Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYNQOR DlNESiG FFESTINIOG.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNQOR DlNESiG FFESTINIOG. Cynhaliwyd cytiarfod misol y Cyngor uchod nos Wener diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol Mri. David Williams (Cadeirydd), John Cadwaladr (Is-gadeirydd), Ben T. Jones, J. Lloyd Jones (ieu) Evan Jones, Richard jones, Cadwaladr Roberts, T. J. Roberts, Hugh Lloyd, Hugh Jones (Llan), E. M. Owen, Wm. Owen, Wm. Evans, Lewis Richards, Hugh Jones (Church Street), Wm. Edwards, Richard Roberts, R. C. Jones, R. T. Jones, R. O. Davies (Clerc), W. E. Alltwen Williams (Peirianydd), George Davies (Swyddog Iechyd), Dr. Jones (Swyddog Meddygol), Evan Roberts (Clerc Cynorthwyol). Cyn dechreu ar y gwaith oedd i'w wneyd, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn gweddu iddynt basio pleidlais o gydymdeimlad a Mr. W. J. Rowlands, un o aelodau mwyaf uefnyj?iQj y Cyngor, yn ngwyneb y brofedig- ath 0 golli ei frawd, yr hyn oedd yn cyfrif am  absenoldeb y noson hono. Rhoddodd y CYngor arwydd o'u cydymdeimlad trwy gyd- sefyll ar eu traed. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, ystyriwyd adroddiad:— Pwyllgor y Goleu a'r Dwfr. Argymellai hwnw fod cyfrif manwl yn cael ei gadw o'r Coke. anfonid allan, a bod ymgymer- ladau eraill y Cyngor yn cael cyfrif yn eu herbyn am y Coke a gyflenwid iddynt, Pasiwyd hefYd fod y Pwyllgor yn pwyso ar fod otoclv-book priodol yn cael ei gadw gan y "eirianydd a Goruchwyliwr y Nwy. Cyflwynwyd yr achos o wella y cyflenwad dwfr i Cartre', Ffestiniog, i'r pwyllgor, a rhoddwyd i'r pwyllgor gyflawn awdurdod i weithredu yn y mater ar unwaith. PrYd i ddiffodd y Lampau-Gwahaniaeth Barn. Yr oedd y Pwyllgor wedi pasio i ddiffodd y lampau cyhoeddus nos Sul, Llun, Mawrth, Mercher a Iau am 10 o'r gloch, nos Wener a Sadwrn am 11. Mr. Wm. Owen a gynygiai welliant, sef bod y lampau yn cael eu diffodd am 11 o'r gloch bob nos. Yr oedd ef yn ffafriol i gynildeb, °Qd nid oedd yn lie iddynt gynilo yn y mater Yrna. Pe digwyddai damwain oherwydd diffyg goleuni y Cyngor a ddelid yn gyfrifol. Polisi Penny wise and pound foolish," fuasai eu diffodd am 10. Eiliwyd ef gan Mr. Evan Jones, ac ategwyd gan Mr. Lewis Richards, yr hwn a ddaliai fod trafnidiaeth fawr rhwng deg ac un-ar-ddeg, ac yr oedd yn berffaith sicr nad oedd pobl Ffestiniog yn gefnogol i fyrhau yr arnser. Mr. Hugh Lloyd a feddyliai y dylent gael glybod rheswm y Pwyllgor dros eu pender- 'yniad. Yr oedd rhai o'r aelodau wedi cyfeirio at gyfrifoldeb, nid oedd ef yn gwybod ei bod Vq fwy cyfrifol am ddim ddigwyddai yr awr hono mwy na rhyw awr arall. Nid oedd angen Y goleuni i unrhyw bwrpas masnachol. Yr oedd pedwar ugain y cant o bobl Ffestiniog Yn eu gwelyau yr amser hono, ac yr oedd yn Snheg trethu y rhai hyny i ddal goleu i rai eralll ddylent fod yn eu gwelyau hefyd. Yr oedd wedi disgwyl y buasai y Clerc wedi gWneyd cyfrif o'r arbediad a olygai diffodd awr Yn gynarach am bum noson o'r wythnos. Cyfrifai Mr. Hugh Jones, Chemist, mai nid arbediad fyddai dilyn argymelliad y pwyllgor ond gwastraff. Yr oedd Mr. Lloyd yn dweyd na byddai y diffodd cynar yn anfantais iddo ef, °bd feallai ei fod ef yn gallu gweled yn well na Pbobi eraill yn y nos. Nid oedd masnach yn Peidio am ddeg o'r gloch. Yr oedd cynygydd chefnogydd y penderfyniad wedi cael cyfleus- t ra i arbed dair gwaith y swm olygai goleuo tau 11 (pwnc, pwnc). Nid cynilo oedd mewn gOlwg. Nid oeddynt yn troi y goleuni i ffwrdd Yn Mhorthmadog a'r Bermo (yn Blaenau Ffestiniog yr ydym ni), ac nid oedd reswm dros wneyd hyny yma. Dadleuai Mr. T. J. Roberts fod tywyllwch "aturiol y lie, nifer y trigolion, a masnach y lie yn galw am y goleu. Yr oedd yn dywyllach Yrna. yn y dydd nag mewn llawer ardal. (Aelod: A fyddai ddim yn well eu goleuo Wy'r dydd hefyd). Yr oedd y Lampau yn lighonwy yn oleu drwy'r nos. Gofynai faint o Welthwyr oedd yn dyfod adref bob amser o'r nos. Yr oedd y rhai hyny yn haeddu eu sylw. Mr. Richard Jones a ofynai yn mha le yr oedd Mr. Roberts wedi bod yn cysgu oddi- 4r noson y pwyllgor, gan ei fod ef yn un o teidwyr y penderfyniad y noson hono. Pa rafftc oedd yn myned yn mlaen-dim yn y byd. Nid oedd ardal yn dioddef fel Festiniog, a dyl- ent gynilo yn mhobman. Nid oedd neb yn ellog 0 gyhuddiad Mr. Hugh Jones. Yr oedd Y cynygiad hwn wedi ei wneyd flwyddyn yn ol ac wedi colli, ond gobeithiai eu bod yn gallach oeddynt ddeuddeng mis yn ol. dywedodd Mr. William Owen ei fod yn WYbOd beth oedd y wasgfa, a'i fod mewn awn gydymdeimlad a'r dioddefwyr. Ond nid -? yr achos yma yr oedd cynilo. Yr oedd Mr, Hugh Jones yn iawn wrth ddweyd eu bod n gwrthod cynilo mewn lleoedd rheitiach (Mr. Jones: Gwnewch gyhuddiad pendant). Id er mwyn rhai fel Mr. Hugh Lloyd oedd yn "v, 0 d am y He yr oedd ef yn pleidio goleuo hWyrach' nac er mwyn rhai sy'n myn'd i'r ?a.rnau, nac er mwyn masnachwyr, ond er ?YQ dieithriaid. Mr- Hugh Lloyd a ddywedodd bod yn dda ganddo glywed Mr. Owen a Mr. Hugh Jones Yn dechreu son am gynildeb, yr oedd yn beth ??wydd yn eu hanes. Nid oedd yn y lie ddieith- rIa. d J la.id Yr adeg hono, ac nid oedd angen am y gol- eif ni i bwrpas masnachol. Dylent arfer eu eswn yn y mater hwn fel pob un arall. a. fan bleidleisiwyd cafwyd 9 dros y gwelliant, 0 dros y penderfyniad gwreiddiol. ltiloddodd Mr. William Owen rybudd 0 erbyn y Cyngor nesaf i ddileu y ^nderfyniad hwn. Pwyllgor y Lyfrgeil. ? ? asiwyci i ofyn i'r Clerc fYI;cd yn drwyadl 1 ,rxl;v, restr y llyfran newydd sydd i'w pv'rcasu, r°:'Q' adroddiad llawn yn y cyfarfod nesaf. Oc,m adrodchad lla.wn )"n y cyhr..oc: neSR. Mr. Cadwaladr Roberts a ddywedodd nad oedd yn gweled fod dim y cael ei wneyd i roddi iddynt eu cyfran o'r hyn oeddynt yn dalu at y Llyfrgell. Pasiwyd bod sylw y pwyllgor yn cael ei alw at y priodoldeb o sefydlu cangenau yn Nhanygrisiau a Chongiywal. Pwyllgor Iechyd a'r Ffyrdd. Dangosai adroddiad y Swyddog Meddygol fod nifer y genedigaethau am Awst yn 21 marwolaethau, 14; marwolaethau babanod, 2 marwolaethau o'r darfodedigaeth, 4 marwol- aethau rhai oedranus, 3. Ystyrid yr adrodd- iod yn foddhaol. Nifer y marwolaethau yn foddhaol. Nid oedd un achos o farwolaeth oddiwrth achosion heintus. Derbyniwyd adroddiad Mr. A. H. Davies, Arolygydd Gwaith Cwmbowydd, ar stad y gwaith yno, a phasiwyd i roddi archeb am yr angenrheidiau gofynol yn ol ei argymelliad. Ar argymelliad yr Arolygydd Iechydol pasiwyd i gael darn o dir i wneyd un ashpit rhwng y chwe ty yn Penfforddgoch, Caeclyd. Hefyd i gau y ty wrth gefn Bronrhiw, Glany- pwll, yr hwn oedd yn anghymwys i drigianu ynddo. Adroddai yr Arolygydd fod niweidiau wedi eu hachosi trwy lifogydd mewn amryw ranau o'r dosbarth, a bod yr oil wedi cael sylw. Yr oedd hefyd adgyweiriadau wedi eu gwneyd ar amryw lwybrau. Yr oedd wedi edrych pyst y Telephone o'r Post Office at y' Swydd- feydd Cyhoeddus, Nid oedd gwrthwynebiad ond i un o honynt, sef hwnw yn Dolgarreg- ddu. Yr oedd y ffordd yn gul iawn, a byddai raid trefnu i gael y polyn yn un o'r gerddi. Gofynai Mr. Richard Roberts beth oedd yn cyfrif eu bod heb fyned yn mlaen gyda'r gwaith oedd i'w wneyd yn ymyl Capelgwyn, Festiniog. Y Clerc a eglurodd bod yn rhaid cael caniatad (easement) gan y Landlord cyn y gellid symud yn mlaen. Yr oedd cais wedi ei anfon oddiwrth nifer o drethdalwyr Conglywal yn gofyn i'r Cyngor symud y nuisance achosid gan ffos agored tu cefn i Caegwyn Terrace. Pasiwyd i ysgrifenu at y perchenog i gydymffurfio a'r cais hwnw. Hysbysodd y Clerc iddo fod mewn gohebiaeth a'r tirfeddianwyr gyda golwg ar gael symud camfeydd y llwybr o Danygrisiau i'r Dduallt rhoddid yr ohebiaeth i sylw y Pwyllgor ar ddiwedd y drafodaeth. Addawai Mr. David Jones dalu cost y Steamroller i Jones Street pan fyddai y Cyngor yn gwneyd Taliesin Terrace. Holai Bwrdd y Llywodraeth Leol beth oedd y Cyngor yn wneyd gyda golwg ar ddarparu Yspytty Unigoli. Nid oedd dim wedi ei wneyd. Cyfarwyddwyd y Clerc i ymholi a oedd rhyddid i brynu tir at Yspytty felly eto mewn grym. Honid bod Miss Brymer yn trawsfeddianu ochr y ffordd ger Gorsaf y Manod. Cyfar- wyddwyd y Clerc i adrodd i'r cyfarfod nesaf pa benderfyniad a wnaed. Pwyllgor Addysg Gelfyddydol. I Darllenwyd adroddiad Mr. John Cadwaladr ar waith y tymor diweddaf. Yr oedd taliadau y disgyblion yn £ 28 10s. Amcangyfrifid y grant yn zf53 12s 6c. Cyflogau athrawon £ 172 3s. Yr oedd cost y dosbarthiadau felly oddeutu £ 90 8s. Nifer y disgyblion ar y llyfrau oedd 329. Oriau Addysg 9,938. Pasiwyd i dalu y swm a hawtid gan Athrawon Ysgol Nos y Llan. Hysbyswyd fod ysgolheigion y Llan wedi cael swper yn ystod y tymor a gofynent i'r Pwyllgor gyfranu y £ 4 7s 6, sef y taliadau dder- byniwyd at gost y swper. Gwrthodwyd ycais. Mr. R. T. Jones a gynygiai ddileu yr Ysgol- ion Nos am y tymor nesaf. Nid oedd y budd oddiwrthynt yn ateb i'r arian a werid arnynt. Yr oedd talu 5/- yr awr i athraw ar gyfer y nifer fach oedd mewn ambell i ddosbarth yn wastraff. Buasai yr arian yn cael eu defnyddio i well pwrpas pe cynygid Ysgoloriaethau yn yr Ysgol Sir. Dywedodd Mr. W. Owen iddo fod unwaith yn meddwl yr un fath a Mr. Jones, nad oedd yr Ysgol Nos yn ateb y diben. Ond flwyddyn yn ol gwelodd waith wedi ei wneyd mewn Book-keeping oedd yn ei lwyr argyhoeddi eu bod yn cael gwerth yr arian a delid. Yr oedd rhai dosbarthiadau wedi troi allan yn dda, a mater iddynt hwy oedd penderfynu pa ddos- b-trthiadau a gynhelid. Ar gynygiad Mr. B. T. Jones cyflwynwyd y mater i'r Technical Committee, a bod cyfar- fod arbenig yn cael ei gynal eto i benderfynu pa ddosbarthiadau a gynhelid. Yn y cysylltiad hwn cynygiodd y Cadeirydd bleidlais o ddiolchgarwch i Mr. John Cadwaladr, am ei adroddiad, ac am y gwaith rhagorol a wnaethai gyda'r Ysgolion Nos. Hysbysodd hefyd ei fod wedi troi yn ol yr £ 20 a bleidleisiwyd iddo am ddwy flynedd yn olynol. Uno Pwyllgorau. Cynygiai Mr. Hugh Jones, Chemist, fod Pwyllgor y Carthffosydd a'r Pwyllgor Gwaith yn cael eu huno. Yr oedd amrywiaeth barn ar y cwestiwn, ond pasiwyd i'w cysylltu. (A bu agos i Mr. Richard Jones gynyg Notice of Motion). I, Ystyried (Tenders. Derbyniwyd tri o gynygion am adeiladu y muriau croes yn ng vaith Cwmbowydd. Gofyn- ai Mr. Hy. Williams, 102 High Street, 6/- y llath am godi y mur, a 4c. y llath am bwyntio. Mr. H. S. Williams, Llan, 5/6 y llath am y mur, a 4jc. am bwyntio. Mr. David Jones, 7/6 y llath am y mur, a 6c. y llatham bwyntio. Ar gynygiad Mr. Evan Jones, yn cael ei eilio gan Mr. Lewis Richards, pasiwyd i roddi y gwaith i Mr. H. S. Williams. Amryw. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. R. Silyn Roberts, ar ran ymddiriedolwyr Bethel, yn galw sylw at brinder gorchudd dros y pibellau dwfr. ar y bont rhwng eu ty hwy a'r ffordd. Cyflwynwyd y mater i sylw Pwyllgor y Nwy a'r Dwfr. Robert Jones, Bronhyfryd, Llan, a alwai sylw at y Dwfr yn ymyl Capel Gwyn. Yn y cyfamser pasiwyd i roddf caL: i'r anifeiliaid yn y cae. Cyflwynwyd yr achos i'r is-bwyllgor at yr hwn y chwanegwyd enw Mr. Robert Roberts. Ar gynygiad y Cadeirydd pasiwyd i cais at y Postmaster General am fwy o gyfleus- derau i bostio llythyrau yn nosbarth Congly- wal. Mr. William Edwards a ddymunai wybod a oedd llythyr wedi ei anfon oddiwrth y Cyngor at y Cyngor Sir yn nghylch yr uchod. Hysbys- odd y Clerc fod llythyr wedi ei anion ar y )7eg o Awst, ac nis gallai esbonio paham na buasai wedi cael sylw yn y Cyngor. Galwodd Mr. Richard Roberts sylw at y goleuni. Yr oedd yn anghyson iawn. Pasiwyd i alw sylw y Cwmni ato unwaith eto. Ar gynygiad y Cadeirydd, yn cael ei eilio gan Mr. Richard Roberts, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch. T. J. Wheldon yn ei afiechyd poenus, a thalwyd teyrnged i ddef- nyddioldeb Mr. Wheldon yn ngwaith yr ardal tra y bu yma.

Cyngor Dinesig Llanrwst. I

Heddlys Bettwsycoed.

'ICyfarfod Croesawu y Parch.…

Advertising