Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BLAENAU FFESTINIOG. t

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BLAENAU FFESTINIOG. t YMWELIAD MYFYRIWR.—Nos Lun bit Mr. George Evans, o Goleg Aberhonddu, yn preg- ethu yn nghapel Bethania. ac yn casglu at y Coleg hwnw. Nos Wener, bydd Mr. Evans yn pregethu yn Carmel, ac yn casglu at y Coleg a'r Sabboth bydd yn pregethu yn Bethel, Ffestiniog. PREGETH YMADAWOL.—Fel y gwelir yn ngholofn y cyhoeddiadau Sabbathol y mae y Parch. Moses Roberts, yn gwasanaethu am y tro diweddaf fel Gweinidog Eglwys Seion. Bydd yn traddodi ei bregeth ymadawol nos Sul cyn symud i gymeryd gofal Eglwys Llangollen. Diau y cymer llawer fantais ar y cyfle hwn i glywed Mr. Roberts cyn ei ymadawiad o'n plith. Cynhelir y cyfarfod yma-dawol yn nghapel Seion nos Fawrth am 7 o'r gloch. CROESAWU. Yn nghyfarfod chwarterol Undeb Bedyddwyr Ceiriog a Myllin a gynhal- iwyd yn Nantyr dydd Gwener, rhoddwyd croesaw i'r Parch. Moses Roberts i'r Gynhad- ledd, a llongyfarchwyd ef fel Esgob newydd Beddyddwyr Cymreig Llangollen. Pregethodd Mr. Roberts nos Iau a dydd Gwener yn yr un lie. DAM WAIN.—Nos Sadwrn, ar allt Brynffynon Conglywal, cyfarfu Mr. Robert Morris Williams mab Mr. Edward Williams, Manod Road, a damwain difrifol. Ymddengysiddogolli rheol- aeth ar ei olwynfarch, a thaflwyd ef ar ei wyn- eb i'r wal. Anafwyd ef yn dost iawn. Gweinyddwyd arno gan Dr. Jones. DIANGFA I DDAU BYSGOTWR TN LLYN Y MANOD.—Dydd Llun diweddaf daeth dau bysgotwr dewr o Lord Street,-Evan Hughes a Jones ei gyfaill, at Lyn y Manod yn fawr eu hwyl. Gwaeddasant ar y ddau oeddynt yn y cwch ar y Llyn, am iddynt rwyfo am y lan er mwyn iddynt hwy gael myned i'r cwch yn eu lie. Ond yn fuan wedi iddynt gael y cwch a rhwyfo allan i'r llyn, fe glywyd bonllefau dychrynllyd am fywyd-fad, a mawr oedd yr ymdrech a'r tynu am y Ian. Deallwn i blwg y cwch ddyfod yn rhydd, a bod y dwfr yn llifo i mewn. Ceisiodd un gau y twll trwy ddodi ei fysedd ynddo ond yr oedd y llall naill a'i wedi dychrynu gormod, neu yn anfedrus ar y gwaith o rwyfo, fel nad oedd y cwch yn symud dim o ganol y llyn. Aeth y rhwyfwr anfedrus at y twll, a chymerodd ei gyfaill ei le gyda'r rhwyf- au. Tynwyd mor frawychus am y lan, fel y dywedir i'r cwch ddod ar ei ruthr i ganol y tir. gorfoleddai y ddau ddychrynedig ar gael tir o dan en traed. Lie enbyd yw Llyn y Manod i gychwyi tir sycb. HELBUL PYSGOTWYR. Un diwrnod yr wythnos o'r blaen aeth pysgotwr o Tanygrisiau, gyda'i enwair i un o lynoedd yr ardal gyda chyfaill iddo o'r De, wedi cyrhaedd yno, daeth yn wlaw trwm ac yn nos fel nad allent ddod oddi yno; ac yno y buont trwy y nos mewn cwt ar lan y llyn. Ac yn y nos daeth arnynt ofn yno eu dau, a dechreuasant ganu er ceisio ymlid y bwganod draw. Llawer o helbul sydd gyda'r hen bysgota yma onide ? CLWB Y BEL DROED.—Cynhelir cyfarfod o Glwb Pel Droed Tref Ffestiniog yn y Liver- pool Temperance Hotel, dydd Mawrth, Awst 27ain, am 7 o'r gloch. Dymuni'r am bresenol- fieb yr holl chwareuwyr. SALES.—Dymunwn alw sylw y cyhoedd at y ddwy sale bwysig sydd gan Mr. George Hughes, sef No. 8, Dorvil Street, y ty, y dod- refn. a'r Truck Glo. Cyfle ardderchog i Fas- Dachwyr Glo dydd Sadwrn nesaf. Hefyd yn yr Hall nos Fawrth nesaf, pob math o ddodrefn ty a pharlwr. FFRWYTHAU FFRESH.—Nid oes dim gwell ar y tywydd poeth yma na Ffrwythau Ffresh. Gelhvch gael rhai bob dydd yn syth o'r gerddi oddiwrth y Liverpool Fish, Fruit and Vegetable Stores, Ffordd Newydd, gyferbyn a Surgery Lr. W. Vaughan Roberts. GWIBDAITH .-Cafodd Ysgolion Sul Bryn- bowydd, Calfaria, a Pantycelyn wibdaith i Criccieth ddydd Gwener. Cafwyd tywydd anffafriol iawn, yn neillduol yn y prydnawn. Aeth 451 yno rhwng y plant a phobl mewn oed. GWAELEDD.-—Drwg genym ddeall fod Mr. J. T. Jones, Caeclyd yn cwyno y dyddiau hvn a'r un modd Mr. William Thomas, y Swyddog Elusenol. Mae yntau yn gorfod cael Mr. Richard Jones, Cae'rblaidd Offices, i wneyd ei waith gyda'r tlodion yn ei ddosbarth. Eiddunwn i'r ddau adferiad buan a llwyr. YN GWELLA.—Da genym ddeall fod Mrs. Thomas, Viewfield, Lord Street, yn gwella yn dda. Bu yn Llandrindod am adnewyddiad iechyd, a dychwelodd nos Lun wedi teimlo lies dirfawr oddiwrth yr ymweliad a'r lie iachaol hwnw. CARDOTA.—Dydd Mawrth, o flaen Dr. R. D. Evans, cyhuddwyd William Smith, a David Collins, dau grwydryn, o gardota yn Traws- fynydd, y Sul.—Anfonwyd y ddau i garchar am 14 niwrnod. DARLUN O'R DOSBARTH.—Dydd Mawrth, bu Mr. J. H. Thomas, Ysgol Uwchraddol, yn tynu darlun o Ddosbarth Mr. R. Parry, Arian- dy Gogledd a Deheudir Cymru, gyda'u Hathraw. Edrychai y deuddeg bacbgen hyn yn dda, a deallwn eu bod yn teimlo yn fawr wrth feddwl am golli Mr. Parry o Gapel Bowydd. Bydd ef yn ymadael am Lerpwl yr wythnos nesaf. Mae iddo ein dymuniadau goreu. Dymunwn hefyd groesawu Mr. H. Puleston Jones, gynt o Ddolgellau, sydd wedi dyfod i gymeryd lie Mr. Parry. Gcbeithiwn y bydd yn gartrefol yn eia hardial, ac y daw yn fnan i fo i mor uchel ei barch yn ein plith ag ydyw ei ragfiaenydd. C WELLA.-Da genym weled fed y Parch, B -I jamin Thomas, B.A. ciwrat Eglwys St Dewi yn gwella ar. ol y ddamwain a gafodd gy(a'i olwynfarch. Cawn y pleser o weled y cyfaill dawnus yn myaed i mewn ac allan yn ein plith eto. Cynyg Arbenig yr wythnos bon, Lard fresh 5c y pwys gan E. B. Jones & Co. MYNED AM COLORADO.—Heddyw (dydd Iau) bydd Mr, Griffith G. Jones mab Mr. G. Jones, Cloth Hall, yn cychwyn am Colorado. Fel y gwyr cyfeillion yr ardal. Mr. Jones yw Trys- orydd Seindorf Freiniol Arian Oakeley, dros yr hwn y dygir fawr sel yn wastadol. Bydd colled dirfawr ar ei ol yn y cylch hwnw. Gydag ef bydd y cyfeillion canlynol o Tanygrisiau yn myned am yr un lle.-Mri. John Hughes, Penybryn; John Hugh Roberts; Daniel Hughes, Cae'rffridd; Evan ac William Jones, Hendy. Boed i'r chwech bob Ilwydd a bendith yn y wlad bell yr hwyliant am dani. CAPEL Y RHi w.-Yr ydym yn diolch i Mr. Thomas J. Roberts, Aelybryn, Ysgrifenydd gofalus Eglwys y Rhiw (M.C.), am ei garedig- rwydd yn ein hysbysu o'r cyfnewidiad wnaed yn nghyhoeddiad y Sabbath nesaf. Deallwn mai y Parch. Evan Jones, Aberclawdd, fydd yno yn pregethu, ac nid y Parch. W. Llewelyn Lloyd, fel yr hysbysir yn ngolofn y cyhoedd- iadau. GWYLIAU.-Y mae amryw gyfeillion yn awr ar eu gwyliau, rhai wrth y Ffynonau a'r lleill ar lanau y moroedd. Yn mhlith eraill sydd oddicartref ar eu gwyliau gwelwn enwau Mri. Robert Jones, Manod House, Conglywal, a William Humphreys (Elihu), New Square. Dymunwn iddynt bob mantais o'u seibiant er adnewyddu corph ac ysbryd. ANERCHIAD.—Gwelir yr wythnos hon yn ffenestr shop Mr. W. P. Evans, Draper, Anerchiad goreuredig i Mr. William Roberts, Pen-ysgrifenydd Chwarel y Rhosydd, ar ei ymadawiad o'r lie, a wnaed gan Mr. Llew. Griffiths, Rhiwbryfdir, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn y Brif-ddinas yn cwblhau ei efrydiaeth fel Arlunydd. Dengys yr Anerchiad o ran cynllun wreiddioldeb arbenig, a hwnw wedi ei weithio allan yn naturiol gan law gelfydd. Ceir prawf amlwg o geindsr ei awen yn y brawddegau lliwiedig. ac amlygir trwy yr holl waith chwaeth diwylliedig. Disgwyliwn weled y Llew yn ein plith eto yn fuan, gan fod yma luaws o gyfeillion ac edmygwyr yn barod i'w groesawu. Bydd yr Anerchiad yn cael ei symud rai o'r dyddiau nesaf i Shop y Post, Tanygrisiau.-D.

ICroesaw y De i Seindorf FreiniolI…

I Gwaith y Senedd-Dymor. I

Advertising

BETTWSYCOED.

[No title]

Advertising