Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

-UNDEB BEDYDDWYR r CYMRU.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB BEDYDDWYR r CYMRU. Cynhaliwyd Cyrddau Blynyddol yr Undeb uchod, yr wythnos ddiweddaf yn nhref benafol Llanelli, yr hon, ar lawer ystyr yw Jerusalem yr enwad yn y wlad. Nid oes cynifer o fedydd- wyr mewn cylch mor fychan, drwy yr holl fvt: ag sydd yn nhref Llanelli a'r cylch. Yr oedd Bedyddwyr yma tua 1,640, y rhai re 'dynt yn aelodau o eglwys Ilston, yr hon a fTuta^yd vn 1649, ac ar yr hon yr oedd yr enwog John Miles yn weinidog. Codwyd y capel cvntuf ') n y cylch, sef Adulam, yn y flwyddyn 1700 Nid oedd gan y Bedyddwyr yng Nghym, cyn yr adeg hon, ond tri chapel, sef Liaretwprth, yr hwn a adeiladwyd yn 1695, RhydvuKm (1701) a Llangloffan (1706). Heddyw rn", gan y Bedyddwyr yng nghylch Llanelli ddwy ar bvm- theg o eglwysi, gydag agos i wyth mi' o aeiod- au. Rhoddwn yma rif rhai o'r eglwysi gydag enwau eu gweinidogion a maint eu capel au Nifer eistedda'r Gweinidog. Aelodau. Capel. Seion-Parch. E, T. Jones 996 15)0 Adulam-Parch. B. Humphreys S56 950 Soar-Parch. J. R. Evans 775 900 Bethel-Parch. Hugh Jones 736 900 Moriah-Parch. Dr. Rowlands. 592 1000 Greenfield (S.), 613 750 Bethania-Parcb, W. T. Jones. 450 1000 Tabernacl-Parch. B. Williams. 428 800 Gyda naw o Eglwysi eraiil yn rhrio ar gyfar- taledd dri chant o aelodau yr un. Gwelir felly, fod yr Undeb wedi ei gynal eleni yng nghanol nerth yr enwad, ac yr oedd y croesaw roddid iddo yn ddibendraw. Eglwys Bethel oedd wedi gwabodd yr Undeb y tro hwn. Yno y gweinidogaetha y Parch. Hugh Jones, un o bregethwyr mwyaf hyawdl yr oes. GWAITH YR UNDEB. Cadeirydd yr Undeb eleni oedd y Parch. J. W. Maurice, gweinidog Tabor, un o eglwysi mawrion Sir Benfro. Yr Is-gadeirydd oedd y Prifathraw T. F. Roberts, Aberystwyth, ac iechyd i galon oedd gweled y gwr dysgedig hwn yn eistedd mewn pwyllgorau, ac yn myn- ychu cynhadleddau ar hyd yr wythnos, gan brofi fod llwyddiant achos y Gwaredwr yn agos iawn at ei galon. Nis gall dylanwad gwr o fath Dr. Roberts lai na bod yn iacbusol a dyrchafol iawn ar y cannoedd myfyrwyr sydd dan ei ofal. Ysgrifenydd yr Undeb yw y Parch E. Edmunds, Abertawe, yr hwn a roddodd i fyny ofal ei eglwys gref rai blynyddcedd yn ol, er mwyn rhoddi ei holl amser, a'i dalentau dis- glaer i wasanaeth ei enwad. Efe yw arolygydd y Llyfrfa sydd newydd ei sefydlu yn Abertawe, a than ei arweiniad ef y dygir yn mitten aith gwahanol gymdeithasau yr Undeb. Y mae yn Ysgrifenydd delfrydol, a pharod iawn yw Bedyddwyr Cymru i gario allan ei gynlluniau, ac i udilyn ei arweiniad. Dan nawdd yr Undeb Cynhelir Cenhadaeth Gartrefol (Forward Movement), yr hon sydd eisoes wedi gwneud gwaith mawr. Sefydlwyd nifer o eglwysi ganddi, mewn manau lie na chynrychiolid yr enwad o'r blaen, a chynorthwywyd amryw o eglwysi gweiniaid i gynal gweinidogaeth. Yr oedd dros £ 600 o ddyled ar y Gymdeithas hon, ond addawodd boneddwr o'r De y rhoddai efe £60 at ei thalu ymaith, os cliriai yr eglwysi y gweddill erbyn yr wythnos diweddaf. Gwnaed hyn gyda brwdfrydedd a chaed gweddill. Ysgrifenydd ac arolygydd y mudiad hwn yw y Parch. J. D. Hughes, Blaenywaen. Dan arolygiad yr Undeb y dygir yn mlaen waith yr Ysgolion Sul drwy Gymru. Llafuria yr holl ysgolion yn yr un maes, a chynbelir arholiad blynyddol yn Mis Mawrth bob blwy ddyn, yn yr hwn eistedda rhai miloedd. Mae y gwaith hwn yn dod yn fwy perffaith yn flynyddol. Symudiad newydd yn yr Enwad yw Undeb Bedyddwyr leuangc Cymru. Trefnir rhaglen ragorol ar gyfer Cymdeithasau y bob! ieuangc yn yr eglwysi nodir llyfrau i'w hastudio, a threfnir arholiad yn y Gwanwyn. Mae y mudiad hwn, dan lywyddiaeth y Prif-Athraw W. Edwards, Caerdydd, yn cymeryd gafael dvitfr yn ieuengctyd yr Eglwysi. Mae Cymdeithas Ddirwestol hefyd yn gwneyd gwaith ardderchog, mewn darparu llyfrau priodol i'r gobeithluoedd, a threfnu i ddal hawliau yr achos da hwn yn gyson o flaen yr eglwysi. Perthyna i'r Undeb hefyd, Gym- deithas hanes, yr hon sydd yn gwneud gwaith rhagorol, mewn symud y Ihvch oddiar hanes y Cewri fu yn llafurio yn yr enwad mewn oesau fu, Darllenwyd papur yng nghyfarfod blyn- yddol y Gymdeithas bon eleni ar y Dr. Thomas Llewelyn, gan y Prif athraw Silas Morris, M.A., Gelltr nodi hefyd, y Gymdeithas Ddarbodol, trwy yr hon y darperir ar gyfer gweinidogion mewn henaint aliesgedd, a'r Drysorfa Adeiladu, amcan yr hon yw rhoddi benthyg arian yn ddilog i eglwysi i adeiladu addoldai, Rhydd yr uchod gipcrem ar y gwaith mawr wneir gan yr LnaeD. YR UNDiES A CHYNGRAIR YR E Q L'l Y S I SKYDrtGPi. Mater y caed trafodaeth ddyddorol iawn arno yn Llanelli oedd, pertbynas Bedyddwyr Cymru Ir G,I-ngrai- uchod. Fel y gwyddis, y mae yr enwad yng Nhymru \Vedi ei gau allan o'r Gyngrair uchod, hyd yn bresenol, drwy foci y Cymundeb yn cael e:l weinyddu yng cglyr. a gweithrediadau y Cycgrair, ac yng ng'yn a rhai cyBghorau v C,yEgr;ii, ac yrg Bedyddwyr Cymru fel miliycau Bedyddwyr America ac amryw o eglwysi yr enwad yn Lloegr yn gaethgymunwyr. Credai Bedydd- wyr Cymru pan flur6'Ayd Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion os disgwyiid iddvnt gydweithredu ag emvadrui eraiH mewn m;:tterion Cymdeith2s- Oi, na ddvlasai eu hcjwyddortor. gwahani^etb- 0} FE4 einva G gae. eu sat h rn.- Gwnaed y ffordd yn ehr i boo er -v? d avail ymur:o heb wadu ? !Dob v;,f3 a-I? gormod oedd civ 1 i" Ped/cr .vyr ddivstvru eu hsr- ¡¡¡;j;,j¡;E#if;;i[ j n*e v U i J a i -ycorau « penrier- fY:1 T T i.4 f s -t h' .vy o gwbl, yn yr un o'u cyfarfodydd er mwyn ciirio y ffordd i'r Bedyddwyr gyd-weithredu, ond dadl Undeb y Bedyddwyr yw na ddylid caniatau gweinyddu'r Cymundeb yng nglyn a gweithrediadau y Cyngrair o gwbl. Fodd bynag, ymddengys fod y ffordd ar gael ei gwneyd yn glir i Fedyddwyr Cymru ymuno a'r Cyngrair. Dywedodd y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd; a'r Parch. J. Morgan Jones (M.C.), wrth groesawu yr Undeb i Gaerdydd, flwyddyn yn ol, nas gallai y Cyngrair wneud ei waith yng Nghymru heb y Bedyddwyr, ac fod yn rhaid cael y Cymundeb o'r ffordd er mwyn eu cael i gydweithredu. Dywedodd y Parch. H. M. Huyhes mai ordinhad eglwysig yw y cymundeb ac na ddylid ar un cyfrif ei llusgo o'i chylch priodol ei hun a phroffwydai ef y byddai y maen tramgwydd wedi ei symud oddiar ffordd y Bedyddwyr ar fyrder. Hysbysodd y Dr. J. Rendel Harris, Cadeir- ydd y Cyngrair am eleni, os na adewir y Cymundeb allan o'r gweithrediadau yn y Cyrddau Blynyddol yn Southport yn y flwydd- yn hon, y bydd iddo ef aros gartref, ac na fydd dim a wnelo ef a'r Cyfarfodydd. Gwahoddodd y Parch, Thomas Law, nifer o arweinwyr y Bedyddwyr yng Nghymru i'w gyfarfod ef, er trafod y cwestiwn. Ffrwyth y drafodaeth yw addewid y bydd y mater yn cael sylw arbenig Pwyllgor y Cyngrair yn y Cyrddau Blynyddol nesaf. Teg yw hysbysu fod nifer o weinidogion blaen- llaw yr Annibynwyr yn y De, wedi cydweithio a'r Parch H. M. Hughes, Caerdydd, er dod a'r mater hwn i bwynt. Y tebygolrwydd yw y caniateir Home Rule i'r Adran Gymreig o'r Cyngrair, ac na fydd y Cymundeb i'w weinyddu ynglyn a'r Cyngrair yng Nghymru. Dywedai y Goleuad dair wythnos yn ol, mai Y rhes- wm am fethiant Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion yn Nghymru yw y Cymundeb," a theimlodd anghydffurfwyr y Rhondda mai gwell oedd ffurfio Cynghor Anghydfturfiol" gan nas gall- ent gario eu gwaith ymlaen mewn Cwm lie y mae'r Bedyddwyr mor luosog, heb eu cyd- weithrediad. Yn Llanelli, rhoddodd y Prif- athraw Roberts anerchiad dylanwadol ar y mater hwn, gan anog gwneyd pob ymdrech i gael cyd-ddealltwriaeth, a dangos y pwysig- j rwydd i'r pedwar enwad yng Nghymru gyd- weithio mor bell ag y gallent heb i argyhoedd- iadau un o honynt gael eu diystyru. Pasiwyd yno, yn frwdfrydig iawn, "Ein bod yn llawen- hau fod y ffordd ar gael ei chlirio i ni fel Bed- yddwyr uno ag enwadau eraill yng Nghymru yng Nghyngrair yr Eglwysi Rhyddion, ac yn datgan ein p" radrwydd i wneyd hyny y foment y symudir yr hyn sydd wedi ein cadw allan hyd yn bresenol." AREITHIAU YR UNDEB. Yng nghyfarfod cyhoeddus cyntaf yr Undeb, llywyddid gan Llewelyn Williams, Ysw,, A.S., yn absenoldeb D Lloyd George, Ysw., yr hwn fethodd a chadw ei gyhoeddiad. Baich araeth odidog Mr Williams ydoedd anog Cymru gyfan i gydweithredu tan arweiniad ei thywysog Lloyd George. Ein hanes yw man-ymraniadau. Collasom ami i gyfle euraidd drwy ddiffyg Un- deb. Bellach, meddai, y mae genym ein Mor- decai yn llys y Brenin, a'n Ile yw ymddiried ynddo, a buan y tyr gwawr ar achos Cymru. Caed anerchiadau brwd yn ystod yr wyth- nos ar Berthynas Credo a Bywyd," gan y Parch D. Collier, Abertillery; Dirwest," gan y Parch. D. Davies, Brighton; Y dyrus-bwnc parthed y bobl ieuaingc," gan y Parch Herbert Morgan, B.A.; "Perygl Cymru oddiwrth y Babaeth," gan Llifon; "Rhwymedigaeth y gwragedd i bleidio Dirwest," gan Miss Ellen Williams, a thraddodwyd araetb rymus iawn o'r Gadair ar"Yr hen grefydd a'r ddysgeid iaetb newydd." Caed hefyd gyfarfod Cenhad- ol eneiniedig. Dydd Iau, pregethwyd yn nghapel Seion i gynulleidfa anferth gan y Parch John Thomas, M.A., Myrtle Street, Lerpwl. Prer'othwyd yn ystod y dydd mewn chwech o gap [au y dref gan weinidogion yr enwad drwy G, ,ru. Caed cyrddau a'r Arglwydd yn amlwg ;ddynt o'r dechreu i'r diwedd. E. CEFNI JONES.

---- - - -I Cyngor Gwledig…

.Bwrdd -Gwarcheidwaid -Penrhyn-I…

BETTWSYCOED.-

Advertising

PENMACHNO. ' - -I

- - - jCodi Pris y Bara. --'..

Advertising