Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Fflangell Cymry i Gymru. I

DAMWAIN ANGEUOL I GARIWR YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAMWAIN ANGEUOL I GARIWR YN CHWAREL FOTY A BOWYDD. Dydd Llun, tanwyd ardal y Blaenau i syndod fod Mr. John Jones, Cariwr, Llys Meirion, Lord Street, wedi cyfarfod a'i ddiwedd yn Chwarel Foty a Bowydd. Boreu ddydd Mawrth o flaen Mr. R. O. Jones, Trengholydd Meirion, a deuddeg o Reithwyr, i'r rhai yr oedd Mr. Richard Griffith, LIyfrwerthwr yn Flaenor, cynhaliwyd trengholiad ar y corph yn yr Adeiladau Sirol. Yr oedd Mr. J. Lloyd Jones, yn bresenol dros Gwmni y Chwarel, a Mr. G. J. Williams, Arolvgvdd ar ran y Llywodraeth. John Jones, mab y trangcedig a dystiodd mai corph ei dad a welodd y Rheithwyr. Cariwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn 60 mlwydd oed. Gweithiai boreu ddydd Liun yn Chwarel Foty a Bowydd, a chyfar- fyddodd a damwain yno, ond ni wyddai ef ddim am y modd y bu hyny. Yr oedd yn gofalu am geffylau yn y chwarel er's 28 mlynedd. Hugh Owen, a dystiodd ei fod yn gweithio yn ngwaelod yr Incline yn Foty a Bowyd boreu ddydd Llun. 0 tan y ddaear ac allan gyda'r gwageni yr oedd y trangcedig yn gweithio. Gwelodd y ddamwain yn cymeryd lie yn ymyl y level trwy i olwyn blaen y sled fyned oddiar y reiliau, ac wrth i'r trangcedig geisio ei chodi yn ei hoi, troes y wagen ar ei hochr, a llithrodd y plygiau cerig oddiarni ar ei goesau a rhan isaf ei gorph. 0 dunell i dunell a haner oedd y pwysau. Yr oedd o fewn pum' i chwe' Hath i'r trancedig ar y pryd, ac yr oedd yn oleu yn y lie. Pan welodd yr hyn gymerodd le, gwaeddodd am gynorthwy, yr hwn a gafwyd ar unwaith. a symudwyd y pwysau oddiar y trangcedig. Wedi symud y pwysau awd ag ef adref. Rhoddwyd diod o ddwfr iddo yn y lie. Adwaenai John Jones er's chwe' blynedd, ac yr oedd yn ddyn gofalus. Yr oedd yn glir a'r lefel, ac yr oedd yn hollol olei^ lie y troes y wagen. Yr oedd y wagen, y llwyth, a'r reiliau yn iawn: y reilffcrdd bron yn gwbl newydd, sled yn nghanol y run ydoedd yr un a droes, ac yr oedd y lie yn bur gul. Yr Arolygydd G. J. William, a argymeliodd ddodi i fyny enwau aelodau yr Ambulance oeddynt yn y Chwarel fel y gellid rhedeg i' hymofyn mewn achos o ddamwain er mwyn iddynt gael gweini i arcs i'r Meddvg gvraedd i'r He. Dr. Richard Jones, a ddywedodd ei fod yn adnabod y trangcedig, ac yu arferol a gweini arno ef a'i deulu. Galwyd ef ato haner dydd. dydd Llun, a chafodd ef yn ei wely, newydd j gael ei giudo o'r chwarel. Canfyddodd ei fod wedi ei anafu yn drwm iawn, ac yn dyoddef oddi'Arrth ysgydwad difrifol i'w gyfansoddiad. Yr oedd ei ddwy goes wedi eu roalurio nwchlaw ac is-law y pen glin, ac asgwrn mawr ei for- ddwyd wedi ei dori. Nid oedd llawer o olion gwaedu ar corph, and dyoddefai yn benaf oddiwrth yr ysgydwad. Bu fvw am tua dwy awr a baner ar oi y ddamwain. Yr ysgydwad fel effaith y ddamwain achosodcl ei farwolaeth. Nid oedd arwycdion o niweiOi&u raewnol 1 \V canfcd. s Dychvvelwyd rheithfarn unol a thystiolaeth y medcyg, a phasiwyd pleidlas o gydymdeim- lad a'r teulu ar gynygiad Blaenory Rheithwyr.

BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH.

BLAENAU FFESTINIOG.I

TANYGRISIAU. - -

O'R CWELLYN I'R LASLYN.

I GARN DOLBENMAEN."' -

MAENTWROG. tywy

FFESTINIOG. a

HARLECH.. -IF0.» -HARLECH...:IÁ"lifo.

Advertising