Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YN NGHWMNI NATUR. I

CYSTADLEUAETHAU NEWTOWN.

BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Mawrth diweddaf yn y Tylotty o dan lywyddiaeth Mr, Wm. Jones, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri Rd. William, Richard Roberts, E. M. Owen, W. W. Morris, E. Llewellyn, Robert Pugh, John Pritchard, John Pierce, Owen Evans, John Roberts (Trawsfynydd), Cadben Morgan Jones, R. O. Williams, O. V. Lewis, E. Fowden Jones, Richard Parry a J. B. Jones (Swyddogion Elusenol), Thomas Roberts (Clerc), David Jones (Clerc Cynorthwyol), a D. J. Jones (Meistr y Ty). Y Ty. I Mehefin 20, rhoddodd Mary Hughes, Llan- danwg, enedigaeth i blentyn. Mehefin 21, aeth Ema Jones, gwraig James Jones, trwsiwr gwlawleni, allan o'r Ty i fyned ato adref Mehefin 22, aeth Richard Pugh, allan o'r Ty i fyned at Mr. Lewis G. Roberts, Llwyn Farm, Maentwrog, trwy archeb Dr. J. R. Jones. Mehefin 22, symudwyd William Hughes, 20 oed, a John Thomas i Wallgofdy Dinbych. Mehefin 29, daeth Henry Lloyd, Crwydryn, i'r Ty yn ngofal yr heddgeidwad Llayd o Criccieth, yr hwn a'i cafodd ar y ffordd yn ymyl Ystumllyn yn analluog i gerdded. Yn y Ty 76. ar gyfer 74 yr un adeg y llynedd, I a galwodd 47 o grwydriaid yn y Ty yn ystod y ddwy wythnos ddiweddaf. Arianol. I Talwyd allan yn ystod y ddwy wythnos di- weddaf fel y canlyn :—Dosbarth Tremadog, £ 73 10s 6c; Ffestiniog, 4_113 2s 10c; Deu- draeth, f 68 8s yn gwneyd cyfanswm o f 255 Is 4c; ac yr oedd eisieu y symiau canlynol at y ddwy wythnos nesaf :-Tremadoc, £ 13 Ffes- tiniog, f 112; Deudraeth, C69 yn gwneyd cyfanswm o C254, sef lleihad o £1 Is 4c y ddwy wythnos ddiweddaf. Gwraig yn cnoi Baeo. Gwnai dynes o Capel Fawnog, Talsarnau, gais am esgidiau i'r plant. Y Cadeirydd Fuasai fiitiach i hon roi yr arian y mae yn dalu am baco i gael esgidiau i'r plant. Y mae yncnoi baco fel dyn (chwerthin). Pasiwyd i roddi esgidiau i'r plant. Mr. E. Fowden Jones A wnaiff y Swyddog ofalu na cheiff baco yn lie yr esgidiau (chwerthin). Y Swyddog Yr wyf yn sicr na chaiff baco gan y Crydd y rhoddaf fi archeb am esgidiau iddi (chwerthin). Wedi Symud. I Yr oedd Margaret Williams, School Street. Penrhyn, yr hon oedd yn derbyn cynorthwy o 3/- yr wythnos, wedi myned i'r Bont, Tanygrisiau, i edrych am ei chwaer, ac wedi myned yn wael yno, ac yn gofyn am ychwaneg- iad yn ei chardod.—Ar gynygiad Richard Williams, a chefnogiad O. Evans, pasiwyd 6/ Gwella y Canser. I Yr oedd dyn o Porthmadoc yn dyoddef o dan y Canser, ac yr oedd wedi bod yn Lerpwl un- waith neu ddwy, ond heb ei wella, ond yn awr yr oedd Cadben llong wedi talu ymweliad a'r lie, ac yn hysbysu fod dyn yn Aberteifi yn gallu gwella y Canser, ac yr oedd wedi rhoddi arian iddo, ac hefyd wedi casglu ar ei gyfer, ac yn awr yr oedd yn gofyn am gynorthwy y Gwar- cheidwaid. Pasiwyd i roddi 5s yr wythnos am fis. Y Tlodion yn cael Cam. I Oherwydd fod Mr. W. Thomas, y Swyddog Elusenol yn wael, yr oedd wedi nodi Mr. J. E. Hughes (o Swyddfa Barlwydon), i gymeryd ei le, ond gan nad oedd yr un o honynt yn y Bwrdd, darllenodd Mr. David Jones (y Clerc Cynorthwyol), yr adroddiad am y rhai oedd yn gofyn am gynorthwy a sylw y Bwrdd. Mr. Richard Williams a sylwai fod y tlodion yn cael cam oherwydd peth fel hyn. Yr oedd y gwr ieuainc yma wedi ei nodi gan Mr. W. Thomas, a dylai fod i lawr yma heddyw yn rhoddi cyfarwyddyd i ni, yn lie ein bod o dan ein dwylaw. Y mae Ffestiniog yn wasgarog iawn, ac y mae yn anmhosibl i'r Gwarcheid- waid wybod am danynt heb gael adroddiad y Swyddog arnynt. Y Clerc Efallai nas gallai Mr. Evans ddod heddyw. Y mae yn adeg brysur arnynt gyda y trethi yn awr. Mr. Richard Williams Fe aeth y bachgen i lawr i'r Llan heddyw, ac yr oedd yn barod i ddod i lawr yma, ond fe'i rhwystrwyd gan Mr. William Thomas. Amlygwyd teimlad cryf ymysg y Gwarcheid- waid y dylid cael mwy o eglurhad ar adhosion Ffestiniog nag oeddid wedi gael heddyw a bymthegnos yn ol. Achos Robert Lloyd. I Yr oedd Robert Lloyd, gwerthwr hosanau, o'r Pant, Penrhyn, yn wael ac yn orweddog, ac yr oedd y Swyddog wedi rhoddi nwyddau iddo am nad oedd ganddynt ddim bwyd yn y ty, a gofynai am elusen iddo. Y Cadeirydd a sylwai fod ei wraig yn ddynes ieuainc ac yn abl i weithio, ac fod ganddo eneth fawr adref, a dylai hono fyned i weithio. Mr. Richard Roberts a gynygiodd roddi yr achos yn ngofal y Swyddog, a chefnogodd Richard Williams ond cynygiwyd gwelliant, sef i roddi 5/- yr wythnos iddo a phasiwyd hyny. Ymddangos o flaen y Bwrdd. I Daeth brawd Margaret Thomas, Bodychain, o flaen y Bwrdd. Yr oedd yn weddw, yn 37 mlwydd oed, a chanddi ddau o blant. Yr oedd ef (ei brawd) wedi gwneyd ei oreu iddi, ond yr oedd yn awr yn gweithio pedwar diwrnod, ac nid oedd ei gyflog ond 15/- yr wythnos fel nas gallai roddi dim cynorthwy iddi. Mr Richard Williams a ddywedai fod yn ad- nabod y dyn hwn fel un o fechgyn mwyaf respectable Ffestiniog. ac yr oedd wedi gwneyd ei oreu i'w chwaer er pan yr oedd wedi claddu ei gwr er's llawer o flynyddoedd yn ol. Yr oedd yn cynyg iddi gael 8/- yr wythnos. Mr E. M. Owen wrth gefnogi a "ddywedodd ei fod yn gwybod am yr achos hwn yn dda, ac yr oedd yn achos a deilynga gynorthwy, a hyd- erai y byddai iddynt gefnogi y cynygiad. Pasiwyd 8/- yr wythnos yn unfrydol. Pwyllgor Trethiadol. Pasiwyd £ 30 fel cyflog i'r Clerc am wasan- aethu ar y Pwyllgor uchod.—Hefyd pasiwyd i roddi £ 30 ychwanegol iddo am wneyd rhestr o'r eiddo yn y plwyf, ar gynygiad Owen Evans a chefnogiad Richard Williams. Cwestiwn. I Mr. E. Llewelyn a ofynai faint o gyfarfod- ydd oedd yn angenrheidiol i aelod golli i ddi- aelodi ei hun. Y Clerc Bod yn absenol am chwe' miE. Mr. E. Llewelyn: Cyfeirio yr oeddym at Mr. J. Vaughan Williams, Ffestiniog, yr hwn a ddewiswyd yn Warcheidwad Cydweithiol, ond hyd yn hyn nid oedd wedi bod yn yr un o'r cyfarfodydd. Amrywiol. I Pasiwyd i Mr. J. Bennett Jones gael wythnos o Wyliau. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Owen Jones (y Cadeirydd) yn hysbysu ei fod yn hwylio i ffwrdd heddyw (dydd Mawrth) gyda y Carmania, ac yn hyderu y buasent yn cael cyfarfodydd da a thawel yn ystod ei absenoldeb. Hefyd, llythyr oddiwrth Mr. R. W. Vaughan yn hysbysu ei anallu i fod yn bresenol am iddo gyfarfod a damwain y Sadwrn diweddaf.

PENRHYNDEUDRAETH. -I

BLAENAU FFESTINIOG.