Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

At ein Gohebwyr.

NODIADAU WYTHNOSOLI

IMr. Ellis J. Griffith, A.S.,…

Meistr Meirch y Brenin. -1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Meistr Meirch y Brenin. -1 Yr wythnos ddiweddaf hysbyswyd fod Iarll Sefton wedi rhoddi i fyny y swydd hon a ddelid ganddo, ac fel rheswm dros iddo wneyd felly, cyhoeddwyd gyda meaur o rwysg honiadol ei fod yn anghytuno a mesurau eithafol y Llywodraeth. Tybiwn fod syniad y gwr hwn am ei bwysigrwydd ei un a phwysigrwydd ei swydd y fath ag i beri iddo dybied y byddai i'w ymddiswyddiad roddi ysgytiad i'r Llywodraeth a'i siglo hyd ei syl- feini. Dyddorol fyddai gwybod i ba un o bob cant o'n darllenwyr yr oedd bodolaeth Iarll Sefton yn wybyddus. Fel y digwyddai fod, yr oeddym ni ein hunain yn gwybod fod yn byw rywun yn dwyn y teitl hwn, ond pe gofynasid i ni rywbeth am dano y cwbl allas- em ddywedyd fuasai ei fod yn byw ac yn perchen tir yn rhywle heb fod yn mhell iawn o Lerpwl. Rhaid ein bod wedi gweled ddar- fod iddo gael ei benodi yn Feistr Meirch y Brenin wedi ffurfiad y Weinyddiaeth bresen- ol, ond yr oeddym wedi ei lwyr anghofio ef a'i swydd hyd oni chyhoeddodd ei fod wedi ei rhoddi i fyny. Gan iddi gael ei rhodd iddo, rhaid ei fod yn cael ei gyfrif ar y pryd yn rhyw fath o Ryddfrydwr. Gan aelod o Dy'r Arglwydd y delir hi bob amser, dyb- ygwn felly nid oedd gan y Prif-weinidog lawer o Ie i ddewis pan aeth i chwilio am un i'w rhoddi iddo. Mewn atebiad i gwestiwn a ofynwyd iddo ddydd Mawrth, dywedodd Syr Henry fod yn rhaid ei llenwi eto, ac na ellid hyd yn nod pe peidid a'i llenwi arbed i'r wlad y E2,000 a delir i'r sawl fyddo yn ei dal. Yr eglurhad ar hyn ydyw fod cyfanswm treuliau o'r fath wedi ei benderfynu ar esgyn- iad y Brenin i'w orsedd, a bod cytundeb a wnaed ar y pryd a'i Fawrhydi yn rhwymo'r Llywodraeth i dalu iddo y cyfanswm ag y mae y £ 2,000 yma yn rhan o hono. Pan holwyd y Prif-weinidog yn nghylch gwaith y swydd dywedodd ei fod yn rhy hen i gredu ei bod yn segurswydd." Gwr cyfrwysydyw ef. Trwy gyfrwysdra ymgadwodd rhag dywedyd ei bod yn segurswydd ar y naill law a rhag gwadu hyny ar y Haw arall. Atebodd yn y geiriau a ddyfynwyd. Yr ydym yn ddigon argyhoeddedig mai segurswydd ydyw yn ymarferol. Dyma un o'r ffyrdd y gwerir arian gwlad sydd yn rhy dlawd i drefnu blwydd-dal i'w phobt yn nyddiau henaint. Rhaid i ni ddweyd fod Cynrychiolwyr Llafur yn Nhy'r Cyffredin wedi ein siomi mewn un peth. Buasem yn disgwyl iddynt hwy wneyd ymchwiliad trylwyr i bethau fel hyn a gofalu am roddi gwybodaeth lawn am danynt i'r wlad. Gwastreffir arian lawer mewn ffyrdd nas gellir eu hesgusodi heb son am eu cyf- iawnhau, ond o'r braidd y clywir yr un aelod seneddol un amset yn dywedyd gair yn erbyn hyny. Dylent gydweithredu a'u gilydd mewn materion fel hyn pe gwnent, gwerth- fawrogai'r wlad eu gwaith a rhoddai iddynt ei chefnogaeth. — ❖ Ofr

IMesur Man Dyddynod i Gyrnru…

IBoneddigeiddrwydd Crachbendefiff.

I-..-OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad.