Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

- ER COFFA CAREDIGI

GETHSEMANE..I

A ER COFI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A ER COF I 111 y ddiweddar Mrs. Williams, Llwyn Du Isaf, Pandy Tudur. Vlyla'r :r.vel wrth fyn'd heibio, Dua!r heulwen ganol haf, Siom. a hiraeth dwys yn treiddio Trwy elfenau natur gaf Croga'r adar eu-telynau Ar yr helyg ger y fan, Y mae pobpeth wedi ei daraw A mudandod ymhob man. Beth sy'n bod ? cymerwyd ymaith Un o berlau daear lawr, Y mae natur yn edmygu Cymeriadau fel y wawr; Uniawn ydyw trefn Rhagluniaeth Am mai Tad sydd wrth y llyw, Cwmwl ydyw profedigaeth I arddangos enfys Duw. Teimlai'r byd amddiffyn Dwyfol Yn ei warchod ar bob tu, Yng nghysgod bywyd pur rhinweddol MRS. WILLIAMS o'r Llwyn Du Y mae purdeb yn gwasgaru Peraroglau iraidd byw, Ac mae rhinwedd yn gweddnewid Daear yn baradwys Duw. Ei haelioni'n rhedeg allan Yn un ffrwd lifeiriol gaed, I ddiodi'r tlawd anghenus Oedd yn marw yn ei waed; Yn ei mynwes curai calon Lawn o gydymdeimlad pur, Oedd yn hwylio ei cherddediad I liniaru poen a chur. Ei sirioldeb oedd yn gwasgar I Fel yr haul, belydrau byw, Rhoddodd groesaw goreu'r ddaear I genhadon hedd ein Duw Delw y gwirionedd welid Ar ei bywyd,—uniawn oedd, Naws y nef oedd yn ei hysbryd Yn y dirgel ac ar goedd. Gras dynerodd ei dynoliaeth, Gras a'i dysgodd sut i fyw, Llwyr gysegrodd ei gwasanaeth I hyrwyddo teyrnas Duw Gwlith y nef oedd yn addfedu Ei phrofiadau'n beraidd iawn, Nes daeth angel gwyn i'w chyrchu Adref yn dywysen lawn. Pandy Tudur. DAVID WYNNE.

ER COF I

CWYN COLL I

Pum' MlyneeSef am EsgiQiiaM.I

TREFN OEDFAON Y SUL

IPeiirlasmas IVIeS tssiOE-a.

Advertising