Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYNQOR DlNESiG FFESTINIOG.…

Cyngor Dinesig Llanrwst. I

Heddlys Bettwsycoed.

'ICyfarfod Croesawu y Parch.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfod Croesawu y Parch. Moses Roberts. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i groesawu y Parch. Moses Roberts, ar ei sefydliad yn Castle Street, Llangollen, nos Fercber, Medi lleg. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Evan T. Hughes. Cadeirydd y cyfarfod oedd y Parch. H. C. Williams, yr hwn a draddododd yr anerchiad agoriadol. Darllenwyd llythyrau oddiwrth amryw yn gofidio am na allent fod yn bresenol. Anerchwyd y cyfarfod yn mhellach gan y rhai canlynol:—Ar ran yr Eglwys, Mr. H. Jones, u.H.; ar ran Eglwys -Ffestiniog, Mr. H. Jones; ar ran yr Eglwysi Rhyddion, y Parch. Jones-Williams (W.) ar ran Undeb Glanau'r Clwyd a'r Dyfrdwy, y Parch. W. G. Owen (Llifon) ac Isaac James, Rhuthyn ar ran Undeb Dyffryn Maelor, gan y Parch. E. K. Jones, Brymbo ar ran Uudeb Ceiriog a Myllin gan y Parch. J. Ll. Jones, Glanceiriog. Anerchwyd hefyd gan yr Hen- adur W. G, Dodd, u.h:, a'r Parch. Moses Roberts. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. G. Reed, Gweinidog y Bedyddwyr Seisnig. Gwelwyd yn bresenol hefyd yn mhlith eraill y Parchn W. H. Williams, CefnBychan Evan Williams, Fron J. Thomas, Glyndyfrdwy J. Conwy Davies, Dolywern yr Henadur Christmas Jones, Mri B. Bowen, Gwilym Davies, Arthur Davies, David Ellis, Cefn Mawr. Dydd Iau nesaf, bydd eglwys, ac Ysgolion Sul, Heol y Castell yn cyfarfod i de croesawol pryd y disgwylir o 500 i 600 i eistedd.

Advertising