Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Ysgoloriaethau Sir Ddinbych.
Ysgoloriaethau Sir Ddinbych. Y mae adroddiad Mr. L. J. Roberts, Rhvl, arolygydd Ysgdlion o dan ei Fawrhydi, wedi gwneyd canlyniad ei arholiad am fynediad i'r ysgolion Canolraddol yn Sir Ddinbych, wedi gwneyd canlyniad yr arholiadau yn hysbys. Ac yn ei sylwadau ar yr arholiadau y mae yn dywedyd amryw bethau gwir deilwng o sylw, a da y gwnelid ddal sylw arnynt. Rhag gwneyd cam a sylwadau Mr. Roberts trwy ceisio eu cyfieithu, dodwn hwy yma yn yr iaith yr ysgrifenodd hwynt The steady increase in the number of candi- dates which has been noticeable from year to year has continued. In 1905 the number was 333 (a marked increase over that of any pre- YIOUS year), last year, it was 359, and this year It has leapt up to 460, an increase by just over 100 over the highest number hitherto reached. The largest increase has been at Wrexham, where the total (boys and girls) is 40 higher than last year and 76 higher than in 1905. But the largest increase proportionatly was at Llangollen, where the 16 candidates of last year have mounted up to 45. Unfortunately, the growth of numbers at Llrngollen was not accompanied by an inprovment in ihe quality of the work, which in the bulk was much Poorer than usual at this centre. On the other hand, at the only centre where the number of candidates was disappointingly small, Denbigh, the work was of extraordinary high merit, all the candidates, with the exception of two, gaining good marks, while the three highest Were among the very best in the whole county. The centre which had the fewest candidates of all was Cerrigydruidion, but it was the quality of the work which was disappointing here rather than the number of candidates, who Were perhaps as many as could be expected from this thinly bopulated upland region. After every allowance is made for difficulties Rising from the remote and isoluted homes of the candidates, the work here can only be con- sidered extremely unsatisfactory from every Point of view, only one of the ten candidates attaining, and he only just attaining, 300 toarks. At Llansilin, where the conditions are very similar to those at Cerrigydruidion, nine candidates (out of 23 who sat) did exceedingly good work, the lowest of the nine gaining 362 MaLrks, while three reached well over 400 marks. At Abergele the work generally was good, there being few weak candidates, while some of the composition and history scripts (particu- arv some scripts on Welsh history) were ex- cellent. The admonition given by Mr. Morris n his report last year to the Llanrwst centre to wake up seems to have had a good effect. There is some improvment in the work, but a strict guard against a relapse to sleep should be kept, for among the weaker candidates there ?^e many who need further awaking At Ruthin there is a slight increase in the number W) over that for last year (39), and this, hough below the high-water mark of 54 reached In 1905, seems a very fair number for the dis- trict. Excellent work was done by one candi- date, who only just fell below 500 marks, and altogether 14 candidates reached over 300 marks At Ruabon the papers of the candidates in district 1. were a solid, good lot; in Sub- district II. the work is much more uneven, and here only in the whole county are there discouraging signs in that the difficulty of Spelling English words correctly and of writing English with fair correctness is not surmounted by many of the candidates. The work at the Wrexham centres (boys and girls) is most satis- factory it would be difficult to over-praise the Papers of the best candidates. The top boy, Whose work was well nigh perfect, is the, highest in the whole county with 529 marks—a Rotable achievement. As an index to the high quality of the work at Wrexham, it may ue stated that of the 90 boys who sat no less than 66 obtained over 300 marks, and of these 40 reached 400 marks or upwards. The record of the girls is little less remarkable; out of the 86 who sat, 58 have gained over 300 marks, and of these again 30 have gained 400 marks Or more. I can only repeat what I said two years ago Neatness, accuracy, thoroughness, intelligence, and admirable judgment mark the work of an unusually large proportion of the I-arldidates; and papers which are now common :Would have been regarded as very exceptional In there excellence a few years ago.' On SOme of the occasions when I acted as examiner for these scholarships I predicate that among the candidates were many who would attain brilliant academic distinctions these predict- Ions have been abundantly fulfilled. Year after year the class list of the older universities 4tld other seates of learning show that the highest honours ar won by old Denbighshire scholars. The following are the names and marks of the first three children in each district:— L'ansilyn: Trevor Wynn Lovatt Davies, Uangedwyn, 447; Esther Gwynne, Llanrhai- .a.dr Y.M., 429; David E. Rowlands, Llanrhai- adr Y.M.,415. Cerrigydruaion: Hannah C. Jones, Tynant, 305; Oswald Salisbury, Cerrigydrudion, 290; Jenny Owen, Llwyn Tynant, 280. Denbigh: John Pierce, 508; Thomas W. Jones, 492 Thomas Edward Davies, 490. Abergele: Thomas Owen Griffiths, 466; Charles Philip Jones, 454; Lewis Jones, 438. 1\1: Llangollen Doris Edwards, 417; Selina ^arguerite Rogers, 397; Alfred Thomas 36C Ruabon, sub-district I. John R. Thomas, 481 Percy Fisher, 467; Joseph C. Simpson, 450. I Ruabon, sub-district II. John Edward jostle, 460; Dan Richard Wright, 443 Gerty Jones, 376. J Ruthin: John Jones, 497 .Catherine Anne Jones, 462 Hilda Pender Butler, 443. Wrexham (boys) George Herbert Randies, 29; Thomas Hope Cathrall, 515 Albert i fobert, 505. Wrexham feirls): Mabel Williams, 503; Ada Probert Griffiths, 501 Kathleen Haughton, 484. Llanrwst: Katie Williams, 416; Florence Doyle, 400; Llewelyn Jones, 391. Nis gallwn adael i'r Adroddiad uchod basio heb gyfeirio at yr angen mawr sydd am well- iant yn nghylch Llanrwst a Cherygydrudion. Yr uwchaf yn Llanrwst yw 416, tra y mae yr isaf yn Ninbycb (dosbarth hynod o debyg i Lanrwst) yn 490, ac y mae hyd yn nod ardal deneu ac anfanteisiol Llansilin yn gallu dangos ei hisaf wedi cyraedd 415. Dyna Fechgyn Gwrecsam wedi cyraedd 529 a'r isaf 505; a'r genethod yno wedi enill 503, a'r isaf 484. Drwg iawn genym weled dosbarth Cerrigy- druidion yn isaf o lawer ar restr y Sir gan na chafodd yr uchaf ond 305, a r isaf 280. Cofier pan ydym yn son am yr "isaf," ein meddwl yw yr isaf o'r tri uwchaf ar y restr, ac nid yr isaf o'r holl ymgeiswyr a eisteddodd i'w harholi. Awgryma yr Arholwyr fod Dosbarth Llanrwst yn cysgu," a bod angen am eu cadw yn effro. Nid yw hyn yn swnio yn dda mewn dosbarth mor fanteisiol i wneyd nod iddi ei hun gydag Addysg, a lie y mae y fath arian wedi eu gwario ar ysgolion. Teimlwn fath o eiddigedj wrth weled ardaloedd a'u manteision yn Ilawe: llai na'r eiddom ni yn mhell o'n blaen.
Methdaliad dau o Oruchwylwyr…
Methdaliad dau o Oruchwylwyr Mri. Ind. Coope & Co. Yn Llys Methdaliadol Bangor, ddydd Iau, daeth James Lanham Mayger, Llandudno, i fyny am ei arholiad cyhoeddus o flaen y Cof- restrydd Glynne Jones, yr hwn oedd a'i ddyled- ion yn [9.345, a golygai ef ei hun na byddai yn fyr ond o [621 i gyfarfod y cyfryw. Dy- wedodd ei fod yn awr yn fasnachydd gwin a gwirodydd yn Mostyn Street, Llandudno. Dechreuodd y fasnach hono yn lonawr diwedd- af, pan yr ymadawcdd oddiwrth Mri. Ind. Coope & Co. fel eu goruchwyliwr er 1896. Cymerodd i fyny flwyddyn neu ddwy yn ol y Dwygyfylchi Hotel, Penmaenmawr; Pontypair Hotel, Bettwsycoed; a'r Avondale Restaurant, Llandudno, a'r hon yr oedd wedi ymadael oddiar yr amser hwnw. Ar Gorphenaf 8fed, arwyddodd weithred o Drosglwyddiad er budd eiofynwyriMr. J. H. Jones am 16,559. Yr oedd hyn yn ol ei farn ef wedi ei sylfaenu ar brisiad afresymol (absurd). Yr oedd ganddo fudd eang mewn Cwmniau lleol, y cyfranau wedi eu rhoddi yn ngofal gofynwyr, ond credai fod yno weddill o'r cyfranau yn werth [3,734. Yr oedd yn gydgyfrifol gydag eraill am bapur- au addawol a materion eraill, ond nid oedd yn meddwl y deuai y gofynion hyny yn mlaen yn erbyn ei eiddo. Ei gyflog gyda Mri. Ind, Coope & Co., ydoedd £375, a commission ar betbau neillduol. Hyd yn ddiweddar yr oedd yn barnu fod ei anturiaethau yn werth, wrth eu hel at eu gilydd, o bump i saith mil o bun- au; ond call odd [770 ar Cwmni gwreiddiol y Grand Theatre; [3.191 mewn gostyngiad gwerth cyfranau mewn cwmniau eraill; a cholledion ar dir a phethau eraill. Yr oedd ei gyfrifoldeb arianol personol yn gydmarol fychan. Ar ran Mri. Ind, Coope & Co., pryn- odd amryw dai gan dderbyn commission, a chyda Mr. Kay, partner, bu iddo brynu pedwar o dai y rhai a wnaed drosodd i'r North Wales Hotels Company yn 1900, cyfranau wedi eu rhoddi allan i amryw i ddod i'r Cwmni. Der- byniodd haner can' gini o gyflog blynyddol am amryw flynyddoedd fel prif oruchwyliwr y Cwmni. Yr oedd ganddo gyfranau yn y Llan- dudno Land Investment Company, Kay's Mineral Water Company, a'r Grand Theatre Company. Y flwyddyn ddiweddaf bu iddo ddechreu betio, ac enillodd £ 300, ond collodd [100 eleni trwy fetio. Hyd y llynedd, nid oedd wedi betio dim oddiar yr amser y daeth i Gymru. Galwodd y Derbynydd Swyddogol ei sylw at y ffaith ei fod mewn dyled o [913 i'r North Wales Hotels Company, yr hyn ddan- gosai arian a fenthycodd oddiar y Cwmni. Mewn atebiad, dangoswyd fod gan y Dyledwr hawl o dan un o bapurau y Cwmni i fenthyca felly, ac iddo o dro i dro gynorthwyo y Cwmni yn arianol.-Gohiriwyd yr arholiad er mwyn cael cyfrif arianol pellach. T. Gethin Williams, cyn-oruchwyliwr i Mri. Ind, Coope & Co., yn Bangor, a ddaeth yn mlaen am arholiad pellach, ac wedi myned trwy amryw bethau yn ei gyfrifon, cauwyd yr Arholiad.
. Castell y Penrhyn ar Osoti.I
Castell y Penrhyn ar Osoti. Y mae y Palas uchod ar osod. Dyma fel ei hysbysir "Castell y Penrhyn, gerllawBangor, trigfan y diweddar Wir Anrhydeddus Arglwydd Penrhyn. Saif y drigfan enwog hon mewn pare o goed tewfrig, ac fe'i hamgylchir gan rodfeydd hyfrjd, a choetir yn ymestyn i yn agos i fil o erwau. Y mae ar le prydferth, ac o honi ceir golygfeydd arddunol ar for a mynydd, ac y mae ynl hen drigfan addas yn mhob modd i deulu o gyfoeth ac ucheldras. Cynwysa nifer o ystafelloedd o dan gamp at groesawu, rhwng 50 a 60 o ystafelloedd i gysgu ac ymwisgo, amryw faddonau, ac amrywiol hwylus-fanau at angen- rheidiau teuluaidd. Ystablau i ddeg a'r hugain o geffylau, bythynod, ac ystafelloedd i'r march- weision. Ugain mil o erwau o dir saethu, a chyfartaledd da o hono yn dir llwynoga, tua dwy fil o erwau o fynydd-dir ac ynddo bob amrywiaeth o helwriaeth adeiniog, oddeutu pedair milldir o le p -sgota eogiaid a brithylliaid dwfr croyw a brithylliaid traeth, angorfa pleserfad (yacht), ac ymdrochle dwfr hallt anghyoedd yn gyfagos i'r Palas."
Cosb drom am Fygwth y Gyllell…
Cosb drom am Fygwth y Gyllell yn Llanrwst. Yn Heddlys Llanrwst, ddydd Llun, gwrand- awyd achos gohiriedig Thomas Wilson, Nafi yn gweithio yn Dolgarog, yr hwn a gyhuddwyd gan yr Heddgeidwad Holgate o fod yn feddw ac afreolus Awst 31, ac o ymosod arno ef pan yn cyflawni ei ddyledswydd. Tystiodd y swyddog iddo ganfod y Carcharor a Nafi arall yn ymland yn Ffordd Talybont, Llanrwst, ac yr oeddynt wedi dinoethi eu hunain hyd i'w gwasg. Cymerodd Wilson i'r ddalfa, ac ar y ffordd i'r orsaf daeth yu hynod o ymosodol, a chwifiai gyllell agored yr hon a dynodd o logell ei siaced, gan ei fygwth a hi. Daeth dyn o'r enw Jones, Signalman, i'w gynorth- wyo, a'r Heddgeidwad Jones, a llwyddwyd i'w gymeryd i'r gell. Dywedodd am i'r Faingc fod yn drugarog ato.-Col. Sandbach (Cadeir- ydd y Faingc) a ddywedodd nad allai yr ardal dawel hono ddim goddef y fath ymddygiad, a byddai raid iddo fyned i garchar am chwe mis gyda llafur caled am yr ymosodiad, a saith diwrnod am fod yn feddw, y naill i gydredeg a'r llall.
Colli ei hun ar y Mynydd.…
Colli ei hun ar y Mynydd. I Rhyfedd y dull sydd gan ambell un i ddod i sylw. Ymddengys fod Mr. Bernard Shaw, a'i briod yn aros yn Llanbedr, Ardudwy. Dydd Sul aeth am dro i gyfeiriad y Rhiniog Fawr, trwy CwmBychan a'r Grisiau Rhufeinig yn Bwlch Tythiad. Nid oedd cymeriad taith felly yn beth newydd o gwbl, ond rhaid oedd i Mr. Shaw gael gwneyd trefniad cyn cychwyn i adael nodyn ar fan neillduol ar y grisiau er budd y rhai a fwriadent ei ddilyn. Hysbysir iddo binio cerdyn ar bren yn y lie, gyda'r geiriau: "Wedi myned yn mlaen: dilynwch os gwelwch yn dda." Gwyr y sawl welodd y grisiau nad oes yno bren i ddodi cerdyn arno. Fodd bynag, daliodd Mr. Shaw ormod ar y chwith a cbrwydrodd ar y bryniau caregog i gyfeiriad Trawsfynydd, ac wedi oriau o grwydro daeth i Westy Tynygroes, Ganllwyd, lle'r arhosodd dros y nos. Gan na ddaeth adref erbyn deg y nos, dechreuodd Mrs. Shaw a bod yn anesmwyth, a chododd tua tri chant o bobl allan i chwilio y mynyddoedd am dano, ac ni ddychwelasant hyd bed war o'r gloch y boreu. Boreu ddydd Llun, pellebrodd ei fod yn Dol- gellau, ac y deuai adref gyda'r tren cyntaf. Pan gyrhaeddodd yr orsaf, hysbyswyd ef o'r hyn a fu, a dywedodd yn chwerthinllyd, Fe wna les iddynt." Croesaw braf i'r Cymro am bryderu yn ei gylch.
I - - N, -111,11o"- N/? Anghydwelediad…
I N, -111,11o"- N/? Anghydwelediad yn Ngiofeydd Gogiedd Cymru. in nghyfarfod Undeb y Glowyr dydd Llun, yn Wrexham, penderfynwyd i roddi rhybudd i'r holl feistri, eu bod yn terfynu eu cytnndeb- au, oni bydd i restr y prisiau &c., gael eu rhoddi i fyny. Rhoddir y rhybuddion ar yr 28 ac y mae rhybuddion wedi eu rhoddi eisoes yn Nglofa Wynnstay, am fed dynion heb fod yn Unaebwyr yn cael gweithio yno. Y mae y rhagolygon yn gymylog iawn. \AAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAA
--.v,- I Twyil T reihgasglydd.…
v Twyil T reihgasglydd. Y mae George Edward Hoey, trethgasglydd Barnsley yn y ddalfa ar y cyhuddiad o dwyllo gyda'r arian. Yn mis Mawrth, yr oedd ei gyfrifon yn dangos ol-ddylediou,ar y trethdalwyr o £ 3,542 17s 3c, ond amheuwyd a oedd y cyfryw gyfrif yn gywir, ac wrth edrych y llyfrau, cafwyd fed Hoev wedi cudd-ladratta £ 5,079 12s 3c. Yr oedd ef ei hun wedi addef iddo ladratta tair mil o bunau.
ER COF
ER COF Am Mrs. Jones, priod Mr. J. Jones, Tynymer- ddyn, Bettwsycoed. • Y wraig hon a'i ar gynnydd-yn ei hoes Dan nawdd Duw mewn crefydd, Drwy'i bywyd hyfryd bob dydd Ei adwaen a'i gwnai'n ddedwydd, A dedwydd hynod ydyw—wedi'r daith Gyda'r dorf ddi-gyfryw, A roddan i'r lor heddyw Don o fawl o'i chadw'n fyw. Bettwsycoed. ARFON JONES.
Y GWYDYR, LLANRWST.
Y GWYDYR, LLANRWST. CARTREF LLEN A CHAN. Palas hardd pa le sydd Ei lanach—mae'n ysblenydd! 0 mor hoff i mi yr hedd Geir yno mewn gwirionedd, Teilwng i Wynne a'r teulu Fu y lie—eu cartre cu Yno'n ddewr Syr John Wynne ddaeth Yn noddwr i lenyddiaeth. Yn y wlad ei oludoedd Roes i lu yn gu ar goedd, Hwn a'i swynol wasanaeth Yn wr dewr yn arwr daeth Ei enw mad i'r wlad fu'n wledd A'i nwyfiant yn dangnefedd. Plas lion ar ddyffryn Conwy Oddi mewn byth iddo mwy, Yno'n gu y Gwydyr ges Yr hynaf d'wed yr hanes O'r palasau geiniau gaf Yn y frodir hyfrydaf Mi ganaf am ei geinedd Diameu hwyl dyma hedd, Yr hen anedd gywreiniol Hwylio wnawn rhyw lu yn ol Yno i gyd i'r amser gynt Yr hwyliwn er ei helynt. Drwy y ddol hyfrydol fro Yn addas rhodiwn iddo, Man hoffusaf lanaf le, I A gwiriaf dyma'r gore' Dan y nef, a dyna ni Yn filoedd yn ei foli. Y noddwr mawr llenyddol 'Roes y nef i'r oes yn ol, 0 un farn gwnai Cymru fu Dy addas anrhydeddu. Hen frodor dy hyfrydwch Oedd codi'n plaid o'r llaid a'r llwch Y wlad fach lediai o'i fodd I fyny Cymru fynodd Aberthu i oes-rhoes hi'n rhydd I'w chenedl er ei chynydd, I anwyl wlad fy nhadau Ei awen glws ro'es yn glau; Gwr uniawn mewn gwirionedd Heno'n fud sydd yn ei fedd. Yn ei sedd mae bywiol swyn Gwir noddfa'r gwron addfwyn, Hardd adail o urdd ydyw Yna fyth yr hoffwn fyw, Lie mae blodau lysiau lu Ganoedd o'i gylch yn gwenu Mawr ei werth ble'n brydferthach Yn y byd, bobol bach. Ei wir ddelw arddelir Hwn i'r Bardd sai hardd yn hir Celfyddydau borau'r byd Ynddo ef a gawn hefyd. A methodd dawn gwyr Hawn Hid A darnio'i fawr gadernid, Ei gogoniant fyddant fyth A'r gofal yn dragyfyth. Yn y wlad gan eu tadau Ini'n glir o'r gallu'n glau, Dedwyddwch heddwch o hyd A genfydd ei deg wynfyd. Pur odiaeth fel paradwys Yw ei glan, glan geiriau glwys A'i deg emau dygymod Wna y byd rhagora'n bod, Y geilw ei thrigolion Y diail hardd adail hon Diameu anedd dymunaf Wenau'r Ion o rin yr haf, Haf rodle iach hyfrydlawn Yma i gyd diameu gawn. Yn y gwanwyn mor ganaidd k Yw ein bro heb ei hail braidd. 0 haf len be'n amgenach Yn y byd na'r blodau bach, Rhosynau gwenau gwynion Yno sydd a mawr y son. Yn y wlad ireiddiol wlith Yn gwnu'r meusydd gwenith Gwna'r wlad yn ail baradwys Yn y byd mae'n lie o bwys Ini bawb o swn y byd I ganfod ei deg wynfyd Pendefigion ddigon ddygir Yn ei hen aneddau'n hir, Do'i arfog Dywysogion Yn eu hwyl i'r anedd hon. Gwylient fuddianau Gwaiia A'i harfau noeth wr doeth da Yn y byd, ond heddyw'r bedd O'i rhodau mewn anrhydedd. Dyma fan fydd yn anwyl I ni gyd tra Sul a Gwyl, E' genir am ei gynydd A'i fawl gan Cymru fydd.
- - Rhyfeddodau yn SVSycS…
Rhyfeddodau yn SVSycS y Ser. Hysbysir y bydd yn werth cadw gwyliadwriaeth ar yr awyr nos Iau (heno), pan y mae y ddaear yn croesi llwybr Comet Daniel, am gawod o gwymp-ser (metcoys), ac hefyd noson neu ddwy ol a blaen i'r dyddiad hwn gan fod ser-gawodydd yn ami yn chwalu yn fawr. ,AI\V'/vVv'v'f'Vv'r.
[No title]
TARAWYD Chafles Hooper, platelayer, i lawr gan yr Express yn Newport (Mon.) prydnawn ddydd Llun, a derbyniodd niweidiao y bu far.v yn uuiongy;-choI wedi cyrhaedd yr Ysbytty. •
I O'R PEDWAR CWR.
I O'R PEDWAR CWR. Y mae y Bwrdd Addysg wedi anfon i hysbysu nad allant gydnabod Ysgol Talacre, Sir Fflint, yn yr hon y mae yr addysg o dan lywodraeth y Pabyddion, fel Ysgol Elfenol gyhoeddus i'w chynal o'r trethi. CAFODD Herbert Elsie, High Road, Chiswick, ei ddirwyo yn Caernarfon i ddeg punt a'r costau, am yru ei fodur yn or-wyllt. Ei esgus ydoedd, ei fod "eisiau dal y tren ar fusnes pwysig." CAFWYD Corph Mr. John White Leahy, Ynad a thir berchenog mewn cae yn ymyl ei dy ddydd Sadwrn gydag arwyddion o hunan- laddiad. Mis yn ol y priododd. Y MAE y Parch. D. J. Hiley, gweinidog y Bedyddwyr yn Eglwys Broadmead, Bristol, wedi derbyn galwad i fod yn olynydd y Parch. Archioald Brown, yn Llundain. Mab i weithiwr alcan o Ddeheudir Cymru yw Mr. Hiley lie y bu yntau yn gweithio yn nechreu ei yrfa. Y MAE yr heddgeidwaid Birmingham wedi dod o hyd i 55 o olwynfeirch lladratedig wedi eu hystorio yn nhy un Frank Duckhouse i un George Taylor, gwerthwr olwynfeirch. Dadleua Taylor iddo eu prynu yn onest, a Duckhouse ei fod yn rhoddi lie i'w cadw i Taylor. Nid yw yr heddlu yn credu stori yr un o'r ddau, ac y maent yn awr yn y carchar i aros eu prawf. Y MAE Signor Caruso wedi ei gyflogi am bedair noson i ganu yn Vienna, yn ol pum cant o bunau y noson. Mae yr holl eistedd- leoedd wedi eu gosod, er mai ar Hydref 6 y bydd yn dechreu y gyfres o nosweithiau. YR OEDD Mr. a Mrs. W'Namara, ar ea mordaith o Washington i Europe yn cario eu heirch gyda hwy a balm i eneinio y cyrph, fel na byddont yn cael eu claddu yn y dyfnder pe digwyddasent farw ar y mor. YR oedd gwerthwr myglys yn Caergrawnt wedi cuddio deugain punt yn y llestr ysgarthrio yn ei fasnachdy. Daeth y drol ysgarthion heibio, a gwaghawyd y llestr iddi. Cofiodd y dyn am yr amryfusedd cyn i'r oil gael ei taflu i'r dinystrydd ysgarthion sydd yn perthyn i'r lie. TAENIR y gair fod yr Anrhydeddus D. Lloyd George yn debyg o sefyll fel ymgeisydd dros Caerdydd. Ni raid dywedyd mai dyfais ddisail yw y chwedl hon, a gofalwya am ei thaenu pan yr oedd Mr. George oddicartref. DYDD Llun, bu farw Mr. John Owen, Dref- newydd. Yr oedd iddo air uchel fel gwawl- lunydd am haner can' mlynedd. Tynodd ddarlun o'r Arglwyddes Wynn pan dorodd y dywarchen gyntaf o Linell y Cambrian yn Groesoswallt, ac enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol 1889 gyda gwawl-luniau. GWERTHWYD chwe mil a haner o ddefaid yn arwerthiant flynyddol Kerry, Sir Drefaldwyn dydd Llun, a sylweddolodd 120 o Hyrddod y swm o £ 1,200. BODDODD William Jones, gwr priod o Sand Street, Pwllheli, wrth ddilyn. ei alwedigaeth gyda'r Harbwr newydd yn y lie, boreu Llun. YN Wrecsam y mae y Parch. J. R. Campbell y dyddiau hyn yn ceisio dysgu y bobl fod sosialiaeth am gymeryd lie crefydd Crist i ddyrchafu dynoliaeth, ac i wneyd trefn ar y byd Onid yw yn resyn gweled dyn fel Mr. Campbell yn cerdded ar draeth byw." DIRWYWYD porthmon moch o'r enw Wililam Henry Gosmore, o Great Broughton, Caer i bymtheg punt am gymeryd 44 o foch o Amlwch amgylch ogylch Caer, yn He myned a hwy ar eu hunion i Audlem lle'r oeddynt i fyned. CAFODD William Walker, cigydd, yn byw yn Ramsder Terrace, Bradford, ei ddirwyo ugain punt a'r costau am gadw ei fasnachdy i fetio. WRTH geisio amddiffyn eu hunain o flaen ynadon Llangollen yn ngwyneb cyhuddiad o feddwdod, dywedodd James Baker, cylch- werthwr ar ei ran ei hun a'i wraig fod cwrw Llangollen yn eu meddwi ar unwaith. Cymer- asant ychydig o gwrw y cynhauaf, a cheisiasant frysio am y tren, ond nid oedd modd symud. BRYDNAWN Sul, digwyddodd damwain ddifrifol i ddeurodwr o'r enw Mr. Berry, ymwelydd a'r Borth, ger Portmadog. Aeth i wrthdarawiad a cherbyd modur, a derbyniodd niweidiau difrifol i'w ben. Y mae mewn sefyllfa anobeithiol. Gweinyddwyd arno gan ddau feddyg, a bu farw mewn ychydig oriau. DEALLWN mai dal yn ddrwg iawn ac yn hollol anymwybodol y mae Mr. Biggs, yr ymwelwr a anafwyd yn namwain Cegin y Diafof ddydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf. Mae dan driniaeth yn Ysbytty Chwarel y Penrhyn. YN Llys Apel Wellington, New Zealand, cadarnhawyd dedfryd y Barnwr Cooper, i'r perwyl fod y dynion ar streic a wrthodasant dalu dirwy a osodwyd arnynt am gymeryd rhan mewn streic yn agored i gael eu car- charu, Drwy hyn gwelir fod gweithwyr New Zealand, drwy gymeryd rhan mewn stroic, yn troseddu yn erbyn dyfarniad y Llys Cyf- lafareddol. Os gwnant hyn, y maent yn agored i gael eu dirwyo; ac os na thalent, gellir eu hanfon i garchar am gyfnod heb fod dros fiwyddyn. DYDD Mawrth cafodd pobl Lerpwl a'r cylch eu gwahodd i'r ageriong Lusitania," perthynol i Gwmni Cunard. Aeth miloedd i'w gweled. Dydd Sadwrn diweddaf yr oedd yn cychwyn ar ei mordaith gyntaf—i Efrog Newydd. Bernir i ddeng mil o bobl fyned i'w gweled ddydd Mawrth. Nid yn unig y mae'r llestr vn un fawr, eitbr hefyd dodrefnwyd ei hystafelloedd eang yn orwych. Hi yw y fwyaf sydd yn uofio'r moroedd. DYVTEDIR fed yn mwriad Mr. Oscar Lf.rv-isohn,_ priod Edna May," i wneyd apel yr, erbyn dyfarniad Inadon Eastbourne, pa rai a oscdwvd dlrv.-y o (25 avno ddydd Gwener diweddaf, an; yn; ei Fodnr gyda chyflymdra perygius. V
I Damwain gyda Ffrwydron,…
Damwain gyda Ffrwydron, Nos Sadwrn, cyfarfyddodd bachgen aeuddeg oed Mrs. Brookes, oedd ar ymweliad a Bryn- 1-i d a Dryn- bach, Dyffryn, a. damwain ddifrifol. Cafodd hvd i tin o gelaiiiic, gyda detonator fuse wedi j ei gysylltu wrtho. Gcsododd ef ar y wal, ac wedi cael matches galwodd ar hogiau eraill i ddod I weled yr:hwyl. Ffrwydrodd y gelatine, a chwythodd fawcl c., dan fys y bachgen ymRitb. a chwi'friv?.wy? c!ec(r ei law fel v bu (\Í¡) :o;ih;V¡:i();(;:(i ea¡;lcB doSt.
I Myned i Cerbydres Lawn.…
I Myned i Cerbydres Lawn. 1 RHYBUDD PWYSIG 1 DEITHWYR. I Yn Heddlys Feltham, gwrandawyd achos o bwysigrwydd mawr i deithwyr gyda'r reil- ffordd, yn ogystal ag i weision y Cwmniau. Gwysiwyd un W. Mortimer Burgess, gan Mr. Thomas Hartley, River Court, Stanwell, am fvned i mewn i gerbyd y trydydd dosbarth perthynol i Linell y London & South-Western ac aros ynddo ar ol i gais gael ei wneyd am iddo beidio, ac felly droseddu un o Fan- ddeddfau y Cwmni. Dywedodd Mr. Hartley wrth y Faingc ei fod yn deithiwr ar y tren 7-14 boreu Awst 12 o Ashford i Waterloo. Yn y cerbyd trydydd dosbarth yr ydoedd, a phan safodd y tren yn Feltham, daeth amryw o bersonau eraill i mewn. Pan oedd y cerbyd wedi el lenwi a deg o bersonau, daeth y Diffynydd i mewn. Galwodd y tyst ei sylw fod y cerbyd yn llawn, ac nad oedd ganddo hawl i aros i mewn, a gofynodd iddo fyned allan. Gwrthododd yntau fyned. Yn Waterloo hysbysodd y guard, a chymerwyd enw y Diffynydd yn ngorsaf yr heddlu. Y Cadeirydd (wrth y Diffynydd), "Y cwestiwn yw, a ddarfu i chwi deithio mewn cerbyd oedd eisoes yn llawn, ac felly droseddu Man-ddeddfau y Cwmni ?" Diffynydd, Nid oeddwn yn gwybod fod y fath ddeddfau." Cadeirydd, "Yna fe ddylasech fod yn I gwybod. Y mae y gorlenwi cerbydau fel hyn wedi myned yn warth cyhoeddus." Diffynydd, Ond beth oedd genyf i'w wneyd ?" Cadeirydd, Dylai y cyhoedd ddeall nad oes ganddynt hawl i fyned i gerbyd pan y bydd yn llawn, ac os nad allant gael He yn y trydydd dosbarth fod ganddynt hawl i fyned i'r ail ddosbarth, ac os bydd yr ail ddosbarth yn Ilawn fod ganddynt hawl i fyned i'r dosbarth cyntaf." Dangoswyd copi o Fan-ddeddfau y Cwmni, a dywedwyd eu bod i fyny yn mhob gorsaf o eiddo y Cwmni. Un o'r Ynadon, Ydynt; ond yn mha le ? I fyny yn ymyl nenfwd yr Orsaf fel y mae yn ofynol i ddyn gael ysgol i allu myned atynt i'w darllen." Y Cadeirydd a ddywedodd nad oedd amheuaeth fod y Manddeddfau wedi eu tori gan y Diffynydd, ond o dan yr amgylchiadau, ni roddent ond dirwy ysgafn o swllt a'r costau.