Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Heddlys B5aen.au Ffc^irrfog.…

-Lladrata Dillad yn y Penrhyn.I

LLANRWST. I

-1-?,,?l - 1-?11-1-11 .OAPEL…

[No title]

BETTWSYCOED. I

PENMACHNO.

[No title]

Cystadleuaeth y Seindyrf ynI,'…

j TALYBONT, DYFFRYN CONWY.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TALYBONT, DYFFRYN CONWY. Y mae y pentref hwn, a'r holl- wlad o gwmpas yn hynod o fywiog ar hyn o bryd gan fod cynifer wedi dod i weithio yn y Borthlwyd gyda'r Gwaith Almunium. Hefyd, gwelwn fod nifer dda o ymwelwyr yn yr ardal ar hyn o bryd, y rhai, er y tywydd anffafriol a wna, ydynt yn llwyddo i fwynhau eu hunain gyda'r golygfeydd eang ac amrywiol a geir yn y lie. Gwelwn fod Mr. Edwards (Post Office gynt), wedi cau y masnachdy, ac y mae Mr. Hugh Jones, Post Office, yn symud yno i fyw yn ystod y dyddiau nesaf. Deallwn ei fod hefyd yn symud y Llythyrdy yno trwy ganiatad yr awdurdodau. Gellir cael y RHEDEGYDD gan- ddo ef bob boreu Gwener, fel y byddai yn arferol a bod ar werth gan Mr. Edwards yn yr un masnachdy. Tua dwy flynedd a haner yn ol sefydlwyd Darllenfa a Llyfrgell yn yr ardal, a da genym weled golwg mor lewyrchus arni. Y mae y lie yn cael ei gadw yn lanwaith a chysurus gan Mr. William Hughes, y Llyfrgellydd, a gwelwn fod tua pum' cant a haner o gyfrolau o lyfrau rhagorol yn y Llyfrgell, y rhai a fenthycir allan i'r aelodau. Y mae cyfartaledd o gant o ymwelwyr a'r lie, a chynhelir y sefydliad a rhoddion gwirfoddol. Yr oedd y derbyniadau yn £ 30 5s 6c am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 31, a gadewid gweddill yn llaw y Trysorydd o £ 6 14s 8j. Y Llywydd yw Mr. H. Davies, Ysgolfeistr; Mr. E. Anwyl Evans, Ty'nddol. yn Drysorydd: a Mr. Wm. Hughes, Blaenddol, yn Ysgrifenydd a Llyfrgellydd. Haedda y sefydliad bob cefnogaeth. I\"AA,¿ft-A.AAA-AA.AJ'fJ,o..pv..AAAAA AA AA:AI.p'1

[No title]

[No title]

-__-j O'R PEDVVAR CWR. j -…

v - PENRHYNDEUDRAETH. -

r V V V VVV V V VVVV V V VVVVV…