Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

NODION O'R CYLCH.

v LLANRWST. _nr- -,- " I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

v LLANRWST. _nr TREFN Y MODDION SABBATHOL, Yr Eglwys Sefydledig. St. Mary.-IO, Parch C. W. Davies..6 Parch. J. Morgan. St, Crwst.-10, Parcb. ,T. Morgan. 6, Parch C. W. Davies. Y Methodistiaid. Seion.Parch. Robert Parry, B.A., Li an rug.. Heol Scotland—Parch. John Owen, Criccieth. Yr Annibynwyr. Tabern acl. -Parch. Hugh Davies, Abererch. Ebenezer.—Cyfarfod Gweddi. Y Wesley aid. Horeb-10, Parch. Edward Davies, 6, Mr. R. T. Roberts, Capel Garmon. St. James (English Chapel).—Mr. W. Luther Mudd, Llandudno. Y Bedyddwyr. Penuel.—Mr. H. S. Evans, Llanarmon. Y FARCHNAD.—Yr oedd y farchnad yn bur fywiog ddydd Mawrth. Gwerthai y Perchyll am o 21/- i 24/- yr un. Ymenyn, lie a 1/- y pwys, Wyau, 10 ac 11 am swllt. Hwyaid, o 5/- i 6/- y cwpl. Dofednod, o 3/6 i 4/6 y cwpl. Tatws 4/- y cam. GWYR YR EGLWYS.—Nos Wener, o dan lywyddiaeth y Parch. John Morgan, Rheithor, yn y Gadair, cynhaliwyd Pwyllgor Cymdeithas Gwyr yr Eglwys i drefnu cyfres o gyfarfodydd yn ystod tymor y gauaf. Pasiwyd i gynal y cyntaf o honynt nos Lun, Tachwedd 7, a bydd y cyfres yn parhau i ddechreu y gwanwyn. Cynhelir y cyfarfodydd bob pythefnos ac y ,nae rhagolwg am nosweithiau difyr ac adeiladol. MARWOLAETHAU.—Boreu ddydd Llun, wedi tair wythnos o gystudd trwm, Miss Maria Morris, anwyl ferch Mr. a Mrs. Issac Morris, Tanygraig, Nantyrhiw. Yr oedd yn 19 mlwydd oed, a'i thalent at adrodd a canu yn adnabyddus yn yr holl gylchoedd. Bu yn dra llwyddianus mewn cystadleuon ac amlyg- odd dalent uwchlaw y cyffredin yn gynar ar ei hoes. Chwith meddwl iddi gael ei thori i lawr mor ieuangc. Gladdwyd hi heddyw (ddydd Iau) yn mynwent Siloam, Capel Garmon. Boreu ddydd Mawrth, bu farw Mrs. Kate Parry, anwyl briod Mr. John Parry Ffritharw, Maenan. Bu Mrs. Parry; yn cwyno am tua phedwar mis, a dyoddefodd ei chystudd gydag ymostyngiad tawel. Yr oedd tua 60 mlwydd oed, a magodd bedwar o blant: un ferch, a thri mab, un o ba rai sydd yn Patagonia. Bwriedir cychwyn am haner awr wedi un y fory (dydd Gwener) am fynwent Seion, a dysgwyl cyraedd y dref tua; thri o'r gloch. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'r teulu yn eu profedigaeth. HEDDLYSOEDD.—Dydd Mercher, o flaen Edward Mills, a W. J. Williams, yr Heddgeid- wad John Jones a gyhuddodd David Hughes, llafurwr, o fod yn feddw, a dirwywyd ef bum' swllt a'r costau. Dydd Llun o flaen Mri, William Hughes a W. J. Williams, yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd John Burns, o Limerick, o fod yn feddw ar y Square. Gwelodd ef yn cychwyn am Station Road, i fyny o'r dref, ond trodd i Willow Street. Aeth yntau ar ei ol i'w hysbysu nad oedd modd myned trwy yr heol hono gan fod un pen iddi yn nghauad. Aeth Burns yn afreolus, ac wrth iddo fyned ag ef i gyfeiriad y carchar, ac mor ymosodol fel y bu raid cael cynorthwy dau ddyn i'w gael i mewn i'r gell.-Anfonwyd ef i garchar am bythefnos heb gyfle idalu. CYNGERDD CYMDEITHAS Y GWEINYDDES- AU.—Nos Iau, yn Church House, Liinrwst, cynhaliwyd cyngerdd o'r fath ragoraf, er budd y Gymdeithas uchod. Nid oedd yn gymaint o lwyddiant arianol ag a ddysgwylid, ond cafwyd canu noc,edig o dda. Mr. Maurice Williams, The Library, ydoedd yr ysgrifenydd ymroddgar, a chariwyd bobpeth yn mlaen gy" "I. chymeradwyaeth cyffredinol. A ganlyn y, oedd I rhaglen: Unawd gan Mr. J. Tudor Owen, "Freedom." Unawd "Roses" gan Miss Edith Williams. Deuawd, Mrs. Josephine Williams, a Mr. Evan Lewis, Life's Dream is o'er, Farewell." DifyrgAn gyda'r Berdoneg gan Mr. Russell Canning. Unawd "There's a land" gan Mr. Evan Lewis. Deuawd, "Tell me gentle stranger gan Miss Davies a Tudor Owen. Unawd, "Because." gan Mrs. Williams. Adroddiad Digrifol gan Mr. Canning. Deuawd "Tenor & Baritone," Mri. Lewis ac Owen. Unawd, "Dream of home" gan Miss Davies. Unawd, Three for Jack." Mr. Owen, Good- bye," Mrs. Williams. Unawd, "Thora,"gan Mr. Evan Lewis. Tafl-leisio gan Mr. Canning. Diweddwyd trwy ganu Duw gadwo'r Brenin."

I--__---RHOS A'R CYLCH. I

MINFFORDD. I

Advertising

BETTWSYCOED. II

Family Notices

Beirniadaeth SeiiracSorf Oa…

YSPYTTY I FAN.

BLAENAU FFESTINIOG.TTI