Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. I HELYNT Y GOLEUNI cyhoeddus. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. David Williams (Cadeirydd), John Cadwaladr (Is- gadeirydd), Cadwaladr Roberts, Evan Jones, Owen Jones, William Owen, John Lloyd Jones, J. Lloyd Jones (leu.), Hugh Jones, Hugh Jones (Llan), William Edwards, Lewis Richards, E. M. Owen, Richard Roberts, Hugh Lloyd, T. J. Roberts, Richard Jones, R. C. Jones, Ben T. Jones, R. T. Jones, R. O. Davies (Clerc); W. E. Alltwen Williams (Peirianydd ac Arolygydd) Dr. R. Jones (Swyddog Meddygol); a George Davies (Ar- olygydd Iechydol). Croesawu. I Y Cadeirydd a ddywedodd eu bod oil yn falch o weled Mr. Owen Jones wedi dychwelyd yn ol o'i daith yn yr Unol Dalaethau. Cynyg- iai eu bod yn pasio pleidlais o groesawiad iddo. Mr. William Owen a gefnogodd, a phasiwyd yn unfrydol.—Mr. Owen Jones a ddiolchodd i'r Cadeirydd am y geiriau caredig a lefarodd, ac i'r Cyngor am eu bleidlais gynes o groesaw- iad iddo ar ei ddychweliad i gydeistedd a hwy yn y Cyngor. Pwyllgor y Dwfr a'r Goleuni. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Yale & Co., yn nglyn ar diffygion y cwynid o'u hachos yn y Pwyllgor blaenorol. Pasiwyd i bob un o aelod- au newyddion y Cyngor gael copi o'r cytundeb rhwng y Cyngor a Mr. Yale. Yr oedd y Peirianydd wedi edrych i mewn i'r cyflenwad dwfr yn Cartre, lle'r oedd yn ofynol codi i fyny 510 llath o bibell, ac amcan- gyfrifai y gost yn £36, ac yr oedd Mr. Bowton yn foddlon i dalu £ 12 at y gost hono.-Pasiwyd i'r Cyngor ddwyn haner y draul, a dal hawl i gael cysylltu ag unrhyw dai eraill os bydd eisiau hyny: y pibelli i fod yn eiddo Mr. Bowton ac efe i ofalu am danynt. Nid oedd y pwyllgor yn gweled eu ffordd yn glir i argymell talu i'r Cymerwyr fu'n codi yr ystafelli puro dwfr yn ymyl Llyn Morwynion, a chyflwynasant y mater i'r pwyllgor Arianol. Yn y Pwyllgor Arianol pasiwyd nad oedd dim i'w dalu hyd nes y ceid tystysgrif derfynol yr Arolygydd.-Pasiwyd i roddi gograu dwbl yn yr ystafelli puro yn lie rhai sengl. Yr oedd Ty Cwch wedi ei godi wrth Llyn y Morwynion mewn lie cyfleus a chysgodol. Elai y gwaith yn mlaen yn foddhaol yn y Gwaith Nwy, a'r retortsnewyddion yn gweithio yn rhagorol. Iechydol. Dr. Jones a adroddodd i 20 o enedigaethau gael eu cofrestru yn ystod y mis diweddaf a bu farw 8, yr hyn oedd yn 8 y fil; y niferlleiaf er's dros ugain mlynedd. Teimlid fod yr ad- roddiad yn nodedig o foddhaol. Yr Arolygydd Iechydol a adroddodd i bedwar achos o glefydon gael eu nodi yn ystod y mis dau Wddfglwyf a dau Daniddwf. Nodwyd tri gan Dr. jones ac un gan Dr. Evans.— Yr oedd yn gorfod cwyno nad oedd y gwaith o symud y Carthion yn y Llan yn cael ei gyflawni yn foddhaol. Pasiwyd i anfon rhybudd Swyddogol yn yr achos, ac y byddai y Cyngor yn dodi y gost o wneyd y gwaith ar y Cymerwr presenol sydd yn esgeu- luso cario allan ei gytundeb. Pasiwyd i anfon at berchenog 3, Tanymanod Terrace i ofalu am ddwfr at amcanion iechydol, ac at Mr. David Jones, Fronhaul, Tanygrisiau, i adgyweirio y gwygell perthynol i'r lie. Elai y gwaith yn mlaen yn foddhaol yn Cwmbowydd He yr oedd 26 yn gweithio. Pwysid am ?' Cymerwr gyflogi rhagor o ddynion i fyned yn mlaen gyda'r waliau. Teimlid fed yn bwysig myned yn mlaen gyda'r Adran 4 (Rhiw a Tanygrisiau), o'r Gyf- undrefn Garthnbsawl, a phasiwyd i'r pwyllgor eistedd ar unwaith, ac i adrodd ar y mater. Ffyrdd. Adroddodd y Peirianydd am y gwaith a wnaed ar y Ffyrdd yn ystod y mis. Yr oedd yr Amaethwyr yn brysur gyda thoriy gwrychod oeddypt ar fin y Ffyrdd. Pasiwyd i osod hysbysiad yn y newyddiaduron lleol yn nglyn a gwaith personau yn niweidio y Waliau ar ochr y ffyrdd yn y Dosbarth. Yr oedd cyflwr y Cei Mawr, ar Ffordd y Bala Wedi myned mor beryglus fel ag i orfodi gwneyd rhvwbeth iddo. Anfonodd Mr. Vaughton, yr Arolygydd Sirol i ofyn i'r Cyngor wneyd y gwaith, ac y telid am dano gan y Cyngor Sirol.—Pasiwyd i beidio gwneyd dim hyd nes y deuai Mr. Vaughton i olwg y lie. Arianol. Pasiwyd i dalu biliau a chyflogau yn gwneyd V swm o £ 836 12s 11c. Y Clerc a adroddodd i 4485 12s Sc gtel eu derbyn yn ystod y mis, ac oni bai am y gyfran ddaeth o'r Cyngor Sirol huasent £ l 85 mewn dyled, ond yn awr safent Wedi talu y biliau uchod gyda £ 120 wrth gefn. Ysbytty Heintiau. Daeth gair oddiwrth Mr. fhomas Roberts, Clerc Cyngor Deudraeth, yn hysbysu yr hawl i brynu (option) yn dal gyda'r tir y bwriedid codi Ysbytty arno mewn achos o alwad am Qyny. Eisiau Lamp Cyflwynwyd cais y Deisebwyr am Lamp ar Bont Frongoch i Bwyllgor y Goleuni. Sefydlu Gwirfoddolwyr. Fenodwyd Mr. William Owen yn y cyfarfod ahvyd gan yr Arglwydd Raglaw i geisio ffurfio Cymdeithas Sirol o Wirfoddolwyr yn Meirion yn ol dar*oariaethau trefniant newydd Mr. Haldane. Cynrychioli. l'enodwyd Dr. Richard Jones, i gynrychioli y Cyngor yn y Garden City Association gyn- helir yn Llundain. Amcan y Gymdeithas yw Slcrhau gwell tai i weithwyr. RllybL,dl.dioii Perygl ar y Ffyrdd. Mr. R. l-j. Greaves a alwodd sylw fod y rhyblldùion vgl sycii ar y ffyrdd er cyfar- a'r Olwynwyr, yn fwy o ffynonell perygl na phe hebddynt, gan eu bod ar yr ochr chwith i'r ffordd.—Mr. Hugh Lloyd, "Pwy a'u gosododd ar yr ochr chwith?"—Yr Arolygydd, Ychydig oedd o honynt, a gosod- wyd i fod o'r gwasanaeth mwyaf a ellid. Mae rhagor wedi dod erbyn hyn."—Mr. Hugh Lloyd, Nid oedd fod ychydig o honynt yn un math o reswm dros eu gosod ar yr ochr chwith i'r ffordd.Cadeirydd, Y maent oil wedi eu gosod yn briodol ond un, a chaiff hwnsylw ar unwaith." Cydnabod. Daeth gair yn diolch am gydymdeimlad y Cyngor a'r Parch. J. Wheldon yn ei waeledd. Yr oedd yn gwella yn raddol, a gorchymyn ei feddyg yw iddo gael gorphwys a llonyddwch perffaith.—Mr. W. J. Rowlands, a ddiolchodd am gydymdeimlad y Cyngor ag ef yn ei brof- edigaeth o golli ei anwyl fa.m. Diffodd y Goleuni Cyhoeddus. Y Clerc a ddywedodd ei fod yn dymuno rhoddi o flaen y Cyngor y cyfrif o'r arbediad wnaed trwy ddiffodd am ddeg yn lie am un-a'r- ddeg am bedair noson yn yr wythnos, ac wedi tynu allan y nosweithiau na byddid yn goleuo, yr oedd y swm am ftwyddyn yn dod yn £39 17s 4c, neu mewn ffigyrau llawn yn ddeugain punt. Rhoddai y wybodaeth hon i'r Cyngor am fod cais wedi ei wneyd ato am hyny.—Mr. William Owen a gynygiodd, yn unol a'r rhybudd a roddodd, eu bod yn dadwneyd y penderfyniad basiwyd yn y Cyngor diweddaf i ddiffodd y lampau cyhoeddus am ddeg o'r gloch am bed- air noson yn yr wythnos. Nid oedd mewn un modd yn credu mewn dadwneyd penderfyniad, oni byddai y peth yn gamgymeriad pwysig. Yr oedd yr amgylchiadau yn cyfreithloni y cwrs oedd ef yn myned i ofyn i'r Cyngor ei gymeryd yn y mater hwn. Y tair dadl ddefnyddiwyd yn y Cyngor diweddaf dros ddifodd y Goleuni am ddeg o'r gloch ydoedd,-Cynildeb, gwen- did masnach, a'r heddlu. Meddylier i ddech- reu am gynildeb yr oedd ef gymaint a neb am gynilo, ond bydded yn gynildeb effeith- iol. Ond cynildeb oedd hwn osodai y trigolion mewn perygl. Os cynilo oedd y pwngc, paham nad diffodd naw o'r gloch ? Ac os naw, paham nad wyth ? Y mae llawer o'r ardalwyr wedi arfer a gwneyd heb y Lampau o gwbl, ac yn cofio yn dda yr adeg pan nad oedd- ynt i'w cael ond erbyn hyn, y mae y lie wedi cynyddu, a'r cyhoedd yn disgwyl am oleui allu cerdded yr heolydd. Os am gynilo, boed iddynt ddechreu yn nes adref, ac nid gyda'r goleuni cyhoeddus oedd yn angenrhaid anheb- gorol- i'r cyhoedd. Er engraifft, yr oeddynt yn gwario punoedd lawer gyda cael y cofnodion wedi eu hargraffu, a hyny er moethusrwydd iddynt hwy yn bersonol fel aelodau rhag colli amser yn y Cyngor i'w darllen ond nid cyfleusdra personol oedd y goleuni, eithr mantais gyffredinol i'r cyhoedd. Dyna dra- chefn y ddadl am y gwendid masnachol. Yr oedd ef yn cydymdeimlo yn fawr a'r trethdal- wyr yn ngwyneb y cyfryw, ac yn dyoddef llawn mwy na neb oddiwrtho ei hun ond nid oedd hyny yn cyfreithloni cymeryd y goleuni ymaith. Yr oedd pawb o'r trethdalwyr yn condemnio y peth, a dylai y Cyngorwyr wrandaw arnynt gan mai eu cynrychioli hwy yr oeddynt i wneyd. Am yr heddlu: dywed- wyd fod yr Arolygydd Roberts wedi siarad yn ffafriol i ddiffodd am ddeg o'r gloch. Gofyn- odd ef i'r Arolygydd Roberts a oedd wedi dywedyd rhywbeth o'r fath. "Naddo, erioed," oedd yr ateb, ac ychwanegodd y buasai yn gyfleusdra i'r Heddlu pe gadewid y lampau cyhoeddus yn oleu hyd haner awr wedi una'r- ddeg y noson. Deugain punt gwael i'w cynilo yw ymddifadu y cyhoedd o oleuni. Yr oedd safle y ffyrdd gyda'r cysgod trwm arnynt trwy y mynyddoedd sydd ar hyd un ochr iddynt, yn eu gwneyd yn Ilawer mwy peryglus a thywyll na ffyrdd ar ganol lie agored. Yr oeddynt oll yn argyhoeddedig iddynt wneyd camgymer- iad trwy basio fel y gwnaethant. Yr oedd trefi bychain dibwys fel Pwllheli, Llan- rwst, a Chonwy yn gadael eu lan:pau yn oleu trwy'r nos. Yr oedd ef yn cynyg eu bod yn dadwneyd y penderfyniad.— Mr. T. J. Roberts a gefnogodd mewn araeth wersog a doniol. Yr oecidym wedi cael tywyllwch y gellid ei deimlo yn ystod y mis diweddaf, a rhai wedi teimlo oddiwrtho trwy ddamweiniau. Yr oedd y gymydogaeth yn gyffredirol yn gofyn Ma i'r goleuni gael ei adael hyd un-a'r ddeg Dywedwyd fod tua- pedwar ugain y cant yn eu gwelyau ddeg o'r gloch fe ddichon fod rhai o aelodau y Cyngor felly ond yr oedd amgylchiadau yr un-mil-a'r-ddeg trigolion i'w hystyried.—Mr. Hugh Lloyd a ddywedodd nad oedd eisiau dadleu fod angen am oleuni cyhoeddus. Gofynwyd paham nad diffodd naw o'r gloch? Un rheswm dros beidio ydoedd mai haner awr wedi naw yr oedd y tren yn dod i mewn. Yr oedd ef wedi dweyd fod 80 y cant yn eu tai ddeg o'r gloch yr oedd yn mentro dweyd ei fod yn sicr fod 90 y cant yn eu tai ddeg y nos (amryw yn eu gwelyau ddywedasoch.") Rhoddai hyny fil at fod allan ar ol deg, ond yr oedd ef yn sicr nad oedd pum cant allan ar ol deg Nid oedd angen am oleu cyhoeddus at amcanion masnachol ar ol deg. Bu yn cerdded o Adwy Goch i Conglywal am flynyddau yn oriau man: y boreu heb oleu cyhoeddus. Y mae yn dywyll pan y mae y tafarndai yn cau, a byddai yn fantais i'r Heddlu cael cynefino eu lIygaid a'r tywyIl- wch at amser cau yn lie bod y goleu yn myned allan yn sydyn pan oedd ei angen. Yr oedd Bettwsycoed yn diffodd y goleu am ddeg o'r gloch. Ychydig cyn naw o'r gloch y bu y ddamwain, ac nid ar ol deg. Nid oedd ef yn meddwl fod neb yn dyoddef dim anghyfleus- dra trwy fod y lampau yn cael eu diffodd am ddeg.—Mr. William Owen a ofynodd ar ba sail y gallent gredu fod Mr. Hugh Lloyd yn gwybod pa bryd y bydd pawb yn ei dy ? (Mr. Hugh Lloyd. Dywedyd fy marn yr oeddwn.") Yr oedd hyny yn wahanol i sicrhau y peth fel y gwnaed. Yr oedd deg y cant yn fil, ac ni ddylid esgeuluso y rhai hyny. Dylid cofio mai nid at amcanion masnachol yr oedd y goleu 1, cyhoeddus am fod gan y masnacliwyr oleu o'u heiddo eu hunain. Yr oedd y masnachdai yn cau wyth o'r gloch, ond nos Wener a Sadwrn, a gadewid y lampau yn oleu ar ol eu cau, yr hyn a brofai mai goleu at gyfleusdra cyhoeddus y trigolion oedd y goleu. Cyfeiriwyd at rai yn dod o'u gwaith ganol nos; yr oedd gan y Miners lamp yn eu llaw bron bob amser wrth ddod o'u gwaith ar adegau felly. Rhoddwyd y mater i bleidlais, pryd y cododd 10 eu Haw dros ddiddymu y penderfyniad ac 8. yn erbyn; yna ar gynygiad Mr. William Owen, a chefnogiad Mr. William Edwards, pasiwyd i adael y lampau yn oleu hyd 11 o'r gloch. Y Pwyllgor Arianol. Cynygiodd Mr. Hugh Lloyd a chefnogodd Mr, Hugh Jones, eu bod yn cynal y Pwyllgor Arianol ar nos Iau yn lie ar nos Fawrth. Ni chododd ond pump eu dwylaw dros y cynygiad. I Trysoryddiaeth y Cyngor. Mr. Richard Parry, gynt o'r North & South Wales Bank, a anfonodd i mewn ei ymddi- swyddiad fel Trysorydd y Cyngor, gan ei fod wedi symud i Ariandy yn Lerpwl. Yr oedd Mr. H. A. Hughes wedi anfon i ofyn am y swydd. -Ar gynygiad Mr. Owen Jones a chefnogiad Mr. Hugh Lloyd, pasiwyd i dderbyn yr ym- ddiswyddiad gyda gofid, ac i ddiolch i Mr. Parry am ei hwylusdod a'i gynorthwy parod ar hyd y naw mlynedd y bu yn Drysorydd i'r Cyngor.—Mr. Cadwaladr Roberts a gynygiodd eu bod yn dewis Mr. Ariander Hughes yn Drysorydd. Yr oedd yn eu plith er's 27 mlynedd, ac wedi bod yn flaenllaw gyda phob mudiad daionus yn yr ardal. Teimlai ef y dylid rhanu Trysorfeydd y plwyf yn hytrach na'u gadael 611 yn yr un fan. Yr oedd y swydd yn un agorcd a rhydd, a dylid ei rhoddi i un fu o gymaint o wasanaeth i'r ardal am gynifer o flynyddoedd. — Mr. John Cadwaladr a gefnogodd. — Mr. William Owen a ddywedodd ei fod yn teimlo yn awyddus i gefnogi dewis Mr. Hughes ond tro gwael a'r Ariandy arall fyddai troi cefn arno. Yr oedd yn cynyg eu bod yn dewis Mr. Henry Pulstone Jones, olynydd Mr. Parry, yn drysorydd. Cefnogodd Mr. Hugh Lloyd. Mr. Owen Jones a ddywedodd nad oedd yn hoffi i'r peth gael ei roddi i bleid- lais heb iddo gael dywedyd gair. Yr oedd yn ofid calon iddo nad allai bleidleisio dros Mr. Hughes, er mor hoff oedd o hono gan iddo fod yn cydweithio llawer ag ef ar hyd y blynydd- oedd. Byddai newid yr Ariandy yn awgrym eu bod wedi eu hanfoddloni.-Cododd 13 eu Haw dros Mr. Hughes, a 7 dros Mr. Jones yna rhoddwyd enw Mr. Hughes i fyny, a dewisiwyd ef bron yn gwbl unfrydol.

CYNGOR DINESIG LLANRWST.I

----,"""' BWRDD ADDYSG…

LLANBEDR, ARDUDWY. --I - -…

I DENVER, COLORADO. I

[No title]

I -PFNMACHNO.

Advertising

i c I I Nf . R R ON ? - R…