau yn y Etholiad ddiweddaf, a drw iawn genym weled yn symud o'r ardal mor fuan ar 01 y frwydr fyth-gonadwy yn Ebrill diwedda!" Diau nad anghofia yr hen ardal er ??"° gadael am !e arall. Boed iddo bob hap US. rwydd yn ei breswylfod newydd. TAl GWEIGION.-Gwnaeth un o brif SWY ogion Chwarel yn yr ardal sylw mewn cyfarfo neiUduo!, "fod tri chant o dai gweig'?? Ffestiniog." Gwnaed ymchwiliad manwi  yr holl ardal, a'r ffigyrau ydynt; Llan (Yl cynwys Pantllwyd) a Chonglywal, 22; 0 Conglywal i Lord Street 47, ac 8 SeIer; a Fourcrosses i'r London & North Western H. ac un seler; Rhiw a Thanygrisiau 46. GwnS hyn gyfanrif o 129 o dai gweigion. a 9 seler. Tywydd gwlyb-ond newydd da, SET fod Bara gwyn diguro anferth am chwe'cheiniog Yt un ar werth gan E. B. Jones & Co. NIS ge wch wneyd yn well na rhoddi prawf "irnynt- ANRHEGU.-Nos Iau, yn Nhgorsaf Y qrea Western, cynhaliwyd cyfarfod o Danysgr"??. Tysteb Mr. W. R. Davies, Arolygydd preseo yr adran hon o'r Reilffordd. Cofir i Mr. DavIe: gael ei benodi yn mis Chwefror y flwy > ddiweddaf i fod yn Arolygydd ?M.s?cc?'.?, lie Mr. T. E. Parry yr hwn oedd yn Ynneill- duo wedi bod yn y swydd am 36 llynedd, Cynwysa cylch yr Arolygiaeth hyd t r OC|JTF draw i Ruabon hyd Dolgellau i'r cy*EL S arall, hefyd cangen Bala a Ffestiniog- YF oedd Mr. Dovies gydani yn Orsaf-feistf s? oedd Mr. Dovies gyda ni yn Orsaf-feistr er mlynedd, pan agorwyd yr Orsaf gyntaf. ar- 12,- bu neb yn llanw y fath swydd oedd Yn £ WY cymwynasgar a siriol wrth bawb elai ?'' Orsa Pan glywyd am ei benodiad teimlid yn EJ fod ef yn cael y fath ddyrchafiad tra y goB dll yn fawr ei golli o'n mysg. Nid oedd yr at a yn foddlawn iddo gael ymadael oddt?"??? heb gael dangos eu teimladau a'u DYMUM-ADAI* da tuagato, a ffurfiwyd pwyllgor at '?-neya tysteb iddo. Penodwyd Mr. J. P. R? Gorsaf-feistr y Diphwys yn Ysgrifeny YJ mudiad, ac nis gallesid cael neb cymwysac a hyny o orchwyl. Cyfranwyd yn ewyl1ysgr e cbyffredinol, a phwrcaswyd Marble Tin?.P g? Watch Aur, a Dressing Case hardd 1 J Y Davies, a Broach Aur i Mrs. Davies. ? ? y crybwyllwyd, cyfarfod i gyflwyno yr ?''??n hyn oedd yr un nos Iau. Y Llywydd yde Mr. Hugh Jones, Fferyllydd, a gwnaeth ei rao yn ol ei fedrusrwydd arferol. Cafwyda??? iadau gwresog gan y Llywydd, Mri. Ariag' der Hughes; G. G. Davies; Fred SllnInsoll (Bala) y Cyn-arolygydd Parry: J- p 'pob- erts; Henry Grimth Robert Lewis ,L, ?,ard) John Jones, Fronheulog; T. Davies, jec r.a Station; Andreas Roberts; a John ""?g (Gorsaf-feistr) yr hwn a adroddodd ??1? barddonol cyfaddas i'r amgylchiad. Siar? yj yn ucbel am garedigrwydd Mr. DAVI1E^ unai pawb i ddymuno yn dda iddo ef a 1 dU. 11 -Diolcbodd Mr. Davies i bawb am eu g? ? hynaws a'u rhoddion gwerthfawr. dd dda ganddo am ei oes am bobi FFEST^ A(J adgofion dymunol iddo fydd am y W ^J YDD- oedd dreuliodd yn y lie.—Pwrcaswy" j aQ? rhegion gan Mr G. R. Jones, Jeweller. ANRHEGU MRS. ALLTWEN WiLL?? ? Fel y cnlyn yr adroddir yn y BiythonatO gyflwymad Anrhegion i Mrs. 'W???.— Cafodd eglwys Anibynol Clifton Road, Blrkad head, golliadau yn ddiweddar trwy yrna'a. amryw aelodau ffyddlon i fywi Gymru ? J golled arall, sef ymadawiad Mrs. Alltwen?. I liams a'r teulu i Ffestiniog, lie y maeeiphrIod y trylen Fardd Gwilym AUtwen, yn P S Hygaid i'r Cyngor Dosbarth er's b ynyd? Nos Fercher, cynwynwyd i Mrs. Williams. oa case CM?e?, Ilwyau &c., yn gydoabyddlaet o'i gwasanaeth O'we;thfa'\r gyda'r aca0^ er's amser hir. Fel y gwyddis bu hi'n gaforeg h. > HalS wych yn ei dydd, a mynych y rhoes hI & ?g at wasanaeth yr achos yn y He hwn ac ??' 1 le arall, Cyflwynwyd yr anrheg gan Mrs.  Jones (Price Street), am yr hyn y diolchod Mrs. Williams mewn ychydig eida-u pwrp? ?i. Caed gair hefyd gan y gweinidog (y rC^ Lloyd Owen), a'r Mri., Wm. Jones /pr;ce Street), a William Jones (Holly Bal1k)-yn gofldio'u colled hwy a'r eglwys, ac yn ciy^ yn dda i'r teulu yn eu bro newydd. MARWOLAETH SYDYN.—Gyda gofid dwys yr ydvm yn hysbysu am farwoJaeth ^r\ W. P: Owen, tretbgasglydd y Cyngor Di!IC,91. ,9. Ni chafodd ond cystudd byr iawn, ac yn y 0<J sydyn bu farw dd:w o'r gloch boreu LIun. Un o'r dynion hawdd?f ei ho&y daeth- om ar ei draws yn un man oedd Mr. owen, ,j yr oedd yn nodedig o gymeradwy gan ba\b  hadwaenai. Gedy fam ccdranns yn ei h"??dd i alaru ai-elol. Gwr gweddw ydcedd. ? c'??"? ef y gwnelai ei fam eichartref. Cydymdeimi?n yn fawr a hi yn ei phrofedigaeth chwerw.