Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Ysgoloriaethau Sir Ddinbych.

Methdaliad dau o Oruchwylwyr…

. Castell y Penrhyn ar Osoti.I

Cosb drom am Fygwth y Gyllell…

Colli ei hun ar y Mynydd.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colli ei hun ar y Mynydd. I Rhyfedd y dull sydd gan ambell un i ddod i sylw. Ymddengys fod Mr. Bernard Shaw, a'i briod yn aros yn Llanbedr, Ardudwy. Dydd Sul aeth am dro i gyfeiriad y Rhiniog Fawr, trwy CwmBychan a'r Grisiau Rhufeinig yn Bwlch Tythiad. Nid oedd cymeriad taith felly yn beth newydd o gwbl, ond rhaid oedd i Mr. Shaw gael gwneyd trefniad cyn cychwyn i adael nodyn ar fan neillduol ar y grisiau er budd y rhai a fwriadent ei ddilyn. Hysbysir iddo binio cerdyn ar bren yn y lie, gyda'r geiriau: "Wedi myned yn mlaen: dilynwch os gwelwch yn dda." Gwyr y sawl welodd y grisiau nad oes yno bren i ddodi cerdyn arno. Fodd bynag, daliodd Mr. Shaw ormod ar y chwith a cbrwydrodd ar y bryniau caregog i gyfeiriad Trawsfynydd, ac wedi oriau o grwydro daeth i Westy Tynygroes, Ganllwyd, lle'r arhosodd dros y nos. Gan na ddaeth adref erbyn deg y nos, dechreuodd Mrs. Shaw a bod yn anesmwyth, a chododd tua tri chant o bobl allan i chwilio y mynyddoedd am dano, ac ni ddychwelasant hyd bed war o'r gloch y boreu. Boreu ddydd Llun, pellebrodd ei fod yn Dol- gellau, ac y deuai adref gyda'r tren cyntaf. Pan gyrhaeddodd yr orsaf, hysbyswyd ef o'r hyn a fu, a dywedodd yn chwerthinllyd, Fe wna les iddynt." Croesaw braf i'r Cymro am bryderu yn ei gylch.

I - - N, -111,11o"- N/? Anghydwelediad…

--.v,- I Twyil T reihgasglydd.…

ER COF

Y GWYDYR, LLANRWST.

- - Rhyfeddodau yn SVSycS…

[No title]

I O'R PEDWAR CWR.

I Damwain gyda Ffrwydron,…

I Myned i Cerbydres Lawn.…