Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

1- RHOS A'R CYLCH.

BETTWSYOCED. -j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BETTWSYOCED. Yn ystod y gwasanaeth Nos Sul yn Nghapel Brynmawr, datganwyd "Ar Ian Iorddonen ddofn," er coffa am Mrs. Jones, Ty'nymerddyn. Yr oedd hi yn uchel iawn ei pharch yn yr Eglwys a'r ardal yn gyffredinol. Gwasanaethir y Sabbath nesaf yn Brynmawr, gan y Parch. W. L. Jones, Llanaelhaiarn, yn St. Michael gan y Parch. R. M. JonesJM.A., Ficer; ac yn y Tabernacle gan y Patch. Cynffig Davies, M.A., Porthaethwy. Deallwn mai parhau yn bur wanllyd y mae Master Breese mab y Rhingyll Breese. Y mae yn wael er canol mis Mai. Hefyd Miss Davies, Green Bank, yr hon sydd yn wael e's gryn amser. Mae hi wedi myned am seibiant i Colwyn Bay. Eiddunwn i'r ddau adferiad llwyr a buan. Dydd Gwener, daeth gweddillion Mrs. Jones, anwyl briod Dr. Jones, Eye Infirmary, Lerpwl, ac Aberdunant, Capel Curig, yma gyda'r tren deuddeg o'r gloch, a chladdwyd hi yn mynwent Capel Curig. Bu farw yn hynod o sydyn ar enedigaeth un bach. Nid oedd ond boneddiges gydmarol ieuangc a chymerai ddyddordeb mawr yn yr ardal hon, gan yr arferai aros amryw droion yn Bettws. Mae ein cydymdeimlad dyfnaf a Dr. Jones yn ei brofedigaeth chwerw.

Advertising

[ BLAENAU FFESTINIOG.