Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

8WSDD Y GNARCFIEIDWtUD ! PENRHYNDEUDRAETH.…

1,--, I 1 Cyngor Dosbarth…

LLANRWST.--------I

! Cyfarfodydd y Feibl Gymdeithas.

I - - - - - - - - - CROESOR.-…

I PENMACHNO.

Advertising

TANYGRISIAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TANYGRISIAU. PREGETH. — Nos Wener yn Carmel (A.) traddodwyd pregeth gan Mr. George Evans, Aberhonddu, i gynulliad da. Yr oedd hefyd yn casglu at Goleg Aberhonddu, yn yr hwn y mae yn efrydydd. SYMUD.—Yr wythnos hon y mae Mrs. John Hughes, Cae'rffridd a'i phlant wedi symud fyw i Durham, lie y mae ei phriod eisoes yn gweithio. PRIODAS.-Dydd Llun diweddaf, yn Nghapel Tregarth, Bangor, yn mhresenoldeb y cofrest- rydd, unwyd mewn glan briodas Mr. David Williams, Tanyfron, Tanygrisiau, a Miss Nell Jones, Sling, Tregarth, gan y Parch. Edward Thomas, Llanrhaiadr. Mr. Rd. M. Williams, brawd y priodfab, a Miss Laurah Jones, chwaer y briodferch, oedd yn gwasanaethu fel gwas a morwyn y briodas. Hefyd yr oedd yn bresenol Mr. a Mrs. W. M. Williams, Tanyfron a Mrs Ellen Williams, Brynhyfryd, Tanygrisiau; a Mr. a Mrs. Robert Jones, Sling, Tregarth. Aeth y ddau i Nefyn i dreulio ychydig ddydd- iau, cyn dychwelyd i'w cartref newydd yn Manchester, lie y mae Mr. D. Williams yn aros yn ngwasanaeth y ffirm enwog Morris & Jones, Liverpool a Manchester. Dymunwn i'r ddau hir oes, a phob hapusrwydd yn eu cylch newydd. LLWYDDIANT MAWR.—Dau brif ddigwydd- iad llwyddianus ag sydd yn peri llawenydd yma yr wythnos hon ydyw llwyddiant y Band yn y De, a phrawf diamheuol o hyny oedd y cyrchu i'r Blaenau nos Lun i'w croesawu adref. "Well done y Royal Oakeley Silver Band."—Peth arall ydyw llwyddiant anarferol ein Harwerth- wr cyhoeddus Mr. George Hughes. Yn wir y mae yn anhawdd gwybod pa un o'r ddau yw y pwysicaf ar lawer cyfrif. Dyma wr yn medru troi arian yn nwyddau, ac wedi hyny, yn gallu troi nwyddau yn arian. Rhoddodd brawf diamheuol o hyn i ddydd Sadwrn diweddaf yn Dorfil Street. Yr oedd ganddo gynulliad mawr o bobl barchus o bob cwr o'r wlad o'i gwmpas, a phobpeth yn myn'd" yno. Yr oedd bron a meddwl mai mewn Sasiwn yr oeddym gan fod y fath gynulliad wedi dod. Y mae bellach yn mhlith yr Arwerthwyr llwydd. ianus a hyny trwy ei ddull teg a siriol yn ei arwerthiadau. Eled yn mlaen eto.—ELWYNOG. Ao.

IBLAENAU FFESTINIOG.vV'"