Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

8WSDD Y GNARCFIEIDWtUD ! PENRHYNDEUDRAETH.…

1,--, I 1 Cyngor Dosbarth…

LLANRWST.--------I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

LLANRWST. -I TREFN Y MODDION SABBATHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Crwst.-10, Parch C. W. Davies. 6. Parch. J. Morgan. St. Mary.—10, Parch. J. Morgan. 6, Parch C. W. Davies. Y Methodistiaid.. Seion.-Parchn. William Thomas a H. Jones- Davies. Heol Scotland-Parch. John Williams, Bryn- siencyn. Yr Annibynwyr. TabernacI—10, Cyfarfod Gweddi. 6, Parch. J. Pritchard, Cynwyd. Ebenezer-Parch. Huw Pari, Rhosymedre. Y Wesleyaid, Horeb—Parch. Edward Davies. St. James (English Chapel).—Mr. C. A. Char- ante, Colwyn Bay. Y Bedyddwyr. Penuel.-Mr. R. E. Jones (Cyngar), Llanberis. LLYS GLAN.-LIongyfarchwn Llanrwst a'r holl gylch cysylltiol ar Heddlys am nad oedd cynifer ag un achos i'w wrandaw ddydd Llun. Rhagorol iawn yn wir. Mwy o beth fel hyn sydd ei eisiau. Y FARCHNAD.—Bechan iawn ydoedd y Farchnadddydd Mawrth, ond gwerthai bobpeth yn hynod o fywiog. Pris y Dofednod oedd o 4/- i 5/- y cwpl. Yr Hwyaid o 5/- i 6/ Ymen- yn lle i 1/- y pwys. Wyau 9 a 10 am swllt. Tatws 3/9 i 4/- v cant. YMADAEL.—Yn ol rheol sefydlog y Wesley- aid, y mae y Parch, Phyllip Price yn ein gadael heddyw (ddydd Iau). Bu Mr. Price yn nodedig o weithgar yn ein plith yn ystod tair blynedd ei arhosiad yn y Gylchdaith. Dyn tawel, meddvlgar, a hynod egwyddorol yw ef, a chafodd eglwys Horeb yn ogystal ag eglwysi yr holl Gylchdaith fendithion lawer o dan ei weinidogaeth. Gofidir yn fawr ei golli. Cym- erir ei le gan y Parch. Edward Davies, Pen- machno, yr hwn hefyd sydd yn ddwfn yn serch yr eglwysi. SALE.—Cafodd Mri. Robert a Rogers Jones, Sale lwyddianus iawn ddydd LIun yn Talycafn. Gwerthwyd 106 o Wartheg, 2441 o Ddefaid, gyda nifer o Foch Tewion. Gwerthai y Bustych, Heffrod, a Gwartheg tewion i £ 2Q. Gwartheg a Heffod cyflo, £ \5. Gwartheg a Heffrod cadw, £ 10. Mamogiaid, £1 19s 3c. Wyn Tewion (Crossbread) £ l 13s 9c. Lloi Tewion £ 4 15s Oc. Mamogiaid ac Wyn cadw, 15/9. Moch, ;67.-Bydd yr arwerthiant nesaf Medi 9. YR ARDDANGOSFA.—Cynhaliwyd pwyllgor yr Arddangosfa prydnawn dydd Mawrth o dan lywyddiaeth Mr. J. Hartley Bibby, Llywydd yr Arddangosfa am y flwyddyn. Treuliwyd amser maith i chwilio i mewn i brotest wnaed yn erbyn un o'r enillwyr yn adran yr Heffrod gan Mr. Thomas Jones, Brondyffryn Dinbych ar gyfrif ei bod dros ddwy flwydd oed, nad oedd yr hwn a'i dangosai yn denant, ac na bu yr Heffer yn ei feddiant ddau fis cyn Awst 7 Ymddangosodd Mr. Thomas Llewelyn Roberts Cigydd, Llanrwst, i amddiffyn ei hun. Daliodd ei fod yn denant gan ei fod yn rhentu tir, ac nad oedd yr Heffer dros ddwyflwydd oed. Prynodd hi yn LIanrwst yn mis Gorph- enaf. Barnodd y pwyllgor nad oedd grym yn nau wrthwynebiad cyntaf Mr. Jones, ond yr oedd yr olaf yn sefyll, ac felly collai Mr T. Ll. Roberts y wobr o'r achos.—Pasiwyd amrvw filiau i'w talu.—Yr Ysgrifenydd a ddywedodd fod y derbyniadau wrth y Mynedfeydd yn fwy eleni na'r llynedd o £ 22. Datganwyd boddhad wrth glywed fod yr Arddangosfa wedi talu er y tywydd anffafriol a gafwyd boreu dydd ei chyn- haliad. Yr oedd y llwyddiant i'w briodoli i lafur egniol yr Ysgrifenydd Gweithgar, Mr. H. J. W. Watling. Daeth amryw o amaethwyr gerbron i hys-! bysu eu bod wedi eu gwysio i ymddangos yn Heddlys Bettwsycoed am groesi y bont o Sir Ddinbych i Sir Gaernarfon heb drochi eu defaid cyn myned a hwy i'r maes. Teimlai y pwyllgor fod hyny braidd yn galed ar y cyfeill- ion hyn, a phasiwyd i gyflogi Mr. E. Davies- Jones i'w hamddiffyn. YR ARWEST.—Cynhaliwyd cyfarfod brwd- frydig o aelodau yr Arwest yn y Neuadd Drefol prydnawn ddydd Mawrth, Mr. O. Isgoed Jones, y Llywydd, yn y Gadair. Cafwyd cyfrif manwl o'r holl dderbyniadau, ac er fod y treuliadau eleni yn drymach nag arferol, yr oeddid yn teimlo yn Hawen fod gweddill mewn Haw ar ol talu pob gofymon. Darllenodd y Cadeirydd lythyr oddiwrth Dr. Gibson, yr hwn a amgan- odd danysgrifiad at y treuliau, llythyr oddiwrth Dudan yn amgau tanysgrifiad, ac oddiwrth Pen- fro. Dywedodd Isgoed ei fod, fel un o ymddir- iedolwyr Crwth yr Arwest, am gael ei danau wedi eu hadgyweirio, ac ymdrechu iddo gael ei gadw yn yr Ariandy mewn lie hollol sych. Y mae yr Isgoed yn cymeryd dyddordeb mawr vn yr Arwest, ac yn un o'r aelodau hynaf sydd yn perthyn iddi.—Datganwyd llawenydd o weled yr Ysgrifenydd bawdfrydig Elis o'r Nant wedi gwella mor dda ar ol yr ymosodiad sydyn a gafodd o guriad y gal on ddydd yr Arwest.— Awgrymwyd fod un o garedigion yr Arwest am gyflwvno tri "Tlws yr Orsedd at y flwyddyn nesaf.—Pasiwyd i gael Pwyllgor i ddewis swyddogion a thestynau at y flwyddyn nesaf, ar Tachwedd 26.—Pasiwyd pleidlais o ddiolch gwresog i Isgoed am lywyddu mor ddeheig yn ystod y flwyddyn. MARWOLAETH.—Drwg genym hysbysu am farwolaeth Mrs. Harker, priod y diweddar Mr. John Harker, Nant. Yr oedd hi yn byw yn bresenol yn White Barn Cottage, ac yno y bu farw ddydd Llun. Magodd dyaid o blant gyda gofal mam rinweddol, ac yr oedd ei dylanwad yn fawr arnynt oil. Mab iddi hi yw Mr. Edward Harker (Isnant). LLONGYFARCHIAD.-Llongyfarchwn y cerdd- or medrus, Mr. D. D. Parry, Organydd Capel Seion, ar ei waith yn enill y ddwy brif wobr am gyfansoddiadau Cerddorol," a haner un o'r gwobrwyon eraill, yn yr Eisteddfod Genedlaeth- ol yr wythnos ddiweddaf. Eled yn mlaen eto i gyfoethogi cerddoriaeth ei wlad a chynyrchion ei awen felus. CYMDEITHAS Y GWEINYDDESAU .-Dymun- wn alw sylw at y Cyngherdd a gynhelir at yr uchod Medi 12fed. Gwasanaethir gan Mr. J. Tudor Owen, Blaenau Ffestiniog Miss Edith Davies, Wrexham; Mrs. Josephine Lewis, a Mr. Evan Lewis, Capel Curig a Mr. Rusell Canning, Bettwsycoed. Diau y ceir cefnogaeth cyffredinol. GWEITHWYR.—Daeth dros ddau gant o Navies o'r newydd i Dolgarog ddydd LIun di- weddaf, ac yr oedd tua'u haner o'r Cartrefi Dyngarol. Y maent yn dylifo i'r dref o bob rhan o'r gwaith, a nifer y crwydriaid yn lluos- ogi yn y Dyffryn o dan yr esgusawd o ddod yma i "edrych am waith."—Dydd Llun, cafodd un o'r navies dori ei ddwy goes trwy i wagen fyned drosto. Dygwyd ef i'r Tlodty. Diau y pesir penderfyniad cryf ar y mater yn Mwrdd y Gwarcheidwaid y tro nesaf ar waith awdur- dodau yn anfon y dyn hwn i'r Tlodty yn lie i'w lety. & A

! Cyfarfodydd y Feibl Gymdeithas.

I - - - - - - - - - CROESOR.-…

I PENMACHNO.

Advertising

TANYGRISIAU.

IBLAENAU FFESTINIOG.vV'"