Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Heddlys Blaenau Ffestiniog.…
Heddlys Blaenau Ffestiniog. I Dydd Iau (beddyw) o flaen J. Parry Jones, Ysw., (Cadeirvdd), a G. H. Ellis, R. Roberts, W. P. Evans, J. Vaughan Wil- liams, a David Williams, Ysweiniaid. MEDDW.—Y Rhingyll Owen a gyhuddodd John Hughes, 160, High Street, o fod yn feddw Mai 18.-Gohirwvd yr achos o Lvs Mehefin am dri mis, gan fod y cyhuddedig yn addaw diwygio ac wedi myned i Berthyn i'r capel- Nid ynddangosodd a dirwywyd ef i 5s a 10s 6c o gostau. MEDDW. Yr Heddgeidwad Mayberry Morgan, Maentwrog, a gyhuddodd Jane Jones, Bodafon, Blaenau Ffestiniog, o fod yq feddw Mai 11. Gohiriwyd yr achos am dri mis yn Llys Mehefin, er mwyn gweled pa fodd yr vmddygai y Ddiffynyddes yn y cyfamser.—Nid ymddargosodd, ond tystiwyd iddi ymddwyn yn gamoliaethus.-Dirwy o swllt heb gostau. MEDDW AC AFREOLUS.—Yr Heddgeidwad Owen Jones a gyhuddodd William Thomas, Lower Cwmbowydd Road, Bl. Ffestiniog, o fod yn feddw ac afreolus ar Awst 10.-Nid ymddangosodd.—Tystiwyd ei fod ef a'r teulu wedi ymadael a'r ardal.—Dirwy o 10/- a 9/6, neu 14 diwrnod o garcbar. MEDDW AC AFREOLUS: ACHOS GOFIDUS. -Y Rhingyll Owen a gyhuddodd Hugh Morris Hughes, Back Park Square, Blaenau Ffestiniog, o fod y feddw ac afreolus ar Awst 23. Hefyd yr un Swyddog a'i cyhuddodd o fod yn feddw ac afreolus ar Awst 15.— Addef- odd y trosedd, ac yr oedd yn ddrwg ganddo.— Sylwodd y Faingc ei fod yn bla ar y lie, er nad oedd ond 25ain oed, yr oedd rhestr fawr o gyhuddiadau yn ei erbyn.—Yr oedd ei fam yn pleidio yn daer drosto.-Arolygydd, Y mae y tafarnwyr yn cwyno yn ei gylch.Mr. R. Roberts, Eto yn rhoddi diod iddo, y mae hynv yn anghyson iawn."—Cadeirydd, Cyfle i wella."—Dirwy 2/6 yn mhob achos a'r cost- au £1 2s Oc trwy'r oil. MEDDW.—Yr Heddgeidwad Mayberry Morgan a gyhuddodd Margaret Lewis, The Cliffe, Maentwrog, o fod yn feddw ar Awst 30.-Addefodd y trosedd, yr oedd yn ddrwg iawn ganddi.—Dirwy o swllt a'r costau. MEDDW AC AFREOLUS.—Y Rhingyll Owen, a gyhuddodd Edward Jarvis, gwerthwrpysgod. Glynllifon Street, Blaenau Ffestiniog o fod yn feddw ac afreolus ar Medi 3. Addefodd y trosedd, ac mai wrth yfed wisci at wella y ddanodd y meddwodd aeth y wisci i'w ben.— Taflwyd yr achos allan, gyda rhybudd. MEDDW GYDA CHEFFYL A CHERBYD.—Yr Heddgeidwad Richard Price a gyhuddodd Jivan Evans, Penybryn Ffestiniog o fod yn feddw gyda cheffyl a cherbyd Awst 9.—Yr oedd yn gorwedd yn berffaith feddw yn y cerbyd.—Gwadai y trosedd, ond addefodd iddo gael tri neu bedwar peint.—Dirwy 5/- ac 8/6 o gostau. CADW CI PERYGLUS.—Yr Heddgeidwad Josiah Jones a gyhuddodd Robert Griffiths, 2 Parry's Terrace, o gadw ci peryglus, Awst 15.Tynwyd yr achos yn ol, am fod y c, wecli ei ddinystrio. TADOGI,-Lizzie Thomas, Porch, Church Street, Trawsfynydd' a ofynodd am archeb yn erbyn Robert Simon Hughes, 100. Caerphilly Road, Sengbengydd, Deheudir Cymru, i dalu at fagu ei phlentyn anghyfreithlon o honi.— Gwnaed yr archeb ond gwrthodwyd y costau. TRWYDDED GLYNDWR. Gwnaed cais ffurfiol am archeb amddiffynol ynglyn a'r drwydded uchod.—Penderfynodd y Faingc ganiatau y cais hyd nes y penderfynir yr achos gan y Pwyllgor lawnyddol. & & Jo
Gwalljgo-Fdy Dinbych.
Gwalljgo-Fdy Dinbych. Y mae y costau arutbrol a roddir ar Wallgofdy Dinbych yn dod yn bwysau trwm ar yr holl wlad. Y mae £ l53,730 wedi ei gwario i fyny i Mehe6n 18, ar yr helaethiad, Bydd rhan y pum sir fel y canlyn :-Mon, £ 18,787; Caernarfon, £ 44,063; Meirion, £ 16, 970; Fflint, £ 28,752 a Dinbych, £ 45,157.
Damwain Angeuol yn Chwarel…
Damwain Angeuol yn Chwarel Nantlle. "h"I"1 Dydd Mawrth yr oedd O. R. Williams, W. Cadwaladr, a John Jones o Tynlon, yn gweitbio ar graig chwarel y Cilgwyn. Tra yr oeddynt yn tyllu, daeth meini i lawr y graig a maluriwyd coes Williams, ac anafu y ddau arall yn drwm. Bn farw Williams mewn can- lyniad i golli gwaed, a thoriad ymaith ei aelod. Gedy wraig a phedwar o blant ar ei ol.
RUABON. I
RUABON. I Nos Wener, pan yr oedd bachgen ieuangc o'r enw David Davies, Poncie, yn dychwelyd gyda'r car trydanol o'r Carnival yn Ngwrec- sam, disgynodd oddiar ben y car a derbyniodd niweidiau ofnadwy. Dyddiau Sul a Llun, cynhaliwyd cyfarfod pregethu y Wesleyaid, Stryt Isa, pryd y gwas- anaethwyd gan y Parch. Lloyd Hughes a'r Parch. Charles Jones, yr hwn a gymerai le y Parch. Gwynfryn Jones. Cafwyd pregethau I rhagorol.
.-..,..- - - - - - - - - -…
CASH ACCOMMODATION. I J10 TO £1000 ON THESE TERMS. £ £ S. D. £ £ S. D. 10 repay 11 5 0 400 repay 450 0 0 15 „ 16 7 6 500 562 10 0 20 „ 22 10 0 600 675 0 0 30 „ 33 15 0 700 785 10 0 50 „ 56 5 0 I 800 „ 900 0 0 100 11 112 10 0 900 1012 10 0 200 „ 225 0 0 I 1000 1125 0 0 300 „ 337 10 0 I -I No bondsmen or sureties required. Apply actual lender not assumed name W. JACKSON, 70, Plymouth Grove, MANCHESTER. Letters receive prompt attention. I 1
Advertising
———————————I■■■!■ |g■ ESTABLISHED 1876. Manufacturer of Memorials of every description, in  GRANITE, MARBLE, STONE & SLATE. ?A?%? Largest Stock in NORTH ?????? a tCV^' QQ WALES to select from.   ???   ???? ??!?? mm- GRANITE and MARBLE WORKS, fI < » LLAN RWST. Memorials fixed and restored in all parts of the J|^ Country. Inscriptions done in raised or cut letters, also, imperishable lead letters. A large assortment of Tomb Railings, Ai-tijicial TFi-eaths and Wire Protectors alivctys in Stock. I > umnimwmm— linn Mil —* THE qikRPEN5, TIINYBWLCH. GAIR AT DRIGOLION BLAENAU FFESTINIOG A'R AMGYLCHOEDD. A R ddymuniad cyfeillion a chwsmer- ?-\ iaid, ac yngwyneb y galwad ych- wanegol sydd ar ein nwyddau, yr wyf yn bwriadu ychwanegu at gynyrch y Gerddi hyn gyda Bulbs, Roses, Fruit Trees, Shrubs, Climbers, a Hadau o bob math. I'W GWERTHU YN EU TYMHORAU. Dylai y profiad maith mewn gardd- wriaeth, ynghyd ag yn agos i naw- mlynedd-a'r-hugain (29) wyf wedi byw yn y gymydogaeth. fod o wasanaeth imi allu dewis y pethau goreu a'r tebycaf i dyfu yn foddhaol yn y rhan hon o'r wlad, a byddaf yn ddiolchgar am eich archebion, pa rai gaiff sylw manwl ac uniongyrchol. BYDD POBPETH A GYNYGIR YN DDA AC YN RHAD. Gan mai hwn yw y tymor priodol i blanu Bulbs, &c., at flodeuo yn y Gwanwyn i mewn ac allan—dylech roddi eich Orders yn ddioed. MAE GENYF STOCK DDEWlSEDIG NEWYDD DDOD I LAW. Cynygir FRUIT TREES, ROSES, a phob COED o Tachwedd i Mawrth, a HADAU a phobpeth angenrheidiol mewn GARDD a FFARM yn gynar yn y Gwanwyn. Yr wyf yn cymeryd y cyfleusdra hwn i ddiolch i'n cwsmeriaid am y gefnogaeth hael a siriol gawsom er ein cychwyniad yn y cylch hwn, ac yn gobeithio y teil- yngwn barhad o'r unrhyw yn y dyfodol. JOHN ROBERTS. Medi, 1907. STALL YN Y MARKET HALL, BLAENAU FFESTINIOG, BOB DYDD SADWRN. O.Y.-Anfonir dynion gweithgar ac ymar- ferol i drin Gerddi, 6c.—J. R. "'V V 'V Y A WORD TO THE INHABITANTS OF BLAENAU FESTINIOG and SURROUNDING DISTRICTS. AT the request of friends and cus- tomers, and in face of the increasing demand for our goods, I contemplate supplementing the produce of these Gardens with Bulbs, Roses, Fruit Trees, Shrubs and Climbers. Plants of all kinds, Seeds, and all Garden Sundries. FOR SALE IN THEIR SEASONS. My long gardening experience and a residence of nearly 29 years in the district should prove of service to me in selecting .suitable materials for sowing and planting, and what is most likely to succeed in this part of the Country, so trust to be favoured with your valued orders which shall receive prompt and careful attention. EVERYTHING OFFERED WILL BE GOOD AND CHEAP. This being the proper season for planting Bulbs for a Spring display- in and out-doors—you should place your Orders at once. I HAVE A CHOICE SELECTED STOCK JUST TO HAND. Fruit Trees, Roses, Shrubs, and Trees of all kinds will be offered from November to March. Seeds, Garden, and Farm Sundries during early Spring. I take this opportunity of thanking; our numerous customers for the gener. ous patronage extended to us in the past, and hope to merit a continuation of the same in the future. JOHN ROBERTS. September, 1907. STALL AT THE MARKET HALL, BLAENAU FESTINIOG, EVERY SATURDAY. P.S.-ReUable Practical Men are sent out to cultivate Gardens, äc.J. R. GOLYGFEYDD A LLEOEDD R HAMANTUS. CYFLE RHAGOROL I'W GWELED Yr ydym yn barod i redeg CHARABANC, I BARTIOEDD o 15 hyd 20 mewn nifer am y Prisiau a ganlyn o Blaenau Ffestiniog a Llan Ffestiniog :— Blaenau Ffestiniog. Llan Ffestiniog, s. c. s. c. Beddgelert 3 6 3 0 Harlech 3 6 3 0 Dolgellau 3 6 3 0 Bettwsycoed 2 6 3 0 Trawsfynydd (Camp) 2 0 1 6 Beddgelert a thrwy Bettwsycoed 5 0 5 0 Rhoddir Prisiau i leoedd eraill heblaw y rhai a nodir uchod. Gyriedyddion Profiadol. Cerbydau a Cheffylau diogel. Ymofyner a— W. C. JONES, PENGWERN ARMS HOTEL, FESTINIOG. ASSEMBLY ROOMS, BL. FFESTINIOG. A GRAND 51\LE OF WORK will be opened on THURSDAY NEXT, the 19th inst., at 2-30 p.m., by The LORD BISHOP OF BANGOR, and will be continued on the 20th & 21st, at 3 p.m. TICKETS OF ADMISSION:— For the whole Three Days—ONE SHILLING. (Season Tickets not Transferable). For the Opening Day up to Six o'clock—ONE SHILLING after six o'clock—THREE PENCE. Friday and Saturday-THREE PENCE. Competitions in Washing, Hat Trimmings, &c., Electric Battery, Grand Magic Lantern, Entertainments, &c. At Drigolion Tanygrisiau a'r Amgylchoedd. Dymuna I EDWARD HUMPHREYS, CRYDD, PANTYCELYN, Wneyd yn hysbys ei fod wedi cymeryd Ty yn BrynfFynon, Tanygrisiau, a bwriada gario MASNACH yn mlaen fel Trwsiwr Esgidiau a Clogs. Sicrha waith da a gonest am brisiau rhesymol, ac ar y Rhybudd byraf. Bwriada ddechreu DYDD LLUN NESAF, MEDI 16eg, 1907. v W. DICKSON, PRACTICAL UPHOLSTERER and FRENCH POLISHER, Church St., Bl. Festiniog, (OPPOSITE QUEEN'S HOTEL). BLINDS OF EVERY DESCRIPTION MADE TO ORDER. VENETIAN BLINDS, TAPED AND CORDED. HAIR OR WOOL MATTRESSES Remade in New Cases, or Old Cases Re-cleaned. W. D. will be pleased to give Estimates for Repairing, Polishing, and Upholstering Furn- iture of every description. Country Work done at Customers own Houses, if necessary. A Post Card to the above Address will receive prompt attention. "FFYLIAID A FFOLEDD." Traddodir DARLITH ar y testyn uchod, NOS IAU, MEDI 19eg, 1907, yn Nghapel Soar (W.), Rhiw, gan y Darlithydd Poblogaidd MR. W. O. JONES, ABER. Cadeirydd WILLIAM OWEN, YSW., PLASWAENYDD. Yr elw tuagat roddi cwrs o Addysg i'r brawd ieuanc gobeithiol Kobert T. Roberts, er ei ddarparu ar gyfer y weinidogaeth. Drysau yn agored am 6-30; dechreuir am 7 o'r gloch. DYMUNA J. GLYN OWEN, (gynt yn ngwasanaeth Briggs & Co.) Hysbysu ei fod WEDI CYCHWYN BUS- NES El HUN, yn BRIDGE COTTAGE, Bl. Ffestiniog, LIe y bydd yn TRWSIO ESGIDIAU yn y modd goreu ac am y Prisiau mwyaf rhesymol. Teimla yn ddiolchgar i'r cyhoedd am y gefnog- aeth sylweddol a gafodd yn barod, a dymuna am barhad o'r cyfryw gefnogaeth. Sylwch y cyfeiriad JOHN GLYN OWEN, Boot and Shoe Repairer, Bridge Cottage, BI. Ffestiniog. CIRCULAR TOUR by RAIL and COACH, through Llanfrothen 5 Aberglaslyn Pass to Bedd- gelert, and back to Portmadoc, DAILY. Dymuna- W. O. Williams, HOME FROM HOME, PENRHYNDEUDRAETH, Hysbysu ei fod wedi cytuno gyda Chwmni Reilffordd Ffestiniog i redeg COACHES bob Dydd o hyn i ddiwedd mis Medi. TOCYNAU i'w cael yn DIPHWYS, BLAENAU FFESTINIOG, a THANYGRISIAU STATIONS, am 4/- yr un, Yn cynwys y TREN a'r GOACH. Pob math o Gerbydau at alwad am y Prisiau mwyaf rhesymol i Rhydsarn a Thalybont a Lleoedd eraill o'r Cambrian Railway. Telegraphic Address:— II HOME, PENRHYNDEUDRAETH." Dymnna OWEN ROBERTS, SHOEMAKER, MANOD PLACE, hysbysu ei fod yn TRWSIO ESGIDIAU yn awr am y prisiau canlynol :— GWADNU A SODLU (Meibion) 3/3. (Mercbed) 2/3. ESGIDIAU GWAITH 18/- Y PAR. Telerau :—ARIAN PAROD. } Dengys yr uchcd y gwalsanol ANGLEb y gall diffyg fod ar y llyg*i<i fel ag i effeithio ar y golwg. gwydräu angenrheidloll wella y dftyg hwn (sef ASTIGMATISM) yftyw cylindrical lenses. A golyga fod y sawl sydd yn deall tbywbeth ar y naill nen Y llall yn meddu ar brofiad maith ar wydran o'r fath ac ar brofi y golwg. Yr unig ddull i fcrofi gwybodaeth unrhyw un ar unrhyw bwnc ar hyn o bryd ydyw trwy AKHOLIAD. a dibyna pwys yr Arholiad yn ngolwg y cyhoedd, a gwerth y tystysgrifau ar safie a gonestrwydd yr Arholwyr. Mae yn Llun- dain ddwy gymdeithas (a dim ond dwy) sydd yn rhoddi Graddau a Thystysgrifau » OPTICIANS, a gwneir hyny ar ol i'r ymgeis- ydd fyned trwy Arholiadau, ac ni ehaniat- eir i neb sefyll Arholiad os na all ddangos ei fod wedi cael o leiaf saith mlynedd o brofiad mewn OPTICS. Rheolir y cymdeith- asau hyn gan rai o brif Wyddonwyr Y Deyrnas, a chyduabyddir fod yr Arholwyr yn mhlith y rhai uchaf mewn Gwyddon- iaeth a Meddygiaeth. Amcan y Cymdeith- asau hyn ydyw diogelu y cyhoedd rhag twyll yn nglyn a gwerthu Spectols a phroti y golwg, a'r graddau a roddir ydynt F.S.M.C., D.B.O.A. Mae yn Llundain WHOLESALE FIRMS sydd yn rhoddi Tystysgrifau i'w cwsmeriaid, er mwyn i'r sawl sydd yn eu meddu all dangos rhyw fath o Dystysgrif fel ag 1 arwain y cyhoedd i gredu eu bed yn meddu ar wybodaeth mewu Optics yn hollol yr un fath a phe bai y Grocer, Draper, new Tailor, yn defnyddio oddiwrthy ffirms y maent yu delio gyda hwy i iliiangos i'r cyhoedd fod ei pherchenog yn H¡e. ¡du ar wybodaeth yn yr adrauau hyn. Mae V cyhoedd wci cael eu twyllo yn v J leiriau hwn gan rai svdd yn myned <i dy i werthu Spcutols. V' Os ydyw j-ydiir blynedd a'r ddog • brofiad mewn proti y golwg ac Mstudio ail- sawdd Lenses a Speciols o bob math 1I werth rhywbeth i'r cyhoedd ac os yw enlll tystysgrifau (ruynwell weld y rhai hyn) ar ol arholiacau o fiaun Prif YVy.ulonwyr )' Deyrnas I ri werth rhywbeth, na hawba fy mod yn deall ychvdig am Spectols air golwg, a gellir sicrhau na wneir cam a ne mewn unrhyw fodd. Dyma sydd yn rhyfedd, g?'??"? Spectols yn rhatach yn y MEDI?? HALL na wneir bron yn unman. Cofier y Cyfeiriad :— HUGH JONES, F.S.M.C., D.B.O.A., CERTIFIED OPTICIAN, MEDICAL HALL, Blaenau Ffestiniog CHEAP MONEY. The NORTH BRITISH AND MERCANTILE BANK OF SCOTLAND. A RE PREPARED TO ADVANCE LO?  to Respectable Persons on their. :St Security. No referencee required. -ctest privacy quaranteed. Information coD°?"'??°?a!. Persons wishing Loans from {5 to ?5000 should consult us either personally. °'  letter, enclosing stamped addressed enveg Distance no object. Borrowers esew 111- paying extortionate interest are cordially 112- vited, when existing Loans will be paid off 0 larger advancee made. Cash sent by po?- The N. B. & M. BANK OF SCOTLAND, 100, West Campbell Street, GLASGOW. ?<????/????\???/????s?/S??s/?     ARBENIG I Bawb a fwriada Ymfudo drosodd r America. ARVONIA HOUSE, T. M. HUGHES, Proprietor, 412, WEST 19th ST., NEW YORK CITY, Sydd Gartref y Cymru yn New YORK, y. llawn cyfleusderau a dedwyddwch i bawb dd g cartref. Cyferfydd Mr. Hughes a phoP. gan roddi pob cyfarwyddyd yn y moud Iogd af. Gwerthir Tocynau x bob cyfeiriad o r byd gyda phob Cwmni, a newidir arian yo ddi- drafferth. Mr. Hughes ydyw yr unig Agent ????"eg° vn NEw YORK CITY i'r "SOUTHEI{N  vn NEW YORK CITY i'r SOUTHEKN PACIFIC RAILROAD CO. a bydd o'r fantais f,vyaf bawb ymholi a Mr. Hughes am gy?'? iadau pa rai a roddir. yn y modd manyla Y" rhad. Argraffwyd a chyhoeddwyd gah Davies & Co. Swyddfa'r RHEr-EGYDD," J:;Jaenau Ffestiniog,