Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

TRAWSFYNYDD. I

-.-TANYGRISIAU.yyyI

PENRHYNDEUDRAETH.I

RHOS A'R CYLCH.

GARN DOLBENMAEN. - -I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GARN DOLBENMAEN. LLWYDDIANT.—Dydd Gwyl y Banc, aeth nifer fawr oddiyma i Pwllheli i gystadlu ar wahanol betbau a buont yn ffodus i gipio rhai o'r prif wobrwyon. Y mae yn bleser genym longyfarch ein Cor, ar eu gwaith yn enill y wobr allan o bedwar o Gorau yn yr ail Gystadleuaeth, hefyd Mrs Eifion Jones, yr Unawd Soprano, Mrs Eryri Jones ar yr Unawd Alto neu Faritone, deallwn fod cewri yn i ymgodymu a hwy. Hefyd yn y Mabol Gampau nid oedd y cylch yma heb eu cynrychiolwyr, enillodd Mr. W. O. 'Williams, Penybont, Gwpan Arian hardd, fel marchogwr olwyn- farch, a Mr. Davies, Cwm Mawr, a orfu yn y redegfa farlws. AR EU GWYLIATT.-YR oedd yn bleser genym weled nifer o'r bechgyn adref ar eu gwyliau o'r Deheudir, yr oedd golwg lewyrchus arnynt, dymunwn iddynt hin daymunol i fwynhau eu seibiant yn arogl bersawrus blodeu'r grug. Y TYWYDD. Cwynir yn gyffredinol ynghylch y tywydd. Ychydig sydd wedi cael eu gwair, tra nad ydynt fawr gyda dechreu yn y Pennant. MARWOLAETHAU.—Swn galar sydd yn ein bro ninau fel broydd eraill ar eu tro. Bu farw plentyn bach Mr. Samuel Hughes, Ty'r Capel, a chladdwyd hi yn Nolbenmaen dydd Sadwrn diweddaf. Cydymdeimlir yn fawr a'i rhieni yn eu profedigaeth. Hefyd, dydd Llun, hebryngwyd gweddillion Kattie, anwyl ac unig blentyn Mr. Henry ac Ann Williams, Ty Llwyd, i'w cadw yn nhawelwch Mynwent Dolbenmaen. Kate bach cyn bod ond dwyflwydd oed, Cyn pechu 'rioed, ga'dd alwad" At lu o seintiau bach i'r Nef, Clywch adlef y croesawiad,— Na wylwch ddim, rieni mwyr. Mae cwyn mor groes i gariad.' Li v/YDMAWR. A A

Corph dynes mewn Cist.

i--- -? I - - Hunan-IaddiacS…

[No title]

CYFLENWAD DWFR TRAWSFYNYDD.

"BAND STAND" BLAENAU FFES-j…

.TT:'HARLECH.

Family Notices

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

I NODION O'R OCrf.

i.'V'."VVV'V''v.V''v''VV'/'./VVV'VVVV-I…

Advertising