Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

-.- I Transvaal a'r Brenin.

VP Anghytundeb yn Belfast.:…

[No title]

NODION O'R CYLCH. I -.-I

I HARLECH. I

Yr Eisteddfod Genedlaethol.…

Yn Ddiwrthwynebiad. I

LLANRWST. !

Diangfa Gyfyng.

! TANYGRISIAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TANYGRISIAU. YMADAEL.—Ryw fyned a dod ydyw hi yma yn awr er's wythnosau y mae rhai yn dod yn ol o'u gwyliau, ac eraill yn myned oddi yma ar ol treulio ychydig amser yma. Ond y mae yma rai yn ymadael i'r America yr wythnos hon, y mae y Mri Evan E. Jones; John H. Roberts; John J. Hughes; W. E. Jones; a Daniel Hughes; yn paratoi am wlad y Gorllewin. Y mae Mr. John Hughes, Cae'rffridd, wedi myned i Durham a Wm. Jones, Penybont, i Lerpwl i weithio. Hefyd y mae Owen Jones Hughes, wedi myned i ofalu am drefn ar esgidiau y Twrogiaid. Y mae wedi agor Cangen yno o "ffirm" enwog "Hughes's" Tanygrisiau, sydd alu clod trwy yr holl wlad. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei le newydd yn Maentwrog. COLLED.—Yr wythnos hon cafodd Mr. Evan Evans, Ty'nddol golled trwy i un o'i anifeiliaid drengu. CYFARFODYDD 0 YMOSTYNGIAD.-Nos Lun a nos Fawrth, cynhaliwydy cyfarfodydd uchod yn Bethel, i gydnabod Duw am ei ddaioni, ac i erfyn am barhad o'r unrhyw eleni eto, er ein holl anheilyngdod. Caed cyfarfodydd gafael- gar a chynulliadau da. MARWOLAETH.—Yr wythnos hon eto y mae genym y gorchwyl trist o gofnodi marwolaeth Mr. John Griffiths, Glanllyn. Bu yn wael am amser maith, ond y diwedd addaeth ato yntau. Yr oedd yn wr diddan iawn, a mynych y ceid ymgom ag ef am hanes Rhyfel Crimea, a gwrth- ryfel yr India, yn mha rai y cymerodd ran dros ei wlad. Yr oedd yn aelod o'r Eglwys Sefyd- ledig. Y mae iddo wraig a phlant ac wyrion yn galaru am dano, gyda pha rai y mae ein cyd- ymdeimlad llwyraf. Dydd Mawrth, cymerodd ei angladd le yn mynwent Llan Festiniog. Enillodd yr ymadawedig amryw dlysau am wroldeb ar faes y gwaed. Anrhydeddwyd ef fel hen arwr ag angladd milwrol. Daeth nifer o wyr meirch o Drawsfynydd i'w hebrwng, a chludwyd y corph i'r fynwent ar gun-carriage ac wedi hulio yr arch a'r Faner Brydeinig yn ol y drefn arferol gan filwyr. Dyma yr ang- ladd milwrol cyntaf a fu yn yr ardal hon, ac yr oedd yn tyun cryn lawer o sylw. Gwas- anaethwyd yn.yr angladd gan y Parch. Ben Thomas, B.D., a'r Parch. C. Price, B.A,

Helynt Morocco.

Damwain ddifri-fol yn Llanberis.

Family Notices

Rhewi i Farwolaeth.

I-..-OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad.