Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Have you tried WOLSEY = = = UNSHRINKABLE UNDERWARE? IF NOT, get them = = For the COMING SEASON! Every WOLSEY GARMENT is all Pure Wool. Every Garment is excellently made, and Every Garment is guaranteed unshrinkable (and will be replaced free if it turns out otherwise.) NEW STOCK just arrived at SHOP=YR=ERYR, C operative Buildings, Bl. Ffestiniog, & SHOP ISAF, Maen; vrog. On receipt of enquiry, samples will be gladly sent to intending purchasers. OCT, 1907. T. ROBERTS. RECORD CHEQUE.. PROVES RECORD SALES. AND RECORD POPULARITY! æ.< Yes, the fact thatfthe Largest Cheque forjTea-Duty ever paid amounted to £ 111,848 7s. Id., 5 q ?? B!?fi?  t""  andwasj paid by the mAypoLE pfliRy co., LTP. and represented over Five million Pounds of the WORLD-FAMOUS JVMYPOItE" TEA ? wJL.jLli.l UJL?iL? Ji L JrL?JHLi Proves indeed that it is by far the best and most popular Tea. OVER 520 BRANCHES NOW OPEN.    I Dyma gwestiwn a f?Ila | gael eich sylw difrifolaf, a Fm gael a a A v* dJ vw eich hyny heb oedi. y yw elc Os ydyw eich golwg yn Golug yn ddrwg nid oes modd ei wella 9 Dd8ff 8 I  heb rhyw gyfrv/ng allanol i Ddiftygiol ? wneyd hyny. IGooheiwch ? e!c? bUii2æl, ??!! ?y? !i?sf! yn I ? fwy 0 niwed o hlWril I Yr wyf yn barod i brofi eich g g golwg yn rhad, ac 03 byda ——————   angen Spectol arncch gallaf gael rhai i ch siwtio am bris lhesymoI. I hV Thn:P&" I,p¡ I w II '1'!J'!HI1:iJ.} L ur;¡O;I'  .11 Ii' i. \I 11, Úi U J iJ. \I,.) 'lÜ\,¡ 0 ??,!F77=  Stationery & fmn t úB (J>!t J V rJ tl >: íI :1/  tJ %? 1 t "\J; \i& l! Note Paper of every description, in neat boxes 6d. and is. Penny Packets, the trade supplied at wholesale prices. = = FOREIGN NOTE PAPER. >• S^ P-^r ? .? .? ? ? ? 3 ■ <* '■ •* .d tiiJ 'i:¡ .1 ¡¡('' CJ  ???' ?" ? ?-?- ??  ?? ?-? ? ?'"? ?ia ??. -.?? ?H.?.g ? ? .?-. ? ? SB? ? a??SSBBa??s 1 'i. ?' ¡¡J,i "1') ¡. '¡,< "'C!> ? \?: ? l!! ,¿ IJ 'i¡.¿;' ¡ iii' obØ II
INODIADAU WYTHNOSOL I
NODIADAU WYTHNOSOL I Ffolineb dynion Call. I Ceir ambell dyn ffol yn gweithredu'n gall ar adegau,la gwelir dynion call yn gweithredu yn ffol iawn ambell dro. Mae'n rhesymol credu fod y gwyr sydd wedi eu dewis gan gyfarwyddwyr y gwahanol reilffyrdd i'w cynrychioli ar Gymdeithas Cwmniau'r Rheilffyrdd yn ddynion call. Ni fuasent yn dewis ffyliaid i'w cynrychioli mewn cylch mor bwysig. At y Gymdeitbas hono yr anfonodd Mr. Richard Bell, A.s., gais am iddynt ddewis nifer o'u plith eu hunain i gyfarfod yr un nifer o wyr dewisiedig gan Gymdeithas Gwasanaethwyr y Rheilffyrdd i ymgynghori a hwy yn nghylch y materion sydd mewn dadl rhyngddynt. Mae atebiad ysgrifenydd y Gymdeithas hono i'r cais yn anghlod iddo ef a'r rhai yr ysgrifenodd drostynt. Nid ydynt wedi ymddwyn yn foesgar nac wedi gweithredu yn gall. Anfonwyd y genadwri gan Mr. Bell ar y 18fed o'r mis diweddaf; buwyd hyd y 12fed o'r mis hwn heb anfon atebiad iddi, ac yr ydym yn cyfrif fod yr oediad hwn yn anfoesgarwch nas gellir ei esgusodi heb son am ei gyfiawnhau. Cyn belled ag y mae geiriau'r atebiad yn myn'd maent yn ddigon moesgar, ond rhaid i ni gredu mai ysbryd balch a thrahaus oedd yn llywodraethu y dynion call hyn pan y pender- fynasant wrthod cais mor resymol. Dyw- edant yn y llythyr nas gall y Gymdeithas ymyryd mewn dim rhwng y gweithwyr a'r Cwmniau neillduol yn ngwasanaeth y rhai y maent, ac ant yn mhellach na hyn. Dyw- edant yn eglur nad oes ganddynt ewyllus o gwbl i ymgynghori a gwyr etholedig gan Gymdeithas y Gweithwyr. Ystyr hyny ydyw nad ydynt am gydnabod Undeb y Gweithwyr. Dyma y penderfyniad ffol y daethant iddo dan ddylanwad yr un yspryd ag a lywodraethai berchenog diweddar Chwarel Bethesda, Cynghorwyd gan new- yddiaduron blaenaf a mwyaf dylanwadol y deyrnas- yn Doriaidd yn ogystal a Rhydd- frydol-i gydsynio a'r cais, ond ni fynent wrando ar neb. Mae lie i ofni mai canlyn- iad eu ffolineb trahaus fydd i'r gweithwyr sefyll allan, a chanlyniad hyny yn ei dro fyddai colled i'r perchenogion ac i'r gweith- wyr, ynghyd ag anghyfieustra mawr i'r cyhoedd a cholled fwy nag a wyr neb. Mae'n hawdd arfer gormodaeth wrth draethu ar fater feI hyn hyny a wnaeth Mr. W. H. Lever A.S., debygwn pan ddywedodd y byddai y "sefyll allan hwn yn waeth na rhyfel cartrefol. Ni fydd gyn waethed a pheth felly ond bair golled a dioddef fwy nag a dybia'r cyffredin. Syrth i ran Mr. Lloyd George fel Llywydd Bwrdd Masnach i wylio'r helynt ac i chwilio am gyfle i gyf- ryngu rhyngddynt yn ol cyfraith neillduol a wnaed yn amser a chan Lywodraeth Mr. Balfour. Gellir bod yn sicr na fydd iddo esgeuluso hyn, ond nis gall mewn un modd orfodi'r Cwmniau i gyflwyno yr achos i gyflafareddwyr. Ond yn gymaint a bod y Cwmniau o dan reolaeth Bwrdd Masnach i ryw fesur, ac na ddaw mantais iddynt o ddyfod i wrthdarawiad ag ef, mae'n bosibl y barnantyn briodoi wrando ar Lywydd Bwrdd Mrsnach pan ddywed air wrthynt. Os gall g) f yngu rhwng y pleidiau gwna wasanaeth gv i rthfawr am yr hwn y diolchir iddo ac y caiif glod cyffredinol.
Cynhadledd Caerdydd. I
Cynhadledd Caerdydd. I Erbyn hyn mae Cynhadledd Anghyd- ffurfiol Cymru wedi ei chynal, ac fel yr oedd pethau cyn felly y maent wedi hyny. Dy- wedasom yr wythnos ddiwedjaf Mae'n amheus genym a gynygir y penderfyniadau yn y ffurf sydd iddynt yn awr yr ydym yn weddol sicr, os cynygir hwynt, na chant gymeradwyaeth yr holl gynhadledd dichon na chymeradwyir hwy gan fwyafrif o'r cyn- rychiolwyr." Dengys yr hyn gymerodd le ein bod yn iawn. Gwnaed yn y penderfyniad- au gyfnewidiadau pwysig a'u gwnaeth yn bosibl i'r rhai oeddynt wedi myn'd i'r gyn- hadledd i'w gwrthwynebu (yn eu ffurf wreiddiol) bleidleisio drostynt yn eu ffurf ddiwygiedig. Edrychid ar y trydydd pen- derfyniad fel bygythiad yn erbyn y Llywod- raeth ac fel rhywbeth tebyg y cawn i gon- demniad o Mr. Lloyd George, ond yr oedd hwnw wedi ei newid gymaint fel y cafwyd Mr. Lloyd George ei hun yn ei ategu wedi iddo gael ci gynyg a'i gefnogi gan eraill. Nid yw hyn yn beth i ryfeddu dim ato. Yr oedd y penderfyniadau wedi eu tynu allan gan ychydig bersonau (fel yn mhob achos cyfftlyb) dichon nad oedd y personau hyny y rhai cymhwysaf i'r gwaith, ac yi oedd yn weddol eglur eu bod wedi gwneyd eu gwaith gyda llawer mwy o frys nag o ofal. Rhaid oedd tynu oddiwrthynt ar y naill law, a chwanegu atynt ar y liaw arall. Da y gwnaeth, Mr. Lloyd George i fyn'd i'r gynhadledd oni bae iddo fyn'd ,all- asai ddiweddu yn ddfgon anhyfryd. Gan iddo fyn'd, "bu pob peth yn dda." Mae cymaint a hyn ynglir yn awr :—Dygir ymlaen yn y senedd-dymor ar o! y nesaf— 1909-Fesur Dadgysy1ltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Sefydledigyn Nghymru (os bydd y Llywodraeth bresenol yn aros y pryd hyny), a bwrir y bydd ymhlith y mesurau a deflir ailan gan Dyyr Arglwyddi. Os felly, rhoddir lie iddo ymhlith y mesurau pwysig ¡ a wrthodwyd neu a andwywyd gan y Ty hwnw pan apelir at y wlad i farnu rhwng Ty y Cyffredin a Thy yr Arglwyddi. Ac os darfyddir am y Llywodraeth cyn yr amser a nodwyd, rhoddir i'r mesur le amlwg yn mysg y mesurau pwysig y bwriada eu dwyn ymlaen os dychwel y Rhyddfrydwyr i awdurdod wedi etholiad cyffredinol. Yr ydym, wedi ystyried pob peth, yn cyfrif hyn yn foddhaol. Er fod Cynhadledd Caerdydd wedi peri llawer iawn llai o gyffro nag a dybid, nid ydym yn cyfrif ddarfod iddi gael ei chynal yn ofer. Bu o'r hyn lleiaf yn foddion i glirio yr awyr," ac i wneyd yn sicr yr hyn oedd o'r blaen yn ansicr. Rhaid priodoli ei diwedd da i ddoethineb a gwrol- deb Mr. Lloyd George i fesur helaeth. Ni fynem i Ryddfrydwyr Cymru ddwyn eu hunain yn gaeth i'r boneddwr gwir an- rhydeddus gobeithiwn, o'r ochr arall, na ddangosant or-barodrwydd i'w ddrwg dybio nac i ameu ei gywirdeb. Credwn ei fod wedi profi er's cryn amser bellach ei fod yn haeddu ymddiried ei genedl, a dylem (pan na fydd yn gwneyd yn hollol yn ol ein dymuniad) gofio ei fod wedi ei amgylchu gan anhawsderau nad ydynt yn amgylchu rhai ag y mae eu safle yn is a'u cyfrifoldeb yn llai na'r eiddo ef. +
Tori Radicalaidd.I
Tori Radicalaidd. Un o gynrychiolwyr seneddol Lerpwl ydyw Mr. W. W. Rutherford, A.S., ac ni allai ei gyfeillion penaf ddywedyd fod ei yrfa seneddol wedi bod y fath ag i roddi achos i'w etholwyr deimlo yn falch o hono. Ond mae'n rhaid cydnabod, fod rhywbeth ynddo er hyny. Nid yw yn un o gwn mudion y Blaid Doriaid. Mae yn un o'i haelodau mwyaf anibynol o ran ei farn, ac nid oes arno ofn traethu ei farn yn eglur. Gwnaeth hyny nos Fawrth ddiweddaf wrth anerch ei etholwyr, Jac y mae'n ddiameu genym ei fod wedi peri i lawer o honynt synu yn ddirfawr. Eglurodd iddynt ei raglen," ac y mae yn rhaglen Radicalaidd yn hytrach na Thori- aidd. Myn Mr. Rutherford ddiwygio Ty yr Arglwyddi, a diwygio cyfriethau tir: haera fod ymgais wedi ei gwneyd i beri y bobl gredu y byddai y draut o ddarparu blwydd- dal mewn henaint yn llawer iawn mwy nag a fyddai mewn gwirionedd, a dywed ei fod yn bleidiol dros drefnu blwydd-dal felly i bob dyn ac i bob dynes o ba radd bynag y bont. Deil y dylid talu i aelodau seneddol ac y dylid galw ar Gwmniau Rheilffyrdd i'w cludo yn rhad ac am ddim i ac o Dy'r Cyffredin. Ac a yn mhellach na hyn trwy ddywedyd fod yn hen bryd cenelu (nationalize rheil- ffyrdd y deyrnas h.y. y dylent fod yn eiddo i a than reolaeth y Wladwriaeth. Gwelir oddiwrth hyn fod y boneddwr anrhydeddus, tia yn galw ei hun yn Geidwadwr, yn Radical gweddol, a hyd yn nod yn dipyn o Sosialydd hefyd. Yr ydym wedi dal cymaint ar olygiadau Mr. Rutherford nid am ei fod yn Wleidyddwr o safle sydd yn gwneyd ei olygiadau yn bwysig i eraill, ond am ein bod yn edrych arno fel un o arwyddion yr amserau." Mae cwestiynau cymdeithasol yn dyfod yn fwy i'r amlwg bob dydd, a chyn sicred a hyny y mae dyddiau y Blaid Doriaidd a'r Blaid Ryddfrydol fel y cyfryw wedi ei rhifo. Mae Sosialaeth wedi dyfod i aros ac y mae yn dda i'r wlad hyny. Wrth ddywedyd hyn nid ydym yn cymer- adwyo Sosialaeth eithafol a gorwyllt dynion fel Mr. Victor Grayson a'i debyg, er y dichon ei fod ef ac eraill yn parotoi y ffordd i Sosialaeth resymol a chyfiawn, sef Susial- aeth y Testament Newydd. Nid Mr. Rutherford ydyw yr unig un sydd yn Sosialydd heb wybod ei fod.
Mr. Lloyd George yn Maraceinion.
Mr. Lloyd George yn Maraceinion. Cynhaliwyd cyfarfod mawr yn Mancein- ion dan nawdd Cyngrair Dirwestol y Deyrnas Gyfunol nos Fawrth. Mr. Leif Jones oedd y Llywydd, a Mr. Lloyd George oedd 3'r areithiwr penaf. Traddododd araeth gref sydd yn wir werth ei darllen yn ofalus bob gair o honi a'i hystyried yn ddwys. Wedi dywedyd fod diod feddwol yn gwneyd llawer mwy o niwed i fasnach Prydain Fawr nag y gwna holl ddiffyndollau gwledydd y ddaear i gyd, aeth rhagddo i ddywedyd fod ffigyrau sydd wedi eu cyflwyno iddo a'u hystyried ganddo yn dangos mai hi sydd wrth wraidd o'r hyn lleiaf y drydedd ran o'r prinder gwaith y cwynir o'i blegid. Dywedodd ym- hellach ei fod yn gorfod credu fod meddwdod tra yn lleihau ymhlith dynion yn cynyddu yn sicr ac yn gyflym ymhlith merched, a daliodd ar y ffaith fod meddwdod mamau yn andwy- 01 ar y plant a enir iddynt ac a fegir gan- ddynt. Mae tynged Cenedl a fegir ar alcohol wedi ei selia" meddai yr aelod gwir anrhydeddus dros Fwrdeisdrefi Arfon, ac ni ddywedodd neb erioed eiriau llawnach o wir- ionedd. Wrth gyfeirio at y mesur dirwestol neu drwyddedol y bwriada y Llywodraeth ei ddwyn gerbrou y senedd, apeliodd at ddir- westwyr y deyrnas i arfer pwyll ac i wneyd ymdrech i enill cydymdeimlad a chynorthwy cyrnedrolwyr yn lie eu gwneyd yn wrth- wynebwyr iddynt. Credwn fod yr apel hon yn angenrheidiol ac amserol iawn. Yrydym yn credu a'n hall galon mewn dirwest yn ystyr llwyrymwrthodiad," ond nid ydym oherwydd hyny yn ddall i'r ffaith fod llawer nad ydynt ) n llwyrymwrthodwyr yn llwyr gasau meddwdod ac yn awyddus i atal ei rwysg yn y wlad.- Dylem edrych ar y rhai hyny fel cyfeillion ac nid fel gelynion i'r achos dirwestol, er eu bod yn cin barn ni yn gwrthod gwneyd yr un peth an,(-cj-.i-heidi,)" Ond cyn belled ag y mae deddfwriaeth dir- westol yn myn'd, mae Ilawer iawn--y rhan fwyaf o honynt-yn barod i ddyfod efo ni lawer iawn o'r ffordd, a ffolineb ynom ydyw rhoddi ar ddeall na fynwn mo'u cymdeithas na'u cymorth. Gobeithiwn y bydd i'r Cyngrair argraphu araeth Mr. Llood George yn Gymraeg ac yn Saesneg a'i gwasgarU trwy'r holl wlad.
Arglwydd Rosebery ac Etholiad…
Arglwydd Rosebery ac Etholiad Kirkdale. Wedi i etholiad Kirkdale fyn'd heibio ysgrifenodd rhywun at Arglwydd Rosebery i ofyn iddo pa fodd y dylasai Rhyddfrydwr bleidleisio yn yr etholiad hwnw." Yn ngwyneb yr ansicrwydd sydd ynghylch golygiadau presenol ei arglwyddiaeth (oblegid y maent yn ymddangos i ni yn Ilawn mwy Toriaidd na Rhyddfrydol), ni fuasem yn meddwl y rhoddasai unrhyw Ryddfrydwr y fath ofyniad iddo. Fodd bynag rhoddodd atebiad hollol glir i'r gofyniad, ond atebiad anfoddhaol er hyny. Dywedodd y buasal r ffaith fod Mr. Mc' Arfhur yn pleidio diffyn- dollaeth yn ddigon i'w rwystro rhag pleid- leisio drosto ef, ac y buasai Sosialaeth Mr. Hill yn ddigon i'w rwystro rhag pleidleisio drosto yntau. Felly ni fuasai wedi pleid- leisio o gwbl. Mae'n ddiameu genym fod llawer o'r etholwyr wedi gwneyd felly. Pe dygasai Plaid LIafur allan fel ymgeisydd Sosialydd cymhedrol, a phe pleidiasent a siarad mor anmharchus am Ryddfrydwyr ag y gwnaeth rhai o gefnogwyr Mr. Htll, buasent ond odid wedi enill y sedd. Hyd yn hyn mae ofn Sosialaeth (eithafol) yn dwyn magi i lawer o Ryddfrydwyr "hen ffasiwn."
Cyfarfod Chwarterol Wesleyaid…
Cyfarfod Chwarterol Wesleyaid Cylchdaith Bl. Ffestiniog. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y gylch- daith uchod prydnawn Sadwrn diweddaf yn Ysgoldy Ebenezer, o dan lywyddiaeth y Parch. T. Isfryn Hughes (arolygydd y gylchdaith). Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch. J. Maelor Hughes, Llan; Mr. D. D. Jones, Rhiw (lay agent), Mri. Richard Jones, Rhiw, a Griffith Jones, Trawsfynydd, (goruchwylwyr) Mr. Richard Roberts, (ysgrifenydd y gyichdaith), ynghyda chynrychiolaeth o wahanol eglwysi y gylchdaith. Wedi myned trwy y gwasanaeth dechreuol, darllenwyd a chadarnhawyd cof- nodion y cyfarfod blaenorol. Derbyniwyd cyf" raniadau yr eglwysi. Derbyniwyd casgliad yr Ysgol Sul gan y Parch. J. Maelor Hughes. Cafwyd cyfrif yr aelodau. Drwg genym dros fod yr amgylchiadau gwasgedig presenol yn efteithio mor fawr arnom fel cylchdaith, gan fod llawer o aelodau ffyddlon a gweithgar wedi gorfod cefnu arnom. Hyderwn y daw pethau i drefn yn fuan iawn. Yn y cyfarfod hwn y byddis yn ethol ysgrifenydd Dirwestol y Gylch daith. Diolchwyd i Mr. Lewis Humphreys Williams am ei wasanaeth gyda'r cyfryw am J flwyddyn ddiweddaf, ac ail etholwyd ef* Diolchwyd i Mr. J. H. Wooding a Mr. G. G. Roberts am eu gwasanaeth fel ysgrifenydd a thrysorydd y Genhadaeth Dramor; ailethol- wyd Mr. Roberts yn drysorydd, a chan fod gr Wooding wedi ymadael o'r gylchdaith, dewis- wyd Mr. W. O. Jones, Blaenau, yn ysgrifenydd yn ei le. Dyma'r cyfarfod cyntaf i'r Parch. J: Maelor Hughes fod gyda ni. Cyfiwynwyd ef > sylw gan yr arolygydd. Da oedd gan y cyfar- fod ei groesawu i'n plith. Atebwyd y croesaW- iad yn galonog gan Mr. Hughes. Hyderwn y bydd ei ddyfodiad i'n plith yn fantais iddo ef a ninau. Dyma y cyfarfod olaf i Mr. D. D. Jones fod gyda ni. Siaradwyd geiriau caredig am dano gan yr arolygwr, a chan amryw frod- yr o'r gwahanol eglwysi. 0 berthynas i amse cynhaliad cyfarfodydd cenhadol y gwahanol eglwysi ymddiriedwyd yr holl drefniadau yn nglyn ag ef i'r gweinidogion. Cafwyd cyfrif 0 gasgliadau cyfundebol yr eglwysi gan yr arol- ygwr,ac ar y cyfan yr oeddynt yn lIed foddho Yr oedd vr adeg wedi dvfod i evfartalu (ratio) cyfraniadau y gwahanol eglwysi i'r Blraa Chwarterol. Darllenodd Mr. Richard Jones, un o'r goruchwylwyr, y rate, pa unaystyriwy" yn un hynod o deg. Pasiwyd i'w dderbyn y hollol fel ei darllenwyd. Yr oedd dau wedi marw yn ystod y chwarter, sef y diweddar an- wyl frawd John Jones, Llys Meirion, yr hwn oedd yn aelod ffyddlon a gweithgar yn eglwys y Blaenau; a'r chwaer ieuanc ffyddlon Ka Thomas, o eglwys y Rhiw. Dygwyd tystio aeth uchel i gymeriad y ddau gan yr arolygwr* ac mae'n sicr genym fod y ddau heddyw mwynhau eu gwobr. Pasiwyd i Mr. Rlhar Roberts, Llan, anfon llythyr o gydymdein"?a.o at deulu y ddau. Dygodd hyn waith y cyfar- fod i derfyniad. Cafwyd cyfarfod da a ben- dithiol, a therfynwyd trwy weddi. HAFODFAII-
IYmweliad y Parch. W. P. Griffith,,…
Ymweliad y Parch. W. P. Griffith,, Heteman, Iowa, America, a Chymru. Gweinidog gyda'r Annibynwyr yw er Griffith. Y mae yn clod drosodd yn benaf er gweled ei fam wedi blynyddoedd o absenoldeb, ac hefyd er adnewyddiad nerth. Bydd yn agored i wasanaethu yr Eglwysi yn Gymraeg a Saesneg trwy bregethu a darlithio. Pregethoda am y tro olaf i'w gynulieidfa yn Keteman ar"Yrydym ni yn pregethu Crist a hwnw wedi ei groeshoelio," a dywedir yn y Monroe County News" ei bod yn "bregeth nerthob Nos Lun dilynol darlithodd ar "Job" ???'' oedd yr adeilad yn Ilawn. Y m?.e gan -v) Griffith lythyrau cymeradwyaeth oddiwrth el Eglwys wedi ei arwyddo gan y svvyddo.giof1, oddiwrth Gymdeithasfa Gweinidogion s;vydd Monroe o wahanol enwadau, ac oddiwrtn Gymdeitbasfa Eglwysi CynuIIeidfao* Denmark, Iowa. Hyderwn yn fawr y c], Mr. Griffith dderbyniad mor groesawgar yn Nghymru ag a roddir i Weinidogion Cymru yn Amenc'1., ac y bydd yn ail i grccs..vw ei fam ar aelwyd ei hen gartref.