Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
-.- I Transvaal a'r Brenin.
I Transvaal a'r Brenin. Ceisiodd Llywodraeth y Transvaal gan senedd y Drefedigaeth ei hawdurdoai i orynu ddiemwnt o faintioli anghyffredin a elwlr II Diemwnt Cullinan i'w gyflwyno i'r Brenin fel arwydd o deimladau diolchgar pobl y Transvaal tuag ato am ganiatau ynreolaeth neu lywodraeth gyfansoddiadol iddynt mor fuan. Cynygiwyd y penderfyn- lad yn Nhy y Cynrychiolwyr gan y Prif- weinidog Botha yr hwn a draddododd araeth aeyrngarol dros ben. Gwrthwyneb- wyd y cynygiad gan Arweinydd yr Wrth- b al. y blaid sydd yn y gorp enol wedi J*°ni mai hi yw y blaid deyrngarol yn y rhan n, o'r byd. Mae'r maen gwerthfawr yn Werth tua E200,000, a'r rheswm a roddodd Yr Wrthblaid dros wrthwynebu oedd, fod tlVUl y Transvaal ar hyn o bryd yn gwneyd y peth yn anamserol ac afresymol hollol. ytna'r rheswm a roddasant, ond mae'n weddol sicr fod eu gwir reswm i'w gael yn y "aith ddarfod i'r cynygiad ddyfod oddiwrth Y Cadfridog Botha a'i gyfeillion. Nid yoytn wrth ddywedyd hyn yn meedwl a^grymu nad oes nid ychydig o rym yn y fheswm a roddwyd ganddynt. Pleidleis- lodd 42 dros a 19 yn erbyn y penderfyniad. ddiweddarach dygwyd y mater gerbron Ail Dy'r Senedd, y Cyngor Deddfwriaethoi. n ngwyneb y teimlad rhanedig yma, bydd Yn anhawdd i'w Fawrhydi wybod beth i'w wneyd. Mae'n ddiameu genym y buasai Yn dda iawn ganddo osod yn ei goron berl b werthfawr pe buasai Cynrychiolwyr Pbi y Transvaal wedi cytuno oil ynghyd w gyflwyno iddo. Ond mae'r gwrth- wynebiad sydd wedi ei wneyd i'r cynygiad yn tynu oddiwrth werth y rhodd, ac yn 90sod ei Fawrhydi mewn sefyllfa yn yr hon y bydd yn anhawdd iddo wneyd dim heb y?ddangos yn ddinystr o deimladau rhyw r4i. Ond os gall unrhyw ddyn ddyfod allan 0 ?????'sder hyn, y Brenin !orwerth «i,H^ hwnw. Rhaid aros am ychydig amser [ weled beth a wna. Ond pa gwrs bynag a !arna yn ddoeth i gymeryd, erys hyn-fod Y F"aith ddarfod i'r awgrym ddyfod oddiwrth ?y?dfridog Botha a'igyfeIUIonyn arwydd si 'awn fod doethineb Hywodraeth Syr klienry Campbell- Bannerman yn anog y ''Rr?enty n ganiatau ymreolaeth i'r Transvaal < ?' e' gynawnhau hyd yr eithaf. Wedi'r 'bl. nid oes dim yn debyg i ymddiried ^'n.pobl.
VP Anghytundeb yn Belfast.:…
VP Anghytundeb yn Belfast. I ,Da ydyw gallu dywedyd na fu terfysg yn ?3elfa-t ar ol y terfysg mawr y crybwyllasom i dano yr wythnos ddiweddaf, a bod yr h I1ghytundeb rhwng meistri a gweithwyr, o'r jj \\to y cododd y terfysg, wedi ei ddwyn i t ? ?yn bod?haol ddydd lau diweddaf. I Syr ''Anto"N" Mac Donnel ac i Mr. Askwith ,0 vYddfa Bwrdd Masnach) y mae'r clod hlwvf ?" ddy[edus- Eisteddasant i ymgyng- hon a gwr yn cynrychioli'r meistri ac a gwr Yn ?y??ychioH'r gweithwyr, ac mewn ychydig   '??yddasant i dynu allan gytundeb a ? ?'y??vyd gan y ddwy blaid. Paham na alla,,a:I ? ddwy blaid yn y dechreu gydsynio i Wa?,0 ld ?wyr cymwys i farnu rhyngddynt ? i'i r\v'neyd hyny gaHasent osgoi yr huH  liyny gallaseiit osgoi yr liull e"V't. ^u' a'r golled arianol tawr a gafwyd, :I'rtri ?y?'y? a goUwyd. Rbyfeäd mor l^Vrfrr-\ ydyw pobl, pan yn anghytuno .dYdd, ? adael i reswm gael ei He a'i ) allll. A A
[No title]
t?-? ?'I'ss Helen Botha, fu ar ymweli&d yn ,rido?''yay'.?adhcngyda'ithad, y Cad- 'Ie ,,1 ;otha, yn myned i briodi Mr. Hendrick I.le \vao ?y?eithiwr o Dde ASnca. Bn 'T ?ch R. J. Campbell, City Temple, Arii0l ? n Dolgellau yr wythnos ddiweddaf. Ar?ho?c. i yn ngwesty y Golden Lion. 1 Wn8Uthtirwr cider yn LDstwltbeJ, -ernV*« v ei argyhoedddi. Gadawodd i'w. 'o?i ?c?.e: gwertb ?20, redeg yn ofer.
NODION O'R CYLCH. I -.-I
NODION O'R CYLCH. I I DA genym weled i Arddangosfa Llanrwst, ac Arddadgosfa Ardudwy droi allan mor lwydd- ianus. Y mae nifer yr enillwyr yn y ddwy yn rhy luosog i ni eu henwi yn y fan hon ceir eu henwau yn adroddiadau y ddwy arddangosfa mewn colofnau eraill, fel mae'r oil a wnawn yma yw eu llongyfarch yn galonog iawn. Tyn- ai rhai pethau sylw arbenig ar gyfrif eu rhagor- iaeth yn eu dosbeirth. Dangosodd Mr. W. G. Powell ei Gwn Defaid penigamp, ac enillasant y gwobrau blaenaf yn rhwydd. Gwelwn i Mri Hughes ac Owen, Blaenau; W. Jones Humphries, Peorhyn, a Dr. D. Livingstone Davies, Criccieth, wneyd marc gyda'u cwn. WRTH son am Arddangosfeudd, goddefer i ddatgan ein boddbad wrth weled enwau Mri John Berry, ac Owen Williams, Llanrwst, yn mhlith y Beirniaid, y naill gyda Mel, a'r llall gyda'r Cwn. Clywsom ganmoliaeth iddynt am eu tegwch ac uniondeb eu dyfamiadau. Y mae y ddau yn hen gyfarwyd ag anhebgorion y gwaith a ymddiriedwyd iddynt, I ba beth yr eir i gyrchu Beimiaid o Loegr tra mae genym gystal dynion yn ein plith eln hunain all wneyd y gwaith i foddlonrwydd. YN Mwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst, ddydd Mawrth, galwodd Mr. Edward Edwards, sylw at fater yr ydym wedi bod yn meddwl am dano yn ddifrifol ar hyd y blynyddoedd, sef yr elusen prin a ganiateir gan y Bwrdd hwnw ar gyfer plant amddifaid. Y mae bron fel deddf y Mediaid a'r Persiaid yn 1/6 yr un. Golyger fod dynes ieuangc wedi ei gadael gyda dau o blant bychain, yr oil a roddir gan y Bwrdd fydd tri swllt: swllt yr wythnos ar gyfer y tri at dalu y rhent, cael glo, dillad, esgidiau, a bwyd! Rhoi angen un rhwng naw meddai Dewi Wyn ar achos arall, ac yn y fan hon y mae llai na digon at gael bwyd i'r fam yn unig, heb son am ei phlant, yn cael ei roddi. Dylai y fam enill at gadw cartref i'r plant," meddi'r; gwir, ond nid hawdd iawn yw i fam fyned allan i enill tra y mae y plant bach o dan ei gofal. Pe digwyddai rhyw anffawd i'r rhai bach, y fam gaffai ei beio. AR fater y gwragedd gweddwon ieuaingc, y mae yn ofid clywed y Swyddogion Elusenol yn dywedyd, Hon a hon. Gwraig weddw a thri o blant, wedi cael gwerth pedwar swllt a'r ddeg yn ystod y mis." Yna'r cwestiwnyn cael ei ofyn paham na roddi'r elusen fel i'r tlodion eraill mewn arian ac atebir, Y mae wedi tori ei gweddwdod." Daliai Mr. Edward Edwards, fod gwasgu gweddwon ieuaingc gydag elusen brin yn eu gyru i ollwng eu hunain i fywyd aniwair. Y maej ffeithiau yn profi yr hyn ddywed Mr. Edwards, mor bell agy mae Undeb Llanrwst yn myned, yn hollol gywir, ac nid oes dim yn rhy fuan i'r Gwarcheidwaid ddeffro i'w cyfrifoldeb yny mater, gan na ddylai moesol- deb ddyoddef er mwyn arbed, ychydig sylltau o'r trethi. Ymddangosodd y frawddeg a ganlyn yn yr Herald Cytnraeg am yr wythnos hon: Bu cynrychiolydd yr Herald yn ymholi sut yr oedd pethau yn Abergynolwyn yr wythnos ddi- weddaf. Yr ateb oedd, gwerthu a chlirio da ar y llechi. Gofynai yn mbellach pa reswm oedd am y gwananiaeth rhagor mewn Ileoedd eraill, yn arbenig Ffestiniog, ac un ateb pwysig i hyn oedd eu bod yno yn gwerthu yn ol pris y farch- nad ac yn Ilwyddo, yn hytrach na chael colled- ion mawrion trwy gadw cronfeydd ar law." Os yw yr uchod yn gywir, y mae yn haeddu sylw perchenogion chwareli trwy yr hoM wlad. I'n tyb ni,y bobl ganol "yw yr atalfa benaf ar ffordd llwyddiant y fasnach lechi, gan eu bod yn sefyll rhwng y cwmniau a'r prynwyr, yn lie bod y cwmniau yn gosod eu nwyddau ar y farchnad yn uniongyrchol, trwy gadw eu tra- faelwyr eu hunain i gymell y cyfryw i'r sawl fydd mewn angen am danynt. Gresyn gweled ein pobl oreu yn dal i droi eu cefnau ar eu car- trefi os oes rhyw feddyginiaeth rwystrai hyny yn gyrhaeddadwy. Newyddbeth hollol yn ein hardal ydoedd y cynhebrwng milwrol a welwyd y dydd o'rblaen ac nid rhyfedd fod cynifer o bobl yn tyru i'w weled ar hyd y ffordd yr elai. Dyma yr unig un, meddir, a fu yma erioed. Mae y parch hwn a delir gan fyddin ein gwlad i'r milwyr b, tiy fuont unwaith yn ei rhengoedd yn beth hardd a chanmoladwy. Yr oedd presenoldeb y gwyr meirch yn gwisgo yr orymdaith brudd- aidd a rhyw urddas effeithiol. Gwnaeth ar- graff dda ar yr ardal. Hir y parhao byddin Prydain i barchu llwch ei milwyr ymadawedig. Gall y wlad wneyd un peth gwelleto.euparchu yn eu bywyd. Mae llawer hen filwr dewr wedi gorfod dioddef cyni mawr ar y ffordd at yr an- rhydedd pruddaidd hwn.
I HARLECH. I
HARLECH. Caffaeliad mawr i'r dref hon ydyw y llytbyr- god ychwanegol ganiatawyd gan awdurdodau y Llythyrdy, trwy yr hwn y gellir postio hyd 7-45 yn lie 4-45 fel o'r blaen. Bydd y drefn hon yn parhau hyd Fedi 30ain, a bydd llythyr- au yrir gyda'r post hwn yn cael eu dosbarthu yn v boreu trwy Ogledd Cymru, a dinasoedd a threfi pwysicaf Lloegr, Byddai yn fantais fawr pe cerid y god ychwanegol yma yn mlaen ar hyd y flwyddyn. GOLF.—Mae nifer fawr iawn-rowy nag erioed o'r blaen, o ymgeiswyr eleni yn y çys- tadleuaethau a drefnir gan Glwb Golfwyr St. Dewi. An nghyfarfod blynyddol y clwb dew- iswyd Mr G. F. Ward, cyn■ysgrifenydd Clwb I King's Motor, yn gadben, a Mr John Humph- reys, Porthmadoc yn is-gadben. Ail etholwyd Mr W. H. More yn ysgnfenydd am y bedwar- edd-flwyddyO,- Pr- d deg yn olynol. SOSIALWYR.—Mae nifer o Sosialwyr wedi cymeryd Ysgoldy Penrallt, Llanbedr, i gynal vsgol hai, a chynhalient gyfarfodydd a rhodd- ant. ddarlithoedd rhad ar bynciau cymdeithasol. Mae amryw yn myned yno i wrandaw arnynt.
Yr Eisteddfod Genedlaethol.…
Yr Eisteddfod Genedlaethol. t Dechreuodd Eisteddfod Genedlaethol Aber- tawe ddydd Mawrth. Ymddengys nad oedd y trefniadau yn agos y peth y dymunasid eu bod, gan fod maes yr Orsedd yn bell oddiwrth Babell yr Eisteddfod, yr hyn a barodd gryn oediad gyda dechreu y gweithrediadau yn y Babell, ac anrhefnus neillduol fu pethau ar hyd ddydd Mawrth. Pan yr oedd Arglwydd Glantawe yn ceisio anerch, yr oedd yr anrhefn mwyaf ar y llwyfan ac yn y dorf, fel mai sarhad ar y boneddwr anrhydeddus oedd gofyn iddo siarad na llywyddu. Gwnaeth Llew Tegid a Gomer (Dr. Gomer Lewis) eu gwaith yn rhag- orol fel Arweinyddion. Siaredir yn uchel iawn hefyd am weithrediadau yr Orsedd. A ganlyn oedd y dyfarniadau a wnaed yn hysbys 1- Corau Merched, £ 20. Datganu, Snow a "Newid Cywair." 1, Pontypridd. Canmol- iaeth arbenig i Abertawe a Cynon. Ail Gystadleuaeth Gorawl, £40, ACIO. 1, Pembroke Dock yn tra rhagori; 2, Treorci. Pedwarawd Lleisiol, £$4s Oc. 1, David Chubb a'i gyfeillion, Pontypridd. Canu gyda'r Tanau (dull y Gogledd). Cyd- radd oreu Richard Morgan, Brynaman, a J. Devonald, Castellnedd. Unawd Baritone, Josiah Thomas, Abertawe. Cyfieithiad Mydryddol o'r Seisnig i'r Gym- raeg. 1. Parch. W. Williams, Glyngarth, Bangor. Casgliad o Len Gwerin Dyffryn Nedd. 1, Lewis Davies, Ysgolfeistr, Cymer. Myfyrdaith, "Pygmalion a'i Gerflun," £ 5. Parch. Ben Davies. School Reader on the Commercial and Industrial Geography of Wales," £ 10. J. C. Evans, Caerdydd. Chwareu y Crwth (i Blant), Lionel Falkland, Aberteleri. "Cymry Shakespear," £7 7s 0. W. W. Moore, Newvddiadurwr, Abertawe. Cyfroddiad at Hanes Cymru," £15, a Z5. Dyfarnwyd £8 i Howell J. Eyans, B.A., Caer- dydd; a £ 12 i "A Welsh Student," gan gadw £4 mewn llaw hyd nes y bydd wedi ad-drefnu y rhan arweihiol o'r gwaith. Dydd Mercher gwobrwywyd fel y canlyn :— Unawd Soprano, Miss Marian Squire, Caer- dydd. Unawd contralto, Miss Winifred Lewis, Senghenydd. Unawd ar y berdoneg i rai mewn oed, Mr. Ivor Owen, Moselton, Abertawe. Tuchangerdd, "Yr Hunan hysbysebwr," Avelino. Bugeilgerdd, "Gauaf y Praidd," Bugail Cwmdyle. v Adroddiad i Ferched, Miss Eleanor Davies, Llanelli, gyda gwobrwyon ychwanegol i Miss Mary Jane Francis, Ystalfera, a Miss Mary Evans, Cwmtwrch. Dyfarnwyd Pectoris Magister yn oreu ar gyfieithu o'r Lladin, ac o'r Ellmynaeg. Yn adran celfyddyd gwobrwywyd fel y can- lyn :—Oil paintings, 1, Mr P. Carrol Pane, Bill- inghurst, Sussex; 2, Mr. Alfred Oliver, Capel Curig; 3, Miss Gwennie Griffiths, Druslyn, Swansea. Original seascape in oils: Mr. Fischley. Original seascape in water: Mr. W. Whitehouse. Study of an animal (or group): Mr. H. M. Shellard, Cardiff. Still life in oil: Miss Davies. Original landscape in water colours,: Mr. B. A. Edith Wersle, Barry. Painting on China Miss Margery J. Mathews, Swansea. Crystoleum painting: Miss Daisy Chapman, Swansey. Original study in black and white: Miss Winifred Bevan, Mount Pleasant. Charcoal or crayon drawing: Miss M. J. Bonnyman, Cardiff. Pencil drawing of foliage: Miss Edith Wersle, Barry. Six pen and ink sketches illustrating senes and incidents in any well-known Welsh novel: Mr. Downing Williams, Llandilo. Groups in photography: Mr. J, Williams, Rhyl. Photographic child studeis: Mrs. Wil- liams, Rhyl. Photograph after the style of the masters: Mr. Williams, Rhyl, first and Mr. J. Wilkins, Bangor, second. Sculpture: Mr. E. F. Hornsby, Cardiff. Y BRIF GYSTADLEUAETH GORAWL. I Daeth deg o gorau yn mlaen i ymgeisio am brif wobr ac anrhydedd yr eisteddfod, a chan- asant yn y drefn ganlynol :-Cwmavon Choral Society (Mr. Evan Thomas); 2, Llanelly Choral Society (Mr. John Thomas) 3, Cardiff Harmonic Society (Mr. Roderick Williams); 4, Newport Choral Society (Mr. A. E. Sims) 5, Rhymney Gwent Choral Society (Mr. Daniel Owen) 6, Pontypridd Musical Society (Mr. M. Thompson) 7, St. Paul's (Swansea) United Choir (Mr. Henry Williams) 8, Morriston and District Choral Society (Mr. T. D. Jones) 9, Brynaman Choral Society (Mr. Edward Evans); 10, Rhymney United Choir (Mr. R. J. Price), Y darnau i'w canu oedd See what love hath the Father a The nations are now the Lords" (Mendelsohns), Parhaodd y gystadleuaeth am dros bedair awr. Rboddwyd y feirniadaeth gan Dr. Cowen, ac enillwyd y wobr gyntaf (fl50) gan gor Caer- dydd, a'r ail ( £ 50) gan Brynaman. Anffawd a Chyffro. Digwyddodd anffawd pan oedd cor Llanelli yn canu, trwy i rai o'r meinciau dori a chyffroi y gynulleidfa fel y rhuthrai llawer allan o'r Babell. Bu raid i'r cor ddistewi nes i'r cynwrf fyned drosodd, a chwareuodd y Seindorf Ymdaith Gwyr Harlech." Llewygai rhai o'r merched a chyda ymdrech fawr y cafwyd llawer ohonynt i'r awyr agored. Bernir i hyn effeithio yn niweidiol ar ganu cor Llanelli. Anafwyd un dyn, Mr. Danny Walters, Llanelli, trwy y ddamwain a chymerwyd ef i'r Yspytty, a der- byniodd chwech o bersonau eraill niweidiau llai.
Yn Ddiwrthwynebiad. I
Yn Ddiwrthwynebiad. Dychwelwyd Mr. Ellis Griffith, yrhwn drwy ei benodiad yn Recorder of Birkenhead oedd yn neillduo o;- i sv;ydd yn y ty, yn ddiwrthwyn- | ebiad dvdd Mercher.
LLANRWST. !
LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBATHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St, Crwst.-10, Parch C. W. Davies. 6. Parch. J. Morgan. St. Mary.—10, Parch. J. Morgan. 6, Parch C. W. Davies. Y Methodistiaid. Seiotk.—Parch. John Evans, Llanfaircaereinion. Heol Scotland-Parch. J. Hughes, B.A.,B.D., Pwllheli. Yr Annibynwyr. Tabemaci-10, Mr. Robert Edmunds, Blaenau Ffestiniog; 6, Cyfarfod Gweddi. Ebenezer-Mr. Morgan Jones, Blaenau Ffes- tiniog. Y Wesley aid. Horeb-10. Cyfarfod Gweddi; 6, Parch. Phil- lip Price. St. James (English Chapel).-Mr. T. Schofield, Colwyn Bay. Y Bedydduryr. Penuel.—Cyfarfod Gweddi. BEIRNIADU.—Gwelwn fod dau o'n cyd- drefwyr wedi bod yn beirniadu yn Arddangosfa Ardudwy. Rboddodd Mr. Owen Williams, Gemydd, foddlonrwydd cyffredinol gyda'i ddyfarniadau yn adran y Cwn, a Mr. John Berry (ieu.), yn adran y Mel. Mae y ddau yn "hen ddwylaw" gydag enill gwobrau, ac yn bur gyfarwydd a'r cangenau eu dewisiwyd i famu arnynt. Y FARCHNAD.—Yr oedd y Farchnad ddydd Mawrth yn llawn bywiogrwydd. Gwertbai y Perchyll o 18/- i 22/- y pen. Hwyaid o 4/6 i 5/6 y cwpl. Wyau 11 a 12 am swllt. Tatws 5/6 y cant. Ymenyn 1/- a 1/1 y pwys. Pys lOc y phiolaid. Dofednod o 4/- i 4/6 y cwpl. MEDDW AC AFREOLUS.—Dydd Sadwrn o flaen Mri. Isgoed Jones a William Hughes, yr Arolygydd Woollam a gyhuddodd George West, crwydryn o Manceinion o fod yn feddw ac afreolus yn y dref y dydd blaenorol,-Anfon- wyd ef i garchar am 14 niwrnod. CARDOTA.—Dydd Llun o flaen Mri O. Isgoed Jones a W. Hughes, yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd John Mellor, crwydryn o gardota yn y dref. Yr Heddgeidwad Jones a gyhudd- odd Peter Murphy o drosedd cyffelyb.—Saith niwrnod o garchar i'r ddau. GWERTHU TAI.-Prydnawn ddydd Mawrth, yn yr Eagles Hotel, dododd Mri. Blackwall, Hayes, & Co., y ty hardd a chyfleus elwir yn "Tanydderwen." Bettwsycoed, ar werth. Dechreuodd y Cynygion gyda £ 400, a tharawyd yr eiddo i Mrs. Jones, Coedypair, Bettwsycoed, am £ 450. Yn yr un lie, gosododd Mr. F. A. Dew, Bangor, y fferm adweinir fel Brynllech," Eglwysbach, ar werth. Dechreuodd y Cynyg- ion gydag £ 800, a tharawyd y lie i Mr, Wil- liam Williams, Masnachydd Coed, Caerwys (dros yr hwn y gweithredai Mr. Aneurin O. Evans), am £ 1,000. YR ARWEST.—Dydd Mawrth, cynhaliwyd Pwyllgor brwdfrydig i drefnu at yr Arwest gynhelir heddyw (dydd Iau) ar lan Llyn Geir- ionydd. Llywyddid gan yr Isgoed. Darllen- wyd y Fantolen Arianol, yn cynwys cyfrif manwl o'r derbyniadau a'u treulion am 1905 a 1906. Yr oedd gweddill sylweddol mewn llaw, ac Elis o'r Nant wedi casglu swm da eleni eto. Teimlid yn bur galonog o gael Mantolen fel hyn am y waith gyntaf erioed, a dyru hyny yr Arwest ar dir anrhydeddus ac uwchlaw amheu- aeth ac edliwiaeth am ei derbyniadau, &c.- Pasiwyd i argymell derbyniad y Parch, John George Gibson, D.D.LL.D., Ficer Elchester yn aelod o Gymrodoriaeth Barddas. Afiechyd oedd y rhwystr ar ffordd y gwr dysgedig i ddod drosodd i'r Orsedd. Adnabyddir ef yn nghylch Barddas o hyn allan wrth yr enw Sior Eba." —Gwnaed trefniadau at gael Crwth yr Orsedd o'r Ariandy i'r Arwest, Corn Gwlad, y Cledd, a'r Delyn. Bydd Telynor Dall o Feirion ac loan Dwyryd yno yn cymeryd rhan, gyda llu o Feirdd, Llenorion, a Cherddorion. MARWOLAETH MRS. ROBERTS, AVONDALE. Bu i'r newydd am farwolaeth sydyn Mrs. Roberts, priod serchog Mr. William Lloyd Roberts, cyn-berchenog y Rhedegydd, taflu ton o syndod a phrudd-der dros dref Llanrwst a'r cylchoedd cyfagos. Dydd Mawrth yr oedd hi a'i phriod yn Llandudno; a dydd Mercher rhoddodd enedigaeth i blentyn marw, ac ofnid y gwaethaf am dani mewn canlyniad i hyny. Dangoswyd bob gofal posibl am dani gan Dr. Huw Williams, Dr. Richard Jones, a Dr. Inglis, Llundain; ond yn gynar nos Iau ehedodd ei "hysbrydat Dduw yr hwn a'i rhoes." Ail ferch ydoedd Mrs. Roberts, i Mr. a Mrs. William Rogers, Gorsafdy, Tregarth, ac yr oedd yn 34 mlwydd oed. Yn ystod ei dwy flynedd o fywyd priodasol o'r fath hapusaf, dangosodd ei bod yn meddu cymwysderau eith- riadol i wneyd aelwyd ei chartref yn ddedwydd. Ymsuddodd yn ddwfn i serch dau fab a merch Mr. Roberts, ac yr oedd ei gofal yn fawr am danynt hwy a'i phriod. Nid oedd ond ychydig o amser oddiar y cychwvnodd Miss Roberts i Manceinion i ddysgu myned yn Weinyddes (Nurse); Mr. Gwilym Roberts i fyned i Ariandy yn Buenos Ayres;, a Mr. Louis T. Roberts i baratoi ei hun fel meddyg. Yr oedd yn cymeryd dyddordeb mam yn y tri, a mawr oedd ei boddhad wrth glywed am eu llwyddiant. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Eglwys Seion, he o Gymdeithas Dorcas, lie y teimlir colled fawr ar ei hoi. Hebryngwyd ei gweddillion i fyn- went Seion ddydd Sadwrn yn righanol arwydd- ion o alar cyffredinol. Mae ein cydymdeiraUd dyfnaf a Mr. Roberts a'i blant yn eu profedig- aeth chwerw, yn ogystal a'r teulu yn Tregarth.
Diangfa Gyfyng.
Diangfa Gyfyng. Boreu dydd Mercher, pan oedd Dr. R. ,A. Pritchard, yn myned i lawr Albert Diive, Llandudno Junction, yn ei gerbyd, daeth modur i wrthdarawiad ag ef yn y drofa, a niweidiwyd ei gefIyl yn fawr, end yn flbdus diangodd y meddyg yn ddianaf.
! TANYGRISIAU.
TANYGRISIAU. YMADAEL.—Ryw fyned a dod ydyw hi yma yn awr er's wythnosau y mae rhai yn dod yn ol o'u gwyliau, ac eraill yn myned oddi yma ar ol treulio ychydig amser yma. Ond y mae yma rai yn ymadael i'r America yr wythnos hon, y mae y Mri Evan E. Jones; John H. Roberts; John J. Hughes; W. E. Jones; a Daniel Hughes; yn paratoi am wlad y Gorllewin. Y mae Mr. John Hughes, Cae'rffridd, wedi myned i Durham a Wm. Jones, Penybont, i Lerpwl i weithio. Hefyd y mae Owen Jones Hughes, wedi myned i ofalu am drefn ar esgidiau y Twrogiaid. Y mae wedi agor Cangen yno o "ffirm" enwog "Hughes's" Tanygrisiau, sydd alu clod trwy yr holl wlad. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei le newydd yn Maentwrog. COLLED.—Yr wythnos hon cafodd Mr. Evan Evans, Ty'nddol golled trwy i un o'i anifeiliaid drengu. CYFARFODYDD 0 YMOSTYNGIAD.-Nos Lun a nos Fawrth, cynhaliwydy cyfarfodydd uchod yn Bethel, i gydnabod Duw am ei ddaioni, ac i erfyn am barhad o'r unrhyw eleni eto, er ein holl anheilyngdod. Caed cyfarfodydd gafael- gar a chynulliadau da. MARWOLAETH.—Yr wythnos hon eto y mae genym y gorchwyl trist o gofnodi marwolaeth Mr. John Griffiths, Glanllyn. Bu yn wael am amser maith, ond y diwedd addaeth ato yntau. Yr oedd yn wr diddan iawn, a mynych y ceid ymgom ag ef am hanes Rhyfel Crimea, a gwrth- ryfel yr India, yn mha rai y cymerodd ran dros ei wlad. Yr oedd yn aelod o'r Eglwys Sefyd- ledig. Y mae iddo wraig a phlant ac wyrion yn galaru am dano, gyda pha rai y mae ein cyd- ymdeimlad llwyraf. Dydd Mawrth, cymerodd ei angladd le yn mynwent Llan Festiniog. Enillodd yr ymadawedig amryw dlysau am wroldeb ar faes y gwaed. Anrhydeddwyd ef fel hen arwr ag angladd milwrol. Daeth nifer o wyr meirch o Drawsfynydd i'w hebrwng, a chludwyd y corph i'r fynwent ar gun-carriage ac wedi hulio yr arch a'r Faner Brydeinig yn ol y drefn arferol gan filwyr. Dyma yr ang- ladd milwrol cyntaf a fu yn yr ardal hon, ac yr oedd yn tyun cryn lawer o sylw. Gwas- anaethwyd yn.yr angladd gan y Parch. Ben Thomas, B.D., a'r Parch. C. Price, B.A,
Helynt Morocco.
Helynt Morocco. Yn nglyn a'r cythryfwl yn Morocco, bu raid i'r holl drefedigaeth o Ffrengwyr a Phrydein- wyr ffoi am nodded i'r llongau oedd yn y porthladd cyfagos. Nid oedd yr un Hong yno gymwys i'w derbyn ond yr ager-long Dermest- ion o Caerdydd, Cadben yr hon yw, Cadben William Jones, East Avenue, Porthmadoc. Derbyniodd drichant o Ffrengwyr a 30 o Brydeinwyr ar ei bwrdd. Derbyniodd ddiolchgarwch y Llys Genhadon, gydag an- rhegion gan y ffoedigion pan oeddynt yn gadael y llong am y Ian.
Damwain ddifri-fol yn Llanberis.
Damwain ddifri-fol yn Llanberis. Ddydd Gwener, digwyddodd damwain ddif- rifol yn Chwarel Dinorwig. Ymddengys fod Mr. Griffith Thomas, gwr ieuanc priod yn byw yn Llidiart-y-Clo, Dinorwig, yn tanio twll, pryd y ffrwydrodd y pylor i'w wyneb. Cwyth- wyd ef i fyny ochder o 15 Hath. Cludwyd ef i'r ysbyty rhag blaen, ac yno yr erys. Ofnir y bydd iddo golli gwasanaeth ei ddau lygad. Gobeithir y goreu. Y mae ei wraig yn frodores o Gaernarfon, sef merch i'r diweddar Mr. Rol- and Williams, Hafod Terrace. Y mae y gwr ieuanc anffodus yn swyddog yn Eglwys Llan- dinorwig.
Family Notices
MARWOLAETHAU. DAVIES.-Awst 19. yn 74 mlwydd oed, Mr. Evan Davies, Cae Coch (gynt Glanygors), Bethania. Claddwyd ef ddydd Mercher yn mynwent Bethesda. JONF-S.-Ar yr 13eg o Awst, Hugh Christmas. anwyl blentyn Mr. a Mrs. Evan Jones, 2. Tanybryn, Pantllwyd, Festiniog, yn wyth mis oed. JONES.—Boreu ddydd Llun, yn hynod sydyn, bu farw y cyfaill diddan Mr. John R. Jones ('Rhenefail), Castle Terrace, Dolwyddelen. Yr oedd yn cwyno o dan anwyd er's wythnos, a nos Sul yr oedd yn bwyta ei swper gyda'r teulu fel arferol. Yn y nos, yn ystod pangfa o besychu, bu farw heb ddim rhybudd pellach na hyny. Cydymdeimlwn yn ddwfn a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw a sydyn. Cleddir yfory (ddydd Gwener) yn Brynbedd. WILLIAMS.-Awst 19, yn 64 mlwydd oed, Mrs. Dorothy Williams, Gweddw y diwedd- ar Mr. Richard Williams, Bowydd Road, Blaenau Ffestiniog. Yr oedd Mrs. Williams yn un o ferched mwyaf rhinweddol yn y lie, a'i sirioldeb a'i charedigrwydd bron heb derfyn i bawb o'i hamgyich. Gadawa' dri mab ac un ferch yn eu galar ar ei hot, a'r rhai y mae ein cydymdeirnlad dyfnaf. Gleddir y fory (ddydd Gwener) yn mynwent Bethesda.
Rhewi i Farwolaeth.
Rhewi i Farwolaeth. Diwedd yr wythnos o'r blaen, cychwynodd tri teithydd ddringo'r Matterhorn. Nid oedd ar- weinydd gyda hwynt. Cawsant brofedigaeth ofnadwy, a rhewyd un ohonynt i farwolaeth Dydd Iau y cychwynasant ar eu taith enbvdus. ac nid oedd y tywydd yn ffafriol o gv.bl. Wedi gadael Col du Sion, lie y buont yn gwersyllu, cyfarfyddwyd hwynt ag ystorm ddychrynllyd pan oeddynt ychydig uwchlaw Pio Tyndall. Bu raid iddynt dreulio noson ar le taith rhyw bedair awr o ben y mynydd. Oberwydd yr oerni ac efleithiau y bu un ohonynt farw, dydd Gweijer, Ar ol dioddef llawer cyrhaedd- odd y ddau arall i Zematrcs Sadwrn Treu- liascilt yr ail noson ar ysgwydd y Matterhorn.
I-..-OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad.
Yr oedd yn cysgu mewn ty-saethu o'i eiddo heb fod yno gydag ef ond ceidwad ei helwr- iaeth ynghyd a gwraig a merch hwnw, pan gymerodd ffrwydriad ofnadwy (fel y dywedir) Ie. Gwnaed cryn niwed i'r ty, ond ni wnaed rliwed o gwbl i Arglwydd Ashton nac i un u'r rhai oedd gydag. Ptiodolai ef yr erchyll- waith i rai o'i gaseion, a brysiodd yr hedd- geidwad i chwilio'r He yn fanwl, ac i wneyd ymholiadau yn mhob cyfeiriad. Nos Fawrth synodd aelodau Ty'r Cyffredin glywed un o'r aelodau Gwyddelig yn gofyn i Mr. Birrell a oedd ef yn gwybod fod gan yr hedd- geidwaid resymau dros gredu fod y gwaith dan sylw wedi ei wneyd gan bobl yn byw gerllaw i dy Arglwydd Ashtown, ac nid gan ddyhirod o bell fel y mynai y gwr i'r hedd- geidwaid gredu. Yr awgrym eglur ydyw nad oedd gan y rhai a gyflawnasant y weith- red gysgod o fwriad i niweidio Arglwydd Ashtown, ond eu bod yn gyfeillion iddo ac wedi gwneyd y peth yn unig gyda'r amcan o beri i bobl ddiniwed gael eu drwgdybio a'u cosbi. Gwrthododd Mr. Birrell ateb y cwestiwn hyd oni byddai yr heddgeidwaid wed? cwblhau yr ymchwiliad a pharatoi ei hadroddiad. Casglwyd oddiwrth ddull Mr. Birrell fod rhywbeth mwy nag a wyr y cyhoedd wedi cael ei ddarganfod gan yr heddgeidwaid, a bod y rhywbeth hwnw yn peri iddynt ameu a'i gwaith gelynion Arglwydd Ashtown ydyw yr hyn a wnaed. GeUir dibynu ar yr aelodau Gwyddelig na tydd iddynt adael i'r mater orphwys hyd oni ddygir y gwir i oleuni. Os ceir fod sail i'w drwgdybiaeth dylid gweinyddu cosb drom ar awdwyr y gwaith.