Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

TRAWSFYNYDD. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRAWSFYNYDD. I TORI GWAIR.-Cymerodd cystadleuaeth ddyddorol le ar gae Tynllyn, nos Iau, pryd y bu tynu torch rhwng 16eg o Bladurwyr am dbri gwair. Cafodd y Beirniad cryn drafferth i benderfynu pwy oeddynt enillwnr y gwobrwy- on. Dyfarnasant sel y canlyn 1. Mr. Evan Jones, Glanllafar cydradd ail, Mri. Griffith Jones, Bronasgellog, a David Tudor, liryn- maenllwyd; 3, Mr. Robert Jones, Glanilfar. Y WERSYLLFA FILWROL.—Y mae y Wersyllfa wedi eangu yn ddirfawr eleni ar yr hyn ydoedd y blynyddoeddblaenurui. Gofelir am y Wersyllfa ar hyd y tymor gan nifer o'r Corphlu Milwrol Breiniol (Royal A rmy Corps), Cadben Mitchell o'r Corphlu Meddygol Breiniol, gydag Adran 38 o'r Peirianwyr Breiniol, yn cynwys Cadben Key; Cadben Placey, D.S.O.; a Sergeant-Major A. D. Hoar, F.D.C. Daeth y Peirianwyr Breiniol yma o Chatham, Ebrill 9, ac arhosant hwy a'r swyddogion eraill sydd yn ffurfio y Wersyllfa hyd mis Hydref, pan yr ymadawant am Cork. Y Milwriad Tylden yw Prif Swyddog eleni eto, ac y mae yn boblogaidd iawn yn mhlith ei bobl a phawby daw i gyffyrddiad a hwy. Y mae Catrawd yr Howazers o Woolwich, Col- chester, Bradford, a Newcastle yma yn bresenol, ac ymadawant heddyw (ddydd lau). Dydd Llun, cafodd Is-adran 86 (\onl-,vich) yr adrodd- iad o fod wedi cyraedd y i i, I d uwch" mewn saethu. Byddant hwy yn aros hyd yr adeg y cyfyd y Wersyllfa oddiyma. Nos Lun, gollyngwyd ergydion o'r goleuni ymchwiliadol (search light). Peleni yw y rhai hyn yn ffrwydro yn yr awyr uwchben gwersyll y gelyn, er mwyn datguddio eu holl symudiadau a'u safle i'r fyddin fyddo yn ei tanio. Yr oedd yr olwg arnynt o dros dair milltir o'r lie yn bryd- ferth nodedig, ac yn datguddio mor gywrain yw y dyfeisiadau yn adran filwrol ein teyrnas. Pair presenoldeb y milwyr gryn fywiogrwydd yn yr ardal ar yr adeg hon, pan y mae pobpeth mor dawel a marwaidd yn ein plith oherwydd y dirwasgiad yn y fasnach lechi. Dydd Iau, bu Arglwydd Methuen yn y Wersyllfa yn gwneyd Arolygiad Swyddogol ar y dynion a'r holl le. Daeth yma efe a'i Is- swyddog. Byr iawn bu ei arhosiad yn y lie, a da genym ddeall fod ei Arglwyddiaeth wedi ei foddhau yn fawr gyda phobpeth yn y Gwersyll. Gwelwn fod amryw o Blaenau 'Ffestiniog wedi agor masnachdai (dros dro) yn ymyl y Wersyllfa. Y mae Mr. Alun Jones wrthi yn fywiog gyda'i newyddiaduron, &c. Mr. Row- land Hughes, yn tynu lluniau, a llon'd ei freichiau o waith ganddo gyda'r milwyr. Y mae Mr. a Mrs. William Jones Penny ar eu goreu gyda choginio pysgod a thatws (chipped) a lie hynod o gyfleus ganddynt at y pwrpas bwnw. Dywedir y bydd i waith mawr agor at y gauaf, gan y bwriedir adeiladu llawer oystablau at eivsgodi y ceffyiau fel na byddont allan trwy J.1) tywydd. Hefyd codir adeiladau eraill at gyfleusderau y Wersyllfa.

-.-TANYGRISIAU.yyyI

PENRHYNDEUDRAETH.I

RHOS A'R CYLCH.

GARN DOLBENMAEN. - -I

Corph dynes mewn Cist.

i--- -? I - - Hunan-IaddiacS…

[No title]

CYFLENWAD DWFR TRAWSFYNYDD.

"BAND STAND" BLAENAU FFES-j…

.TT:'HARLECH.

Family Notices

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

I NODION O'R OCrf.

i.'V'."VVV'V''v.V''v''VV'/'./VVV'VVVV-I…

Advertising