Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

...-.,......- - - - Eisteddfod…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Gadeiriol Gwyr leuainc y Rhos. Fe drodd anturiaeth gyntaf y Gwyr leuainc allan yn fwy llwyddianus nag.y mentrodd y mwyaf hyderus ddisgwyl. Cynhaliwyd yr Eis- teddfod mewn pabell eang yn Mharc Llan- erchrugog. Cafwyd tywydd hynod ffafriol, daeth torfeydd o ddieithriaid yma a chafwyd hwyl wir eisteddfodol yn mhob cyfarfod. Lly- wyddwyd cyfarfod y boreu gan A. E. Evans, Ysw., Bronwylfa. Enillwyd gwobrwyon fel y canlyn :—Fretwork, Mr. John Williams, Rhos. Chwareu ar y Berdoneg, Mr. John Williams, Rhos. Par hasonnau. Mrs. Roberts, Rhyd-y- drain, Llanuwchllyn. Unawd i enethod, Miss S. M. Davies, Rhos. Freehand memory draw- ing, Master W. A. Davies, Coedpoeth. Night- dress Case, Miss Gwenie Davies,Plas-yn-Rhos. Traethawd, "Enwogion Dyffryn Maelor," Parch. Llewelyn Bowyer, East Ham,Llundain. Adroddiad i blant, 1 Oswald Hughes, Brymbo, 2 T. H. Jones, Rhyl, 3 Annie Rogers, Rhos. Unawd tenor, goreu o 12, Mr. J. W. Hughes, Rhos. Freehand Drawing, Master Brinley Richards. Poncie. Ail gystadleuaeth gorawl, "YWybren Dlos," (Mills.) Excelsior Party, (Mr. Joseph Bellis) a Pharti y Dyffryn (Mr. Edward Davies,) y cyntaf a orfu. Hir a Thodd- aid, "Syr George Osborne Morgan," H. Davies (Abon), Cefn Mawr. Ataliwyd y wobr am Fyfyrdraeth o ddiffyg teilyngdod. Llywydd cyfarfod y prydnawn oedd Dr. J. C. Davies, Plas-yn-rhos. Dyma restr o'r buddugwyr:—Unawd ar y Crwth, Master Thomas Davies, Skelmarsdale. Am gynllunio amlen i raglen eisteddfod, Mr. David Thomas, Rhos. Traethawd i Ferched, "Anhebgorion cysur a llwyddiant cartref gweithiwr," goreu o 6, Mrs. Dinah Parry, Treffynon. Unawd Sop- runo, goren o 8, Miss Edith Davies, Gwrecsam. Englyn, Mwswgl." Abon a Gwilym Levi, Rhondda, yn gydradd. Deuawd, 12 parti, goreu, Mri. J. W. Hughes a T. Williams, Rhos. Aralleiriad o "Glyn Cysgod Angeu" (EIfed), Miss D. Evans, Penycae. Awdl y (Elfed), "Cyflafan Bangor-is-coed," 3 ymgeis- Gadair ydd, dyfarnwyd y wobr i Mr. Tom Owen, Hafod Elwy, Cerrigydruidion. Unawd i Fechgyn, Hubert Jones, Gwrecsam. Casgliad o flodau gwylltion, Miss Gwladys Jones, Poncie. Rhestr a byr ddesgrifiad i hynod- rwydd adar y cylch, Miss Anis Roberts, Rhos. Adrodd "Cyffes Judas," Miss Madge Jones, Yspytty. Brush Drawing, Masters Edward Hughes, a W. Arnold Davies, Coedpoeth, yn gydradd. Yn nghyfarfod yr hwyr llywyddai Howell J. Williams, Ysw., L.C.C. Gwobrwywyd y rhai canlynolDylanwad y Rhufeiniaid, y Nor- maniaid a'r Saeson ar feddwl, bywyd ac iaith y Cymry," Mri. G. M. Griffiths, Rhos, a J. E. Morris, Brymbo, yn gydradd. Unawd baritone goreu o 12, Mr. J. Powell Edwards, Rhos. Corau meibion ar Dewrion Sparta," 2 gor, Warrington a Llangollen, yr olaf yn oreu. Unawd contralto,Miss Ellen Jones, Llanarmon. Araeth ddesgrifiadol, Mr, John Williams,Rhos. Ornamental tile, Mr. Harris Foulkes, Llangoll- en. Pedwarawd, 8 parti, eiddo Mr. J. Powell Edwards a'i barti. Prif gystadleuaeth gorawl, "Cwsg fy maban," dau gor, Croesoswallt a'r Cefn Mawr, goreu Cefn Mawr. Cafwyd detholiadau gan y Seindorf, a Thel- ynores Lleifiad, a datganiadau swynol gyda'r tannau gan Mr. W. O. Jones, Bl. Festiniog. Mwynhawyd y canu penillion yn lawr. Y beirniaid cerddorol oeddynt Mr. Harry Evans, F.R.C.O., a Mr. Tom Price. Eifion Wyn oedd prif feirniad y Farddoniaeth. Arwein- iwyd yn ddoniol gan y Parch. R. Williams. Cynhaliwyd Gorsedd lwyddianus ar weithred- iadau yr hon y llywyddai y Parch. E. Isfryn Williams. Cafwyd Eisteddfod eithriadol o dda a Ilwydd- ianus yn mhob ystyr. Dywedir fod nifer y rhai oedd yn nghyfarfod y nos rhwng 2500 a 3000. Deillia elw sylweddol oddiwrthi. Mae can- moliaeth fawr yn ddyledus i'r ysgrifenyddion am eu llafur diflin a'u trefniadau rhagorol.

[No title]

BLAENAU FFESTINIOG. I

IPENMACHNO.

LLANRWST.-J

- - - F-Hint a Meirion.-…

-Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd.

Ewyllys Arglwydd Penrhyn.…

Family Notices

Family Notices

[ Cyngor Dosbarth Geirionydd.