Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

I Cwanniau Rheilffyrdd a'uI…

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…

DOLWYDDELEN.----|

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOLWYDDELEN. MARWOLAETH.-Gorphenaf 17, wedi hir, hir waeledd, bu farw Mr, David Williams, Pentrebont, yn 57^mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Brynbedd ar yr 20fed. Dymuna y teulu ddiolch yn gynes i bawb ddangosant eu caredigrwydd tuag atynt yn eu profedigaeth. CYNGOR PLWYF. Cyfarfu y Cyngor nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr. Evan B. Lloyd, a'r Parch. J. Ll. Richards yn yr Is- gadair. Darllenwyd llythyrau o'r Cyngor Dosbarth yn nglyn a'r Cyflenwad Dwfr, a'r symudiad at gael cronfa ar dir Bryntirion. Wedi siarad maith ar y mater, cynygiodd Mr. Griffith Jones a chefnogodd Mr. Thomas Mc'Gill nad oedd- ynt yn cymeradwyo y cynllun ar gyfrif ansawdd anfoddhaol y dwfr, diffyg y cyflenwad yn y lie, ei safle anfoddhaol, ar pris uchel a ofynid am yr hawl ar y lie. Daeth cwyn ddifrifol am gamymddygiadau y rhai elai i osod cerig beddi yn y Gladdfa. Pasiwyd i'w rhybuddio i ymddwyn yn well rhagllaw. Pasiwyd i osod y gwaith o oleuo y pentref yn ystod tymor y gauaf i Mr. John Davies, Dol- awel, am £15, a bod Mri. O. E. Parry, a J. R. Jones i arolygydd y gwaith. Pasiwyd i Mri. R. Williams, a T, Mc'Gill ofalu am daclu y fynedfa i'r Gladdfa.

PENRHYNDEUDRAETH. j

Family Notices

DIFFYNDOLL-A YW'N DDIGON.

TREMADOG.

Family Notices

Qorsedd a'r Bylor. ,1 Vm-