Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

-UNDEB BEDYDDWYR r CYMRU.

---- - - -I Cyngor Gwledig…

.Bwrdd -Gwarcheidwaid -Penrhyn-I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd Gwarcheidwaid Penrhyn- I deudraeth. Dydd Mawrth yn y Tylotty, o dan lywyddiaeth Mt. W. Jones (yr is-gadeirydd), ac yr oedd hefyd yn bresenol Mr. Richard Roberts, W. W. Morris, Richard Williams, W. Wil- liams, D. Tegid Jones, John Roberts (Talsarnau), Edward Llywelyn, O. V. Lewis, John Williams, David Pugh, Owen Evans, William Williams (Trawsfynydd), N. W. Vaughan, J. Pritchard, R. Richards, R. Bowen Jones, Cadben Morgan Jones, John Pritchard, Dr. Jones (Meddyg), W. Thomas, J. Bennett Jones, a Richard Parry (Swyddogion Elusenol)', D. J. Jones (Meistr y ty), a D. Jones (Clerc Cynorthwyol). Gwaith Pwy ? Yr oedd mercb, yr hon oedd yn bygwth cymeryd ei bywyd ymaith, wedi dod i'r Ty, ac yr oedd rhai o'r Gwarcheidwaid yn ystyried mai gwaith yr Heddgeidwaid ydoedd, ond wedi trafodaeth, hysbyswyd ei bod wedi ymadael o'r Ty, i fyned i wasanaeth (clywch, clywch). Gwyliau. I Pasiwyd i'r Weinyddes sydd yn y Ty gael dwy wythnos o Wyliau. Y Ty. Medi 7, daeth Ellen Roberts, Garn, 26 oed i'r Ty yn feichiog, ac yr oedd ganddi 24/- yn ei mheddiant. Medi 7, aeth Elizabeth Yoxhall, 51 oed, allan o'r Ty i fyned adref. Yr oedd Mary Jane Hughes yn dymuno ym- ddangos o flaen y Bwrdd. Yn y Ty 74 ar gyfer 76 v flwyddyn flaenorol, a galwodd 12 o grwydriaid yn y Ty yn ystod y bythefnos diweddaf ar gyfer 20 yr un adeg cyferbyniol y llynedd. Arianol. I Yn ystod y pythefnos ddiweddaf talwydallan fel y canlyn :—Dosbarth Tremadoc, £71 18s; Dosbarth Ffestiniog, CIIO 8s 2c; Dosbarth Deudraeth, £ 67 19s 7c. Cyfanswm /250 5s 8c, ac yr oedd eisiau y symiau canlynol at y bythefnos nesaf :—Dosbarth Tremadog, £ 73 Dosbarth Ffestiniog, £ 110; Dosbarth Deu- draeth, £67. Cyfanswm £ 250. Gweddill yn yr Ariandy y 9fed o Fedi, 1907, 1909 6s lie. Tenders am Nwyddau. I Derbyniwyd y Tenders canlynol am gyflenwi nwyddau i'r Ty:-Groceries, T. W. Jones & Son, Penrhyn; Joseph Humphreys, R. Edwards, R. Isaac Jones, Minffordd Thomas Roberts, Maentwrog. Llefrith, Mrs. Williams, Cae Ednyfed Bara, Hugh E. Roberts, Pen- rhyn; Cig, R. Newell, Portmadog; Eirch. J. Parry Jones; Esgidiau, Ellen Williams; Drapery, T. W. Jones & Son, a Thomas Rob- erts, Maentwrog Glo, Evan Jones, Penrhyn a J. E. Humphreys. Wedi Gwella. Y Cadeirydd a ddywedai fod yn dda ganddo weled Mr. W. Thomas wedi gwella yn ddigon da i ail-ddechreu ar ei ddyledswyddau, ac yr oedd yn sicr fod yr holl Fwrdd yn falch o hyny (cym.). Mr. W. Thomas a ddywedai ei fod yn dym- uno diolch i'r Bwrdd am eu teimladau da tuag ato yn ystod ei waeledd. Yr oedd wedi bod yn gynorthwy mawr iddo wella. Nis gallai dalu swllt. Darllenwyd liyihyr oddiwrth un o Ffestiniog yn dyweyd nas gailai dalu 1/- yr wythnos tuag at gadw ei fam, oherwydd iselder masnach, a'r pedwar diwrncd. Yr oedd yn foddlawn i dalu 6c. Y Cadeirydd a ddywedai fod yn amlwg fod riiywun yn dysgu y bobl yma pa fodd i ysgrif- enu at y Bwrdd, ac yr oedd yn bryd i roddi atalfa arnynt. Mr, Richard Williams Y nts.e clywed cyn fel chwi yn myned i feirniadu sut y rnae y bobl yma i fyw yn ofnadwy i wmndaw arnoch. Y IDaey dynion ynvj mor a clr.vithau, beth bynag ydych. Y Cadeirydd: Ni ddywedais i air nad oedd- ynt yn onest, a phaham y mae eisiau i chwi deimlo mwy na rhywun arall? Yr oeddych yma pan oeddym ni yn pasio yr archeb. Mr. Richard Williams Oeddwn, ond y mae amgylchiadau yr ardal wedi newid erbyn hyn. Cadben Morgan Jones "Chair, Chair." Gormod o Swn. Pan symudwyd at y mater nesaf, yr oedd I amryw o'r aelodau yn siarad gyda'u gilydd, a sylwodd Mr W. W. Morris: Y mae yma gryn lawer o swn, nid yw yn bosibl clywed dim. Mr Richard Williams Ar y Cadeirydd y mae y bai am hyny (chwerthin). Y Cadeirydd yn Teimlo. Y Cadeirydd a ddywedai ei fod yn teimlo oherwydd y sylwadau hollol ddialw am danynt oedd yn cael eu gwneyd yma. Nid oedd yn myned i gymeryd gan Richard Williams na neb arall yma. Mr. Richard Williams Arnoch chwi y mae y bai. Ddylech chwi ddim ceisio anmharchu y tlawd. Y Cadeirydd Ni fu i mi erioed anmharchu y tlawd, yr wyf yn ymddwyn yr un fath tuag at bawb, ond yr ydych chwi fel pe buasech yn talu y trethi i gyd. Mr. Richard Williams Yr wyf fi yn talu fel chwithau. ac yn talu ugain swllt y bunt. Protestiai amryw o'r aelodau yn erbyn sylwadau fel hyn, a dywedodd y Cadeirydd os na byddai Richard Wiliiams yn ddistaw y byddai iddo roddi y gadair i fyny. Mr. Richard Williams Gellwch ei rhoddi yn awr os mynwch. Cadben Morgan Jones At y mater nesaf, Mr. Cadeirydd, a symudwyd ymlaen. Cynhadledd y Tlodion. Yr oedd Mr. Tegid Jones wedi bod yn cynrychioli y Bwrdd yn yr uchod yr hon a gynhaliwyd yn Nghorwen, ond nid oedd ei adroddiad yn hollol barod, a phasiwyd i'w gael yn y Bwrdd nesaf. Pasiwyd hefyd i gael copi o'r areithiau ddarllenwyd yno i bob aelod o'r Bwrdd. Gofidiai Mrs. Casson oherwydd ei hanallu i fyned i'r Gynhadledd ar ol ei dewis gan y Bwrdd. Geneth Amddifad. Ymddangosodd gwraig, (sef chwaer i fam yr eneth) o flaen y Bwrdd i geisio cael eglurhad pa fodd yr oedd y Bwrdd yn myned neu wedi derbyn merch Borthwen Bach i'r ty am 5/- yr wythnos, tra yr oedd Thomas Roberts, wedi gwario ei harian. Yr oedd 500 o bunau wedi eu gadael i'r eneth er's tuag wyth mlynedd yn ol, ond yn awr nid oedd ond £45 ar ei chyfer, a £ 25 o'r rhai hyny wedi eu gwario. Yr oedd Thomas Roberts wedi codi 10/- yr wythnos am ei lie, ond nid oedd wedi cynyg ond 51- yr wythnos iddi hi am ei chymeryd. Yr oedd yn hyderu y byddai i'r Gwarcheidwaid edrych fod yr eneth amddifad hon yn cael chwareu teg. Mr. Thomas a ddywedodd fod Note of Hand am £25 i'w dalu yn ol 5/- yr wythnos wedi di arwyddo gan Thomas Roberts. Ymddangosai yr holl achos yn dywyll iawn i'r Gwarcheidwaid, a buasai cael rhywun i'w goleuo ar y mater yn fendith fawr iddynt hwy a'r eneth druan sydd ar hyn o bryd yn y Tylotty yn y Penrhyn.

BETTWSYCOED.-

Advertising

PENMACHNO. ' - -I

- - - jCodi Pris y Bara. --'..

Advertising