Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

At ein Gohebwyr.

NODIADAU WYTHNOSOLI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL I Y Terfysg yn Morocco. I Gan fod rhai Ewropeaid wedi cael eu lIadd, a bod y gweddill o honynt mewn perygl mawr, prysurodd cad-longau Ffrengig a Hispaenaidd i w gwaredu, ac mewn tref o'r enw Casa Blanca glaniodd yohydig o filoedd o filwyr Ffrengig. Dydd Sul ym- laddwyd brwydr ffyrnig a gwaedlyd rhyng- ddynt hwy a'r brodorion, y rhai a orchfyg- wyd a Uaddfa fawr—tua 2,000 meddir. Nid oes le i ameu gallu'r Ffrancod i drechu'r brodorion; nid oes achos i bryderu dim ynghylch hyny. Ond wedi iddynt eu trechu, beth wed'yn ? Hyny sydd yn peri pryder. Gwyr ein darllenwyr mor chwerw fu'r teimlad rhwng Ffraingc a'r AImaen ynghylch Morocco. Er nad ydynt cyn chwer- wed ag y bu, y mae yn chwerw eto. Gellir bwrw fod yr Almaen yn gwylio'rgweithrediad- au yn fanwl iawn, ac na cheir hi yn anmharod i ymyryd os caiff achos, neu hyd yn nod achlysur. Oherwydd hyn gall y rhyfelgyrch yma, sydd yn gydmarol ddibwys ynddo ei hun, arwain i ganlyniadau mawrion a phwys- ig iawn. Ni fyn yr Ymherawdwr Gwilym i'r Ffrancod gael yn Morocco ddylanwad mwy na'r eiddo ef, a'i perygl ydyw i'r eiddigedd a'r genfigen sydd o'r ddeutu eu dwyn i wrthdarawiad a'u gilydd. Mae'n dda genym feddwl y gellir dibynu ar y Brenin Iorwerth, yr hwn sydd yn awr ar y cyfandir, i wneyd pob peth yn ei allu i j ddwyn yr Almaen a Ffraingc i gydweithredu yn hytrach nag i wrthwynebu eu gilydd. Ond er fod yr hyder hun genym, ni pheidiwn a theimlo'n bryderus hyd oni bydd milwyr Ffraingc a'r Hispaen wedi gadael Morocco a dychwelyd adref. Fel y mae pethau yn awr, gellir yn hawdd iawn gyneu tan dinys- triol ag y cymer amser hir i'w ddifoddi.

IMr. Ellis J. Griffith, A.S.,…

Meistr Meirch y Brenin. -1

IMesur Man Dyddynod i Gyrnru…

IBoneddigeiddrwydd Crachbendefiff.

I-..-OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad.