Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I -I-At - ein Gohebwyr.I

INODIADAU WYTHNOSOL I

Gwrthod -Dau -a -derbyn Dau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwrthod Dau a derbyn Dau. Taflodd Ty'r Arglwyddi allan ddau fesur o gry n bwysigrwydd-y ddau yn dal perth- ynas a Scotland. Mesur' a'i ddyben i aml- hau man dyddynod oedd y naill ac i sefydlu mewn rhan o'r wlad hono Lysoedd Sirol nid anhebyg i'r rhai sydd yn yr Iwerddon. Mesur i adbrisio tir oedd y llall. Gwrthod- wyd hwnw ar gynygiad Arglwydd Robertson mewn araeth eithafol o Doriaidd. Gweddus ynddo fuasai ymgadw rhag cymeryd rhan mewn dadl ar gwestiwn oedd wedi ei wneyd yn fater plaid, oblegid y mae yn derbyn X6000 fel cyflog am wasanaethu fel barnwr yn y Llys uchaf (sef Ty yr Arglwyddi). Ond efe a arweiniodd lu y Toriaid yn erbyn y mesur yma pleidleisiodd 118 yn erbyn ei ail-ddarllen tra nad oedd ond 31 dros wneyd hyny. Pan gafodd yr Arglwyddi Fesur Tyddynod Cymru a Lloegr dan eu dwylaw gwnaethant ynddo amryw gyfnewidiadau a alwent yn welliantau, ond pan dychwelwyd ef vn ei gyflwr "diwygedig" i Dy'r Cyff- rtdin anghytunwyd a'r gwelliantau i gyd o'r bron. Yna daeth yr amser i'r Arglwyddi ail-ystyried y mesur. Bu i Arglwydd Carrington ar ran y Llywodraeth eu hysbysu fod yn well ganddi heb i'r mesur basio o gwbl na phasio wedi ei andwyo gan rai o'r gwelliantau a gymerwyd gan fwyafrif yr Arglwyddi. Yr oedd wedi ysgrifenu yr araeth fer yn yr hon y dywedodd hyn, a darllenodd hi bob gair gyda phwyslais ac mewn ton a wnaeth argraph ddofn ar feddyliau y Toriaid eisteddent gyferbyn ag ef. Y diwedd fu iddynt roddi ffordd i Dy'r Cyffredin ar bob pwynt ond un. Anfonwyd y mesur yr ail waith i Dy'r Cyffredin wedi ei newid mewn un peth pwysig, ond dych- welwyd ef yn ol drachefn iddynt a'r gwelliant hwnw wedi ei daro allan o hono. Yna barnodd Arglwydd Lansdowne yn ddoeth orchymyn i'r Arglwyddi roddi ffordd i Gynrychiolwyr y Bobl. Credwn fod y mesur hwn yn un gwir dda, er nad yw lawn cystal ag y buasai pe y gadawsai yr Ar- glwyddi lonydd iddo. Ond ni feiddiasant wneyd niwed mawr iddo. Gwnaethant lawer mwy o niwed i Fesur y Tenantiaid Gwyddelig at yr hun y cyfeirir isod.

Mr. John Redmond yn Bygwth.I

Etholiati Bury St. Edmunds.-

IPriodas a Chwaer-ynnghyfraith.I…