Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I IAITH DDRWG YN TANYGRISIAU.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I IAITH DDRWG YN TANYGRISIAU. I Syr.—Caniatewch i mi gongl fechan o'ch newyddiadur poblogaidd i alw syhv at fater ag sydd mi dybiwn yn un lied bwysig. Yr oeddwn yn digwydd bod mewn rhan neillduol o ardal Tanygrisiau y diwrnod o'r blaen, pan yn hollol ddisymwth y daeth gwraig allan o'i thy i'r heol, a dechreu byr- lymio allan yr iaith fwyaf afian a glywais yn dod o enau gwraig erioed. Edrychais o'm cwmpas rhag ofn mai fy hunan oedd yn cael y fath enwau clasurol (?) ond wedi holi ychydig, cefais mai un o'i chym- ydogion oedd dan arholiad ganddi. Gofid calon i mi oedd cael ar ddeall fod y wraig allai arfer y fath iaith isel ac aflan, yn aelod cyflawn o un o Eglwysi y lie. Yn sicr, Mr. Gol. y mae peth o'r fath yn sarhad a'r ardal Tanygrisiau, ac yn beth chwithyg iawn i'r hyn a glywid yma rhyw flwyddyn neu ddwy yn ol. Llawer gwell fuasai i rai o'r gwragedd sydd o dymer dipyn yn afrywiog, aros yn eu tai, a siarad tipyn i'r muriau, er llareiddio tipyn arno. Buasent felly yn fwy dymunol i'w gweled a'u clywed ar yr heol. Yr eiddoch, HEDDWCH. I

BAND STAND, BLAENAU FFESTINIOG.

BLAENAU FFESTINIOG.

Advertising

[No title]

Advertising