Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODIADAU íVYTNNOSOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU íVYTNNOSOL i Gweiihwyr y RheiSffyrcSd. Mae'r anghytundeb rhwng Cvvrnniau y Rheilffyrdd a'u gweithwyr yn parhau, ac y mae yn amlwg bellach nad oes obaith am iddynt drwy drafodaeth heddychlawn a chyfeillgar a'u giiydd ddvfod i twriaeth. Ynghylch cyflogau ac oriau gweithio yr oedd y ddad! i ddechreu. Ceis- iai y gweithwyr godiad yn eu cyflogau a Ileihad yn eu horiau, a gwnaed y cais am hyn ar eu rhan gan Undeb gwasanaethwyr y Rheilffyrdd. Ysgriferiydd yr hwn ydyw Mr. Richard Bell, A.S. Oddiwrth y ffaith fod Cyfarwyddwyr y gwahanol gwmniau wedi ateb y cais hwn bron yr un ffunud, gellir casglu eu bod cyn ei ateb wedi ymgynghori ynghyd. Bu iddynt oil wrthod agor ym- drafodheth a'r Undeb; dywedasant mai lleiafrif o'u gweithwyr sydd yn aelodau o'r Undeb, ac nas gallent gydnabod hawl y Deiafrif i siarad dros y mwyafrif. Y canlvn- iad ydyw nad ynghylch cyflogau ac oriau llafur y sonir mwyaf yn awr, ond ynghylch hawl yr Undeb i lefaru a gweithredu yn enw y gweithwyr yn gyffredinol. Ar yr olwg gyntaf ymddangosai i ni fod gan y Cyfar- wyddwyr rywbeth i'w ddywedyd dros wrthod i gydnabod yr Undeb. Dywedasom hyny rai wythnosau yn ol, a chwanegasom ein bod yn disgwyl am resymau yr Undeb dros ddadleu i'r gwrthwyneb. Erbyn hyn mae'r rhesymau hyny wedi eu cyhoeddi, ac ym- ddangosant yn ddigonol a boddhaol. Allan o 220,000 o ddynion sydd yn gwneyd y gwaith pwysicaf, y mae cynifer a 97,000, yn aelodan o'r Undeb. Mae'r rhan fwyaf o lawer o'r rhai nid ydynt yn perthyn iddo mewn trefi bychain ac mewn pentrefi gwledig, lie nad oes canghenau o'r Undeb wedi eu ffurfio. Ac y mae rhesymau cryfion dros gredu fod y rhai sydd o'r tu alian i'r Undeb o'r un farn a'r rhai sydd yn aelodau o hono ynghylch y ddau gwestiwn a enwyd, oriau llafur a chyflogau. Yn awr mae Pwyllgor yr Undeb wedi penderfynu gofyn i'w aelodau drwy y wlad bleidleisioar v cwestiwn a ydynt i sefyll allan a'i peidio? Cymer rai wythnosau i wneyd y trefniadau angenrheidioi i gae! y bleidlais hon. Mae yn weddol sicr y pleileisia mwyafrif cryf iawn dros sefyll allan. Os felly, gadewir i'r Pwyllgor benderfynu pa amser fydd y mwyaf manteisiol i wneyd hyny. Mr. Richard Bell, A.S. (Eel ysgrifenydd yr Undeb) ydyw blaen- or cad y gweithwyr, ac y mae yn dda iawn genym am hyny. Oblegid y mae yn wr pwyllog a doeth y mae ganddo welediad clir, a llywodraethir ef gan yspryd rhagorol. Trwy wrthod cyfarfod y fath wr i drafod y cwestiynau ynghylch y rhai yr anghytunant a'u gweithwyr, mae Cyfarwyddwyr y rheil- ffyrdd wedi dangos cryn anoethineb, ac wedi amlygu yr un yspryd uchel a thrahaus ag a lywodraethai y diweddar Arglwydd Penrhyn. Cawn ein synu a'n siomi hefyd oni orfodir hwy cyn bo hir i wneyd yr hyn y gallasent fod wedi ei wneyd o'u gwirfodd. Yr ydym yn gobeithio mai felly y bydd, ac yn ei gredu hefyd.

Oynrychiolydd Llafur ali Gredo.

I" Ffrae Merchecf." !

Callineb Esgob Henffordd.

Adroddiad Dyddorol. --1

Mordaith gyntaf y " Lusitania."…

—- - ..

ILlythyr o Colorado oddiwrth…

fVVVVVVVVVvVW WV V if •» -…

Advertising